Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - Adroddiad y Cyfarwyddwr - Chwefror 2024

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru

1. Crynodeb

1.1  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023, yn ogystal â chrynodeb o ymgysylltiad ar lefel uwch ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA), a throsolwg o faterion o ddiddordeb i WFAC sy’n berthnasol i Gymru.

1.2  Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi’r diweddariad
    gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1  Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.

3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)

3.1  Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC ar 25 Hydref, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar gynllunio busnes ar gyfer 2024/2025 sydd wrthi’n cael ei wneud ledled y sefydliad; cynlluniau ar gyfer gweithredu’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau, gan y bydd cam cyntaf rheolaethau’r UE yn dod i rym o ddiwedd mis Ionawr ymlaen; a chefnogi’r gwaith i ddiwygio ein proses ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.

3.2  Ym mis Tachwedd, roeddwn yn falch iawn cael cyfarfod â Dr Rhian Hayward yn lansiad Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar Safonau Bwyd yn y Senedd. Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru. Roedd yn gyfle i gwrdd â nifer o randdeiliaid ac Aelodau’r Senedd.

3.3 Ym mis Rhagfyr, ynghyd â Nathan, cwrddais â’m swyddog cyfatebol yn Llywodraeth Cymru er mwyn trafod y sefyllfa gyllido ehangach yng Nghymru, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gyllidebau’r sector cyhoeddus. Mae’r sefyllfa’n debyg i sefyllfa llywodraeth y DU, ac rwyf wedi nodi hyn yn fy nhrafodaethau yng nghyfarfodydd y Tîm Rheoli Gweithredol. Mae’r ASB, fel adrannau eraill, yn mynd i deimlo pwysau cynyddol yn 2024/25, a bydd angen i ni adlewyrchu hyn wrth gynllunio busnes a blaenoriaethu. Y cam nesaf yw cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau cymharol Gweinidogion Cymru o fewn ein cylch gwaith.

3.4  Ym mis Ionawr, daeth Cyfarwyddiaeth UK&IA ynghyd ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd yn Llundain, ac roeddwn yn falch o weld cynifer o’n cydweithwyr o Gymru yno. Ymhlith meysydd eraill, gwnaethom drafod canlyniadau’r Arolwg Pobl ar gyfer UK&IA â’r uwch-dîm rheoli.

4. Ymgysylltu Allanol yng Nghymru gan Uwch-reolwyr UK&IA

4.1  Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC, a gynhaliwyd ar 25 Hydref, mae uwch-reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol a allai fod o ddiddordeb i WFAC:

  • 13 Tachwedd – Cyflwyniad gan Fforwm Rheoleiddwyr Cymru i Is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth Cymru ar Gostau Byw. Gwnaethom roi wybodaeth i’r pwyllgor, gan rannu penawdau perthnasol o gyhoeddiad yr ASB ‘Ein Bwyd 2022’ ar gostau byw. Mae mwy o wybodaeth am yr adroddiad isod.
  • 22 Tachwedd – Cynhadledd Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU. Aethom i’r gynhadledd hon, a drefnwyd gan Zero2Five, ar y thema ‘Meithrin gwydnwch diogelwch bwyd yn y sector gweithgynhyrchu bwyd’ gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y diwydiant ac arbenigwyr cysylltiedig. Rhoddodd Carmel Lynskey, Pennaeth Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’r ASB, gyflwyniad ar Wydnwch wrth Reoleiddio a’r gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o’r rhaglen hon. Roedd y digwyddiad yn gyfle da i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, ac i arddangos y cyhoeddiad diweddar ‘Ein Bwyd 2022’ yn ogystal â strategaeth yr ASB.
  • 22 Tachwedd – Digwyddiad Cynllunio Busnes Safonau Masnach Cymru. Cyflwynodd Nathan drosolwg o faes gwaith yr ASB a allai helpu i lywio cynllunio busnes safonau masnach dros y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y pynciau dan sylw’n cynnwys adnoddau awdurdodau lleol, y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau, data digwyddiadau a samplu, a gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU). Roedd yn gyfle da i rwydweithio ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).
  • 29 Tachwedd – Digwyddiad yn y Senedd i lansio ‘Ein Bwyd 2022: Adroddiad Blynyddol ar Safonau, a dathlu deng mlynedd o’r CSHB gorfodol yng Nghymru. Gweler manylion pellach isod.
  • 5 Rhagfyr – Cyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) lle cyflwynwyd trosolwg i’r grŵp o Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd diweddaraf yr ASB.
  • 22 Rhagfyr – Cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a’r broses awdurdodi.

