Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Crynodeb Gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a wnaeth safonau bwyd y DU wella, dirywio neu aros yr un fath yn 2022.

Cyflwyniad a chwmpas y gwaith

Cipolwg

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a wnaeth safonau bwyd y DU wella, dirywio neu aros yr un fath yn 2022. Dyma’r ail flwyddyn i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ddod ynghyd i gynhyrchu’r adolygiad blynyddol hwn. 

Pan lansiwyd Ein Bwyd, gwnaethom amlinellu’r mathau o safonau y gallai’r  adroddiad eu hystyried, sy’n cynnwys: 

1. Diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid (gan gynnwys rheoli alergenau) – hynny yw, sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta neu, yn achos bwyd anifeiliaid, ei fod yn ddiogel i’w gyflwyno i’r gadwyn fwyd. Ystyrir nifer o ffactorau wrth gynnig safonau diogelwch, gan gynnwys cyngor gan aseswyr risg yr ASB ac FSS ac arbenigwyr ehangach,  yn ogystal ag agweddau eraill fel yr egwyddorion a allai bennu lefel y risg sy’n dderbyniol  i ddefnyddwyr. 

2. Safonau eraill sy’n cefnogi defnyddwyr ac yn rhoi sicrwydd – mae hyn yn cynnwys tarddiad a dilysrwydd, safonau cynhyrchu (er enghraifft, lles anifeiliaid a chynaliadwyedd), cyfansoddiad a maeth, labelu a hysbysebu bwyd, a gwybodaeth arall sy’n galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig  ar yr hyn sy’n bwysig iddynt. 

I ateb y cwestiynau hyn, mae’r adroddiad yn defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, gan  gynnwys data awdurdodau lleol, ystadegau’r llywodraeth, archwiliadau ar y ffin, a hysbysiadau, yn ogystal â gweithgarwch samplu a gwyliadwriaeth yr ASB ac FSS. Rydym yn archwilio’r data  hwn o safbwynt y DU gyfan, yn ogystal â’i ddadansoddi ar lefel y pedair gwlad lle mae’n  ystyrlon gwneud hynny.

Yn yr adroddiad eleni, edrychwn ar y materion hyn mewn pedair ffordd drwy: 

1. Archwilio effaith yr amgylchedd economaidd ar ddewis ac ymddygiad defnyddwyr: mae hyn yn cynnwys olrhain effeithiau posib yr argyfwng costau byw ar allu pobl i gael deiet iach a diogel (gweler Pennod 1). 

2. Edrych ar sut mae ffactorau rhyngwladol yn dylanwadu ar system fwyd y DU ac ar ddiogelwch bwydydd a fewnforir: mae hyn yn cynnwys y newidiadau i batrymau  masnach ryngwladol a’r newidiadau yn y ffordd rydym yn rheoli diogelwch bwyd a  fewnforir (gweler Pennod 2). 

3. Adolygu cydymffurfiaeth bresennol busnesau: mae hyn yn archwilio sut mae safonau hylendid wedi’u cynnal, yn ôl y data diweddaraf, ac a oes gan awdurdodau gorfodi’r adnoddau a’r gallu sydd eu hangen arnynt i ymdopi â’r galw cynyddol (gweler Pennod 3).

4. Asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar ddiogelwch a dilysrwydd ein bwyd: mae hyn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir o ddata digwyddiadau bwyd yr ASB ac FSS, yr arolygon diogelwch a dilysrwydd bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd dros y cyfnod hwn, a gwaith ein dwy uned genedlaethol troseddau bwyd (gweler Pennod 4).

Y prif ganfyddiadau ar gyfer 2022 

Roedd 2022 yn flwyddyn heriol iawn i ddefnyddwyr. Cododd prisiau bwyd yn gynt na’r gyfradd chwyddiant am ran helaeth o’r flwyddyn, a hynny ochr yn ochr â chynnydd sydyn yng nghostau eraill y cartref, sydd wedi ychwanegu at y straen ariannol y mae pobl yn ei wynebu. At ei gilydd, gostyngodd gwariant ar fwyd yn y cartref 6.9% yn 2022 o gymharu â 2021. Cododd prisiau olewau a thaeniadau, cynnyrch llaeth a chynnyrch amgen, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill yn gyflymach na grwpiau bwyd eraill y Canllaw Bwyta’n Dda – ac mae pob un o’r rhain yn elfennau hanfodol yn neiet llawer o bobl. Dangosodd ymchwil o grwpiau ffocws yr ASB ac FSS fod pobl o ystod eang o fracedi incwm yn cyfaddawdu fel cyfnewid brandiau premiwm am opsiynau rhatach neu fwyta allan llai i geisio arbed arian. 

