Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Cyngor Sir Ceredigion
Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion a gynhaliwyd rhwng 13 – 15 Ionawr 2026
Rhagair
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth safonau a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd.
Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal.
Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn rhoi’r cyfle i nodi a lledaenu arferion da ac i ddarparu gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae rhaglenni archwilio’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid o fewn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Cynhaliwyd asesiadau hefyd yn erbyn Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021 FLCoP ynghyd â chanllawiau cysylltiedig a gyhoeddir yn ganolog, gan gynnwys Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021. Mae Cod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer newydd wedi’u cyhoeddi a byddant yn cael eu cymhwyso at argymhellion parhaus lle bo’n berthnasol.
Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.
1. Cyflwyniad
Cefndir
1.1 Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau’r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn seiliedig ar risg yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr.
1.2 Yn dilyn pandemig COVID-19, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, dylai awdurdodau lleol fod yn cynllunio i wneud y pethau a ganlyn:
- Cynnal yr ymyriadau sydd i fod i gael eu cynnal ar gyfer sefydliadau sydd wedi dychwelyd i’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer.
- Gweithio tuag at ail-alinio â’r darpariaethau a nodir yn y Cod Ymarfer o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod Ymarfer. Gellir dod o hyd i’r hyblygrwydd hwn, gan gynnwys eithriadau, ym Mhennod 4 o’r Cod Ymarfer a Phennod 4 o’r Canllawiau Ymarfer.
- Parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran y gofynion a nodir yn yr Cod Ymarfer, a hynny ar sail yr adnoddau sydd ar gael.
1.3 Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn cyflawni ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformiad chwe misol, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.
1.4 Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.
1.5 Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith yr awdurdodau lleol i orfodi’r gyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Cwmpas y Rhaglen Archwilio
1.6 Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae’r archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sy’n unol â’r Cod Ymarfer.
1.7 Bu i’r asesiad archwilio ystyried y materion a ganlyn:
- Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd
- Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
- Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd
- Ymyriadau (rhai sydd wedi’u rhaglenni a rhai ymatebol) a gorfodi
- Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
- Monitro mewnol
- Unrhyw faterion eraill yn ymwneud â rheolaethau alergenau
- Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny.
1.8 Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, bu i’r ASB ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio. Mae hwn i'w weld yn Atodiad A
2. Crynodeb gweithredol
2.1 Bu i’r archwiliad bwyso a mesur trefniadau Cyngor Sir Ceredigion i gynnal rheolaethau bwyd swyddogol sy’n gysylltiedig ag alergenau, sef rhan bwysig o swyddogaeth safonau bwyd yr awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys gwiriad go iawn mewn sefydliad bwyd er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheolaethau swyddogol ac, yn fwy penodol, y gwiriadau a gynhaliwyd gan swyddogion yr awdurdod, er mwyn gwirio bod gweithredwr y busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol. Roedd cwmpas yr archwiliad hefyd yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau safonau bwyd.
2.2 Roedd gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd gyfrifoldeb cyffredinol dros ddarparu gwasanaethau safonau bwyd o fewn yr Adran Diogelu’r Cyhoedd. Roedd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu’n gyfrifol am y gwaith reoli o ddydd i ddydd.
2.3 Roedd gan yr awdurdod drefniadau cynllunio gwasanaethau ar waith, ynghyd â systemau ar gyfer adolygu perfformiad. Roedd dogfennau cynllunio gwasanaethau yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau, ond nid yr holl wybodaeth, gan gynnwys yr ymrwymiad i gyflawni rhwymedigaethau llawn y Cyngor, y gofyniad i adolygu pob elfen o waith y flwyddyn flaenorol ac i fynd i’r afael â phob diffyg yn y ddarpariaeth yn y cynllun nesaf.
2.4 Roedd gan yr awdurdod drefniadau ar waith i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu gan swyddogion cymwys a oedd wedi’u hawdurdodi’n briodol i raddau helaeth yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Mae angen i’r awdurdod sicrhau bod pob swyddog yn cael digon o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu, a bod cofnodion yn cael eu cynnal yn llawn, gan gynnwys y rhai ar gyfer contractwyr.
2.5 Cadarnhaodd gwiriadau cronfa ddata fod ymyriadau risg uchel yn cael eu cynnal, ond bod nifer fach o sefydliadau risg ganolig a risg isel yn hwyr yn cael ymyriad safonau bwyd, ac nad oedd nifer sylweddol o safleoedd heb sgôr wedi cael ymyriad o gwbl eto. Roedd cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r ôl-groniad ac roedd yr awdurdod ar y trywydd iawn i ail-alinio ei amlderau ymyrryd yn llawn â’r Cod Ymarfer yn ystod 2026/27.
2.6 Dangosodd cofnodion ymyriadau fod yr asesiadau o gydymffurfiaeth busnesau â’r rheolaethau alergenau yn ystod ymyriadau safonau bwyd o ansawdd da ar y cyfan. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael mewn rhai achosion i ddangos bod contractwyr wedi cynnal asesiad trylwyr. Roedd y sgôr risg yn gywir ar y cyfan ond weithiau roedd angen adlewyrchu gweithgareddau busnes yn fwy cywir. Roedd y camau dilynol yn gywir ar y cyfan ond weithiau nid oedd swyddogion wedi ailymweld â busnesau i wirio cydymffurfiaeth, fel sy’n ofynnol. Lle canfuwyd bwyd anniogel ar y farchnad, cymerwyd y camau gorfodi cywir i gael gwared arno ac atal y digwyddiad rhag digwydd eto, gan nodi rhai enghreifftiau o arfer da .
2.7 Yn gyffredinol, roedd adroddiadau am ymyriadau safonau bwyd yn gynhwysfawr ar y cyfan, ond byddai’r awdurdod yn elwa o sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyson, a bod yr holl wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu.
2.8 Yn gyffredinol, roedd cwynion am fwyd a sefydliadau bwyd a samplu safonau bwyd wedi’u cynnal yn ôl yr angen. Roedd tystiolaeth bod camau dilynol priodol wedi’u cymryd i dynnu bwyd anniogel oddi ar y farchnad a bod camau gorfodi wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto, gyda rhai enghreifftiau o arferion da wedi’u nodi.
2.9 Roedd yr awdurdod wedi defnyddio ystod o ddulliau gorfodi i wella cydymffurfiaeth busnesau â deddfwriaeth rheoli alergenau. Lle cymerwyd camau gorfodi, roeddent yn briodol ac yn effeithiol ar y cyfan i dynnu bwyd anniogel oddi ar y farchnad ac atal yr un peth rhag digwydd eto, gyda rhai enghreifftiau o arferion da wedi’u nodi. Fodd bynnag, canfuwyd rhywfaint o dystiolaeth hefyd o oedi wrth wirio cydymffurfiaeth.