4.2  Rhagolwg o’r gwaith ymgysylltu allanol sydd ar y gorwel:

  • 19 Ionawr – Cyfarfod chwarterol yr ASB a Llywodraeth Cymru i drafod cyllid a blaenoriaethau ar gyfer 2024-25.

5. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â Chymru

5.1  Cynhyrchion Rheoleiddiedig – Ar 30 Medi 2023, roedd 450 o geisiadau yn y System Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Rydym wedi cwblhau 29 o geisiadau ers mis Ebrill 2023, gyda deddfwriaeth bellach mewn grym i gefnogi awdurdodiadau newydd a cheisiadau i ail-awdurdodi. Rydym yn mynd â 33 o geisiadau eraill drwy’r broses awdurdodi ddeddfwriaethol ar hyn o bryd, gan gynnwys ymgynghoriad a phenderfyniadau Gweinidogol, ar draws cyfundrefnau ychwanegion bwyd anifeiliaid, bwydydd newydd a sylweddau gwella bwyd.

5.2  Bridio Manwl (Precision Breeding) – Ym mis Rhagfyr 2023, lansiodd yr ASB ymgynghoriad ar y cynigion am fframwaith newydd yn Lloegr ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid.  Er bod y Ddeddf yn gymwys i Loegr yn unig, rhannwyd yr ymgynghoriad (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg) â rhanddeiliaid yng Nghymru er mwyn iddynt wneud sylwadau. Mae Susan Jebb, Cadeirydd Bwrdd yr ASB, wedi cyfarfod sawl gwaith â’r Gweinidog, Lesley Griffiths, a’r Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, i drafod ystod o feysydd mewn perthynas â bridio manwl, ac mae gohebiaeth rhyngddynt i ddiweddaru a gofyn am wybodaeth, gan sicrhau sianeli cyfathrebu agored parhaus.

5.3  Model Gweithredu Safonau Bwyd: Cynllun Peilot Cymru – Mae’r cynllun peilot yn cael ei gynnal tan ddiwedd mis Chwefror 2024. Mae awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi parhau i gyflwyno eu data ymyrryd er mwyn llywio’r dadansoddiad meintiol, ac rydym yn parhau i gydweithio’n agos â chydweithwyr yng Nghyfarwyddiaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil (SERD) yr ASB. Bydd y gwerthusiad ffurfiol yn dechrau ym mis Mawrth 2024, a bydd y tîm yn ystyried effaith y cynlluniau peilot ar y model arfaethedig yng Nghymru. Mae’r tîm wedi cyfrannu at ddatblygu offer hyfforddi i helpu i roi’r model ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a fydd yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i’w gyflwyno yng Nghymru os penderfynir rhoi’r model ar waith. Mae hyn yn amodol ar ganfyddiadau gwerthusiad y cynllun peilot a chytundeb gan y Gweinidog.

