Wild Game guidance
Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt: Atodiadau
Yr holl atodiadau ar gyfer canllawiau anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys templedi, llyfryddiaeth, acronymau a geirfa.
Atodiad A: Gwybodaeth Datganiad Helwyr (templedi enghreifftiol)
Anifeiliaid hela mawr gwyllt
LINK
Anifeiliaid hela bach gwyllt
LINK
Atodiad B: Llyfryddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch edrych ar y gwefannau canlynol:
- Cymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth (BASC)
- Cymdeithas Ceirw Prydain
- Cynghrair Helgig Prydain
- Y Cod Ymarfer Saethu
- Cynghrair Cefn Gwlad
- Cymwysterau Rheoli Ceirw
- Ffederasiwn Cymdeithasau Chwaraeon Gwlad yn Ewrop (FACE-UK): conor.ogorman@basc.org.uk
- Sefydliad Cenedlaethol Ciperiaid Helgig
- Cymdeithas Genedlaethol Delwyr Helgig c/o Pollard Farm, Clanville, Andover, Hampshire SP11 9JE
- Coleg Brenhinol Llawfeddygon Milfeddygol
- Treftadaeth Genedlaethol yr Alban: Canllawiau Arferion Gorau ar Reoli Ceirw Gwyllt
- Anifeiliaid Hela Gwyllt | Safonau Bwyd yr Alban
Atodiad C: Acronymau
Talfyriad | Enw/teitl llawn |
---|---|
ABP | Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (animal by-product) |
AGHE | Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy |
APHA | Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion |
DAERA | Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig |
FBO | Gweithredwr Busnes Bwyd |
FSA | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd |
FSMS | System Rheoli Diogelwch Bwyd |
HACCP | Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol |
LA | Awdurdod Lleol |
MHI | Arolygwr Hylendid Cig |
ND | Clefydau Hysbysadwy |
NI | Gogledd Iwerddon |
OV | Milfeddyg Swyddogol |
REUL | Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Retained) |
ROI | Gweriniaeth Iwerddon |
UK | Y Deyrnas Unedig |
Atodiad D: Rhestr termau
- ‘Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)’ yw Asiantaeth Llywodraeth y DU sy’n rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy’n gyfrifol am iechyd anifeiliaid a phlanhigion yn y DU. Cysylltwch â’r Asiantaeth Planhigion ac Iechyd Anifeiliaid (APHA) drwy gov.uk.
- Mae ‘sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP)’ yn golygu cyrff cyfan o anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid, nad ydynt i’w bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelloedd, embryonau a semen.
- Mae ‘cymeradwyaeth’ yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd – yn Erthygl 4 yn y rheolau hylendid penodol sy’n berthnasol i fusnesau – roi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ar y farchnad dim ond os ydynt wedi’u cynhyrchu mewn sefydliadau a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys
- Mae 'Sefydliad Trin Helgig Cymeradwy (AGHE)' yn golygu sefydliad cymeradwy lle mae anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt sy’n cyrraedd ar ôl hela yn cael eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad. Mae gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ddiberfeddu, blingo a/neu blycio sy’n paratoi’r anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad
- Mae ‘carcas’ yn golygu corff anifail ar ôl ei ladd a'i drin (diberfeddu, blingo a/neu blycio);
- Mae ‘Awdurdod Cymwys’ yn golygu’r awdurdod sy’n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau hylendid bwyd perthnasol ac y gweithredir rheolaethau swyddogol ar fwyd a gweithgareddau swyddogol eraill, yn unol â’r rheoliad rheolaethau swyddogol a’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2);
- Mae ‘Pwyntiau Rheoli Critigol’ yn golygu unrhyw gam mewn proses lle gellir atal, dileu neu leihau peryglon i lefelau derbyniol. Gall enghreifftiau o bwyntiau rheoli critigol gynnwys: oeri, profi a choginio
- Mae ‘croeshalogi’ yn golygu’r weithred lle caiff bacteria neu ficro-organebau eraill eu trosglwyddo’n anfwriadol o un sylwedd neu wrthrych i’r llall, gydag effaith niweidiol
- Mae ‘diberfeddu’ yn golygu’r broses o dynnu organau perfeddol o gyrff anifeiliaid hela gwyllt. Gelwir hefyd yn cael gwared ar berfedd neu ‘gralloching’ yn Saesneg.
- Mae ‘anifeiliaid hela sy'n cael eu ffermio’ yn cael ei ddiffinio yn rheoliadau hylendid bwyd fel ratidau sy’n cael eu ffermio a mamaliaid tir sy’n cael eu ffermio heblaw anifeiliaid buchol, moch, geifr a defaid ac anifeiliaid carngaled (solipeds) domestig. Mae’r term anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio yn cynnwys ceirw a baeddod a gynhyrchir gan ffermio. Rhaid i’r holl gig o anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio a’u rhoi ar y farchnad gael eu cynhyrchu mewn lladd-dai cymeradwy.