2.10 Roedd tystiolaeth o rywfaint o waith mewnol i fonitro materion safonau bwyd, gan gynnwys rheolaethau alergenau. Byddai’r gweithgaredd monitro mewnol yn elwa o gael ei wella er mwyn sicrhau bod yr holl weithgareddau rheoli swyddogol yn cael eu cynnwys, a bod mwy o ddefnydd o wiriadau cronfeydd data swmp a chofnodi gwell.
3. Methodoleg archwilio
3.1 Cafodd yr awdurdod lleol lythyr cyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys holiadur cyn yr ymweliad ynghyd â manylion dogfennau angenrheidiol i asesu i ba raddau yr oedd wedi cwblhau’r argymhellion nad oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol.
3.2 Cafodd yr awdurdod lleol hefyd gopi o unrhyw adroddiadau archwilio/cynlluniau gweithredu perthnasol, a gofynnwyd iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau.
3.3 Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle a oedd yn cynnwys ymweliad gwirio â busnes lleol a chyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddog arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, yn ogystal ag archwiliad o ddetholiad o gofnodion rheolaethau swyddogol ar fwyd.
3.4 Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng 13 a 15 Ionawr 2026. Treuliwyd dau ddiwrnod gwaith a hanner yn cwblhau’r rhan o’r archwiliad a gynhaliwyd ar y safle.
3.5 Mae’r awdurdod lleol wedi cael yr adroddiad archwilio ysgrifenedig hwn a chynllun gweithredu diweddaredig ar sail yr archwiliad, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.
4. Canfyddiadau’r archwiliad
4.1 Trefniadaeth a rheolaeth
4.1.1 Goruchwyliwyd gwaith gorfodi cyfraith bwyd gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd. Mae Cyfansoddiad yr awdurdod yn amlinellu ei drefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan y Cyfansoddiad, roedd penderfyniadau ar faterion gweithredol sy’n ymwneud â bwyd wedi’u dirprwyo i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol.
4.1.2 Roedd yr awdurdod wedi datblygu ‘Cynllun Gwasanaeth Bwyd Anifeiliaid a Bwyd 2025-26’ (‘y Cynllun Gwasanaeth’). Darparwyd tystiolaeth o gymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth.
4.1.3 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau, gan gynnwys proffil o’r awdurdod, cwmpas y gwasanaeth a siart strwythur sefydliadol adran Diogelu’r Cyhoedd. Roedd yr amseroedd gweithredu, y pwyntiau darparu gwasanaeth a nodau ac amcanion y gwasanaeth wedi’u nodi’n glir, er y byddai’r Cynllun Gwasanaeth yn well pe bai’n cydnabod baich y gwaith angenrheidiol y tu allan i oriau gwaith.
4.1.4 Roedd y cynllun gwasanaeth yn nodi bod 1114 o sefydliadau bwyd yng Ngheredigion. Rhoddwyd proffil y busnesau yn ôl y math o sefydliad. Hefyd, roedd nifer yr ymyriadau a oedd wedi’u cynllunio ac a oedd i fod i gael eu cynnal, yn ôl sgôr risg, wedi cael ei nodi, gan gynnwys y rhai a oedd yn hwyr.
4.1.5 Roedd y targedau a’r blaenoriaethau ar gyfer safonau bwyd yn cynnwys ymrwymiad i gynnal pob arolygiad/ymyriad sydd i fod i gael eu cynnal mewn sefydliadau risg uchel a sefydliadau heb sgôr fel sy’n ofynnol yn unol â’r Cod Ymarfer, ond nid oedd unrhyw ymrwymiad i gynnal arolygiadau/ymyriadau mewn pob sefydliad risg ganolig a risg isel yn unol â’r gyfraith a’r Cod Ymarfer.
4.1.6 Mae nodi nifer disgwyliedig yr ailymweliadau yn ystod y flwyddyn yn rhan ofynnol o’r rhaglen ymyrryd, ac roedd e amcangyfrif – sef nifer bach o ailymweliadau – wedi’i gynnwys yn nhabl y rhaglen. Roedd ymrwymiad i ailymweld â sefydliadau mewn perthynas â safonau bwyd, yn unol â gofynion y gyfraith a’r Cod Ymarfer.
4.1.7 Nid oedd blaenoriaethau a thargedau ymyrryd yr awdurdod, fel y’u nodir yn y Cynllun Gwasanaeth, a oedd yn seiliedig yn bennaf ar gynnal ymyriadau mewn sefydliadau risg uchel a sefydliadau heb sgôr, yn seiliedig yn llawn ar risgiau.
4.1.8 Roedd y cynllun yn cynnwys amcangyfrif o’r galw tebygol am y rhaglen ymyriadau bwyd, gan gynnwys y galw tebygol, yn seiliedig ar flynyddoedd blaenorol, am y gwaith ymatebol y mae’n ofynnol ei wneud. Byddai hyn yn elwa o ddadansoddiad pellach i ystyried y galw sy’n deillio o’r angen i ymgysylltu ag awdurdodau cartref neu wreiddiol, yn ogystal ag ymdrin â digwyddiadau bwyd.
4.1.9 Darparwyd gwybodaeth am y rhaglen samplu safonau bwyd ac roedd yn cynnwys yr adnoddau a neilltuwyd i ymgymryd â’r gwaith hwn. Roedd hyn yn cynnwys cyfeiriad at waith samplu yn seiliedig ar risg a gynhaliwyd yn ystod arolygiadau.
4.1.10 Yn y Cynllun Gwasanaeth, nodwyd yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni gwasanaethau gorfodi’r gyfraith bwyd, sef 578 diwrnod gwaith ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. Amcangyfrifwyd bod angen 779 diwrnod gwaith i ddarparu’r gwasanaeth, sy’n dangos yr angen am 201 diwrnod gwaith ychwanegol ar ben yr adnoddau presennol i gyflawni’r gofynion yn llawn. Roedd yr adnodd ychwanegol hwn eisoes ar gael oherwydd tanwariant cyflog o ganlyniad i’r swyddi gwag presennol.
4.1.11 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth am Bolisi Gorfodi'r awdurdod a'i ddull o ddatblygu staff.
4.1.12 Cyfeiriwyd yn y cynllun at drefniadau i fonitro’r gwasanaeth safonau bwyd yn fewnol, neu i gynnal ‘asesiad ansawdd’ ohono, a hynny drwy drefniadau adrodd meintiol, ynghyd â disgrifiad byr o’r trefniadau monitro mewnol ansoddol ar gyfer y gwasanaeth.