Cafodd y nifer uchaf erioed o gartrefi – un o bob pump ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – eu dosbarthu fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Mae hyn yn golygu bod eu deiet a/neu faint o fwyd a fwyteir wedi’i gyfyngu mewn rhyw ffordd oherwydd eu hamgylchiadau ariannol neu bersonol. Mae tystiolaeth debyg am gynnydd mewn diffyg diogeledd bwyd i’w gweld yn nata’r Alban. Dywedodd lleiafrif bach o bobl ledled y DU hefyd eu bod wedi cyfaddawdu mewn perthynas â pharatoi bwyd a hylendid bwyd, gan gynnwys lleihau eu defnydd o oergelloedd a rhewgelloedd neu goginio eu bwyd am lai o amser, er mwyn lleihau eu biliau ynni. 

Bu’n rhaid i’r system fwyd fyd-eang addasu i newidiadau sydyn i batrymau masnachu, a hynny yn sgil y tarfu ar linellau cyflenwi traddodiadol ar gyfer rhai nwyddau. Er nad yw’r data sydd ar gael o archwiliadau ar y ffin yn nodi unrhyw newid o ran diogelwch nwyddau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r UE, mae’r DU wedi cynyddu nifer y bwydydd risg uchel sydd bellach yn destun archwiliadau manylach ar y ffin. Mae hyn yn rhannol mewn ymateb i bryderon am blaladdwyr, gweddillion a thocsinau eraill mewn cynhyrchion o wledydd penodol. Gan nad yw mewnforion yr UE yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ni allwn wneud sylwadau awdurdodol ar ddiogelwch nwyddau sy’n cyrraedd o’r UE. 

Wrth i ni ddatblygu partneriaethau masnachu newydd, bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gynghori’r llywodraeth ar b’un a yw cytundebau masnach rydd newydd yn parhau i gynnal mesurau rheoli diogelwch bwyd statudol. Er mwyn cefnogi buddiannau’r cyhoedd ynghylch deall gwerthoedd cynhyrchu ehangach bwyd wedi’i fewnforio, mae’r ASB ac FSS hefyd yn ystyried sut i fynd i’r afael â diffyg data rhyngwladol cadarn ar faterion fel lles anifeiliaid a safonau cynhyrchu moesegol ac amgylcheddol.

Er bod busnesau bwyd hefyd wedi gweld cynnydd sydyn yn eu costau, mae’r data diweddaraf o arolygiadau yn awgrymu nad yw hyn wedi arwain at ostyngiad amlwg mewn cydymffurfiaeth â safonau hylendid bwyd. Yn seiliedig ar y data arolygu diweddaraf ar ddiwedd 2022, roedd mwyafrif helaeth y busnesau bwyd wedi bodloni safonau hylendid bwyd pan gawsant eu harolygu ddiwethaf. 

Yn y cyfamser, dychwelodd nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol yn 2022 i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig COVID-19. Mae hon yn garreg filltir bwysig, ond dylid nodi bod oddeutu 39,500 o fusnesau heb sgôr o hyd ar ddiwedd 2022 ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae lefelau adnoddau digonol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod rheolau hylendid bwyd yn cael eu cynnal. Ond mae dadansoddiad yr ASB o niferoedd staff awdurdodau lleol yn dangos bod tua 14% yn llai o swyddi diogelwch bwyd yn cael eu hariannu ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o gymharu â degawd yn ôl – a hyd yn oed lle mae’r swyddi hyn yn bodoli, mae dros 13% ohonynt yn wag.

Mae’r sefyllfa yn yr Alban yn waeth byth, gyda 25% yn llai o swyddi diogelwch bwyd o gymharu â 2016. Bu gostyngiadau hefyd yn nifer y swyddi swyddogion safonau bwyd a chyfraith bwyd ledled y DU, gan effeithio eto ar allu awdurdodau lleol i gynnal gwiriadau hanfodol ar safonau dilysrwydd bwyd, cyfansoddiad bwyd a gwybodaeth am fwyd. Yn 2022, bu’n rhaid i’r ASB ac FSS gynnal mesurau ychwanegol i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ran adnoddau y mae’r proffesiwn milfeddygol yn eu hwynebu – yn enwedig wrth recriwtio Milfeddygon Swyddogol. 

Nid yw dadansoddiad o ddigwyddiadau bwyd a brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd y rhoddwyd gwybod amdanynt, canlyniadau rhaglenni samplu cenedlaethol a ddarparwyd gan yr ASB, FSS a Defra, na’r wybodaeth sydd ar gael am droseddau bwyd yn awgrymu y bu unrhyw newid sylweddol mewn safonau diogelwch a dilysrwydd bwyd yn ystod 2022. Fodd bynnag, rydym yn poeni am achosion parhaus o dorri’r gyfraith mewn perthynas â labelu cyfansoddiad bwyd sy’n ymwneud ag alergenau. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd angen cydweithredu pellach ag awdurdodau lleol a busnesau bwyd.

Trosolwg manwl o bob pennod 

Mae adroddiad eleni yn cynnwys pedair pennod. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar ffactor gwahanol a effeithiodd ar ein system fwyd yn 2022. Rydym wedi rhestru’r prif bwyntiau o bob pennod isod. 

Plât y genedl

Mae ein pennod gyntaf yn archwilio a allai chwyddiant prisiau bwyd a phwysau eraill o ran costau byw fod wedi effeithio ar ddewis ac ymddygiad defnyddwyr. Er nad yw’n bosib eto darparu dadansoddiad manwl o’r newidiadau gwirioneddol i’n cymeriant deietegol yn ystod y cyfnod hwn, edrychwn ar yr hyn y mae’r data economaidd yn ei ddatgelu am effaith chwyddiant ar wahanol fathau o fwyd a’r hyn y mae ymchwil defnyddwyr yr ASB ac FSS yn ei nodi am agweddau a chanfyddiadau’r cyhoedd am y ffordd y mae pwysau ariannol yn effeithio ar eu perthynas â bwyd.

1. Gwnaeth y cynnydd mewn prisiau bwyd gyfrannu’n sylweddol at y pwysau costau byw sy’n effeithio ar gartrefi yn y DU. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau bwyd wedi codi 11% ar gyfartaledd yn ystod 2022, gyda chynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 17% erbyn diwedd mis Rhagfyr 2022. Dyma’r cynnydd mwyaf mewn costau bwyd ers 1977. Er bod hyn wedi effeithio ar bob rhan o’n basged siopa, mae ein dadansoddiad o’r cynhyrchion yng nghategorïau’r canllaw Bwyta’n Dda yn dangos cynnydd sydyn iawn ym mhrisiau rhai mathau o fwyd – gan gynnwys olewau a thaeniadau, cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill. Roedd prisiau bwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen, yn ogystal â ffrwythau a llysiau, wedi codi ar gyfradd is na chynhyrchion eraill.

2. Yn y cyfamser, gostyngodd y gwariant cyffredinol ar fwyd gan ddefnyddwyr am y tro cyntaf ers degawd. Gallai’r gostyngiad o £8 biliwn (neu 6.9%) yn yr hyn rydym wedi’i wario ar fwyd yn y cartref yn 2022, o gymharu â 2021, adlewyrchu’n rhannol y gwariant uwch a welwyd yn ystod y pandemig. Ond, mae hefyd yn debygol o fod oherwydd y straen ar gyllidebau bwyd cartrefi a achosir gan bwysau costau byw ehangach. Ategir hyn gan dystiolaeth gan grwpiau ffocws yr ASB ac FSS a nododd fod llawer o bobl o ystod o fracedi incwm wedi dweud eu bod wedi cyfnewid brandiau premiwm am ddewisiadau rhatach neu ddefnyddio manwerthwyr rhatach. Soniodd eraill hefyd eu bod yn prynu eitemau ‘moethus’ fel cig ffres a chynhyrchion ffres eraill yn llai aml.

3. Prisiau bwyd oedd y prif bryder i ddefnyddwyr y DU mewn perthynas â bwyd yn 2022, yn ôl ymchwil yr ASB ac FSS. Yn ystod y flwyddyn, dywedodd tua 41% o oedolion a holwyd yn yr Alban eu bod yn poeni am allu fforddio bwyd, o gymharu â 25% yn 2021. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cynyddodd nifer y cyhoedd sy’n pryderu am brisiau bwyd o 22% yn 2021 i 34% yn 2022.

4. Yn ôl ymchwil yr ASB, roedd un o bob pum cartref (20%) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi’u dosbarthu fel rhai â diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Dyma’r gyfradd uchaf a gofnodwyd ers i’r ASB ddechrau cofnodi hyn yn 2016. Cafodd 10% o gartrefi eu dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel, sy’n golygu eu bod yn bwyta deiet o ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb is, ond heb fod llawer o arwydd neu ddim arwydd eu bod wedi lleihau eu cymeriant bwyd. Cafodd 10% arall eu dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel iawn, gan nodi sawl achos o batrymau bwyta aflonydd gyda phobl yn bwyta llai o fwyd na’r arfer. Bu cynnydd hefyd yn nifer yr oedolion ledled y DU sy’n hepgor prydau ac yn lleihau maint dognau er mwyn arbed arian. Ceir tystiolaeth hefyd fod rhai defnyddwyr wedi newid y ffordd y maent yn storio ac yn coginio eu bwyd er mwyn ceisio lleihau costau.

