Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
Ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r camau i'w cymryd i atal bacteria ymwrthol o'r fath rhag lledaenu.
Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yw pan fydd cyffuriau gwrthficrobaidd, fel gwrthfiotigau, yn stopio gweithio'n effeithiol ar y bacteria y maent i fod i'w lladd. Maent hefyd yn eu hatal rhag tyfu a lluosi.
Defnyddir gwrthfiotigau i drin heintiau a achosir gan facteria. Mae bacteria yn gallu newid ac addasu. Maen nw'n gallu canfod ffyrdd newydd o oroesi effeithiau gwrthfiotig, gan wneud y gwrthfiotig hwnnw a rhai cysylltiedig yn llai effeithiol. Mae bacteria ymwrthol (resistant) yn gwneud heintiau bacteriol yn anoddach eu trin.
Sut mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn lledaenu
Mae defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd mewn pobl ac anifeiliaid yn cyfrannu at ddatblygu a lledaenu bacteria ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn sawl ffordd.
Gall bacteria ymwrthol ledaenu i bobl yn y gadwyn fwyd drwy:
- brosesau lladd anifeiliaid gall – gall cig gael ei halogi gan facteria ymwrthol sy'n bresennol yn system dreulio'r anifail
- tail – gall bacteria ymwrthol mewn ysgarthion anifeiliaid a ddefnyddir i wrteithio'r tir drosglwyddo i'r amgylchedd
- dŵr – gall llysiau, ffrwythau a physgod cregyn gael eu halogi os yw'r dŵr a ddefnyddir i'w tyfu yn cynnwys bacteria ymwrthedd gwrthficrobaidd
- croeshalogi – gall bwyd sy'n cael ei drin heb yr arferion hylendid cywir ledaenu bacteria ymwrthol o un math o fwyd i'r llall neu o'r amgylchedd i fwyd
Sut y gallwch chi osgoi lledaenu ymwrthedd gwrthficrobaidd
Gall bacteria ymwrthedd gwrthficrobaidd wneud gwrthfiotigau, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i drin pobl, yn llai effeithiol. Gellir lleihau'r risg microbau ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn bwyd i iechyd y cyhoedd drwy ddulliau tebyg i'r modd yr ymdrinir â microbau nad oes ganddynt ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn bwyd. Mae'n bwysig dilyn yr Hanfodion Diogelwch Bwyd wrth gludo, storio a pharatoi bwyd.
Dyma'r Hanfodion Diogelwch Bwyd:
• glanhau yn dda
• coginio yn drylwyr
• oeri yn gywir
• atal croeshalogi
Mae coginio'n drylwyr yn hanfodol gan ei fod yn gallu lladd bacteria a all fod yn bresennol mewn bwyd, gan gynnwys y rheiny sy'n facteria ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae arferion hylendid da ym mhob cam o'r gadwyn fwyd hefyd yn bwysig. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg o halogi a lledaenu bacteria ymwrthedd gwrthicrobaidd i fwydydd eraill.
Os ydych chi'n bwriadu bwyta ffrwythau neu lysiau amrwd, dylech sicrhau eich bod yn eu golchi'n drylwyr yn gyntaf. Gall tynnu'r croen hefyd helpu i gael gwared â halogiad.
Dylech hefyd sicrhau eich bod yn cymryd gwrthfiotigau yn unig pan fo angen, a chwblhau eich cwrs rhagnodedig.
ASB yn Esbonio
Mae gwrthfiotigau yn gyffuriau a ddefnyddir i drin heintiau bacteriol mewn pobl ac anifeiliaid. Nid ydynt yn effeithio ar feirysau na heintiau ffyngaidd o gwbl. Mae enghreifftiau o wrthfiotigau yn cynnwys:
- penisilin
- tetracycline
- erythromycin
- streptomycin
Gall defnydd amhriodol o wrthfiotigau gynyddu'r tebygolrwydd o facteria yn addasu iddynt a'u gwrthsefyll. Gall bacteria ymwrthol ffynnu pan fydd gwrthfiotigau yn lladd bacteria nad ydynt yn ymwrthol gan fod llai o gystadleuaeth am fwyd ac adnoddau.
Beth ydym ni'n ei wneud am ymwrthedd gwrthficrobaidd?
Rydym ni'n ariannu gwaith ymchwil i ganfod mwy am facteria ymwrthedd gwrthficrobaidd yn y gadwyn fwyd er mwyn gwella ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth yn y maes hwn. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant bwyd i leihau lefelau bacteria ymwrthol mewn bwyd.