Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Trichinella

Clefyd sy’n cael ei achosi gan larfâu mwydod parasitig bach yw trichinosis, a gall effeithio ar anifeiliaid a phobl fel ei gilydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Gorffennaf 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Gorffennaf 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Sut rydych chi’n cael eich heintio

Mae pobl yn cael eu heintio drwy fwyta cig amrwd, cig wedi’i goginio neu gig wedi’i brosesu o foch, baeddod gwyllt, ceffylau neu anifeiliaid helgig sy’n cynnwys y paraseit.

Gall yr haint achosi symptomau:

  • dolur rhydd
  • poen yn y stumog
  • teimlo’n sâl

Os na chaiff ei drin, gall achosi:

  • gwres
  • poen yn y cyhyrau
  • cur pen

Mewn achosion difrifol, mae’n gallu effeithio ar organau hanfodol a gall hyd yn oed eich lladd.

Sut mae anifeiliaid yn cael eu heintio

Mae anifeiliaid yn cael eu heintio wrth fwyta cig sy’n cynnwys y mwydyn parasitig.

Mewn moch, gall bwyd anifeiliaid fod yn ffynhonell heintio pan fydd wedi’i halogi gan anifeiliaid gwyllt marw fel cnofilod.

Mae yna ofynion ar gyfer profi trichinella mewn moch a nodir yn y gyfraith.

Er mwyn atal cig wedi’i heintio gan foch a rhywogaethau perthnasol eraill rhag mynd i’r gadwyn fwyd ddynol, mae’n ofynnol cynnal profion yn y Deyrnas Unedig.

Trichinella mewn baeddod gwyllt 

Mae baeddod gwyllt nad ydynt yn cael eu ffermio yn cael eu cyfrif fel anifeiliaid ‘gwyllt’ (feral).

Pan fydd baeddod gwyllt yn chwilio am fwyd, gallai’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta gael ei halogi â trichinella, gan gynyddu’r risg o heintio.

Os yw baedd gwyllt wedi’i saethu gan heliwr a’i gyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddiwr neu fanwerthwr lleol, mae’n rhaid ei brofi am trichinella.

Mae profi yn helpu diogelu defnyddwyr rhag bwyta cig wedi’i heintio.

Canllawiau ar brofi ar gyfer trichinella

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi datblygu canllawiau ar gyfer helwyr ar brofi baeddod gwyllt ar gyfer trichinella. Mae’r canllawiau’n esbonio sut y dylid cymryd samplau a’u hanfon.