Safbwynt byd-eang

Mae’r bennod hon yn disgrifio o ble y daw ein bwyd drwy archwilio sut y newidiodd patrwm mewnforio bwyd yn ystod 2022. Mae’n edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael o archwiliadau ar y ffin a hysbysiadau diogelwch eraill i bennu a yw diogelwch bwyd a fewnforir yn cael ei gynnal. Ceir rhagolwg hefyd ar effaith cytundebau masnach rydd newydd ar ein system fwyd, a sut y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu ffordd fwy awdurdodol o olrhain a mesur safonau bwyd a fewnforir ar gyfer y dyfodol.

1. Mae dadansoddiad o ddata masnachu’n dangos cynnydd o 5.6% yng nghyfaint y bwyd a gafodd ei fewnforio i’r DU o gymharu â 2021, wrth i farchnadoedd byd-eang sefydlogi ar ôl y pandemig COVID-19. Mae faint o fwyd mae’r DU yn ei brynu o wledydd eraill bellach yn gyson â’r cyfartaledd a welwyd dros y degawd diwethaf. Ychydig iawn o newid sydd wedi bod mewn perthynas â’r 10 prif wlad yr ydym yn cael y rhan fwyaf o fwyd ohonynt, ond mae gwaelod y rhestr yn fwy ansefydlog. Bu gostyngiad nodedig mewn mewnforion o Wcráin, Rwsia a rhai gwledydd Baltig a chynnydd sydyn mewn mewnforion o rai o wledydd De-ddwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania a Bwlgaria.

2. Mae’r data sydd ar gael am wiriadau cydymffurfio a gynhelir ar y ffin wedi’i gyfyngu i fewnforion o wledydd y tu allan i’r UE, a hynny oherwydd absenoldeb parhaus rheolaethau mewnforio’r UE. Mae data’n dangos na fu unrhyw newidiadau sylweddol mewn cyfraddau diffyg cydymffurfio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r DU bellach yn gyfrifol am ddiffinio ei rhestr ei hun o fwydydd risg uchel sy’n destun rheolaethau llymach, ac mae wedi penderfynu cynyddu gwiriadau ar rai cynhyrchion mewn ymateb i risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr, halogiad â mycotocsinau a chynnydd ym mhresenoldeb Salmonela mewn rhannau o’r byd. 

3. Mae’r DU wedi llofnodi Cytundebau Masnach Rydd gydag Awstralia a Seland Newydd yn ystod 2022. Darparodd yr ASB ac FSS gyngor i’r llywodraeth fel rhan o Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Yn ein hymateb, daethom i’r casgliad fod y cytundebau hyn gydag Awstralia a Seland Newydd yn cynnal mesurau diogelu bwyd statudol ar gyfer defnyddwyr. Ar gyfer y cytundeb â Seland Newydd, gwnaethom hefyd asesu a oedd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer maeth. Daeth i’r casgliad ei fod yn  gwneud hynny.

4. Comisiynodd yr ASB adroddiad arbenigol gan y cwmni ymgynghori ADAS , yn archwilio sut y gallai nodi a chasglu gwybodaeth well am safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir. Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y diffyg data sydd ar gael, byddwn yn parhau i archwilio sut y gallant fodloni diddordeb y cyhoedd yn yr wybodaeth hon, gan weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth a’r diwydiant.

Pwysigrwydd hylendid 

Mae’r bennod hon yn adolygu’r data diweddaraf sydd ar gael ar safonau hylendid bwyd ar draws ystod o fusnesau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r bennod yn archwilio a fu unrhyw newidiadau mewn sgoriau hylendid bwyd ar gyfer bwytai, caffis a mannau eraill sy’n gweini bwyd, yn ogystal â lefelau cydymffurfio mewn sefydliadau llaeth, cig a bwyd anifeiliaid. Yn sgil pandemig COVID-19, archwilir hefyd i ba raddau y mae awdurdodau gorfodi wedi llwyddo i ailgychwyn eu systemau ar gyfer rheolaethau swyddogol ac a oes ganddynt ddigon o adnoddau a chapasiti i ateb y galw.

1. Mae data o’r ddau gynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol – y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) – yn dangos bod gan y mwyafrif helaeth o fusnesau bwyd safonau hylendid boddhaol neu well yn seiliedig ar y data arolygu ar 31 Rhagfyr 2022. Enillodd ychydig dros dri chwarter (75.7%) o fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o 5 ar gyfer hylendid, tra bod 2.9% o sefydliadau bwyd wedi ennill sgôr o 2 neu is, sy’n golygu bod angen iddynt wella, gwella’n sylweddol, neu wella ar frys. Yn y DU, nid yw’r ffigurau hyn wedi newid rhyw lawer, os o gwbl, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

2. Yn yr un modd, mae’r data sydd ar gael ar gydymffurfiaeth sefydliadau llaeth â safonau hylendid yn dangos bod y mwyafrif helaeth ohonynt yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn parhau i weithredu’n ddiogel: roedd 98.1% o ffermydd a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr, a 99.1% yng Ngogledd Iwerddon, yn cydymffurfio i lefelau boddhaol neu dda. Yn yr Alban, mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod gwaith cynnal rheolaethau hylendid yn ailgychwyn ar ôl y pandemig COVID-19, gyda chynnydd yn nifer yr arolygiadau, llythyrau’n rhoi canllawiau ac achosion o gyngor ysgrifenedig yn 2021/22. Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gwella hylendid rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022.