4.1.13 Ategwyd y Cynllun Gwasanaeth gan Gynllun Busnes ar wahân. Gyda’i gilydd, roeddent yn cynnwys gwybodaeth yn dilyn adolygiad o’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd ar sail cynllun y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nodwyd, er bod yr adolygiad yn cwmpasu’r rhan fwyaf o feysydd gwaith, nad oedd yn cwmpasu pob targed. Dylai’r adolygiad gynnwys sefydliadau heb sgôr, sefydliadau risg isel, nifer y samplau a gymerwyd yn erbyn rhaglen samplu safonau bwyd a nifer yr achosion ymatebol yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amseroedd targed.
4.1.14 Yn dilyn yr adolygiad, nid oedd amrywiadau o ran cyflawni’r targedau a nodwyd yn y Cynllun Gwasanaeth blaenorol wedi’u nodi mewn perthynas â’r ôl-groniad o ymyriadau risg ganolig (categori B) a busnesau heb sgôr. O ganlyniad, ni roddwyd unrhyw esboniadau am yr amrywiadau hyn.
4.1.15 Roedd yr awdurdod wedi ymgorffori nifer o feysydd i’w gwella yn ei Gynllun Gwasanaethau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r amrywiadau mewn perthynas ag ymyriadau Categori B a sefydliadau heb sgôr er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion y gyfraith a’r Cod Ymarfer.
Argymhellion
4.1.16 Dylai'r awdurdod
(i) Sicrhau bod Cynlluniau Gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer safonau bwyd yn cael eu llunio yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau. Yn benodol, dylid darparu ymrwymiad a chynllun i gynnal yr holl ymyriadau dyledus a hwyr, yn seiliedig ar ofynion y Cod Ymarfer.
(ii) Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd.
(iii) Sicrhau ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau o ran bodloni’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd mewn cynllun dilynol.
[Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.3 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; adrannau 2.3.18.2, 2.3.18.3 ac Atodiad 1 i’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]
4.2 Swyddogion awdurdodedig
4.2.1 Roedd Cynllun Dirprwyo Pwerau i Swyddogion yr awdurdod, sy’n rhan o’i Gyfansoddiad ysgrifenedig, yn rhoi pwerau dirprwyedig i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ymwneud â gwasanaethau bwyd. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod dirprwyedig i awdurdodi swyddogion eraill a’r pŵer i gyfarwyddo’r adran gyfreithiol ynghylch cychwyn erlyniadau.
4.2.2 Roedd gweithdrefn ddogfenedig wedi’i datblygu ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad ac roedd hyn yn unol â’r gofynion perthnasol.
4.2.3 Roedd yr awdurdod wedi penodi swyddog arweiniol â chymwysterau a gallu addas ar gyfer safonau bwyd yn unol â gofynion y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd.
4.2.4 Roedd yr awdurdod wedi nodi, o fewn ei Gynllun Gwasanaethau, fod lefel yr adnoddau oedd eu hangen i ddarparu gwasanaethau bwyd ychydig yn uwch na’r adnoddau oedd ar gael ar y pryd, sef diffyg o 201 diwrnod gwaith ar draws hylendid bwyd a safonau bwyd. At hynny, roedd y ddibyniaeth ar un swyddog cymwys i ymgymryd ag ymyriadau mewn sefydliadau bwyd â systemau sicrhau ansawdd ffurfiol yn peri risg i wydnwch y gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r prinder adnoddau swyddogion, trwy ddefnyddio contractwyr allanol. Roedd hyn yn bosib o ganlyniad i’r tanwariant presennol ar gyfer cyflogau. Cynghorwyd archwilwyr bod cynllun yr awdurdod i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ymyriadau ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026/27.
4.2.5 Roedd darparu hyfforddiant swyddogion yn ddibynnol ar asesiad anghenion hyfforddi ffurfiol, er nad oedd hyn wedi cynnwys y swyddog arweiniol ar gyfer safonau bwyd tan yn ddiweddar. Roedd yr awdurdod yn darparu cyfuniad o hyfforddiant mewnol ac allanol, ac yn gwneud defnydd da o’r cyfleoedd a ddarperir gan raglen hyfforddi awdurdodau lleol yr ASB. Roedd yn ofynnol i bob swyddog gyflawni 10 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar faterion bwyd craidd yn unol â’r Cod Ymarfer.
4.2.6 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion cymwysterau a hyfforddiant chwe swyddog a oedd yn ymwneud â’r gwaith o gynnal rheolaethau safonau bwyd swyddogol. Roedd cofnodion yn cael eu cadw gan yr awdurdod ar gyfer swyddogion yn system ffeiliau a ffolderi gyfrifiadurol y Cyngor.
4.2.7 Roedd pedwar swyddog wedi’u hawdurdodi yn unol â thystiolaeth o’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Roedd awdurdodiadau wedi’u llofnodi gan swyddog ag awdurdod dirprwyedig, ac roeddent yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth allweddol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal yr amrywiaeth o reolaethau swyddogol sy’n ofynnol ar gyfer alergenau.
4.2.8 Roedd cymwysterau academaidd a chymwysterau perthnasol eraill ar gael i bob swyddog, ac roedd pob un contractwr ond dau wedi cael y 10 awr o hyfforddiant DPP ar faterion bwyd craidd sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer a pholisïau’r awdurdod ei hun, yn unol â’u dyletswyddau. Nodwyd bod cofnodion hyfforddi tri swyddog yn anghyflawn, gan gynnwys dau gontractwr.
Argymhellion
4.2.9 Dylai'r awdurdod:
(i) Sicrhau bod pob swyddog yn ymgymryd â’r isafswm o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â’r Cod Ymarfer a bod hyn wedi’i ddogfennu’n briodol.
[Erthyglau 5(1)(e) a 5(4) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraff 3.3 o’r Cod Ymarfer]
4.3 Arolygiadau, cofnodion ac adroddiadau o ran safleoedd bwyd
4.3.1 Darparodd yr awdurdod wybodaeth yn ei gynllun gwasanaeth a oedd yn cadarnhau bod 1114 o fusnesau bwyd â sgôr ar gronfa ddata sefydliadau safonau bwyd yr awdurdod ar ddechrau’r flwyddyn. Cyn yr archwiliad, roedd 24 o safleoedd yn hwyr yn cael eu harchwilio, gan gynnwys 4 sefydliad risg uchel (categori A), 15 sefydliad risg ganolig (categori B), 5 sefydliad risg isel (categori C) a 145 sefydliad heb sgôr. Er bod y safleoedd risg uchel wedi cael eu harolygu ers hynny, y disgwyl yw y bydd yr awdurdod yn mynd i’r afael yn llwyr â’r ôl-groniad sy’n weddill y flwyddyn nesaf fel rhan o’r rhaglen waith, gan ddefnyddio’r adnoddau presennol.
