Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfod â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 6 Chwefror 2024

Penodol i Gymru

Agenda ar gyfer cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar ddiwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Mae hwn yn gyfarfod hybrid a gynhelir wyneb yn wyneb yn Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays ac ar-lein trwy MS Teams.

Cyfarfod Hybrid â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 

Agenda a phapurau

09:15 – 09:30 Croeso gan y Cadeirydd

I gynnwys cyflwyniad, diweddariad llafar o gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, ymddiheuriadau, datganiadau o fuddiannau a chofnodion cyfarfod mis Hydref 2023.

09:30 – 09:40 Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Diweddariad ysgrifenedig y Cyfarwyddwr ers y cyfarfod diwethaf ym mis Hydref 2023.

09:40 – 10:00 Diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig – Cyflwyniad

  • Cyd-destun a chefndir cryno (5 munud)
  • Pa ganlyniadau rydym am eu cyflawni (15 munud)

10:00 – 11:30 Diwygiadau Sylfaenol ar gyfer Cynhyrchion Rheoleiddiedig

  • Trosolwg o’r cynigion, gan gynnwys risgiau/buddiannau (15 munud)
  • Canlyniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (15 munud)
  • Y camau nesaf ac ystyriaethau eraill (15 munud)
  • Trafodaeth agored (45 munud)

11:30 – 11:45 Egwyl

11:45 – 12:55 Diwygiadau Blaenoriaethol ar gyfer Cynhyrchion Rheoleiddiedig

  • Trosolwg o’r cynigion, gan gynnwys canlyniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (15 munud)
  • Manteision, risgiau a heriau (10 munud)
  • Y camau nesaf ac ystyriaethau eraill (5 munud)
  • Trafodaeth agored (40 munud)

12:55 – 13:00 Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

I gadw lle i fynychu’r cyfarfod hwn ar-lein, i gyflwyno cwestiwn neu i gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk.