Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Cyflwyniad

Bydd y canllawiau hyn yn esbonio sut mae’r gofynion rheoleiddio hyn yn gymwys i anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta gan bobl.

Mae’r gofynion diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer sicrhau bod bwydydd yn cael eu cynhyrchu’n ddiogel, gan gynnwys anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, wedi’u nodi mewn deddfwriaeth berthnasol. Fodd bynnag, o blith y gofynion hyn, gall y rheiny sy’n berthnasol i berson neu fusnes penodol fod yn wahanol gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol, gydag amryw eithriadau i’r rheolau wedi’u nodi yn y rheoliadau hyn hefyd. Bydd y canllawiau hyn yn esbonio sut mae’r gofynion rheoleiddio hyn yn gymwys i anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta gan bobl. 

Mae’r angen i gymhwyso llawer o’r gofynion hyn yn dibynnu a ydych yn gynhyrchydd cynradd (er enghraifft, yn heliwr, yn aelod o barti hela ac ati) a/neu’n weithredwr busnes bwyd (er enghraifft, yn paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad) ac a ydych yn cyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol (a ddiffinnir fel ‘defnyddiwr terfynol y bwyd na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o unrhyw weithrediad neu weithgaredd busnes bwyd’), i fanwerthwr neu i sefydliad trin helgig cymeradwy (AGHE). Bydd y canllawiau hefyd yn egluro o dan ba amgylchiadau y gallai fod angen i chi gael eich cymeradwyo fel AGHE.

1.1 Cynulleidfa darged

Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer:

  • cynhyrchwyr cynradd (er enghraifft, helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu)
  • unigolion sy’n cynnal archwiliad cychwynnol o anifeiliaid hela gwyllt
  • unigolion sy’n cludo anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt
  • gweithredwyr busnesau bwyd sy’n trin, paratoi a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt (er enghraifft, AGHEs, ffatrïoedd torri cig, cigyddion, bwytai, siopau fferm ac ati)

1.2 Diben y canllawiau

Nod y canllawiau hyn yw egluro sut mae’r gofynion cyfreithiol yn gymwys mewn amryw sefyllfaoedd lle cyflenwir anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’w bwyta gan bobl. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i drin, archwilio, paratoi, storio, cludo a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’w bwyta gan bobl. Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio. Gweler ein ‘geirfa’ am ragor o wybodaeth. 

1.3 Statws cyfreithiol y canllawiau

Mae’r ddogfen ganllaw hon wedi’i diweddaru a’i chyhoeddi ers i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a diwedd y Cyfnod Pontio. Mae cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE felly wedi’u diweddaru i adlewyrchu Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Retained EU Law). Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y’i rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac nid yw cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys o dan yr amgylchiadau hyn. [Sylwer bod Llywodraeth y DU wedi nodi yn ei Phapur Gorchymyn - Protocol Gogledd Iwerddon: y ffordd ymlaen - newidiadau i weithrediad y Protocol ac mae’n ymgysylltu â’r UE mewn perthynas â hyn]

Mae Cyfraith yr UE a Ddargedwir wedi’i nodi yng nghanllawiau’r ASB gan ddefnyddio’r fformatau canlynol Rheoliad a Ddargedwir (UE) Rhif xxx/xxxx neu Reoliad (UE) Rhif xxx/xxxx (REUL).

Datblygwyd y canllawiau hyn i roi:

Canllawiau ar y gofynion cyfreithiol ar gyfer cydymffurfio â’r canlynol:

Rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, a nodir yn:

Rheoliad a Ddargedwir (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr
Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon

Rheolau cyffredinol mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir eu bwyta gan bobl, a nodir yn:

Rheoliad a Ddargedwir (CE) Rhif 1069/2009 ym Mhrydain Fawr
Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009  yng Ngogledd Iwerddon

Gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd, a nodir yn:

Rheoliad a Ddargedwir (CE) Rhif 852/2004 ym Mhrydain Fawr
Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 yng Ngogledd Iwerddon

Rheolau ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion a gweithredoedd cysylltiedig, a nodir yn:

Rheoliad a Ddargedwir (CE) Rhif 2017/625 ym Mhrydain Fawr
Rheoliad (CE) Rhif 2017/625 yng Ngogledd Iwerddon

Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, gan gynnwys olrhain bwyd a bwyd anifeiliaid, a nodir yn:

Rheoliad a Ddargedwir (CE) Rhif 178/2002 ym Mhrydain Fawr 
Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 yng Ngogledd Iwerddon

Canllawiau arferion gorau

Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i ddilyn canllawiau arferion gorau.

Ni all y canllawiau hyn ar y gofynion cyfreithiol drin a thrafod pob sefyllfa, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth gymwys eich hun i weld sut y mae’n berthnasol i’ch sefyllfa chi. Efallai y bydd busnesau sydd ag ymholiadau penodol am geisio cyngor gan eu hasiantaeth orfodi leol, sef fel arfer adran Safonau Masnach/Iechyd Amgylcheddol eich awdurdod lleol.

Bydd dilyn y nodiadau canllaw hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r gyfraith. Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i ddilyn canllawiau arferion gorau. Nodir yr holl ganllawiau ar arferion gorau mewn blychau cysgodol, gyda’r pennawd “Arferion Gorau”. 

Adolygu

Ein nod yw cadw’r holl ganllawiau yn gyfredol a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Gorffennaf 2023.

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am unrhyw ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys sydd wedi dyddio. Byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad arfaethedig nesaf o’r canllawiau. Rhowch unrhyw adborth i wildgameguidance@food.gov.uk.