4.3.2 Roedd gweithdrefnau ymyriadau safonau bwyd wedi’u datblygu, ac roeddent yn unol â’r gofynion. Roedd ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cynnal i raddau helaeth ar y cyd ag ymyriadau hylendid bwyd. Roedd aide-mémoire ar y cyd wedi’i ddatblygu ar gyfer ymgymryd ag ymyriadau a chafodd hwn ei ddefnyddio yn bennaf gan swyddogion. Fodd bynnag, roedd contractwyr yn defnyddio ffurflen safonau bwyd hŷn nad oedd yn cynnwys y manylion llawn a oedd yn ofynnol yn unol â’r Cod Ymarfer.
4.3.3 Archwiliwyd pum ymyriad safonau bwyd a gafodd eu cynnal yn y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Nodwyd bod pob ffeil yn cynnwys manylion cofrestru bwyd perthnasol, a bod pob sylw yn ddarllenadwy ac yn adferadwy, ym mhob achos. Dim ond un busnes oedd wedi cael ymyriad ar yr amlder cywir.
4.3.4 Roedd archwilwyr yn gallu cadarnhau, ym mhob achos, fod yr ymweliadau wedi bod yn ddirybudd a bod natur a graddfa’r gweithgareddau bwyd wedi’u dogfennu. Fodd bynnag, dim ond mewn tri allan o bum achos y defnyddiwyd yr aide-mémoire cywir. Yn y ddau achos arall, nid oedd archwilwyr yn gallu pennu a oedd asesiad wedi’i gynnal o unrhyw system rheoli safonau bwyd neu a oedd trafodaethau wedi’u cynnal ag unrhyw staff oedd â chyfrifoldebau allweddol dros reoli alergenau.
4.3.5 Llwyddodd archwilwyr i gadarnhau bod asesiad o ofynion olrheiniadwyedd ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn, mewn perthynas ag alergenau, ar gael ar gyfer tri allan o bum achos – gan gynnwys manylion cyflenwyr, busnesau eraill sy’n cynhyrchu neu’n mewnforio ar gyfer y busnes, a manylebau cynhwysion.
4.3.6 Roedd cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran cyfansoddiad a chyflwyniad wedi’i hasesu’n drylwyr mewn tri allan o bum achos. Roedd cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran labelu alergenau wedi’i hasesu mewn pedwar allan o bum ffeil yn unig. Roedd yn ymddangos bod yr wybodaeth ar y ffeil arall yn cyfeirio at ofyniad deddfwriaethol anghywir mewn perthynas â labelu alergenau.
4.3.7 Llwyddodd yr archwilwyr i gadarnhau, fel rhan o’r gwaith ar olrheiniadwyedd, fod asesiad o drefniadau o ran rhoi gwybod i gwsmeriaid am achosion o alw a thynnu cynnyrch yn ôl wedi’i gynnal mewn tri o’r pum achos
4.3.8 Llwyddodd archwilwyr i benderfynu bod y sgoriau risg yn gyson ym mhob achos ond un. Yn yr un achos, nid oedd y sgorio sy’n ymwneud â gweithgareddau busnes yn cyd-fynd â’r disgrifiadau yn y Cod Ymarfer. Cafodd y safle ei ddosbarthu fel un risg isel ac felly nid oedd wedi bod yn destun ymyriad ers 11 mlynedd. Fodd bynnag, mae’r safle hwn yn peri risg llawer uwch nag sy’n cael ei chofnodi ar hyn o bryd.
4.3.9 Dim ond mewn un o’r pum ffeil yr oedd gwybodaeth ar gael mewn perthynas â ph’un a gafodd unrhyw samplau eu cymryd neu eu hystyried yn ystod yr ymyriad.
4.3.10 Llwyddodd yr archwilwyr i bennu, ym mhob achos, fod adroddiadau wedi’u hanfon i’r cyfeiriad busnes cywir mewn modd prydlon, ac at y Gweithredwr Busnes Bwyd neu fod adroddiadau wedi’u gadael ar y safle.
4.3.11 Ym mhob achos, roedd archwilwyr yn gallu pennu nad oedd yr adroddiadau’n nodi p’un a oedd samplau wedi’u cymryd a’r amserlenni ar gyfer cywiro achosion o ddiffyg cydymffurfio â safonau bwyd. Mewn dau achos arall, ni ddarparwyd manylion am y dogfennau a archwiliwyd yn ystod yr ymyriad gan fod taflen grynodeb wedi’i defnyddio.
4.3.12 Mewn tri allan o bum achos, roedd archwilwyr yn gallu nodi bod camau dilynol priodol wedi’u cymryd yng ngoleuni canfyddiadau’r arolygiad. Ni chynhaliwyd ailymweliad mewn un achos lle ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol ac nid oedd digon o wybodaeth ar gael am yr achos arall.
4.3.13 Cafodd ystyriaethau mewn perthynas â thynnu bwyd anniogel oddi ar y farchnad eu harchwilio neu eu cofnodi’n ddigonol lle codwyd pryderon o ran cyfansoddiad, labelu a gofynion rheoli alergenau mewn tri allan o bum achos. Roedd y camau gweithredu hyn yn cynnwys galw a thynnu cynnyrch yn ôl a chamau gorfodi.