3. Mae dadansoddiad o ddata’r gweithlu dros y degawd diwethaf yn dangos bod nifer y swyddi wedi’u dyrannu ym maes diogelwch bwyd a gefnogir gan awdurdodau lleol[1] yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gostwng bron 14% ers 2011/12. Mae problemau o ran adnoddau wedi’u gwaethygu gan heriau wrth lenwi’r rolau hyn, ac mae tua un o bob saith swydd (13.7%) yn wag. Yn yr Alban, mae’r prinder yn fwy difrifol gan fod nifer y swyddi ym maes cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi gostwng ychydig dros 25% o gymharu â 2016/2017.

4. Mae’r gostyngiadau staffio hyn mewn awdurdodau lleol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i hylendid bwyd. Bu gostyngiad o 45.1% yn nifer y swyddi swyddogion safonau bwyd wedi’u dyrannu o 2011/12 i 2021/22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Canfu arolwg, a gyhoeddwyd yn 2020[2], fod nifer y swyddogion safonau masnach wedi disgyn rhwng 30% a 50% ar draws y DU rhwng 2008/9 a 2018/19. Canfu’r arolwg hefyd nad oedd ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol yn y DU yn credu bod ganddynt ddigon o arbenigedd i gwmpasu’r ystod lawn o gyfrifoldebau safonau masnach, a bod y gweithlu safonau masnach sy’n heneiddio yn fygythiad i allu proffesiynol yn y dyfodol.

5. Wrth i’r proffesiwn milfeddygol cyfan barhau i wynebu heriau o ran capasiti, mae’r ASB ac FSS wedi teimlo’r effeithiau parhaus wrth recriwtio Milfeddygon Swyddogol sy’n goruchwylio arolygiadau mewn sefydliadau cig — gyda 27.4% yn llai o bobl yn ymuno â’r proffesiwn rhwng 2019 a 2022 (RCVS, 2022), cynnydd nodedig yn nifer y milfeddygon sy’n gadael categori ymarfer yn y DU (RCVS, 2021) ac amharodrwydd ymhlith milfeddygon sy’n graddio o brifysgolion y DU i ymgymryd â rolau iechyd y cyhoedd. Mae recriwtio o dramor yn parhau i fod yn llwybr hanfodol, ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr opsiwn i gofrestru dros dro drwy Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS). Mae’r ddwy asiantaeth yn gweithio i leihau’r ddibyniaeth ar gynlluniau cofrestru dros dro cyn gynted â phosib.

Diogel a chadarn

Mae’r bennod olaf yn dwyn ynghyd ddata a gwybodaeth a gasglwyd gan yr ASB ac FSS i asesu diogelwch a dilysrwydd y bwyd a brynwn. Mae’n cynnwys dadansoddiad o’r data digwyddiadau bwyd ac achosion o glefydau a gludir gan fwyd, yr arolygon samplu bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd ledled y DU, a phatrymau ymchwiliadau troseddol a ‘tharfiadau’ a arweinir gan ein dwy uned genedlaethol troseddau bwyd, a hynny er mwyn mynd i’r afael â thwyll, difwyno a mathau eraill o ymddygiad troseddol o fewn y gadwyn fwyd.

1. Gostyngodd cyfanswm y digwyddiadau bwyd y rhoddwyd gwybod amdanynt ledled y DU ychydig yn 2022 o gymharu â 2021, ond mae’n parhau i fod yn gyson yn fras â thueddiadau hirdymor. Cig a chynhyrchion cig yw’r categori bwyd a gysylltir amlaf â digwyddiadau bwyd o hyd. Prif achos digwyddiadau bwyd oedd micro-organebau pathogenig, a oedd yn cyfrif am 29% o’r holl achosion yn y DU. Mae nifer y digwyddiadau sy’n ymwneud ag alergenau heb eu datgan neu wedi’u datgan yn anghywir wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig COVID-19, a hynny yn dilyn gostyngiad mewn achosion yn ystod 2020 a 2021.

2. Yn 2022, dychwelodd cyfradd y rhan fwyaf o glefydau a gludir gan fwyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Fodd bynnag, cyrhaeddodd achosion o Escherichia coli sy’n cynhyrchu shigatocsin O157:H7 (a elwir hefyd yn STEC O157) y rhoddwyd gwybod amdanynt eu lefel uchaf ers 2015, yn bennaf o ganlyniad i frigiad mawr o achosion a ganfuwyd yn haf 2022. Mae defnyddio proses dilyniannu genomau cyfan fel mater o drefn bellach yn helpu awdurdodau iechyd cyhoeddus i nodi mwy o glystyrau o glefydau a gludir gan fwyd, ac mae wedi galluogi awdurdodau diogelwch bwyd ac iechyd cyhoeddus y DU i chwarae rhan flaenllaw wrth ganfod achosion domestig a byd-eang.

