Gofynion hyfforddiant Iechyd a Hylendid
Pan fydd anifeiliaid hela gwyllt yn cael eu hela gyda’r bwriad o’u rhoi ar y farchnad, rhaid i o leiaf un aelod gweithgar o’r tîm hela fodloni’r gofynion hyfforddi.
Pan gaiff anifeiliaid hela gwyllt eu hela gyda’r bwriad o’u rhoi ar y farchnad, rhaid i o leiaf un aelod gweithredol o’r tîm hela fodloni’r gofynion hyfforddi – a nodir yn Atodiad III, Pennod I, Adran IV gan y rheolau hylendid penodol ar gyfer busnesau – sef bod yn ‘berson cymwys’ gyda digon o wybodaeth i gynnal archwiliad cychwynnol o anifeiliaid hela gwyllt.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu i foddhad yr awdurdod cymwys (yr ASB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a bydd yn cwmpasu’r meysydd canlynol o leiaf:
- anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad arferol anifeiliaid hela gwyllt,
- ymddygiad annormal a newidiadau patholegol mewn anifeiliaid hela gwyllt oherwydd afiechydon, halogiad amgylcheddol neu ffactorau eraill a allai effeithio ar iechyd pobl ar ôl bwyta’r cig,
- rheolau hylendid a thechnegau cywir ar gyfer trin, cludo a diberfeddu anifeiliaid hela gwyllt ar ôl eu lladd,
- deddfwriaeth a darpariaethau gweinyddol ar amgulchiadau iechyd y cyhoedd a hylendid anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi anifeiliaid hela gwyllt ar y farchnad.
Mae clefydau hysbysadwy yn glefydau anifeiliaid y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi roi gwybod amdanynt i APHA, hyd yn oed os ydych ond yn amau bod anifail wedi’i effeithio. Os ydych yn amau bod gan anifeiliaid hela gwyllt Glefyd Hysbysadwy (ND) rhaid i chi gysylltu ag APHA. Mae rhagor o wybodaeth am glefydau hysbysadwy a manylion cyswllt ar food.gov.
Dyma’r sefydliadau sy’n gallu darparu cymorth ar opsiynau i ymgymhwyso’n ‘berson cymwys’:
- Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC) – Mae gan BASC hyfforddiant ar hela anifeiliaid hela bach a mawr
- Corff dyfarnu yw Cymwysterau Rheoli Ceirw (DMQ), ond gall roi cyngor ar hyfforddiant ceirw a baeddod gwyllt
- Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Ceidwyr Anifeiliaid Hela wybodaeth ar gyfer anifeiliaid hela mawr a bach
- Yng Ngogledd Iwerddon, mae Country Sports Ireland hefyd yn darparu hyfforddiant priodol ar gyfer helwyr a thrin anifeiliaid hela gwyllt mawr (ceirw).
Hanes diwygio
Published: 19 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ionawr 2024