4.3.14 Roedd manylion yr arolygiad ar y gronfa ddata a ffeiliau digidol yn gyfredol, yn gywir ac yn gyson.
Argymhellion
4.3.15 Dylai'r awdurdod:
(i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal yn ôl yr amlder gofynnol a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a bod ailymweliadau’n cael eu cynnal yn ôl yr angen. [Erthyglau 9(1) a (2) o Reoliad (EU) 2017/625 a gymathwyd; paragraffau 4.2, 4.2.2, 4.2.4, 4.2.5 a 6.4.1 o’r Cod Ymarfer]
(ii) Sicrhau bod safleoedd wedi’u sgorio’n gywir mewn perthynas â materion alergenau. [Erthyglau 5(1)(a) a (b), 9(1), 12, 13 a 14 o Reoliad (EU) 2017/625 a gymathwyd; 4.2.2, 4.2.6 o’r Cod Ymarfer, Atodiad 1]
(iii) Sicrhau bod arsylwadau a wneir a/neu ddata a geir yn ystod ymyriad/arolygiad safonau bwyd wedi’u cofnodi ar yr aide-mémoire cywir a’i fod yn cynnwys gwybodaeth gyflawn am y canlynol:
- asesiadau o systemau rheoli safonau bwyd, gan gynnwys yr holl fesurau rheoli sydd ar waith ar gyfer alergenau
- asesiadau o labelu, cyfansoddiad a chyflwyniad gofynion olrhain ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn, mewn perthynas ag alergenau, gan gynnwys manylion cyflenwyr, busnesau eraill sy’n cynhyrchu neu’n mewnforio ar gyfer y busnes, a manylebau cynhwysion
- trefniadau i alw/tynnu cynnyrch yn ôl
- yr ystyriaeth ynghylch a ddylid cymryd samplau/pa samplau a gymerwyd
(iv) Sicrhau bod llythyrau sy’n rhoi adroddiadau am ymyriadau / ffurflenni sy’n cael eu rhoi ar ôl arolygiadau yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
[Erthyglau 5(1)(a) a (b), 9(1), 12, 13 a 14 o Reoliad (UE) 2017/625 a gymathwyd; Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd 4.3.3.1, 4.4, 4.6; Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd 4.3.4.2, 4.3.4.3, 4.6]
Ymweliad dilysu â sefydliad bwyd
4.3.16 Cynhaliwyd ymweliad dilysu mewn sefydliad bwyd gyda swyddog awdurdodedig yr awdurdod a oedd wedi cynnal arolygiad safonau bwyd diweddaraf y sefydliad. Prif amcan yr ymweliad oedd ystyried effeithiolrwydd asesiad yr awdurdod o systemau’r busnes i sicrhau bod bwyd yn bodloni gofynion y gyfraith safonau bwyd mewn perthynas â rheolaethau alergenau.
4.3.17 Roedd y swyddog yn gallu dangos ei wybodaeth am y busnes a rhoi sicrwydd i’r archwilwyr fod asesiadau o reolaethau alergenau wedi digwydd fel rhan o’r arolygiad.
4.4 Arolygu a samplu bwyd
4.4.1 Roedd Cynllun Gwasanaeth yr awdurdod yn cynnwys manylion am gynllun samplu safonau bwyd, gan nodi’r prosiectau a’r arolygon y cyfrannwyd atynt. Roedd hefyd yn ymdrin ag alergenau ac yn nodi’r cynhyrchwyr lleol a siopau tecawê a dargedwyd.
4.4.2 Roedd y weithdrefn ar gyfer cymryd samplau bwyd yn amlinellu sut i gymryd samplau yn ogystal â’r camau i’w cymryd ar ôl i ganlyniadau ddod i law. Byddai’r weithdrefn yn elwa o fanylu ar y weithdrefn ar gyfer cymryd samplau y tu allan i oriau gwaith.
4.4.3 Roedd yr awdurdod wedi penodi Dadansoddwr Cyhoeddus i gynnal dadansoddiadau bwyd. Roedd y labordy ar y rhestr gydnabyddedig o Labordai Swyddogol dynodedig y DU.
4.4.4 Archwiliwyd pum sampl safonau bwyd a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Cafodd yr holl samplau eu cymryd gan swyddogion a oedd wedi’u hyfforddi a’u hawdurdodi’n briodol ac roedd canlyniadau’r samplau ar gael ar ffeil. Roedd archwilwyr yn gallu cadarnhau bod pob gweithredwr busnes bwyd wedi cael gwybod am y canlyniadau a, lle bo’n briodol, fod y Prif Awdurdod hefyd wedi cael gwybod. Roedd camau dilynol priodol wedi’u cymryd ym mhob achos.
Argymhellion
4.4.5 Dylai'r awdurdod:
(i) Gynnwys yn y weithdrefn samplu ar gyfer cymryd samplau bwyd y trefniadau ar gyfer samplau a gymerir y tu allan i oriau gwaith.
[Articles 9(1), 14, 137 & 138 of assimilated Regulation (EU) 2017/625; FLCoP 2.3.1, 4.2, 4.3, 4.3.3.1 & 4.4]
4.5 Cwynion am fwyd a safleoedd bwyd
4.5.1 Roedd yr awdurdod wedi llunio gweithdrefn i ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â bwyd a safleoedd bwyd, ac mae’r weithdrefn hon yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau a oedd yn unol â gofynion.
4.5.2 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion yn ymwneud â phum cwyn neu gais am wasanaeth a ddaeth i law’r awdurdod. Roedd yr archwilwyr yn gallu cadarnhau yr ymchwiliwyd i gŵynion yn amserol ym mhob achos.
4.5.3 Ym mhob achos, roedd archwilwyr yn gallu gweld yr ymchwiliwyd i’r achosion yn briodol a bod achwynwyr wedi cael gwybod am ganlyniadau’r ymchwiliad, lle bo hynny’n briodol. Roedd camau dilynol priodol wedi’u cymryd lle bo’n briodol.
4.5.4 Roedd archwilwyr yn gallu cadarnhau, lle bo’n briodol, fod yr awdurdod wedi cysylltu â’r Prif Awdurdod / Awdurdodau Cartref a Thîm Digwyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
4.6 Gorfodi
4.6.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu Polisi Gorfodi Corfforaethol a oedd wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet. Roedd y Polisi’n hyrwyddo dull graddedig o orfodi, ac yn gyffredinol roedd yn unol â'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau swyddogol eraill. Roedd y Polisi’n darparu meini prawf ar gyfer cymryd camau gorfodi ac yn cyfeirio at gynllun yr Awdurdod Cynradd, ac yn cynnwys gwybodaeth i gyfeirio camau gweithredu mewn sefydliadau lle mae gan y Cyngor ei hun fuddiant, fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau hamdden.
4.6.2 Mae gan yr adran dioglwch a safonau bwyd weithdrefnau gorfodi penodol sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella, hysbysiadau gwahardd, atafaelu a chadw ac ardystio bwyd, ildio’n wirfoddol a chau gwirfoddol. Roedd popeth wedi’i alinio â’r Cod.
4.6.3 Roedd dau Hysbysiad Gwella Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd (FIRIN) wedi’u cyflwyno o fewn cwmpas yr archwiliad, ac adolygwyd y ffeiliau yn ymwneud â’r hysbysiadau hyn. Roedd yr hysbysiadau’n cydymffurfio’n llawn â’r gofynion. Roedd yr hysbysiadau wedi cael eu cyflwyno gan swyddogion a oedd wedi’u cymeradwyo’n briodol, ac roeddent yn cynnwys y camau gweithredu cywir. Roedd prawf o gyflwyno ar gael yn y ddau achos. Yn anffodus, nid oedd ailymweliadau i wirio cydymffurfiaeth wedi’u cynnal mewn modd amserol. Fodd bynnag, nododd archwilwyr fod camau gorfodi pellach wedi’u cymryd yn y ddau safle, gan ddangos dull gorfodi graddol o ddelio â bwyd anniogel.
4.6.4 Adolygwyd un achos o gau’n wirfoddol. Roedd swyddog awdurdodedig priodol wedi cau’r safle, a dyma oedd y camau gweithredu cywir. Cafodd y cau gwirfoddol ei ddogfennu’n gywir a’i lofnodi gan y personau perthnasol. Roedd tystiolaeth o dynnu’r cau gwirfoddol yn ôl wedi’i dogfennu hefyd, yn ôl yr angen.
4.6.5 Doedd dim achosion o gadw, atafaelu, ardystio nac ildio gwirfoddol yn ymwneud ag alergenau o fewn cwmpas yr archwiliad, ac felly ni chawsant eu hasesu.
4.6.6 Roedd yr awdurdod wedi darparu gweithdrefnau dogfenedig ar gyfer cychwyn erlyniadau a chynnal rhybuddion syml. Roedd gweithdrefn ar wahân ar gael ar gyfer cydymffurfio ag ystyriaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a oedd hefyd yn foddhaol. Roedd y rhain yn ystyried y rhan fwyaf o’r agweddau ar y gwaith hwn, ond bydden nhw’n well pe bai mwy o waith yn cael ei wneud i gofnodi sut mae rolau a chyfrifoldebau’r Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol yn cael eu pennu.
4.6.7 Adolygodd archwilwyr un ffeil achos yn ymwneud â rheolaethau alergenau wedi’i huwchgyfeirio i’r Swyddog Erlyn am benderfyniad o fewn cwmpas yr archwiliad hwn. Arweiniodd yr achos hwnnw at benderfyniad i fwrw ymlaen ag erlyniad. Roedd hyn yn briodol ac yn unol â’r Polisi Gorfodi a’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
Argymhellion
4.6.8 Dylai'r awdurdod:
(i) Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi ar gyfer ffeiliau erlyn er mwyn dogfennu ystyriaethau o ran penodi rolau a chyfrifoldebau gweithdrefnau troseddol ac ymchwilio.
[Erthyglau 5(1 (a) a (b), 12, 13, 137 a 138 o Reoliad (UE) 2017/625 a gymathwyd, Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd 2.3, 2.3.1 a’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd 2.3.10]
(ii) Sicrhau bod gwiriadau cydymffurfio amserol yn cael eu cynnal ar hysbysiadau a gyflwynir i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio’n cael eu hunioni. Dylai hyn gynnwys dilyn gweithdrefnau gorfodi perthnasol sy’n ymwneud ag uwchgyfeirio camau gorfodi a sicrhau nad oes oedi gormodol yn y cynnydd a allai beryglu achosion posib yn y dyfodol.
[Erthyglau 5(1(a) a 138 o Reoliad (EU) 2017/625 a gymathwyd; Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd 6.4.1 a 6.4.2 Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd 6.4.10]
4.7 Monitro mewnol
4.7.1 Mae gwaith monitro mewnol yn bwysig i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyflawni a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â gofynion deddfwriaethol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a gweithdrefnau’r awdurdod. Mae hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau.
4.7.2 Cafodd targedau perfformiad allweddol eu nodi yn unol â’r Cod Ymarfer, ac mae gan yr awdurdod drefniadau ar waith i ymgymryd â gwaith monitro mewnol meintiol chwarterol a blynyddol ar draws y gwasanaethau bwyd. Roedd perfformiad yn cael ei adrodd drwy’r system gorfforaethol ar gyfer monitro perfformiad.
4.7.3 Roedd gweithdrefn monitro mewnol ddogfenedig ar waith ar gyfer y gwasanaeth safonau bwyd. Roedd yn nodi cyfrifoldebau swyddogion, ymweliadau yng nghwmni eraill, a sampl o wiriadau ffeiliau yn ymwneud ag ymyriadau, gwaith dilynol yn sgil samplau anffafriol a gwaith ymatebol, gan gynnwys ceisiadau am wasanaeth / cwynion. Roedd y weithdrefn yn manylu ar feintiau ac amlderau samplu, ond byddai’n elwa o gael ei hehangu i gynnwys adolygiad cyfnodol o awdurdodiadau swyddogion a gwiriadau o gronfeydd data swmp.
4.7.4 Roedd y rheolwyr tîm ac uwch swyddogion yn gyfrifol am fonitro'r gwasanaethau gorfodi bwyd yn fewnol ar lefel weithredol.
4.7.5 Bu modd i’r archwilwyr wirio bod peth gwaith monitro ansoddol wedi’i gynnal yn fewnol ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys gwirio cofnodion.
4.7.6 Lle’r oedd gwaith monitro mewnol wedi digwydd, roedd tystiolaeth ar gael ar ffurf cofnodion ar gyfer natur a graddfa’r gwaith monitro hwnnw, yn cwmpasu’r materion yr oedd angen rhannu adborth â swyddogion arnyn nhw. Fodd bynnag, byddai’r system yn well pe bai cofnodion yn cael eu cadw ar gyfer pob gweithgaredd yn y weithdrefn, gan gynnwys camau dilynol ar samplau ac ymchwiliadau i geisiadau gwasanaeth yn ogystal â’r ymyriadau hynny sy’n cael eu cynnal gan gontractwyr.
4.7.7 Roedd y cofnodion mewn perthynas â gwaith monitro mewnol a oedd ar gael yn cael eu cadw gan reolwyr am o leiaf ddwy flynedd.
Argymhellion
4.7.8 Dylai'r awdurdod:
(i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn gynnwys adolygiad cyfnodol o awdurdodiadau swyddogion a gwiriadau o gronfeydd data swmp.
(ii) Dylai’r gwaith monitro mewnol a gynhelir yn ymarferol gynnwys cofnodion o’r gwaith dilynol mewn perthynas â samplau ac ymchwiliadau i geisiadau gwasanaeth, yn ogystal â’r ymyriadau a gyflawnir gan gontractwyr.
[Articles 5(1)(a), 5(1)(b) & 12 of assimilated Regulation (EU) 2017/625, FLCoP 2.3.1 & FLPG 2.3.2]
4.8 Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau
4.8.1 Rhoddwyd sylw i gamau archwilio perthnasol o raglenni archwilio blaenorol nad oeddent wedi’u cwblhau. Roedd hyn yn cynnwys camau gweithredu o raglen archwilio lawn 2013–2017 a’r archwiliad a oedd yn canolbwyntio ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn 2017.