3. Ni fu unrhyw newid cyffredinol yn nifer cyfun y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan asiantaethau bwyd y DU yn 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd a adroddwyd (25%) yn nifer yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl (PRIN) i’w briodoli’n bennaf i newidiadau yn y ffordd y mae’r ffigurau hyn wedi’u casglu eleni, yn hytrach nag unrhyw gynnydd yn nifer cyffredinol yr hysbysiadau a gyhoeddwyd. Nid oedd yn ofynnol i’r ASB nac FSS gyhoeddi hysbysiad Rhybudd Bwyd: Angen Gweithredu – sef y categori mwyaf difrifol  o rybuddion am ddigwyddiad  bwyd – yn 2022. 

4. Mae rhaglenni samplu cenedlaethol yr ASB ac FSS yn chwarae rhan bwysig wrth olrhain meysydd risg a mannau gwan yn ein system fwyd. Ni ddangosodd arolwg targededig yr ASB, a gynhaliwyd yn 2022, unrhyw wahaniaeth ystadegol yn lefel y canlyniadau nad oeddent yn cydymffurfio o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roedd tua thraean o’r methiannau yn y profion yn ymwneud â thorri rheolau labelu. Roedd y canfyddiadau hefyd yn datgelu materion diogelwch cyhoeddus pellach posib yn ymwneud â datganiadau alergenau, gan atgyfnerthu’r angen parhaus am wiriadau rheolaidd gan awdurdodau lleol a busnesau. 

5. Ni chanfu gwaith samplu cynhyrchion ceirch a chynhyrchion sy’n cynnwys ceirch o fewn rhaglen samplu FSS docsinau na metelau trwm anniogel. Fodd bynnag, roedd achosion o alergenau heb eu datgan yn y cynhyrchion ‘rhydd rhag’ a gawsant eu profi, ac roedd cyfran sylweddol (18%) o samplau briwgig eidion naill ai’n cynnwys mwy o fraster neu lai o gig na’r hyn a ddatganwyd ar y deunydd pecynnu. Dylid pwysleisio bod arolygon yr ASB ac FSS wedi’u targedu at feysydd risg hysbys ac felly, maent yn fwy tebygol o ganfod canlyniadau anfoddhaol. Ni ddylent gael eu hystyried yn gynrychioliadol o safonau bwyd cyffredinol y DU. 

6. Cynhaliodd y ddwy uned genedlaethol troseddau bwyd amrywiaeth o ymchwiliadau trwy gydol 2022 yn unol â’u strategaethau priodol. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) wedi canolbwyntio’n helaeth ar fynd i’r afael â bygythiadau yn y sector cig coch, dargyfeirio sgilgynhyrchion anifeiliaid i’r gadwyn fwyd a mynd ar drywydd cyflenwyr bwydydd peryglus nad ydynt yn fwyd sy’n cael eu gwerthu i’w bwyta. Yn yr Alban, roedd ymchwiliadau Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU), o dan gyfraith gwlad, yn canolbwyntio ar achosion o dwyll a amheuir mewn perthynas ag alcohol ffug yn ogystal ag olrheiniadwyedd a difwyno yn y gadwyn cyflenwi cig a lladd anghyfreithlon.  

7. Mae’r NFCU ac SFCIU yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi eraill ar weithgareddau eraill sydd wedi’u cynllunio i darfu ar ymddygiadau troseddol  neu eu hatal.  Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd cryn dipyn o darfiadau’r NFCU yn cynnwys gweithredu yn erbyn cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd, trwy atal y cyffur deiet anghyfreithlon 2,4-Dinitroffenol (DNP) rhag cael ei werthu ar-lein, yn ogystal â chamau parhaus yn erbyn troseddoldeb yn y sector cig coch a dargyfeirio  sgil-gynhyrchion anifeiliaid i’r gadwyn fwyd.  Yn yr Alban, roedd nifer sylweddol o darfiadau a arweiniwyd gan SFCIU hefyd yn canolbwyntio ar droseddoldeb sy’n effeithio ar gig a chynhyrchion cig. Yn ogystal, aeth yr Uned i’r afael â thwyll yn ymwneud â the a dyfwyd yn yr Alban, melysion a mêl, a chynhaliodd ymweliadau gyda phartneriaid â thafarndai a lleoliadau trwyddedig eraill yn ddirybudd i chwilio am gynhyrchion ffug ac atal unrhyw ymddygiad troseddol yn y dyfodol.