5.4  Monitro perfformiad awdurdodau lleol – Ar ôl i awdurdodau lleol ddychwelyd yr arolygon canol blwyddyn, rydym wedi adolygu’r wybodaeth ac wedi trafod ag awdurdodau lleol unigol, lle bo angen. Mae hyn er mwyn dilysu’r data a gyflwynwyd, nodi tueddiadau perfformiad yn seiliedig ar ddadansoddiad o ganfyddiadau’r arolwg, neu ystyried unrhyw achosion lle bydd angen uwchgyfeirio yn unol â’r weithdrefn y cytunwyd arni gan Fwrdd yr ASB. Ar hyn o bryd, rydym yn cysylltu â 5 awdurdod lleol yng Nghymru yn dilyn yr arolygon data canol blwyddyn, a hynny er mwyn deall y dirwedd leol a’r amserlenni ar gyfer ail-alinio â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru).

5.5  Archwiliadau o awdurdodau lleol – Cynhaliwyd archwiliadau o bedwar o’r pum awdurdod lleol a ddewiswyd i asesu dulliau cynllunio gwasanaethau a chynnal ymyriadau ar ôl diwedd y Cynllun Adfer, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Maent wedi cael eu hadroddiadau a’u cynlluniau gweithredu wedi’u diweddaru. Cynhaliwyd y pumed archwiliad rhwng 10 ac 11 Ionawr 2024, ac mae fersiynau drafft o’r adroddiad a’r cynllun gweithredu wedi’u hanfon at yr awdurdod lleol er mwyn iddynt rannu sylwadau. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan awdurdodau lleol ar yr archwiliadau a gynhaliwyd.

Mae’r gwaith o gynllunio rhaglenni ar gyfer 2024/25 wedi dechrau a chynhaliwyd cyfarfodydd gyda holl gydweithwyr polisi a chyflawni’r ASB yng Nghymru.

Mae’r Llawlyfr Archwilio wedi’i adolygu ar y cyd â chydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau cysondeb ar draws y tair gwlad. Mae’r adolygiad bron wedi’i gwblhau, ac yn dilyn hynny, bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod, a bydd y llawlyfr yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ASB.

Cynhaliwyd cyfarfod gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol i drafod eu hadborth mewn perthynas â’r archwiliadau sydd wedi’u cynnal hyd yma. Cynhelir cyfarfod pellach yn y flwyddyn newydd i drafod y rhaglen archwilio arfaethedig ar gyfer 2024/25.

5.6  Feirws y tafod glas – Clefyd feirysol heintus a gludir gan fectorau nad yw’n effeithio ar bobl yw feirws y tafod glas (BTV). Mae’n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil gwyllt a domestig fel defaid, geifr, gwartheg, ceirw a chamelidau. Nid yw’n heintio pobl ac nid oes unrhyw risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd. Ar 11 Tachwedd, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU un achos o seroteip 3 feirws y tafod glas (BTV-3) mewn safle ger Caergaint, Caint, yn dilyn gwaith gwyliadwriaeth arferol ar gyfer feirws y tafod glas. Ers hynny, mae achosion pellach wedi’u nodi yng Nghaint a Norfolk. Mae Parthau Rheoli Dros Dro wedi’u sefydlu yng Nghaint a Norfolk i gyfyngu ar symud anifeiliaid sy’n agored i niwed, ac eithrio o dan drwydded. Daw hyn â chyfanswm yr achosion yn Lloegr i 35 o anifeiliaid heintiedig ar 18 safle. Nid oes unrhyw achosion yng Nghymru. Nid oes tystiolaeth o hyd bod feirws y tafod glas yn cylchredeg mewn gwybed ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd. Mae gwyliadwriaeth yn parhau. Bydd sefydliadau sy’n lladd da byw mewn Parthau Rheoli Dros Dro’n cael eu dynodi gan Defra neu Lywodraeth Cymru yn sgil argymhelliad gan yr ASB. Nid yw’r gofynion presennol yn caniatáu dynodi lladd-dai sy’n fwy na 100 milltir oddi wrth y Parthau Rheoli Dros Dro.