4.8.2 Cyhoeddwyd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar wefan yr ASB.
Archwilwyr
Craig Sewell
Angela Phillips
Adran
Y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Llawr 4
Adeilad Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Atodiad A: Cynllun Archwilio
Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymr, Mis Ebrill 2025 – Mawrth 2026
Briff y Rhaglen
Sarah Maddox
Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
E-bost: Sarah.Maddox@food.gov.uk
Craig Sewell
Uwch-reolwr Archwilio, yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru – Archwilydd Arweiniol
E-bost: wales.audit@food.gov.uk
Cefndir
Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd awdurdodau lleol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (y Ddeddf) a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.
Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau statudol i’r ASB er mwyn cryfhau ei dylanwad dros weithgarwch gorfodi ac i sicrhau y caiff blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol eu cyflawni ar lefel leol. Mae’n rhoi pwerau i’r ASB gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- pennu safonau perfformiad mewn perthynas â gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
- monitro perfformiad awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
- mynnu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynghylch gorfodi cyfraith bwyd ac archwilio unrhyw gofnodion
- mynd i mewn i safleoedd awdurdodau lleol, i archwilio cofnodion a chymryd samplau
- cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol
- llunio adroddiadau i awdurdodau lleol unigol, gan gynnwys canllawiau ar wella perfformiad
Yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gynhelir i sicrhau y gellir dilysu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid neu fwyd, ceir gofyniad, o dan Erthygl 6, i awdurdodau cymwys gynnal archwiliadau mewnol neu gael eu harchwilio’n allanol.
Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’r ASB yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau maent yn eu darparu, a hynny mewn modd cywir. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformiad chwe misol, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.
Fel rhan o’r rhaglen archwilio hon, cynhelir archwiliadau systematig ac annibynnol o’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â chyfraith bwyd yng Nghymru.
Amcanion y Rhaglen
Bydd y rhaglen archwilio yn ystyried y rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â gweithredu’r ddeddfwriaeth yn y meini prawf cyn y dyddiad hwn hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen archwilio.
Bydd yr archwiliadau’n dangos a fu’r broses o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud ag alergenau yng Nghymru yn effeithiol. Gallai methu â sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a allai effeithio’n andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru arwain at niwed i enw da awdurdodau lleol a’r ASB, yn ogystal â cholli hyder yn y diwydiant bwyd.
Bydd y rhaglen archwilio â ffocws yn cynnwys archwiliad o’r rheolaethau swyddogol, y gweithgareddau swyddogol a’r canlyniadau cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth isod:
- Deddf Diogelwch Bwyd 1990
- Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
- Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Nodau penodol y rhaglen archwilio hon yw:
- rhoi sicrwydd bod y gwaith o gyflwyno deddfwriaeth labelu alergenau sydd wedi bod ar waith ers 2014 yng Nghymru wedi’i weithredu’n effeithiol gan awdurdodau lleol; hynny yw, bod rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod), Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a deddfwriaeth swyddogol eraill a gyhoeddwyd yn ganolog(footnote)
- gwerthuso gweithgareddau awdurdodau lleol mewn perthynas â busnesau bwyd sy’n darparu cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS) i ddefnyddwyr, a ddaeth i rym ym mis Hydref 2021
- nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth gynnal rheolaethau
- darparu modd o nodi tanberfformiad yn systemau gorfodi cyfraith bwyd yr awdurdodau lleol
- darparu gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi'r ASB
- adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sydd heb eu cyflawni o archwiliadau blaenorol
Cwmpas y Rhaglen Archwilio
Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau o alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sydd yn unol â’r Cod.
Bydd y rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r meysydd canlynol o reolaethau swyddogol:
- Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd
- Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
- Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd
- Ymyriadau (rhai sydd wedi’u rhaglenni a rhai ymatebol) a gorfodi
- Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
- Monitro mewnol
- Unrhyw faterion eraill yn ymwneud â rheolaethau alergenau
Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny.
Dull asesu
Bydd yr archwiliadau’n cynnwys y canlynol:
- holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynlluniau gwasanaeth yr awdurdod lleol, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig
- bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o gynlluniau gweithredu archwilio blaenorol, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar unrhyw gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni
- yna cynhelir archwiliad strwythuredig ar y safle, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, ymweliad gwirio realiti ac adolygiadau o ffeiliau achosion
Hysbysu
Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o 4 wythnos o’r angen i gyflwyno deunydd cyn yr archwiliad, a rhoddir o leiaf 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer ymweliad archwilio, ar gyfer pob archwiliad a gynhelir o dan y cynllun archwilio hwn. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac yn hwyluso effeithiolrwydd y broses archwilio trwy ganiatáu digon o amser i bob awdurdod lleol gasglu dogfennau a sicrhau bod staff a chyfleusterau priodol ar gael.
Amseru
Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Mai 2025 a mis Chwefror 2026. Dylai’r elfen ‘ar y safle’ o’r archwiliad, ar gyfer pob awdurdod lleol, gymryd 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer gwaith asesu a ddilynir gan gyfarfod cloi ar y trydydd diwrnod.
Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol
Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adroddiad unigol a chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar sail yr archwiliad, a fydd ill dau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Bydd asesiad o sicrwydd cyffredinol ar gyfer rheolaethau alergenau hefyd yn cael ei anfon at bob awdurdod lleol ond ni fydd yn cael ei gyhoeddi.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau’r rhaglen archwilio. Bydd yr adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol a’r ASB i wella’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu cynnal. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn tynnu sylw at unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag unrhyw feysydd o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen.
Canlyniadau Disgwyliedig
Canlyniadau Uniongyrchol
- Rhoi sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith o ran rheolaethau swyddogol a gynhelir gan awdurdodau lleol i reoli’r risg diogelwch bwyd a berir i unigolion â gorsensitifrwydd i fwyd wrth ddod i gysylltiad ag alergenau
- Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol
- Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd
- Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau
- Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei swyddogaeth statudol.