8. Mae’r ddwy uned troseddau bwyd yn monitro effaith chwyddiant prisiau yn agos, effaith pandemig COVID-19, newidiadau amgylcheddol a’r gwrthdaro parhaus yn Wcráin ar ymddygiad troseddol. Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth yn y meysydd gwyliadwriaeth bwyd neu weithgarwch samplu, nac yn y data a oedd ar gael drwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd (FIIN), i awgrymu y bu unrhyw gynnydd mewn materion dilysrwydd y gellir eu priodoli i droseddwyr sy’n ymateb i’r materion mawr hyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r amodau economaidd presennol gyflwyno cyfleoedd pellach ar gyfer troseddoldeb yn y gadwyn fwyd.

Rhoi adroddiad eleni yn ei gyd-destun

Wrth i'n system fwyd ddechrau adfer ar ôl y pandemig COVID-19, daeth heriau pellach i ran y system fwyd yn 2022. Roedd prisiau cynyddol, tywydd eithafol, prinder gweithlu, newidiadau i berthnasoedd masnachu’r DU a rheolaethau ar y ffin ar ôl ymadael â’r UE, a’r rhyfel yn Wcráin i gyd wedi creu ansefydlogrwydd a newid, gan chwarae rhan bwysig yn hanes ein bwyd yn 2022.

Roedd cartrefi yn y DU yn gweld prisiau uwch ar draws ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, ac nid oedd eu hincwm yn codi mor gyflym â chwyddiant cynyddol. Rhwng 2021 a 2022, cynyddodd prisiau trydan, nwy a thanwydd arall gan 4%, yswiriant cynnwys tai gan 23%, a chludiant personol gan 15%. Mae hyn wedi’i grynhoi yn ffigur 1. 

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau bwyd wedi codi 11% ar gyfartaledd yn ystod 2022, gyda chynnydd o 17% o flwyddyn i flwyddyn yn cael ei adrodd erbyn diwedd Rhagfyr 2022. Dyma’r cynnydd mwyaf mewn costau bwyd ers 1977. Fel y dengys ffigur 2, yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, cododd prisiau bwyd yn unol â’r gyfradd chwyddiant gyffredinol. Ond erbyn ail hanner y flwyddyn, roedd prisiau bwyd yn codi’n gynt o lawer.

Ffigur 1: Newid canrannol dros 12 mis o chwyddiant yn ôl math o nwydd

Mae’r graff llinell yn dangos mai yswiriant cynnwys tŷ a chostau gweithredu offer cludiant personol sydd wedi gweld y newid canrannol uchaf o chwyddiant CPIH.

Ffynhonnell: Tablau chwyddiant prisiau defnyddwyr - Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r hyn sydd wedi ysgogi chwyddiant prisiau bwyd wedi’i grynhoi yn ffigur 1. Mae’r graddau y mae’r materion hyn wedi effeithio ar fwydydd unigol yn amrywio’n sylweddol, sy’n helpu i egluro pam mae pris rhai cynhyrchion wedi cynyddu’n llawer mwy sydyn nag eraill, fel y gwelwn ym Mhennod 1.

Er enghraifft, yn ôl y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth[3], mae’r cynnydd yng nghostau ffermwyr a’r bygythiad o ddiffyg llaeth wedi effeithio’n sylweddol ar brisiau llaeth. Mae’n debygol bod y cynnydd mawr ym mhrisiau margarîn o ganlyniad i brinder olew blodau’r haul (oherwydd y gwrthdaro yn Wcráin), cynnydd yn y galw yn y farchnad (wedi’i ysgogi gan gynnydd ym mhrisiau menyn o ganlyniad i ddiffyg llaeth), cyfyngiadau allforio ar olewau llysiau, tywydd gwael, a mwy o alw gan y diwydiant am fiodanwydd wrth i brisiau olew crai gynyddu.

Mae cynhyrchwyr wyau wedi dioddef o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a chostau bwyd anifeiliaid i gyw iâr, yn ogystal â brigiad o achosion o ffliw adar, a arweiniodd at brinder wyau wrth i rai ffermwyr yn y DU gael eu gorfodi i roi’r gorau i gynhyrchu. At hynny, mae 70% o’r wyau a brynwn yn y DU yn wyau maes (free-range). Fodd bynnag, gan mai dim ond 13% o wyau yn yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael eu cynhyrchu drwy’r dull hwn, roedd yr opsiwn i lenwi silffoedd archfarchnadoedd y DU â mewnforion yn gyfyngedig[4], ac arweiniodd hyn at gynyddu’r  pris ymhellach.

Ffigur 2: Newid canrannol dros 12 mis (2022) – Cyfraddau chwyddiant bwyd  yn erbyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr cyffredinol, gan gynnwys costau tai  perchen-feddianwyr (CPIH)

Mae chwyddiant bwyd (CPIH) wedi cynyddu ers Ionawr 2022, pan oedd yn 5%. Ers mis Hydref 2022, mae wedi cyrraedd 17% ac mae CPIH cyffredinol wedi aros yn gymharol gyson, sef rhwng 9 i 10%.

