Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Casgliadau

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y nifer uchel iawn o bobl sy'n sydd â diffyg diogeledd bwyd yn 2022.

Yn ei anerchiad Nadolig cyntaf i’r genedl y llynedd, cyfeiriodd y Brenin Charles at y “pryder a chaledi mawr” a brofir gan bobl sy’n brwydro i “dalu eu biliau, bwydo eu teuluoedd a’u cadw’n gynnes”. Roedd ei neges yn adlewyrchu profiadau llawer o bobl wrth iddynt frwydro i ymdopi â’r cynnydd mewn costau byw.

Mae’r her y mae pobl yn ei hwynebu i’w gweld yn y gwrthfynegiad eglur hwn, sef bod cyfanswm ein gwariant ar fwyd yn y cartref wedi gostwng oddeutu £8 biliwn yn ystod 2022, a hynny hyd yn oed wrth i brisiau bwyd godi. Wrth i gostau tai, biliau ynni, petrol a threuliau eraill y cartref godi, dengys ein hymchwil ein hunain fod llawer ohonom wedi gorfod cwtogi ar ein cyllidebau bwyd er mwyn cael deupen y llinyn ynghyd. Mae aelwydydd ar draws y sbectrwm incwm wedi cael eu gorfodi i aberthu o ganlyniad i bwysau costau byw. 

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y nifer uchaf erioed o bobl wedi profi diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Dywedodd un o bob pum cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu bod yn bwyta “deiet llai amrywiol, dymunol ac o ansawdd is”, wrth i un o bob deg cartref hefyd nodi “bod tarfu ar eu patrymau bwyta a’u bod yn bwyta llai o fwyd” yn ôl ymchwil yr ASB. Yn yr Alban, mynegodd 41% o oedolion bryder ynghylch gallu fforddio bwyd o gymharu â 25% yn 2021, a gwnaeth nifer yr oedolion sy’n hepgor prydau bwyd ac sy’n lleihau maint eu prydau i arbed arian hefyd gynyddu’n sydyn. 

Mae’r ffigurau hyn yn peri gofid ac yn dangos maint a chost ddynol y pwysau chwyddiannol  a brofwyd ledled y DU yn 2022. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel rhybudd ar gyfer y dyfodol. Pan fyddwch yn ystyried bod ymchwil a gyhoeddwyd gan y sefydliad Food Foundation ym  mis Mehefin 2023 wedi dangos bod angen i’r pumed tlotaf o gartrefi’r DU wario 43% o’u hincwm gwario i fodloni canllawiau bwyta’n dda y llywodraeth, mae’n rhesymol dod i’r  casgliad bod heriau economaidd yn cyflwyno, ac y byddant yn parhau i gyflwyno, rhwystr  i iechyd deietegol da. 

Dim ond amser a ddengys a yw’r patrymau chwyddiant gwahaniaethol yr ydym wedi’u gweld ar draws y categorïau bwyd yng nghanllaw Bwyta’n Dda wedi arwain at unrhyw newidiadau hirdymor yn ein deiet a’n canlyniadau iechyd, ond does dim dewis ond gweithredu nawr i liniaru’r risgiau. Credwn ei bod yn hanfodol bod y llywodraeth, y diwydiant bwyd, a rheoleiddwyr yn parhau i gydweithio fel bod bwyd iach ar gael i bawb.

Mae ein hasesiad o safonau mewn rhannau eraill o’r system fwyd – drwy ddata a gasglwyd ar ddigwyddiadau, troseddau bwyd, diogelwch a hylendid mewn sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid – yn awgrymu, yn gyffredinol, fod safonau bwyd wedi aros yn sefydlog yn 2022. Nid yw cudd-wybodaeth a gwiriadau ar y ffin yn awgrymu unrhyw newid sylweddol yn niogelwch bwyd wedi’i fewnforio o’r tu allan i’r UE yn ystod 2022; fodd bynnag, mae’r darlun llawn yn parhau i fod yn anghyflawn tan i ni gael mynediad at ddata tebyg ar gyfer mewnforion o’r UE. Byddwn yn parhau i bwyso ar y llywodraeth i gyflwyno’r gwiriadau erbyn mis Ionawr 2024, fel y trefnwyd.

Heriau hollbwysig

Yn union fel y llynedd, mae ein casgliadau ar gyflwr cyffredinol safonau bwyd y DU yn 2022 yn ochelgar ac yn amodol gan ein bod yn credu bod sawl her hollbwysig o’n blaenau.

Yr her gyntaf yw adnoddau awdurdodau lleol. Os nad oes digon o bobl â’r sgiliau cywir i gynnal rheolaethau bwyd hanfodol, ni all awdurdodau lleol nodi, dilysu, na rhoi sicrwydd ynghylch ein system fwyd yn ddibynadwy, na monitro ac ymateb i broblemau yn ein cadwyni cyflenwi bwyd. Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn nodi’r gostyngiad hirdymor mewn cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a’r ffaith bod eu hadnoddau wedi’u hailddyrannu oddi wrth ddyletswyddau diogelwch bwyd a safonau bwyd dros y degawd diwethaf. Mae’r cyfraddau uchel o swyddi gwag heb eu llenwi yn y meysydd hyn hefyd yn destun pryder. 

Mae’n hanfodol bwysig bod awdurdodau lleol yn neilltuo adnoddau digonol i reolaethau diogelwch a safonau bwyd a bod ganddynt yr arian i wneud hynny. Mae angen i awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol, ac eraill fel yr ASB ac FSS, sy’n dibynnu ar broffesiynau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach, gydweithio hefyd i sicrhau bod y proffesiynau hyn yn denu a chadw pobl ar gyfer y dyfodol.

Mae timau awdurdodau lleol yn haeddu clod am y ffordd y maent wedi llwyddo i ailgydio mewn arolygiadau ar yr un lefel â chyn y pandemig, ond rydym yn pryderu bod y pwysau niferus a roddir arnynt – sy’n cynnwys cwblhau’r llwyth o arolygiadau sydd wedi cronni ers y pandemig, ymdrin â’r niferoedd cynyddol o fusnesau bwyd sy’n agor (gan gynnwys y nifer cynyddol o weithredwyr bwyd ar-lein) a chymryd cyfrifoldebau ychwanegol yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE – yn amharu ar eu gallu i gynnal gwiriadau diogelwch a safonau bwyd hollbwysig. Mae’r pwysau hyn hefyd wedi arwain at ostyngiad mewn gweithgarwch samplu gan awdurdodau lleol yn  y blynyddoedd diwethaf, gan ei gwneud yn anoddach canfod problemau posib o ran diogelwch  a dilysrwydd. 

Mae’r ail her yn ymwneud â’r Milfeddygon Swyddogol sydd ar gael. Yn ystod 2022, roedd yr ASB yn wynebu heriau cymhleth penodol wrth recriwtio a chadw milfeddygon fel Milfeddygon Swyddogol i gyflawni ei rôl statudol mewn lladd-dai – gan sicrhau iechyd a lles anifeiliaid, a diogelwch a sicrwydd bwyd. Heb Filfeddygon Swyddogol mewn lladd-dai bob dydd, ni all lladddai weithredu’n gyfreithiol. Os nad oes digon o Filfeddygon Swyddogol ar gael, byddai hyn yn effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid, a gallai hefyd darfu ar gyflenwadau bwyd domestig a’r gallu i allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Mae prinder milfeddygon yn y DU wedi derbyn cryn dipyn o sylw. Yn wir, mae’r DU, yn hanesyddol, wedi dibynnu’n fawr ar filfeddygon o dramor i gyflawni rolau iechyd cyhoeddus. Mae’r prinder hwn yn amlycach mewn lladd-dai oherwydd bod milfeddygon y DU yn ystyried bod y rôl hon yn llai deniadol na gwaith milfeddygol arall fel practis preifat. Yn fwy diweddar, mae prinder milfeddygol yn y DU wedi arwain at gyflogau uwch wrth i’r galw am filfeddygon gynyddu, sydd wedi effeithio ar recriwtio mewn rolau iechyd cyhoeddus. Yn hanesyddol, bu pwysau hefyd i leihau taliadau i’r diwydiant am wasanaethau milfeddygol ac mae’r cyfyngiadau ariannol ar bwrs y wlad yn golygu ei bod yn anodd iawn cystadlu â chyflogau’r sector preifat. 

Mae’r ASB wedi dibynnu ar barhad y mesurau dros dro a roddwyd gan yr RCVS sy’n caniatáu i filfeddygon sydd â chymwysterau priodol o brifysgolion sydd wedi’u hachredu gan EAEVE weithio dan oruchwyliaeth fel Milfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro (TRNOV) yn ystod 2022 i’n helpu i ymdrin â’r heriau o ran capasiti o fewn y proffesiwn milfeddygol. Mae angen i ni recriwtio a chadw digon o filfeddygon i barhau i gynnal rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai, yn ogystal â sicrhau cyflenwad digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn y tymor hwy. Heb hyn, ni all y gadwyn cyflenwi cig weithredu’n barhaus, ac rydym mewn perygl o fod â niferoedd annigonol o filfeddygon i lofnodi tystysgrifau iechyd allforio. Mae’r prinder milfeddygon yn y sector cyhoeddus yn arwain at oblygiadau i’r llywodraeth gyfan a’r diwydiant. Mae angen i ni nawr ystyried camau mwy arwyddocaol a sylfaenol i fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn.

Mae’r drydedd her yn ymwneud â rheolaethau mewnforio. Rydym yn nodi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno Model Gweithredu Targed newydd ar gyfer Ffiniau yn 2024 mewn perthynas â mewnforion, er ein bod yn siomedig gyda’r oedi wrth ei roi ar waith. Bydd y rheolaethau hyn yn helpu i roi sicrwydd bod mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE yn bodloni ein safonau diogelwch ac yn ein galluogi i nodi ac atal bwyd a allai fod yn anniogel  yn gynharach. Rydym yn ailadrodd y cais a wnaethom y llynedd, sef y dylid sicrhau bod  y rheolaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith heb unrhyw oedi pellach i ddiogelu iechyd  y cyhoedd i’r eithaf.

Partneriaeth adeiladol ac agored

Mae tair llinell amddiffyn allweddol wrth sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys – busnesau bwyd, awdurdodau lleol a’r ASB ac FSS.

Ein neges olaf, felly, yw’r angen am bartneriaeth adeiladol ac agored i ddatrys y problemau hyn, gan gydweithio er budd defnyddwyr yn y DU a’r rheiny dramor sy’n ymddiried ym mwyd y DU.  Ni fu erioed yn bwysicach i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu, gweithgynhyrchu neu ddosbarthu bwyd, a’r rheiny sy’n llywodraethu’r system, gydweithio i gadw defnyddwyr yn ddiogel.

Ar adeg pan fo defnyddwyr yn wynebu heriau gwirioneddol wrth brynu bwyd, mae’n hanfodol bod y rheiny sydd â grym a dylanwad yn y system yn gwneud popeth o fewn eu gallu i greu system fwyd sy’n ceisio darparu bwyd diogel, iachach a mwy cynaliadwy i bawb a sicrhau  bod y safonau bwyd uchel yr ydym yn eu mwynhau yn y DU yn cael eu cynnal.