Canlyniadau strategol
- Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd mewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau
- Rhoi sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion y Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd
- Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well o ran hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd
- Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009 a Deddf Safonau Bwyd 1999
Atodiad B: Cynllun gweithredu yn sgil archwiliad ar gyfer rheoli alergenau
Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion
Dyddiad yr archwiliad: 13 – 15 Ionawr 2026
|
Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) |
Erbyn (dyddiad) |
Gwelliannau arfaethedig
|
Camau a gymerwyd hyd yma |
|
4.1.16 Dylai’r awdurdod: |
Ebrill 2026 (cynllun gwasanaeth nesaf) |
Bydd datganiad cliriach yn ymwneud ag ymrwymiadau’r awdurdod lleol i gyflawni ymyriadau dyledus a hwyr yn cael ei gynnwys. Cynhelir adolygiad llawn o’r cynllun gwasanaeth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r fframwaith.
|
I’w wneud ar gyfer cynllun gwasanaeth 2026/2027.
|
|
4.1.16 (ii) Sicrhau bod yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd.
|
Ebrill 2026 |
Bydd adolygiad perfformiad yn cael ei gynnwys yng nghynllun gwasanaeth 2026/2027. Bydd y broses adolygu perfformiad corfforaethol bresennol yn cael ei chynnwys i ddangos integreiddio’r ddwy broses. |
I’w wneud ar gyfer cynllun gwasanaeth 2026/2027. Darparwyd adolygiad perfformiad corfforaethol cyn yr archwiliad |
|
4.1.16 (ii) Sicrhau ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau o ran bodloni’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd mewn cynllun dilynol. |
Ebrill 2026 |
Fel uchod |
Fel uchod |
|
4.2.9 (i) Sicrhau bod pob swyddog yn ymgymryd â’r isafswm o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â’r Cod Ymarfer a’i fod wedi’i ddogfennu’n briodol. |
Ionawr 2026 |
Cynllun hyfforddi ac asesiad o anghenion hyfforddi wedi’u cyflwyno ar draws y gwasanaeth i sicrhau bod DPP priodol yn cael ei drefnu a’i reoli |
Mae pob swyddog mewnol bellach wedi derbyn y DPP gofynnol. Mae defnyddio contractwyr wedi’i atal nes iddynt gwblhau’r un DPP gofynnol. |
|
4.3.15 (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal yn ôl yr amlderau gofynnol a bennir gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, a bod ailymweliadau’n cael eu cynnal yn ôl yr angen. |
Mawrth 2026
|
Bydd contractwr safonau bwyd yn cael ei gyflogi am gyfnod byr i sicrhau bod arolygiadau ac ymyriadau perthnasol yn cael eu cynnal yn hyn o beth. |
Mae paratoadau ar gyfer penodi contractwr safonau bwyd dros dro ar y gweill.
|
|
4.3.15 (ii) Sicrhau bod safleoedd â’r sgoriau cywir mewn perthynas â materion alergenau. |
Cwblhawyd |
Hyfforddiant staff ac atgyfnerthu protocol ymweliadau contractwyr i sicrhau bod gwiriadau ar ddogfennau contractwyr yn cael eu cwblhau. |
Mae ymweliadau gan gontractwyr wedi cael eu hadolygu ac mae camau wedi cael eu cymryd lle codwyd problemau. Ymweliadau gan gontractwyr wedi’u hatal nes bod problemau hyfforddi wedi’u datrys. |
|
4.3.15 (iii) Sicrhau bod arsylwadau a wneir a/neu ddata a geir yn ystod ymyriad/arolygiad safonau bwyd wedi’u cofnodi ar yr aide-mémoire cywir a’i fod yn cynnwys gwybodaeth gyflawn am y canlynol:
|
Ionawr 2026
|
Mae’r aide-mémoire wedi’i adolygu a’i safoni i sicrhau bod pob swyddog a chontractwr yn defnyddio’r un ffurflen. Prosesau rheoli ansawdd dogfennau contractwyr wedi’u hatgyfnerthu i sicrhau bod gwybodaeth wedi’i chwblhau.
|
Mae’r rhan fwyaf o’r addasiadau i’r pro-forma wedi’u gwneud.
|
|
4.3.15 (iv) Sicrhau bod llythyrau sy’n rhoi adroddiadau am ymyriadau / ffurflenni sy’n cael eu rhoi ar ôl arolygiadau yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
|
Ebrill 2026 |
Mae adroddiadau ymyrryd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu diwygio yn unol â’r argymhelliad hwn.
|
Wrthi’n cael eu hadolygu |
|
4.4.5 (i) Cynnwys yn y weithdrefn samplu ar gyfer cymryd samplau bwyd y trefniadau ar gyfer samplau a gymerir y tu allan i oriau gwaith.
|
Cwblhawyd |
|
Wedi’i gwblhau a’i gyflenwi |
|
4.6.8 (i) Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi ar gyfer ffeiliau erlyn er mwyn dogfennu ystyriaethau o ran penodi rolau a chyfrifoldebau gweithdrefnau troseddol ac ymchwilio.
|
Cwblhawyd
|
Mae rolau’r swyddog ymchwilio, y swyddog sy’n gyfrifol a’r swyddog datgelu bellach wedi’u cofnodi ar y Ffurflen Rheoli ac Adolygu Achosion.
|
Wedi’i gwblhau a’i gyflenwi |
|
4.6.8 (ii) Sicrhau bod gwiriadau cydymffurfio amserol yn cael eu cynnal ar hysbysiadau a gyflwynir i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio’n cael eu hunioni. Dylai hyn gynnwys dilyn gweithdrefnau gorfodi perthnasol sy’n ymwneud ag uwchgyfeirio camau gorfodi a sicrhau nad oes oedi gormodol yn y cynnydd a allai beryglu achosion posib yn y dyfodol. |
Cwblhawyd |
Prosesau hylendid a safonau bwyd wedi’u halinio; hyfforddiant staff yn cael ei gynnig ar ddulliau cyson |
Rhaid cynnwys pob hysbysiad gorfodi ar agenda “cyfarfod gorfodi” uwch-swyddogion i sicrhau bod pob achos yn symud ymlaen heb oedi. |
|
4.7.8 (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn gynnwys adolygiad cyfnodol o awdurdodiadau swyddogion a gwiriadau o gronfeydd data swmp. |
Mawrth 2026
|
Adolygu gweithdrefnau monitro i gynnwys y mesurau diogelwch/llywodraethu gorfodi a gyflwynwyd ar draws y gwasanaeth. Dylai’r weithdrefn fonitro adlewyrchu camau gweithio’r gwasanaeth. Ychwanegwyd gwiriadau cronfa ddata ychwanegol yn unol â rhai’r ASB, neu’n adlewyrchu’r rhain.
|
Penodi un uwch-swyddog i gydlynu prosesau monitro. |
|
4.7.8 (ii) Dylai’r gwaith monitro mewnol a gynhelir yn ymarferol gynnwys cofnodion o’r gwaith dilynol mewn perthynas â samplau ac ymchwiliadau i geisiadau gwasanaeth, yn ogystal â’r ymyriadau a gyflawnir gan gontractwyr. |
Mawrth 2026 |
Bydd y weithdrefn fonitro bresennol sy’n cynnwys y camau hyn yn cael ei gweithredu’n llawn (a’i hadolygu fel o’r blaen). |
Roedd gwiriadau heb eu dogfennu eisoes yn cael eu cynnal trwy gyfarfodydd adolygu gorfodi. Serch hynny, bydd y strwythur a ddarperir gan y weithdrefn fonitro ffurfiol yn sicrhau ansawdd a chysondeb. |