Gan fod yr holl Barthau Rheoli Dros Dro wedi’u lleoli ymhell dros 100 milltir o ladd-dai Cymru, ni ellir dynodi unrhyw ladd-dai yng Nghymru. Gallai hyn fod yn her i’r sefydliadau hynny sydd weithiau’n cael eu da byw o ffermydd o fewn y Parthau Rheoli Dros Dro. Mae’r diwydiant yn pwyso ar y Llywodraeth i hwyluso symud da byw pan fydd hyn yn digwydd.

5.7  Adolygiad blynyddol o ddosbarthiadau pysgod cregyn – Cynhaliodd yr ASB adolygiad blynyddol o’r holl ddosbarthiadau ar gyfer pysgod cregyn gan ddefnyddio data microbiolegol blaenorol o samplau pysgod cregyn a gymerwyd o bob gwely priodol. Ar 1 Rhagfyr 2023, yn dilyn yr adolygiad, roedd 27 o welyau dosbarthedig yng Nghymru; 3 ohonynt yn Ddosbarth A, 1 yn Ddosbarth B/C tymhorol, 1 yn Ddosbarth B, 20 yn Ddosbarth B – Tymor Hir, a 2 yn Ddosbarth C.

5.8  Gorsensitifrwydd i fwyd – Yn ystod cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, cytunodd aelodau Bwrdd yr ASB mai’r ffordd orau o ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr mewn lleoliadau fel bwytai a chaffis yw ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd hynny’n cynnwys busnesau yn cael sgyrsiau â defnyddwyr ynghylch alergenau.

Penderfynodd aelodau’r Bwrdd hefyd mai’r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy ddeddfwriaeth yn hytrach na chanllawiau. Mae Cadeirydd yr ASB wedi hysbysu Gweinidogion, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru, am benderfyniadau’r Bwrdd.

5.9  Ein Bwyd 2022 – Ar 9 Tachwedd, lansiodd yr ASB adroddiad blynyddol ‘Ein Bwyd’ mewn digwyddiad yn San Steffan. Mae’r adroddiad hwn, sydd wedi’i lunio ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn adolygu safonau bwyd ar draws y DU. Dyma’r ail adroddiad ers i’r DU ymadael â’r UE. Mae’n asesiad blynyddol annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o safonau bwyd ar draws y pedair gwlad. Mae’r adroddiad yn dangos bod safonau bwyd wedi aros yn sefydlog yn 2022 ar y cyfan, er gwaethaf pwysau gan gynnwys chwyddiant, prinder llafur a’r rhyfel yn Wcráin. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi prinder mewn galwedigaethau allweddol sydd eu hangen i gadw bwyd yn ddiogel, fel milfeddygon ac arolygwyr bwyd.

5.10  Digwyddiad ymgysylltu yn y Senedd – Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd ym mis Tachwedd i lansio Ein Bwyd 2022. Yn ystod y digwyddiad, rhoddodd Cadeirydd yr ASB sylw i ganfyddiadau’r adroddiad, gan gynnwys materion yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer milfeddygon ac awdurdodau lleol. Siaradodd Lynne Neagle MS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn y digwyddiad hefyd, a thynnodd sylw at lwyddiant y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a sut mae’n parhau i fod yn hanfodol bod gan y cynllun adnoddau digonol ar gyfer y dyfodol. Yn olaf, gwnaeth Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dynnu sylw at y pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol o ran adnoddau. Roedd yn gyfle da i’n Cadeirydd, Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr ac aelodau WFAC ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd, cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr o’r diwydiant a defnyddwyr eraill yng Nghymru.

5.11  Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cymru – Gosodwyd yr adroddiad a’r cyfrifon gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2024, ac fe’u cyhoeddwyd wedyn ar wefan yr ASB.