- Mae ‘defnyddiwr terfynol’ yn golygu defnyddiwr terfynol y bwyd, na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o unrhyw waith neu weithgaredd busnes bwyd;
- Mae ‘gweithredwr busnes bwyd’ yn golygu’r personau naturiol neu gyfreithiol sy’n gyfrifol am sicrhau bod gofynion cyfraith bwyd yn cael eu bodloni y tu mewn i’r busnes bwyd o dan eu rheolaeth
- Mae ‘system Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS)’ yn golygu gweithdrefn barhaol a roddir ar waith gan weithredwr busnes bwyd, yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol, ac a ddefnyddir fel adnodd i helpu gweithredwyr busnesau bwyd i gyrraedd safon uwch o ddiogelwch bwyd
- Mae ‘HACCP’ yn golygu Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol. Mae HACCP yn system sy'n eich helpu i adnabod peryglon bwyd posibl a chyflwyno gweithdrefnau i sicrhau eich bod yn cael gwared ar y peryglon hynny, neu eu lleihau i lefel dderbyniol;
- Mae ‘perygl’ yn golygu sylwedd biolegol, cemegol neu ffisegol mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid, neu gyflwr mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, a allai achosi effaith andwyol ar iechyd
- Mae ‘lagomorffiaid’ yn cynnwys cwningod, ysgyfarnogod a chnofilod;
- Mae ‘cyflenwi lleol’ yn golygu cyflenwi o fewn yr un awdurdod lleol, mewn awdurdodau lleol cyfagos (drws nesaf) neu'r rheiny nad ydynt mwy na 30 milltir/50 cilomedr o ffin awdurdod lleol y cyflenwr, p’un bynnag sydd fwyaf – ond byth y tu hwnt i’r DU, ac eithrio cyflenwi o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon;
- Mae ‘arferion hela arferol’ yn cynnwys gweithredoedd a gyflawnir yn rheolaidd wrth hela, gan gynnwys gwaedu a chael gwared ar berfedd;
- Mae ‘offal’ yn golygu cig ffres heblaw cig y carcas, gan gynnwys organau perfeddol a gwaed;
- Mae ‘Offal Gwyrdd’ yn golygu stumog, coluddion a meinweoedd cysylltiedig cyrff yr anifeiliaid hela gwyllt, sef cynnwys ceudod yr abdomen yng nghyrff yr anifeiliaid hela gwyllt.
- Mae ‘Offal Coch’ yn golygu rhannau eraill o offal nad ydynt yn dod o dan y diffiniad offal gwyrdd, gan gynnwys yr afu, y galon, yr ysgyfaint ac ati.
- Mae ‘rhoi ar y farchnad’ yn golygu cadw bwyd neu fwyd anifeiliaid i'w gwerthu, gan gynnwys cynnig eu gwerthu neu unrhyw fath arall o drosglwyddo, boed yn rhad ac am ddim ai peidio, a’r gwerthu, dosbarthu, a’r mathau eraill o drosglwyddo.
- Mae ‘cynhyrchu cynradd’ yn golygu cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion cynradd, gan gynnwys cynaeafu, godro a chynhyrchu anifeiliaid sy’n cael eu ffermio cyn eu lladd. Mae cynhyrchu cynradd hefyd yn cynnwys hela a physgota a chynaeafu cynhyrchion gwyllt
- Mae ‘cynhyrchion cynradd’ yn golygu cynhyrchion cynhyrchu cynradd gan gynnwys cynhyrchion y pridd, ffermio stoc, hela a physgota
- Mae ‘prosesu’ yn golygu unrhyw weithred sy’n newid y cynnyrch cychwynnol yn sylweddol, gan gynnwys gwresogi, trin â mwg, halltu, aeddfedu, sychu, marineiddio, echdynnu, allwthio neu gyfuniad o’r prosesau hynny
- Mae ‘cofrestru’ yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd - a nodir yn Erthygl 6 yn y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd - gofrestru safleoedd sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd gyda’r awdurdod cymwys perthnasol, sef eich awdurdod lleol
- Mae ‘manwerthu’ yn golygu ymdrin â a/neu brosesu bwyd a’i storio yn y man gwerthu neu gyflenwi i’r defnyddiwr terfynol, ac yn cynnwys mannau dosbarthu, safleoedd arlwyo, ffreuturau ffatrïoedd, arlwyo sefydliadol, bwytai a gweithrediadau gwasanaeth bwyd tebyg, siopau, canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd a safleoedd cyfanwerthu
- Mae ‘cyflenwi cyfyngedig’ yn golygu bod cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill wedi’i gyfyngu gan y gofynion i fod yn ymylol ac yn lleol
- Ystyrir bod ‘symiau bach’ yn hunan-ddiffiniedig oherwydd bod y galw am anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt gan ddefnyddwyr terfynol a manwerthwyr lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol yn gyfyngedig
- Mae ‘person cymwys’ yn cyfeirio at berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol i allu cynnal archwiliad cychwynnol o’r anifeiliaid hela gwyllt yn y cae, i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd
- Mae ‘viscera’ yn golygu organau ceudodau thorasig, yr abdomen a’r pelfis, yn ogystal â’r trachea a'r oesoffagws, ac, mewn adar, y grombil
- Mae ‘anifeiliaid hela gwyllt’ yn golygu adar gwyllt sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl yn ogystal â charnolion gwyllt, lagomorffiaid a mamaliaid tir eraill sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl. Mae’r rhain yn cynnwys mamaliaid sy’n byw yn rhydd mewn tiriogaeth gaeedig sy’n debyg i rai anifeiliaid hela gwyllt
- Mae ‘anifeiliaid hela gwyllt bach’ yn golygu adar hela gwyllt a lagomorffau sy’n byw'n rhydd yn y gwyllt
- Mae ‘anifeiliaid hela gwyllt mawr’ yn golygu mamaliaid tir gwyllt sy’n byw’n rhydd yn y gwyllt nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad anifeiliaid hela gwyllt bach
- Mae ‘helgig gwyllt’ yn cael ei ddiffinio fel y rhannau bwytadwy o anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys gwaed.