Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol

Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol ar gyfer yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.

  1. Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
  2. Cyhoeddwyd y papur allanol mwyaf diweddar ar adnoddau Swyddogion Safonau Masnach yn 2020.
  3. Rhagolygon o’r farchnad laeth | AHDB
  4. Y diffygion yn niwydiant wyau Prydain yn dangos chwyddiant prisiau bwyd | Reuters
  5. Nid yw hyn yn cynnwys ffa a chodlysiau (pulses) oherwydd diffyg data.
  6. Daw’r holl ffigurau yn y paragraff hwn o ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dueddiadau defnyddwyr: mesur cyfaint cadwynog, wedi’i addasu yn unol â’r tymhorau
  7. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: A oes gennych chi bryderon am unrhyw rai o’r canlynol? Faint o siwgr sydd mewn bwyd; gwastraff bwyd; lles anifeiliaid; hormonau, steroidau neu wrthfiotigau mewn bwyd; faint o halen sydd mewn bwyd; faint o fraster sydd mewn bwyd; gwenwyn bwyd; hylendid bwyd wrth fwyta allan; hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê; y defnydd o blaladdwyr; twyll neu droseddau bwyd; y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion (preservatives) a lliwiau bwyd); prisiau bwyd; bwydydd a addaswyd yn enetig (GM); halogi cemegol o du’r amgylchedd; taith bwyd; nifer y calorïau mewn bwyd; gwybodaeth am alergenau mewn bwyd; coginio’n ddiogel gartref; dim un o’r rhain; ddim yn gwybod. Roedd yr ymatebwyr yn cael dewis mwy nag un ateb. Mae’r canrannau’n dangos cyfran yr ymatebwyr a ddewisodd bob opsiwn.
  8. Gall gwahaniaethau mewn canrannau rhwng yr Alban a gweddill y DU fod oherwydd gwahaniaethau methodolegol yn y modd y caiff data ei gasglu.
  9. Mae chwe dosbarthiad posib (A, B, C1, C2, D ac E) i Raddau Cymdeithasol. Mae data’r cyfrifiad yn defnyddio dosbarthiad cyfun, pedair ffordd. C1: Galwedigaethau gweinyddol a phroffesiynol, goruchwyliol, clerigol, a rheoli iau. DE: Galwedigaethau â llaw lled-fedrus a di-grefft; di-waith a swyddi yn y graddau isaf.
  10. Mae’r ASB wedi mesur diffyg diogeledd bwyd ers 2016. Yn 2016 a 2018, cafodd diffyg diogeledd bwyd ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi. Ers 2020, mae wedi cael ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi 2.
  11. Oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y caiff y data ei gasglu, ni allwn gymharu’n uniongyrchol rhwng mesur swyddogol USDA, fel y nodir yn Bwyd a Chi 2, a’r mesurau mwy anffurfiol sy’n cael eu holrhain yn fisol o rai ymddygiadau sy’n ymwneud â diffyg diogeledd bwyd.
  12. Mae siwgrau rhydd yn cyfeirio at bob siwgr wedi’i ychwanegu ar unrhyw ffurf; pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, purées a phastau, a chynhyrchion tebyg lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos wedi’u hychwanegu fel cynhwysion.
  13. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau y mae’r meysydd hyn yn peri pryder i chi am ddyfodol bwyd yn y DU dros y 3 blynedd nesaf? Cost bwyd iachus. Dewisiadau ymateb: Ddim yn bryderus o gwbl; Ychydig yn bryderus; Yn eithaf pryderus; Yn hynod bryderus. Mae’r ganran a nodir ar gyfer ‘pryderus’ yn cyfuno’r atebion ‘Yn hynod bryderus’ ac ‘Yn eithaf pryderus’.
  14. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Rwy’n teimlo bod bwydydd iachus yn rhy ddrud i mi. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
  15. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Mae’n anodd dod o hyd i fwyd ffres (er enghraifft, ffrwythau, llysiau, cig) sy’n cyd-fynd â’m cyllideb. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
  16. Llyfr Poced Ystadegau Bwyd Defra - Tarddiad bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU, 2021
  17. Cyllid a Thollau EF - Data masnachu’r DU
  18. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cwmpasu gweithrediadau busnes-i-fusnes fel gweithgynhyrchwyr sy’n dod o dan gylch gwaith awdurdodau lleol.
  19. Mae’r CSHB a’r FHIS yn darparu gwybodaeth am safon hylendid bwyd sefydliadau yn seiliedig ar eu harolygiad diweddaraf. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr rhwng 0 a 5 lle mae 5 yn cynrychioli’r sgôr uchaf, gan nodi safonau hylendid ‘da iawn’. Mae’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn rhoi gradd ‘pasio’ neu ‘angen gwella’. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, rydym wedi cymryd sgôr CSHB o 3 neu uwch i ddangos sgôr foddhaol neu well ar gyfer busnesau yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon a aseswyd o dan y CSHB, a ‘sgôr llwyddo’ ar gyfer busnesau yn yr Alban a aseswyd o dan yr FHIS. Oherwydd y gwahaniaethau rhwng FHIS a’r CSHB, nid oes modd cymharu data’r Alban a gweddill y DU.
  20. Mae sefydliadau cig cymeradwy yn trin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y mae gofynion wedi’u gosod ar eu cyfer yn Rheoliad yr UE a Ddargedwir (CE) Rhif 853/2004.
  21. Ceir eglurhad o ystyr y categorïau sgôr yng nghanllawiau busnes yr ASB ar archwilio sefydliadau cig
  22. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y trawsnewid yn yr Alban, gydag FSS yn dod yn awdurdod cymwys ar gyfer bwyd anifeiliaid a symud i system electronig newydd. Mae unrhyw ganlyniadau yn sgil arolygiadau bwyd anifeiliaid cyn 2021 yn cael eu cymryd o wybodaeth yr awdurdod lleol.
  23. Mae sefydliadau bwyd anifeiliaid yn cael sgôr o naill ai ‘Cydymffurfio’n Wael’, ‘Cydymffurfio’n Amrywiol’, ‘Cydymffurfio’n Foddhaol’, ‘Cydymffurfio i raddau helaeth neu’n well’ a ‘Chydymffurfio’n Foddhaol at Safon Ofynnol ac aelod o Gynllun Sicrwydd sy’n cael ei gydnabod gan yr ASB’. Ystyrir bod unrhyw sefydliad sydd â sgôr uwch na ‘Boddhaol’ yn cydymffurfio. Ceir mwy o wybodaeth yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid.
  24. Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
  25. Mae awdurdodau lleol yn cyfrifo cyfran y swyddi wedi’u llenwi gan ddefnyddio sawl dull gwahanol. Yn aml, amcangyfrifon o’r adnoddau yw’r rhain, sydd heb eu dilysu’n llawn gan yr ASB.
  26. Mae hysbysiadau am ffliw adar yn cael eu cofnodi fel achosion o halogiad microbiolegol gan fod yr ASB yn rhan o’r gwaith cydgysylltu, i sicrhau bod y cig yn y gadwyn gyflenwi sy’n cael ei gyfyngu ar ôl ei ladd oherwydd clefyd hysbysadwy, yn cael ei olrhain a’i dynnu’n ôl.