Ffynhonnell: Tablau chwyddiant prisiau defnyddwyr - Swyddfa Ystadegau Gwladol

Thema bwysig sy’n ganolog i’r adroddiad hwn yw ymgais Rwsia i oresgyn Wcráin, a gyfrannodd at gynnydd mawr mewn costau ynni yn gynnar yn 2022, ac a effeithiodd ar fynediad byd-eang at nwyddau hanfodol fel grawn, grawnfwydydd ac olewau coginio wrth i weithgarwch milwrol atal cnydau rhag cael eu cynaeafu. Gwnaeth gwarchaeau yn y Môr Du yn ystod gwanwyn a haf 2022 rwystro llwybrau llongau rhyngwladol. Mae hyn wedi dwysau’r cynnydd mewn costau cynhyrchu i fusnesau’r DU ac wedi cyfrannu at rai newidiadau o ran ble rydym yn cael ein bwyd. Byddwn yn trafod hyn yn ddiweddarach ym Mhennod 2 o’r adroddiad hwn. 

Y llynedd, gwelwyd hefyd sawl carreg filltir bwysig yn natblygiad perthnasoedd masnachu’r DU ar ôl ymadael â’r UE, gan gynnwys llofnodi Cytundebau Masnach Rydd ag Awstralia a Seland Newydd, a chyflwyno gofynion hysbysu ymlaen llaw newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n dod o’r UE. Fodd bynnag, bu oedi pellach wrth gynnal rheolaethau mewnforio ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE, gyda’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau newydd yn dod i rym yn 2024. Mae ymadawiad y DU â’r UE hefyd wedi effeithio’n sylweddol ar recriwtio gweithwyr proffesiynol allweddol sy’n ymwneud â chefnogi rheolaethau diogelwch bwyd, gan gynnwys cyflenwi Milfeddygon Swyddogol.

Yn olaf, er i gyfyngiadau olaf y pandemig COVID-19 gael eu codi ym mis Chwefror 2022, gwnaeth effeithiau aflonyddgar y pandemig barhau i effeithio ar y system fwyd trwy gydol y flwyddyn – yn anad dim, o ran adnoddau a rheoli rheolaethau hylendid bwyd. Mae ymdrechion awdurdodau lleol ac awdurdodau gorfodi bwyd eraill i adfer yn sgil y pandemig wedi’u ddogfennu ym Mhennod 3, ac mae’n atgyfnerthu’r angen i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i allu cynnal mesurau rheoli diogelwch effeithiol i ddefnyddwyr.

Trosolwg o’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar brisiau bwyd yn 2022

Mae amrywiaeth o ffactorau wedi cyfrannu at y newidiadau yng nghost ac argaeledd  ein bwyd, â llawer ohonynt yn gysylltiedig â’r rhyfel yn Wcráin, ymadawiad y DU â’r UE,  a sgil-effeithiau’r pandemig COVID-19. Mae’r ffactorau’n cynnwys:

Tywydd gwael 

Gwelwyd un o’r hafau poethaf a sychaf erioed yn y DU yn 2022, gan effeithio’n ddifrifol ar gynnyrch cnydau domestig. Effeithiodd y gwres dwys hefyd ar gynaeafau mewn rhannau o Ewrop, gan godi cost olew olewydd, llysiau fel ciwcymbrau a phannas, a rhai ffrwythau meddal. 

Costau ynni a chludo 

Yn union fel y sefyllfa yng nghartrefi ledled y DU, cododd biliau ynni a thanwydd cynhyrchwyr bwyd hefyd, gan ei gwneud yn ddrutach i gynhyrchu a chludo bwyd. Fel gyda’r cynnydd mewn prisiau nwyddau eraill, trosglwyddwyd y costau hyn i’r defnyddiwr trwy brisiau uwch. 

Prisiau nwyddau

Cododd pris nwyddau allweddol ar gyfer y diwydiant bwyd yn gyson hefyd, gan ychwanegu at gostau cynhyrchwyr. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd sydyn yng nghostau gwrtaith, had rêp ac olew blodau’r haul, a grawnfwydydd fel gwenith ac indrawn. Mae gwarchaeoedd Rwsia ym mhorthladdoedd Wcráin wedi effeithio ar lawer o’r bwydydd hyn. 

Prinder llafur 

Mae prinder llafur hefyd wedi effeithio ar y diwydiant bwyd. Roedd ffermwyr y DU, er enghraifft, yn wynebu prinder difrifol o weithwyr tymhorol yn ystod haf 2022, gan fod bron i ddwy ran o dair o’r holl fisâu tymhorol yn 2021 wedi’u rhoi i weithwyr o Wcráin.