Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Atal croeshalogi

Sut i osgoi croeshalogi trwy ddilyn arferion syml wrth baratoi a thrin cynhyrchion bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2023

Mae croeshalogi bacteriol yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan fo bwyd amrwd yn cyffwrdd, neu’n diferu ar, fwyd parod i’w fwyta, offer neu arwynebau.

Gallwch chi osgoi croeshalogi drwy wneud y canlynol:

Paratoi bwyd mewn ffordd hylan 

  • golchi’ch dwylo cyn paratoi bwyd
  • gwneud yn siŵr bod unrhyw arwynebau a ddefnyddir i baratoi bwyd yn lân
  • os yw’n bosib, defnyddio offer, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio
  • golchi offer, platiau a byrddau torri ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio yn drylwyr rhwng tasgau
  • gwneud yn siŵr nad ydych chi’n golchi cig amrwd
  • golchi’ch dwylo ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd a chyn i chi drin bwyd parod i’w fwyta 

Storio bwyd yn effeithiol 

  • gorchuddio bwyd amrwd, gan gynnwys cig, a’i gadw ar wahân i fwyd parod i’w fwyta yn yr oergell
  • storio cig, dofednod, pysgod a physgod cregyn amrwd sydd wedi’u gorchuddio ar silff waelod eich oergell
  • defnyddio dysgl ag ymyl i atal hylif o’r bwydydd amrwd rhag mynd i bob man
  • defnyddio offer, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio, os yw’n bosib

Defnyddio bagiau siopa yn ddiogel 

  • sicrhau bod gennych ddigon o fagiau siopa i bacio bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân
  • mynd â bagiau ychwanegol i bacio cynhyrchion glanhau ac eitemau cartref eraill ar wahân i fwyd
  • labelu neu drefnu eich bagiau yn ôl lliw i ddangos ar gyfer beth rydych chi’n bwriadu eu defnyddio
  • gwirio eich bagiau am ollyngiadau ar ôl pob defnydd. Os oes rhywbeth wedi diferu, trochi neu ddifrodi, yn ddelfrydol dylid defnyddio ‘bagiau am oes’ plastig ar gyfer rhywbeth arall (lle na fydd risg i ddiogelwch, er enghraifft leinin bin) neu brynu rhai newydd 
  • ystyried defnyddio ‘bagiau am oes’ cotwm neu ffabrig gan fod modd eu rhoi yn y peiriant golchi i’w glanhau os byddant yn cael eu trochi
  • amnewid hen fagiau plastig
  • cadw bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân yn eich troli neu fasged siopa

ASB yn Esbonio

Mae croeshalogin digwydd pan gaiff bacteria neu ficro-organebau eraill eu trosglwyddon anfwriadol o un peth ir llall. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw trosglwyddo bacteria rhwng bwyd amrwd a bwyd wedii goginio.

Credir mai dyma syn achosi y rhan fwyaf o heintiau a gludir gan fwyd. Er enghraifft, pan fyddwch chin paratoi cyw iâr amrwd, gall bacteria ledaenu ich bwrdd torri, eich cyllell ach dwylo ac fe allai achosi gwenwyn bwyd.

Gall croeshalogi hefyd ddigwydd pan fydd bacteria yn cael ei drosglwyddo mewn ffyrdd syn llai amlwg. Er enghraifft, drwy fagiau siopa syn cael eu hailddefnyddio, neu pan fydd dŵr yn tasgu neu’n diferu wrth olchi cig. Mae hyn yn gallu halogi arwynebau eraill.