Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ein data

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mehefin 2022

Strategaeth ddata 

Rydym ni'n cydnabod gwerth data, ein data ein hunain a'r data sydd gan bobl eraill, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth, diwydiant, academia, sefydliadau anllywodraethol, cymdeithas ddinesig a chyfryngau cymdeithasu.

Rydym ni wedi datblygu strategaeth ddata sy'n egluro ein dull ni o reoli a defnyddio data.

Dyma'r egwyddorion sydd yn ganolog i'r strategaeth:

  • Gwerth
  • Ymddiried
  • Cyfrifoldeb
  • Diwylliant
  • Moeseg
  • Rhagoriaeth
  • Data agored

England, Northern Ireland and Wales

Diweddariad strategaeth ddata

Mae ein diweddariad strategaeth ddata 2019 yn disgrifio'r gwaith rydym ni wedi'i wneud tuag at gyflawni'r nodau a bennir yn ein strategaeth ddata. Mae’r strategaeth hefyd yn amlinellu ychydig o'r ffyrdd y mae data o fudd i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar lefel strategol a gweithredol. 

Helpu pawb i fanteisio ar eu data

Mae gennym ni fynediad at offer adrodd a dadansoddi o ansawdd menter, fel y gall ein defnyddwyr gael mynediad at ddata dibynadwy sy'n gywir, wedi'i ddogfennu a'i adnewyddu'n awtomatig.

Ar lefel uwch, mae ein harbenigwyr ar flaen y gad o ran tirwedd dechnegol newidiol arloesi data ac yn archwilio sut i fanteisio ar dechnolegau a thechnegau trin data newydd.

Cysylltu, rhannu a gweithio'n dda gydag eraill

Rydym ni wedi canolbwyntio ar fabwysiadu (ac mewn rhai achosion creu) safonau data diffiniedig a rhyngweithredu. Mae hyn yn ein caniatáu ni i rannu data â phartneriaid yn fwy effeithlon, neu gyfuno eu data nhw â'n data ni. O ganlyniad, mae ein cyd-ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd yn well. Gallwn ni weithio gyda'n gilydd yn well ar faterion sy'n effeithio arnom ni gyd. Rydym ni’n trafod hyn yn fwy manwl yn adroddiad diweddaraf y Prif Swyddog Gwyddonol

Rydym ni’n ymgysylltu ac yn rhannu dealltwriaeth gyda diwydiant bwyd y Deyrnas Unedig, adrannau eraill y llywodraeth (e.e. APHA, Cyllid a Thollau EM) a'r byd academaidd. Er enghraifft, wrth weithio ar y fenter 'Internet of Food Things (IoFT)' dan arweiniad Prifysgol Lincoln, rydym ni’n edrych i gysylltu'r data â'r bwyd ffisegol. Ar lwyfan rhyngwladol, rydym ni’n ymgysylltu â’r Fenter Diogelwch Bwyd Byd-eang a Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau UDA.

Deall yr ecosystem rydym ni'n gweithredu ynddi

Drwy fapio ein hecosystem ddata, mae gennym ni ddarlun mwy cyflawn o'r gadwyn cyflenwi bwyd a bwyd anifeiliaid a'r dirwedd busnes bwyd, felly rydym ni mewn sefyllfa llawer gwell fel rheoleiddiwr modern effeithiol. Rydym ni'n gwybod ble i chwilio am risg ac effeithiau, ac rydym ni'n deall y ffactorau y mae angen i ni gadw llygad arnynt. Gallwn ni benderfynu ble rydym ni’n defnyddio adnoddau i fod mor effeithiol â phosibl, a lle y dylem ni weithredu, dylanwadu a monitro.

Gan ddefnyddio ein gallu gwyddoniaeth data sy'n ehangu, gallwn ni hefyd ddefnyddio dulliau soffistigedig o fodelu rhagfynegol i nodi digwyddiadau posibl cyn iddynt godi, gyda gwell dealltwriaeth o'r ffactorau dan sylw. Gallwn ni archwilio perthnasoedd cymhleth gan ddefnyddio data tywydd, hinsawdd, demograffig ac economaidd i enwi dim ond ychydig o'r opsiynau sydd ar gael i ni.

Cofrestr o asedau gwybodaeth

Mae'r gofrestr o asedau gwybodaeth yn dangos amryw fathau o wybodaeth sy'n ymwneud â phwnc sydd â gwerth clir ac mae’n cael ei rheoli gyda'i gilydd fel y gellir ei defnyddio, ei rhannu a'i diogelu'n effeithiol.

Cofrestr o asedau gwybodaeth  

Defnyddio ein Data

Mae ein holl setiau data agored ar gael yn ein catalog data ac maent yn rhad ac am ddim i chi eu defnyddio. Gall set ddata fod mewn sawl ffurf (tablau, taenlenni, adroddiadau cronfa ddata) ond yn ei hanfod, mae'n set strwythuredig o ddata.

Catalog data  

Cofrestr o safonau data a rhestrau cod

Data'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae'r data yn rhoi'r sgôr hylendid bwyd neu'r canlyniad arolygu a roddir i fusnes ac yn adlewyrchu'r safonau hylendid bwyd a ganfyddir ar ddyddiad yr arolygiad neu'r ymweliad gan yr awdurdod lleol. Mae busnesau yn cynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai a mannau eraill y mae defnyddwyr yn bwyta ynddynt, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Mae'r data yn cael ei gadw ar ran yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yng nghynlluniau canlynol yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

  • Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol (CHSB) yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr
  • Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) yn yr Alban


Mae'r data ond ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol sy'n cynnal unrhyw un o'r cynlluniau hyn.

Canllawiau ar ddefnyddio API y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Data'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Data rhybuddion bwyd ac alergedd

Mae rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) Rhybuddion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu mynediad at Rybuddion Bwyd cyfredol a diweddar: Rhybudd Alergedd (AA), Hysbysiadau Galw Cynhyrchion yn Ôl (PRIN) a Rhybuddion Bwyd ar gyfer Gweithredu (FAFA). Mae'n galluogi rhaglenni i restru rhybuddion sy'n cyfateb i faen prawf hidlo, a chael disgrifiad o rybudd. 

Canllawiau ar ddefnyddio'r API Rhybuddion

Trwydded Llywodraeth Agored

Gallwch chi ddefnyddio ein gwybodaeth yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Trwydded Llywodraeth Agored.  

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â defnyddio ac ailddefnyddio'r adnodd gwybodaeth dros e-bost at: psi@nationalarchives.gov.uk

Darllenwch y drwydded  

Polisi Tynnu Data Oddi ar y We

Darganfyddwch sut rydym ni'n trin casglu data ar-lein yn awtomatig.

Darllen y polisi

Tîm cyswllt

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein strategaeth, rhannu unrhyw sylwadau neu os ydych chi'n credu bod gennych chi ddata y gallem ei ddefnyddio, cysylltwch â data@food.gov.uk