Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Coginio eich bwyd

Sut i goginio eich bwyd er mwyn atal gwnewyn bwyd

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr hyd cywir yn lladd unrhyw facteria niweidiol a allai fod yn bresennol. Cymerwch gip ar y cyngor ar ddeunydd pecynnu’r bwyd bob amser gan ddilyn y cyfarwyddiadau coginio.

Cig

Cyn i chi weini porc, dofednod, adar hela a briwgig, gwnewch yn siŵr bod y cig yn stemio’n boeth a’i fod wedi’i goginio drwyddo. Wrth dorri i mewn i’r rhan fwyaf trwchus o’r cig, sicrhewch nad oes unrhyw ran o’r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir. Mewn aderyn cyfan, dyma’r darn rhwng y goes a’r frest.

Dilynwch y cyngor hwn wrth goginio:

  • twrci
  • cyw iâr
  • hwyaden
  • adar hela o bob math, fel ffesantod a cholomennod. Dylai menywod beichiog osgoi adar hela gan y gall cig adar hela gynnwys pelenni plwm. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar fwydydd i’w hosgoi yn ystod beichiogrwydd ar wefan y GIG
  • porc
  • cynhyrchion briwgig fel cebabs, selsig a byrgyrs

Wrth rostio aderyn cyfan, fel cyw iâr neu dwrci, dylech chi goginio’r stwffin ar wahân, nid y tu mewn i’r aderyn. Mae hyn oherwydd bod adar wedi’u stwffio’n cymryd mwy o amser i goginio ac efallai na fyddant yn coginio’n drylwyr.

ASB yn Esbonio

Ffliw Adar

Mae dofednod, adar hela a chynhyrchion dofednod eraill sydd wedi’u coginio’n gywir yn ddiogel i’w bwyta. Mae ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr yn y DU, ac mae ein cyngor ar fwyta cynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau ac adar hela, yn aros yr un fath.

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gyngor pellach ar ffliw adar.

Gogledd Iwerddon

I gael gyngor ar Ffliw Adar sy'n benodol i Ogledd Iwerddon, cyfeiriwch at yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).

Llysiau wedi’u rhewi

Mae angen coginio’r rhan fwyaf o lysiau wedi’u rhewi, gan gynnwys india-corn.

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio india-corn neu lysiau eraill fel rhan o salad oer, edrychwch ar y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Os yw’r cyngor yn nodi bod angen i chi goginio’r india-corn neu llysiau wedi’u rhewi, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n gwneud hyn cyn i chi eu bwyta yn oer.

Ar ôl coginio, dylech chi:

  • oeri’r bwyd cyn gynted â phosib
  • storio’r bwyd yn yr oergell
  • bwyta’r bwyd o fewn dau ddiwrnod 
  • rewi’r bwyd i’w fwyta’n ddiweddarach, os na fyddwch yn gallu ei fwyta o fewn dau ddiwrnod

I gael mwy o wybodaeth am oeri a stori bwyd yn ddiogel, gan gynnwys cyngor ar rewi bwyd, darllenwch ein canllawiau ar oeri bwyd.

Dulliau coginio

Mae tri dull o drosglwyddo gwres yn cael eu defnyddio wrth goginio bwyd mewn popty.

Gwres rheiddiol neu uniongyrchol

Dyma lle mae’r fflamau yng nghefn popty nwy neu’r elfen mewn popty trydan yn coginio’r bwyd.

Dargludo

Dyma lle mae’r gwres yn teithio drwy’r silff, i mewn i’r tun/dysgl ac yna i mewn i’r bwyd. 

Darfudo

Dyma lle mae’r aer o fewn y popty yn cael ei gynhesu, ac yna mae’n teithio dros y bwyd a thrwyddo. Mae’n arbennig o bwysig mewn popty â ffan gan mai dyma sut mae’n coginio bwyd yn gyflymach. Efallai na fydd y dull hwn yn gweithio’n iawn os yw’r aderyn wedi’i stwffio.

Rydym yn cynghori eich bod yn coginio adar heb eu stwffio, a choginio unrhyw stwffin mewn tun neu ddysgl ar wahân. Peidiwch â gadael bwyd poeth allan ar dymheredd ystafell am gyfnodau hir. Dylech ei oeri a rhoi’r bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn awr neu ddwy.

Dulliau coginio amgen 

Gellir paratoi prydau gan ddefnyddio gwahanol offer fel micro-don, popty pwyll neu ffrïwr aer. Bydd angen coginio bwydydd am amserau gwahanol ac ar dymereddau gwahanol, gan ddibynnu ar y dull coginio a pha mor effeithlon yw’r offer. Hefyd, er bod modd coginio gwahanol fwydydd gyda’i gilydd, efallai y bydd angen eu coginio am wahanol amserau ac ar wahanol dymereddau.

Cyfeiriwch at gyfarwyddiadau’r offer i gael cyngor ar gognio bwydydd penodol. Gyda rhai offer, dylech adael lle o gwmpas y bwyd er mwyn iddo goginio’n iawn, e.e. coesau cyw iâr mewn ffrïwr aer.

Wrth goginio porc, dofednod neu friwgig (gan gynnwys byrgyrs a selsig), sicrhewch eu bod yn stemio’n boeth ac wedi’u cogonio drwyddynt cyn eu gweini. Torrwch drwy ddarn mwyaf trwcus y cig i sicrhau nad yw’r cig yn binc a bod y suddion y rhedeg yn glir. 

Os ydych yn cynhesu bwyd mewn microdon, mae’n bwysig troi’r bwyd hanner ffordd drwodd/hanner ffordd drwy’r amser coginio a sicrhau ei fod yn stemio’n boeth cyn ei fwyta. Gall microdonnau gynhesu ‘pocedi’ o’r bwyd, felly mae troi’r bwyd yn sicrhau nad oes pocedi oer yn eich pryd.

Pam na ddylech chi weini byrgyrs yn waedlyd neun binc?

Dim ond ar arwyneb allanol darnau cyfan o gig, fel stêcs neu olwythion, y mae bacteria yn byw.

Pan fydd cig yn cael ei friwio i wneud byrgyr, gall unrhyw facteria niweidiol oddi ar arwyneb y cig ledaenu drwy’r byrgyr. O ganlyniad, gall fod bacteria niweidiol ar y tu mewn i fyrgyrs gwaedlyd a byrgyrs heb eu coginio’n drylwyr, a gallant achosi gwenwyn bwyd os nad ydyn nhw wedi’u coginio’n llwyr.