Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Cynhyrchwyr cynradd: gofynion ac eithriadau

Mae’r rheoliadau hylendid bwyd yn ystyried bod hela anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta gan bobl yn weithgaredd cynhyrchu cynradd.

Diffinnir cynhyrchu cynradd fel cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion cynradd, gan gynnwys cynaeafu, godro a chynhyrchu anifeiliaid sy’n cael eu ffermio cyn eu lladd. Mae cynhyrchu cynradd hefyd yn cynnwys hela, pysgota a chynaeafu cynhyrchion gwyllt. Caiff unigolyn sy’n saethu anifeiliaid hela ar ei ben ei hun, neu fel aelod gweithredol o barti hela neu ystâd saethu sy’n trefnu saethu anifeiliaid hela gwyllt, ei ystyried yn gynhyrchydd cynradd. Felly, mae helwyr, aelodau partïon hela ac ystadau sy'n trefnu saethu oll yn gynhyrchwyr cynradd. 

Mae cynhyrchion anifeiliaid hela gwyllt cynradd yn gynhyrchion sy’n deillio o hela. Mae’r cynhyrchion cynradd yn y sector anifeiliaid hela gwyllt yn cynnwys: 

  • anifeiliaid hela gwyllt mawr sy’n cynnwys mamaliaid tir sy’n anifeiliaid hela gwyllt (ceirw gwyllt, baeddod gwyllt).
  • anifeiliaid hela gwyllt bach sy’n cynnwys adar hela gwyllt a lagomorffiaid hela gwyllt (cwningod, ysgyfarnogod a chnofilod). 

Mae’r gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid yn darparu’r fframwaith rheoleiddio hylendid bwyd a’r gofynion y mae’n rhaid i bob busnes bwyd sy’n ymdrin ag anifeiliaid hela gwyllt gydymffurfio â nhw. Ategir y rheoliadau hyn gan egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd. Fodd bynnag, mae eithriadau wedi’u cynnwys yn y rheoliadau hyn sydd wedi’u hanelu at gynhyrchwyr cynradd (helwyr a phobl sy’n cymryd rhan weithredol yn y broses hela).

Bydd p’un a yw unrhyw un o’r eithriadau yn gymwys i chi yn dibynnu ar y canlynol:

  • a ydych chi’n cadw’r holl anifeiliaid hela gwyllt rydych chi’n eu hela at eich defnydd domestig preifat eich hun.
  • a ydych yn cyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt rydych yn eu hela fel cynnyrch cynradd neu’n eu paratoi i’w cyflenwi fel helgig gwyllt.
  • i bwy rydych chi’n dewis cyflenwi eich anifeiliaid hela gwyllt a/neu helgig gwyllt (hynny yw, a gyflenwir yn uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu, neu i AGHEs, ac ati). 

Cynhyrchydd cynradd: tabl gofynion ac eithriadau

Cynhyrchwyd fersiwn wreiddiol y tabl hwn gan Swyddfa Alban Cymdeithas Ceirw Prydain (BDS) ac mae FSS (ASB) yn ddiolchgar i BDS am ganiatáu i ni ei ddefnyddio.
 

Natur y cyflenwi Cyfyngiadau ar gyflenwi Rheoliadau Hylendid Bwyd Cymwys a’r Awdurdod Cymwys Statws person cymwys Cofrestru Busnes Bwyd gyda’r Awdurdod Lleol Cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) Cadw cofnodion swyddogol ac olrhain
Cadw anifeiliaid hela gwyllt ar gyfer defnydd domestig preifat Anifeiliaid hela gwyllt sy’n cael eu cadw naill ai ar gyfer eich defnydd domestig preifat eich hun neu sydd i’w cyflenwi i deulu a ffrindiau yn unig ar gyfer eu defnydd domestig preifat eu hunain. Rhaid i deulu a ffrindiau yr ydych yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt iddynt beidio â chyflenwi’r anifeiliaid hela gwyllt i unrhyw un arall Wedi’i eithrio o gwmpas y Rheoliadau Hylendid Bwyd (852/2004 a 853/2004) Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog Nid oes angen cofrestru fel busnes bwyd. System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS) sy’n seiliedig ar Egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). Egwyddorion ddim yn ofynnol. Nac ydy, wedi’i eithrio o gwmpas y Gyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002). 
Cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd i’r defnyddiwr terfynol a/neu i fanwerthwyr lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol Rhaid i’r cyflenwi fod yn symiau bach o anifeiliaid hela gwyllt (cynnyrch cynradd) gan y cynhyrchydd.
Rhaid i’r cyflenwi fod yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol neu i sefydliad lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol (er enghraifft, cigyddion a bwytai)
Ni chaiff y cynhyrchydd gyflenwi sefydliadau manwerthu lleol (sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol) sydd ymhellach na’ch awdurdod lleol eich hun, awdurdod lleol cyfagos neu 50 km/30 milltir o ffin eich awdurdod lleol. 
 

Wedi’i eithrio o gwmpas y Rheoliadau Hylendid Bwyd (852/2004 a 853/2004) 

Eich awdurdod lleol yw’r Awdurdod Cymwys. 

Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog. Nid oes angen cofrestru fel busnes bwyd ond fe’ch anogir i gysylltu â’ch awdurdod lleol i sicrhau y gallwch chi ddefnyddio’r eithriad hwn Nid oes angen FSMS sy’n seiliedig ar Egwyddorion HACCP ond rydych chi’n dal yn glwm wrth y rhwymedigaeth i gyflenwi bwyd diogel, a dylai fod gennych chi systemau ar waith i reoli risgiau diogelwch bwyd Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002) yn gymwys. 
Cyflenwi helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol Rhaid cyflenwi’r helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol (hynny yw cigyddion, bwytai).
Ni all cyflenwad i sefydliadau manwerthu lleol fod ymhellach na'ch awdurdod lleol eich hun, awdurdod lleol cyfagos neu 50 km/30 milltir o ffin eich awdurdod lleol.
 
Mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys. Wedi’i eithrio o 853/2004. Eich awdurdod lleol yw’r awdurdod cymwys.  Ddim yn ofynnol, ond yn cael ei annog.  Oes, mae angen cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.   Oes, mae angen cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.   Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002) yn gymwys. 
Cyflenwi helgig gwyllt i sefydliadau trin anifeiliaid hela cymeradwy (AGHEs) Amherthnasol Mae Rheoliadau 852/2004 a 853/2004 yn gymwys. Awdurdod Cymwys Awdurdod Lleol (Cyflenwr) a’r ASB mewn AGHE Angen statws ‘person cymwys’ Oes, mae angen cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.   Rhaid bod gennych system rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP. Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â’r meini prawf a nodir yng nghynllun HACCP y sefydliad derbyn (receiving establishment). Ydy, mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Gyffredinol (178/2002) yn gymwys. 

 

2.1 Cynhyrchu cynradd ar gyfer defnydd domestig preifat

Os ydych yn hela, yn paratoi, yn trin neu’n storio anifeiliaid hela gwyllt at eich defnydd domestig preifat eich hun, rydych chi wedi’ch eithrio o egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, fel y nodir yn Erthygl 1(3), yn ogystal ag o’r gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, fel y nodir yn Erthygl 1(2)(a) ac Erthygl 1(3)(a) yn y drefn honno. 

Mae defnydd domestig preifat yn cyfeirio at baratoi, trin, storio a bwyta anifeiliaid hela gwyllt yn bersonol, gydag unrhyw gyflenwi wedi’i gyfyngu i deulu a ffrindiau ar gyfer eu defnydd domestig preifat eu hunain yn unig. Nid yw’n ofynnol i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol ond fe’ch anogir i gysylltu â nhw i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn. 

Crynodeb o’r eithriad:

  • rydych chi wedi eich eithrio o gwmpas y rheoliadau uchod.
  • nid yw’n ofynnol i chi fod wedi’ch cofrestru na’ch cymeradwyo. 

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn rhaid cadw’r anifeiliaid hela gwyllt rydych chi’n eu hela at eich defnydd domestig preifat eich hun yn unig, neu eich teulu a’ch ffrindiau.

2.2 Cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd i’r defnyddiwr terfynol a/neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol

Os ydych yn gynhyrchydd cynradd (er enghraifft, heliwr, ystâd saethu) sy’n cyflenwi’ch holl anifeiliaid hela gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi'n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol (er enghraifft, cigyddion, bwytai neu siopau fferm):

  • rhaid i chi gadw at reolau egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd gan gynnwys y rhwymedigaeth gyfreithiol i gyflenwi bwyd diogel ac i gydymffurfio ag egwyddorion a gofynion olrhain.
  • rydych chi wedi’ch eithrio rhag y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd a’r rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel y nodir yn Erthygl 1(2)(a) ac Erthygl 1(3)(a), yn y drefn honno.
  • nid oes angen i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Fodd bynnag, fe’ch anogir i gysylltu â’ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn.
  • rhaid i’ch cyflenwad o anifeiliaid hela gwyllt fod yn symiau bach, yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol.
  • mae diffiniadau anifeiliaid hela gwyllt, defnyddiwr terfynol, lleol, manwerthu a symiau bach i'w gweld yn y Rhestr Termau.

2.3 Cyflenwi Helgig Gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol a/neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi i’r defnyddiwr terfynol

Aiff anifeiliaid hela gwyllt yn helgig gwyllt pan fyddant yn cael eu paratoi ymhellach (er enghraifft diberfeddu, blingo a/neu blycio). Os ydych chi’n hela, trin, a/neu’n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i gyflenwi helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol a/neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol:

  • rhaid i chi gadw at egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd a chadw at ofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd. O ran egwyddor mae hyn yn golygu: 
  1. Bod â system rheoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar Egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).
  2. Bod â strwythurau a gweithrediadau digonol ar waith ar gyfer prosesu anifeiliaid hela gwyllt.
  3. Bod â chyfleusterau digonol ar waith ar gyfer storio priodol, gan gynnwys y gallu i gynnal y gadwyn oer ar gyfer cyrff anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt. 
  • rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion uchod i ddarparu bwyd diogel a gallu parhau i olrhain.
  • rhaid bod gennych chi gyfleusterau hylan i gludo'r helgig gwyllt i'r defnyddiwr terfynol neu i'r manwerthwr lleol.
  • rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.
  • rhaid i helwyr sy’n cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt gyda’r bwriad o’u rhoi ar y farchnad i’w bwyta gan bobl gael hyfforddiant iechyd a hylendid gan ddarparwr hyfforddiant cydnabyddedig.  Gweler yr adran ar hyfforddiant. 
  • rydych wedi’ch eithrio o’r gofynion o dan y rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid. Fodd bynnag er mwyn i’r eithriad hwn fod yn berthnasol: 
  1. mae angen i’r helgig gwyllt a gyflenwir fod yn symiau bach (gweler y diffiniad yn yr Rhestr Termau) yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi'n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol.
  2. rhaid i’r helgig gwyllt gael ei baratoi gan berson cymwys sydd wedi cael hyfforddiant.
  3. nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r manwerthwr rydych chi’n cyflenwi’ch anifeiliaid hela gwyllt iddo yn cyflenwi i fanwerthwyr eraill ac nid defnyddwyr terfynol yn unig.