5.12  Ymgyrchoedd cyfathrebu – Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar yr ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r ceisiadau canlynol gan y cyfryngau:

  • CSHB 10 – Er mwyn nodi 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol i ddangos Sgoriau Hylendid Bwyd yng Nghymru, gwnaeth yr ASB mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol lansio ymgyrch ar 28 Tachwedd i ddathlu llwyddiant y cynllun. Manteisiodd yr ymgyrch ar y cyfryngau lleol, astudiaethau achos a’r cyfryngau cymdeithasol i atgoffa defnyddwyr ble y gallant wirio sgoriau ac i atgoffa busnesau o bwysigrwydd cael sgôr dda – mae cael sgôr hylendid bwyd dda yn dda i fusnes. Mae gwerthusiad llawn i fesur llwyddiant yr ymgyrch yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
  • Ymgyrch diogelwch bwyd dros y Nadolig – Gwnaethom gynnal ein hymgyrch gyfathrebu arferol dros y Nadolig i wella ymwybyddiaeth o arferion diogelwch bwyd a hylendid da yn ystod y gwyliau. Roedd yr ymgyrch yn ymdrin â phynciau’r Nadolig, gan gynnwys dadmer a choginio’ch twrci, gwirio’r sgôr hylendid bwyd cyn archebu pryd a pha ffefrynnau Nadoligaidd a allai gynnwys listeria. Defnyddiwyd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r negeseuon a datblygwyd pecyn adnoddau dwyieithog ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid yng Nghymru i’w hannog a’u galluogi i rannu’r negeseuon pwysig hyn am ddiogelwch bwyd.
  • Bariau siocled brand ffug – Roedd y timau Cyfathrebu a Diogelu Defnyddwyr yng Nghymru yn cefnogi lledaenu negeseuon yn rhybuddio aelodau’r cyhoedd i beidio â phrynu na bwyta bariau siocled ‘Wonka Bars’ neu ‘Prime’ ffug am resymau diogelwch. Roedd hyn yn cynnwys rhannu negeseuon rhagweithiol ar y cyfryngau cymdeithasol i gyd-fynd â’r ffilm ‘Wonka’ newydd.
  • Cyw iâr o Wlad Pwyl – Yn dilyn cynnydd mewn achosion o Salmonela a oedd yn gysylltiedig â chynnyrch dofednod a fewnforiwyd o Wlad Pwyl, gweithiodd tîm cyfathrebu Cymru â thimau cyfathrebu Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â’r Tîm Diogelu Defnyddwyr yng Nghymru, i atgoffa defnyddwyr am gyngor ar drin a choginio bwyd yn ddiogel. Yn ogystal, gwnaethant sicrhau bod timau cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael gweld y datganiad i’r wasg cyn iddo gael ei gyhoeddi, gan ddatblygu a chyhoeddi cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu negeseuon diogelwch allweddol â defnyddwyr.

6. Ymgynghoriadau

6.1 Ymgynghoriadau sydd ar agor:

  • Nid oes unrhyw ymgynghoriadau ar agor ar hyn o bryd.

7. Edrych tua’r dyfodol

7.1  Mae’r gweithgarwch cyfathrebu canlynol ar y gweill dros yr ychydig wythnosau nesaf:

  • Ymgyrch Labelu Figan – Bydd yr ymgyrch yn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau bwyd diogel a gwella dealltwriaeth o beth yw bwyd diogel. Bydd yr ymgyrch yn gwneud hyn trwy helpu’r rhai sydd â gorsensitifrwydd i fwyd (yn enwedig y rhai ag alergedd i wyau, llaeth, cramenogion pysgod neu folysgiaid) i ddeall pam na ddylent gymryd yn ganiataol fod label ‘figan’ yn golygu nad yw’r cynnyrch yn cynnwys alergenau penodol a’i bod yn ddiogel i’w fwyta. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ddiwedd Chwefror 2024.
  • Ymgyrch Cofrestru Busnesau Bwyd – Prif nodau’r ymgyrch hon yw mynd i’r afael â rhwystrau i gofrestru busnes, yn enwedig ofn arolygiadau. Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog busnesau bwyd i gofrestru a chynyddu ymwybyddiaeth o’r gofyniad cyfreithiol i gofrestru. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2024.

Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru