Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Pwysigrwydd hylendid

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried a yw gweithgarwch gorfodi yn dychwelyd i lefelau arferol ar ôl y pandemig, a hefyd yn ystyried adnoddau a chapasiti.

Safonau hylendid mewn sefydliadau  bwyd a bwyd anifeiliaid 

Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Lefelau cydymffurfio â safonau hylendid ar draws  sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid.
  • Y cynnydd a wnaed o ran adfer rheolaethau hylendid  bwyd yn dilyn pandemig COVID-19.
  • Yr adnoddau staff sydd ar gael i gynnal safonau hylendid bwyd.

Cyflwyniad

Mae defnyddwyr eisiau teimlo’n hyderus bod y bwyd maent yn ei fwyta wedi’i gynhyrchu mewn ffordd ddiogel a hylan. Mae cyflawni hyn yn golygu ymdrech enfawr ar draws y gadwyn fwyd i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal.

Mae pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yn gyfrifol am fodloni gofynion hylendid llym, sy’n cynnwys trin, storio a chludo bwyd a bwyd anifeiliaid yn gywir, yn ogystal â defnyddio cynhwysion diogel, arferion hylendid effeithiol a sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant neu oruchwyliaeth ddigonol. 

Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod pob busnes yn dilyn y rheolau hyn yn ymestyn dros sawl sefydliad ac yn amrywio ledled y DU (ffigur 20). Fel y nodwyd yn adroddiad y llynedd, effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar eu gallu i weithredu yn y ffordd arferol. Mae’r data yn y bennod hon yn adlewyrchu’n rhannol yr ymdrechion parhaus i ailddechrau cynnal rheolaethau hylendid yn llawn a rhoi darlun mwy dibynadwy o gydymffurfiaeth. Fodd bynnag, mae gallu awdurdodau gorfodi i gynnal rheolaethau cadarn hefyd yn dibynnu ar ariannu a chyflenwad gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant ddigonol i gynnal ein cyfreithiau bwyd.

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried a yw gweithgarwch gorfodi yn dychwelyd i lefelau arferol ar ôl y pandemig COVID-19. Byddwn hefyd yn ystyried cwestiwn sylfaenol adnoddau a chapasiti, gan archwilio sut mae maint a siâp y gweithlu hwn wedi newid dros amser ac a yw’n ddigon i gadw defnyddwyr yn ddiogel yn y dyfodol.

Ffigur 20: Cyfrifoldebau am gynnal rheolaethau hylendid bwyd ledled y DU

Math o sefydliad bwyd Pa awdurdod sy’n gyfrifol am reolaethau hylendid? Pa weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses arolygu?
Busnesau bwyd: mae’r rhain yn cynnwys bwytai, caffis, tafarndai, archfarchnadoedd a mannau eraill lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi, ei werthu neu ei fwyta, fel ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal. Ledled y DU: awdurdodau lleol Swyddogion diogelwch bwyd / Swyddogion cyfraith bwyd (yn yr Alban), gan gynnwys Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd
Sefydliadau cig: mae’r rhain yn cynnwys lladd-dai, ffatrïoedd torri cig, sefydliadau trin helwriaeth a marchnadoedd cig

Cymru a Lloegr: yr ASB ac awdurdodau lleol

Yr Alban: FSS

Gogledd Iwerddon: Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA)

Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig 
Sefydliadau llaeth: mae’r rhain yn cynnwys ffermydd a ffatrïoedd cynhyrchu sy’n gweithgynhyrchu cynhyrchion llaeth.

Cymru a Lloegr: ASB

Yr Alban: awdurdodau lleol

Gogledd Iwerddon: DAERA

Arolygwyr Llaeth, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (yn yr Alban) 
Sefydliadau bwyd anifeiliaid: mae’r rhain yn cynnwys cyflenwyr cyfanwerthu a gweithgynhyrchwyr cynhyrchion bwyd anifeiliaid.

Cymru a Lloegr: awdurdodau lleol

Yr Alban: FSS

Gogledd Iwerddon: DAERA

Swyddogion Bwyd Anifeiliaid

Hylendid mewn sefydliadau bwyd 

Mae dau gynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol ar waith ledled y DU: y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) sy’n gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon; a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) ar gyfer busnesau bwyd yn yr Alban. O dan y ddau gynllun, mae awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau er mwyn rhoi’r sgoriau diweddaraf i fusnesau sy’n gweini a pharatoi bwyd, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê a ffreuturau, yn ogystal â mannau eraill lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi, ei werthu neu ei fwyta, fel ysbytai, ysgolion, a chartrefi gofal.[18]

Mae data arolygiadau hylendid bwyd a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022, sy’n dangos y canlyniadau arolygu diweddaraf, yn nodi bod mwy na naw o bob deg busnes bwyd wedi cael sgôr foddhaol neu well19, gydag ychydig iawn o newidiadau o gymharu â’r sgoriau y llynedd. Cafodd ychydig dros dri chwarter (75.7%) o fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o 5 ar gyfer hylendid, tra bo 2.9% o sefydliadau bwyd wedi cael sgôr o 2 neu is, sy’n golygu bod angen iddynt wella, gwella’n sylweddol, neu wella ar frys (ffigur 21).

Ffigur 21: Canran dosbarthiad sgoriau’r CSHB yn seiliedig ar ddata  a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022, yn adrodd ar yr arolygiad diweddaraf

Sgôr CSHB 0 1 2 3 4 5
Lloegr 0.2% 1.3% 1.4% 6.4% 15.0% 75.7%
Cymru 0.2% 1.5% 1.3% 7.4% 18.1% 71.6%
Gogledd Iwerddon 0.0% 0.3%

0.6%

3.2% 12.5% 83.4%

Mae’r cynllun FHIS yn yr Alban yn seiliedig ar sgôr llwyddo neu fethu: Llwyddodd 93.8%  o fusnesau a arolygwyd i gyflawni’r safon ofynnol yn 2022 (ffigur 22).

Ffigur 22: Canran y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well  ar gyfer hylendid bwyd, fel yr oedd y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2022

Cymru 97%, dim newid; Gogledd Iwerddon 99.1%, gostyngiad o 0.2%; Lloegr 97.1%, cynnydd o 0.2%; a’r Alban 93.8%, dim newid.

At hynny, o dan y drefn arolygu yn yr Alban, sef y System Sgorio Cyfraith Bwyd (FLRS), mae busnesau bellach yn cael asesiad cyffredinol o gydymffurfiaeth gyfreithiol â chyfraith bwyd, sy’n dwyn ynghyd ganlyniadau gwiriadau hylendid a safonau a gynhelir gan awdurdodau lleol. Ar gyfer y busnesau hynny sydd wedi mynd drwy’r broses newydd hon, cynyddodd y ganran yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith yn 2022 ychydig o gymharu â’r flwyddyn  flaenorol (ffigur 23).

Ffigur 23: Canran y gweithredwyr busnesau bwyd yn yr Alban a oedd yn cydymffurfio  â chyfreithiau bwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22

Cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd 96%, cynnydd o 1.5%; cydymffurfiaeth o ran hylendid bwyd 93.1%, cynnydd o 0.1%; cydymffurfiaeth o ran safonau bwyd 99%, dim newid.

Niferoedd arolygiadau awdurdodau lleol 

Mae nifer yr arolygiadau a phryd y cânt eu cynnal gan awdurdodau lleol yn effeithio’n uniongyrchol ar gywirdeb a pherthnasedd data’r CSHB a’r FHIS. Gan fod sgoriau hylendid ond yn adlewyrchu data o arolygiad diwethaf y sefydliad, mae cael darlun cywir yn dibynnu ar gynnal digon o arolygiadau er mwyn datgelu unrhyw newid arwyddocaol. Heb hyn, rydym yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar ddata o arolygiadau blaenorol i asesu a yw safonau hylendid wedi’u cynnal.

Ar ôl i’r pandemig darfu ar weithgarwch arolygu, datblygodd pob awdurdod lleol gynlluniau adfer i helpu i ailsefydlu rheolaethau hylendid bwyd. Mae ffigurau 24 a 25 yn dangos y cynnydd a wnaed drwy olrhain nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd dros y pedair blynedd diwethaf ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yn 2020, bu gostyngiad sydyn yn nifer y sgoriau a roddwyd wrth i rannau o’r sector lletygarwch gau, deddfau cadw pellter cymdeithasol ddod i rym ac wrth i adnoddau awdurdodau lleol gael eu dargyfeirio. Fe wnaeth y niferoedd adfer yn rhannol yn ystod 2021, gyda nifer y busnesau a gafodd sgôr hylendid bwyd yn dychwelyd i raddau helaeth i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig drwy gydol 2022. 

Er bod hon yn garreg filltir bwysig o ran ailsefydlu goruchwyliaeth effeithiol ar ôl pandemig COVID-19, dylid pwysleisio bod tua 39,500 o fusnesau heb eu sgorio ddiwedd 19 ledled  Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nad oeddent wedi’u hasesu eto. Fodd bynnag, mae nifer  y busnesau heb eu sgorio wedi gostwng 48.7% o’r lefelau uchaf ar ôl y pandemig,  o 77,000 ym mis Ebrill 2021, wrth i awdurdodau lleol barhau i adfer. 

Mae hyn yn golygu bod angen i ni fod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau cadarn ar gyflwr presennol safonau hylendid bwyd hyd nes y byddwn wedi mynd i’r afael â’r heriau hyn.  Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gan dimau awdurdodau lleol ddigon o staff er mwyn gallu goruchwylio safonau yn y dyfodol, fel y byddwn yn trafod yn ddiweddarach yn yr adroddiad.

Ffigur 24: Nifer y busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon  a gafodd sgôr hylendid bwyd rhwng 2019/20 a 2022/23

Cafodd 56,705 o fusnesau sgôr hylendid bwyd yn Chwarter 4 2022/23 o gymharu â 44,803 yn Chwarter 3. Cofnodwyd y nifer uchaf yn Chwarter 4 2019/2020, sef 59,299.

Ffigur 25: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr hylendid bwyd fesul  chwarter yn yr Alban rhwng 2019/20 a 2022/23

Yn Chwarter 4 2022/23, rhoddwyd sgôr hylendid bwyd i 3,875 o fusnesau bwyd yn yr Alban. Y ffigur uchaf a gofnodwyd oedd 5,297 yn Chwarter 1 2019/2020.

Hylendid mewn sefydliadau cig cymeradwy

Mae pob sefydliad cig a gymeradwyir gan yr ASB ac FSS[20] – gan gynnwys lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, ffatrïoedd torri cig a marchnadoedd cyfanwerthu cig – yn destun archwiliadau ar sail risg i sicrhau eu bod yn bodloni safonau hylendid. 

Mae’r ffordd y cynhelir yr archwiliadau hyn yn amrywio ar draws y DU, sy’n golygu ei bod yn anodd gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y pedair gwlad. Fodd bynnag, mae ffigurau 26 a 27 yn dangos bod canran y sefydliadau cig sydd â safonau hylendid boddhaol neu dda ledled y DU yn uchel – dros 98% yn yr Alban a thros 99% ar gyfer gweddill y DU yn ôl y data diweddaraf a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022. 

Bu cynnydd nodedig o 12.9% ers 2021 yng nghydymffurfiaeth busnesau yn yr Alban a allai fod oherwydd newidiadau yn y dull archwilio sy’n caniatáu ymyriadau cyflymach mewn achosion o gydymffurfiaeth wael. Fodd bynnag, nid yw’r raddfa ar gyfer pennu sgoriau cydymffurfiaeth wedi newid, sy’n golygu bod diffiniad o sgôr ‘dda’ yn cael ei gymhwyso’n gyson ledled y DU. Mae hyn yn rhoi hyder bod cydymffurfiaeth cyffredinol wedi parhau’n uchel.

Ffigur 26: Canran y sefydliadau cig a gafodd sgôr ‘dda’ neu ‘foddhaol’ o ran hylendid yn 2022

Gwlad Canran y sefydliadau cig a gafodd sgôr ‘dda’ neu ‘foddhaol’ o ran hylendid yn 2022 Newid canrannol yn erbyn data 2021
Cymru a Lloegr 99.3% +0.7%
Gogledd Iwerddon 100% Dim newid
Yr Alban 98.4% +12.9%

Ffigur 27: Dadansoddiad o sgoriau cydymffurfiaeth hylendid[21] ar gyfer sefydliadau cig (yn seiliedig ar y data diweddaraf a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022)

Gwlad Da Boddhaol ar y cyfan Angen gwella Angen gwella ar frys
Cymru a Lloegr 64.2% (+7.4%) 35.1% (-6.7%) 0.5% (-0.6%) 0.2% (d/n)
Gogledd Iwerddon 87.0% (-7.0%) 13.0% (+7.2%) 0.0% (d/n) 0.0% (d/n)
Yr Alban 91.9% (+26.7%) 6.5% (-12.8%) 1.6% (-12.9%) 0.0% (d/n)

Nodiadau: Dangosir y newid canrannol yn erbyn data 2021 mewn cromfachau.

Cydymffurfiaeth hylendid wrth gynhyrchu llaeth

Yn yr un modd â sefydliadau cig, mae’r cyfrifoldeb am arolygu busnesau llaeth yn amrywio  ar draws gwledydd y DU, ond unwaith eto, mae’r data sydd ar gael yn dangos bod y mwyafrif  yn cael eu sgorio fel sefydliadau sy’n cydymffurfio. 

Yng Nghymru a Lloegr, cafodd 98.1% o sefydliadau llaeth sgôr o naill ai da neu foddhaol ar y cyfan yn 2022 (ffigur 28). Mae hyn yn gynnydd o gymharu â chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol, a hynny oherwydd y newid yn y ffordd y cyfrifir cydymffurfiaeth hylendid llaeth. Mae data eleni’n ystyried cydymffurfiaeth yn yr arolygiad cychwynnol yn ogystal ag yn ystod y camau dilynol dilynol lle cynhaliwyd ymyriadau. Mae’n adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym  ar gydymffurfiaeth ac mae’n cyd-fynd yn well â’r fethodoleg adrodd a ddefnyddir yng  Ngogledd Iwerddon.

Ffigur 28: Canran y sefydliadau llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gafodd y canlyniadau uchaf, sef ‘Da’ neu ‘Boddhaol ar y cyfan’  ar 31 Rhagfyr 2022

Gwlad Canran y sefydliadau a gafodd ganlyniadau da neu foddhaol ar y cyfan Newid ers y flwyddyn flaenorol
Cymru a Lloegr 98.1% (+17.6%)
Gogledd Iwerddon 99.2% (+0.3%)

Ffigur 29: Dadansoddiad o sgoriau cydymffurfio hylendid ar gyfer sefydliadau llaeth o ddata arolygiadau a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022

Yng Nghymru a Lloegr, roedd 75% wedi ennill sgôr dda, sef cynnydd o 24.5%. Nodwyd bod angen i 0.04% wella ar frys. Yng Ngogledd Iwerddon, roedd 59.5% wedi ennill sgôr dda, sef gostyngiad o 9.1%. Nodwyd bod angen i 0% wella ar frys.

Arhosodd cydymffurfiaeth cyffredinol Gogledd Iwerddon yn sefydlog (ffigur 28), er y bu gostyngiad o 9% yng nghyfran y sefydliadau ‘da’ a chynnydd cyfatebol yn y rheiny a gafodd sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’ (ffigur 29). 

Yn yr Alban, mae’n anoddach cael darlun cywir o p’un a yw safonau hylendid llaeth wedi newid yn absenoldeb data cydymffurfiaeth cymaradwy. Nid oes gan FSS unrhyw rôl orfodi uniongyrchol ar gyfer hylendid llaeth. Y 32 awdurdod lleol sy’n gyfrifol am hyn yn yr Alban. 

Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar weithgarwch gorfodi, ac mae’r adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio i fonitro busnesau bwyd risg uchel, er enghraifft y rhai sy’n cyflenwi llaeth heb ei basteureiddio ar gyfer cynhyrchu caws. Gan nad yw’r Alban yn caniatáu gwerthu na dosbarthu llaeth yfed amrwd, mae ganddi gyfran uwch o ffermydd llaeth sy’n cael eu hystyried yn gyffredinol fel sefydliadau risg is yn y drefn arolygu o gymharu â’r ffermydd llaeth yng ngweddill y DU. 

Gallwn ddod i’r casgliad y bu cynnydd yn nifer y llythyrau canllawiau a’r cyngor ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn 2021/22 (ffigur 30) wrth i weithgarwch gorfodi ailddechrau. Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gwella hylendid (HINs) rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022. Mae HINs yn fesur gorfodi mwy difrifol a chânt eu cyhoeddi pan fydd achos o ddiffyg cydymffurfio hylendid sy’n torri rheoliadau sy’n rhaid ei gywiro o fewn cyfnod penodol o amser. Er bod y set ddata yn gyfyngedig iawn, mae hyn yn awgrymu bod y mwyafrif o sefydliadau llaeth yr Alban a arolygwyd yn ddiweddar yn gweithredu’n ddiogel.

Ffigur 30: Gweithgarwch gorfodi sefydliadau llaeth yn yr Alban

Cofnodwyd 20 achos yn 2021-2022 lle rhoddwyd dogfennau canllaw neu gyngor ar lafar. Bu 3 achos lle rhoddwyd cyngor ysgrifenedig.

Cydymffurfiaeth hylendid mewn sefydlaidau bwyd anifeiliaid

Mae bwyd anifeiliaid yn rhan bwysig o’r gadwyn fwyd a gall unrhyw fethiannau o ran hylendid a diogelwch achosi risgiau sylweddol i iechyd pobl. Rhaid i fusnesau bwyd anifeiliaid felly fodloni ystod o ofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â hylendid, olrheiniadwyedd, labelu, cyfansoddiad a sylweddau annymunol.

Mae’r cyfrifoldeb am arolygu’r busnesau hyn wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r pandemig wedi cael effaith hefyd, gan arwain at set o ddata anghyson ac anghyflawn yn aml[22]. Fodd bynnag, o’r data sydd ar gael (ffigur 31), mae’n ymddangos bod lefelau cydymffurfio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021/22 wedi aros yr un fath i raddau helaeth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 96.9% oedd y lefelau cydymffurfio cyffredinol Lloegr[23], gan ostwng 0.2% o gymharu â 2021 a Gogledd Iwerddon yn aros yr un fath ar 99.3%.

Yng Nghymru, mae’r data’n dangos cynnydd mewn lefelau cydymffurfio yn ystod 2021-22, er y dylid nodi bod nifer y safleoedd a arolygwyd wedi lleihau’n sylweddol oherwydd effaith barhaus pandemig COVID-19, sy’n ei gwneud yn anoddach i gymharu fesul blwyddyn. Oherwydd adnoddau cyfyngedig, mae’r rhaglen gweithredu bwyd anifeiliaid yng Nghymru yn blaenoriaethu rheolaethau swyddogol ar safleoedd sy’n newydd, sy’n cydymffurfio’n wael neu sy’n peri risg uwch oherwydd natur eu gweithgareddau, sy’n golygu nad yw’r ganran yn adlewyrchu lefelau cydymffurfio ar draws y sector cyfan yn iawn. 

Ar 1 Ebrill 2021, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am wiriadau bwyd anifeiliaid o awdurdodau lleol i FSS. Mae newidiadau o ran casglu data yn ei gwneud yn amhosib darparu data tueddiadau blynyddol, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl trosglwyddo, roedd 97.8% o fusnesau bwyd anifeiliaid yr Alban yn cydymffurfio.

Ffigur 31: Canran y sefydliadau bwyd anifeiliaid yr aseswyd eu bod yn  cydymffurfio â safonau hylendid, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael

Sefydliadau bwyd anifeiliaid yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â safonau hylendid; Lloegr 96.9%, Cymru 89%, Gogledd Iwerddon 99.3% a’r Alban 97.8%.

Heriau o ran capasiti a gallu

Fel y soniwyd ar ddechrau’r bennod hon, mae cynnal safonau hylendid yn dibynnu ar gael digon o staff hyfforddedig a phrofiadol i gynnal arolygiadau a gweithio gyda busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid i sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith. 

Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae ein dadansoddiad (ffigur 32) yn dangos y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y swyddi wedi’u dyrannu[24] ar gyfer swyddogion diogelwch bwyd dros y ddegawd ddiwethaf, gydag ychydig o dan 14% yn llai o swyddi yn 2022/23 o gymharu â 2010/11. Yn ystod yr un cyfnod yn yr Alban, gostyngodd nifer y swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi 25.5% yn 2021/22 o gymharu â 2016/2017. Mae hyn wedi arwain at anawsterau recriwtio oherwydd prinder staff.

Yn ystod y pandemig yn 2020/21, cynyddodd canran y swyddi heb eu llenwi ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i 57.7% oherwydd symud swyddogion diogelwch bwyd i ymdrin â pandemig COVID-19. Bu gostyngiad hirdymor yn nifer y swyddi a ariennir, gyda phrinder staff yn effeithio’n negyddol ar hyn. Yn 2022, arhosodd cyfradd y swyddi diogelwch bwyd heb eu llenwi neu swyddi gwag (ffigur 33) yn uwch na chyn pandemig COVID-19, gyda thua un o bob saith (13.7%) o swyddi wedi’u dyrannu ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn wag yn 2022. 

At hynny, nid yw’r gostyngiadau hyn mewn capasiti wedi’u cyfyngu i hylendid bwyd. Bu gostyngiad hefyd o 45.1% yn nifer swyddogion safonau bwyd wedi’u dyrannu, o 2011/12 i 2021/22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cwymp sylweddol wedi bod hefyd ymhlith swyddogion safonau masnach, sydd fel arfer yn gwirio cyfansoddiad a chynnwys maethol bwyd a chywirdeb labelu a hysbysebu. Mae’r gwiriadau hyn yn bwysig er mwyn mynd i’r afael â bwyd twyllodrus, annilys neu fwyd wedi’i gam-labelu, a ddisgrifir yn fanylach yn y bennod nesaf.

Yn wir, canfu adroddiad arolwg gweithlu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) yn 2020 fod lefelau staffio swyddogion safonau masnach wedi gostwng rhwng 30% a 50% rhwng 2008/9 a 2018/19. Canfu’r arolwg hefyd fod ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol yn y DU o’r farn nad oedd ganddynt ddigon o arbenigedd i gwmpasu’r ystod lawn o gyfrifoldebau safonau masnach, a bod y gweithlu safonau masnach sy’n heneiddio yn fygythiad i allu proffesiynol yn y dyfodol. 

Yn yr Alban, mae swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a swyddogion Cyfraith Bwyd yn cyflawni’r swyddogaethau hylendid bwyd a safonau bwyd y byddai swyddogion Safonau Masnach fel arfer yn eu cyflawni yng ngweddill y DU, felly mae’r gostyngiad o 25.5% yn yr Alban o ran swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi bod yn arbennig o anodd.

Mae cynnal cyflenwad digonol o weithwyr proffesiynol profiadol i gynnal arolygiadau yn hanfodol er mwyn cynnal safonau hylendid bwyd. Mae’r gostyngiadau hirdymor o ran niferoedd staffio awdurdodau lleol, ynghyd â heriau recriwtio cynyddol a gweithlu sy’n heneiddio, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar dimau presennol ac yn cynyddu’r potensial i broblemau diogelwch bwyd fynd heb eu gwirio a heb eu darganfod yn y dyfodol.

Ffigur 32: Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers 2010/11*[25]

Roedd 1,586 o swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol yn 2022/2023 o gymharu â 1,644 yn 2021/22 (mae’n bosib bod y cynnydd hwn oherwydd cyllid untro).

Ffigur 33: Canran y swyddi hylendid bwyd heb eu llenwi (CALl)  mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Blwyddyn Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd
2018/19 8.7% 9.7% 9.7% 8.8%
2019/20 10.1% 6.9% 4.9% 9.6%
2020/21 58.4% 65.5% 25.4% 57.7%
2021/22 12.0% 27.7% 15.3% 13.7%

Mae’r sefyllfa yn yr Alban yn debyg (ffigur 34). Ym mis Tachwedd 2021, roedd 202.8 o swyddogion Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) wedi’u cyflogi mewn sefydliad o 261.7 o swyddogion CALl. Y gofyniad amcangyfrifedig er mwyn cyflawni holl ofynion y Cod Ymarfer yw 380.3, felly roedd diffyg o 46.7%. 

Ffigur 34: Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol ledled yr Alban ym mis Tachwedd 2021

Math o swyddi Rhif Canran
Swyddi Sefydledig 261.7 Dd/B
Swyddi wedi’u llenwi 202.8 77.5%
Swyddi gwag 58.8 22.5%
Amcangyfrif o’r angen 380.3 Dd/B
Amcangyfrif o’r diffyg i ddiwallu’r angen 177.4 46.7%

Ffynhonnell: Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban (SoCOEHS)

Yn ogystal, yn ôl Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban, mae bron i ddwy ran o dair (64.1%) o swyddogion cyfraith bwyd a mwy na hanner (50.7%) yr holl swyddogion iechyd yr amgylchedd sy’n gweithio ym maes cyfraith bwyd yn yr Alban dros 50 oed.

Ffigur 35: Nifer y swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi (CALl) mewn awdurdodau lleol yn yr Alban

Blwyddyn Nifer y swyddi wedi’u llenwi
2016/17 271
2017/18 Dim data ar gael
2018/19 223
2019/20 214
2020/21 Dim data ar gael
2021/22 202

Ffynhonnell:  Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban (SoCOEHS)

Cefnogi awdurdodau lleol

Mae’r ASB ac FSS eisoes yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau  o’r adnoddau sydd ar gael: 

Mae rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yr ASB yn datblygu dulliau newydd o foderneiddio’r ffordd mae awdurdodau lleol yn cynnal safonau rheoleiddio. Mae dull newydd o arolygu safonau bwyd bellach yn cael ei gyflwyno, sef dull o arolygu busnesau bwyd sy’n fwy seiliedig ar risg, a mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wirio cydymffurfiaeth mewn gwahanol ffyrdd a defnyddio mwy o guddwybodaeth. Dylai’r newidiadau hyn ganiatáu i awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt, gan alluogi iddynt dreulio mwy o’u hamser yn y busnesau sy’n peri’r risg uchaf a’r rhai sy’n cydymffurfio leiaf. Dylai’r dull newydd hefyd gefnogi defnyddio mwy o gudd-wybodaeth i darfu ar gyflenwad bwyd twyllodrus neu annilys yn uwch i fyny’r gadwyn fwyd cyn iddo gyrraedd y silffoedd. Mae’r ASB bellach yn ymgynghori ar newidiadau i’r dull o gynnal arolygiadau hylendid bwyd.

Mae FSS wedi creu rhaglen arfaethedig, Rhaglen Ailadeiladu Gwaith Gorfodi Bwyd Awdurdodau’r Alban (SAFER), sy’n disodli Rhaglen Strategaeth Reoleiddio FSS, a fydd yn ystyried ffyrdd o gynyddu adnoddau, lleihau galw, gwella effeithlonrwydd a datblygu atebion digidol i gefnogi awdurdodau lleol.

Mae’r ASB hefyd wedi comisiynu ymchwil ar natur a graddau’r problemau sy’n ymwneud â gallu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw swyddogion sydd â chymwysterau a phrofiad addas a phriodol i gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid. 

Mae hwn yn fater cymhleth ac nid cyfrifoldeb yr ASB ac FSS yn unig yw ei ddatrys. Ond ni ellir ei anwybyddu os ydym am ddiogelu defnyddwyr yn ddigonol, yn awr ac yn y dyfodol. Bydd y ddwy asiantaeth yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, a phartneriaid allanol eraill i ddatblygu atebion.

Adnoddau milfeddygol swyddogol

Mae Milfeddygon Swyddogol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cig a gynhyrchir mewn lladd-dai neu ffatrïoedd prosesu yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Fodd bynnag, mae’r proffesiwn milfeddygol cyfan yn wynebu heriau o ran adnoddau, sy’n cyfrannu at anawsterau o ran recriwtio digon o filfeddygon swyddogol.

Nododd yr RCVS ostyngiad o 27.4% yn nifer y bobl a ymunodd â’r proffesiwn milfeddygol rhwng 2019 a 2022, ac mae milfeddygon sydd wedi cyflawni eu hyfforddiant yn y DU wedi dangos cryn amharodrwydd i ymgymryd â rolau iechyd y cyhoedd.

Er bod y modelau staffio a ddefnyddir gan yr ASB ac FSS yn wahanol (gyda’r ASB yn gweithio gydag asiantaeth allanol sy’n gyfrifol am ddarparu Milfeddygon Swyddogol, ac FSS yn eu cyflogi’n uniongyrchol gan ddefnyddio staff dros dro a staff asiantaeth yn ôl yr angen), mae’r ddau sefydliad wedi wynebu heriau o ran adnoddau.

O ganlyniad, mae recriwtio o dramor yn parhau i fod yn ffordd bwysig o sicrhau digon o staff ar hyn o bryd, a chefnogir hyn trwy gynllun Cofrestru Dros Dro RCVS.

Beth yw Cofrestru Dros Dro?

Cofrestru Dros Dro RCVS: Mae Cofrestru Dros Dro wedi caniatáu i filfeddygon â chymwysterau priodol o brifysgolion sydd wedi’u hachredu gan EAEVE (Cymdeithas Sefydliadau ar gyfer Addysg Filfeddygol Ewrop), ac sydd â chymhwyster Saesneg Lefel 5 IELTS, gofrestru dros dro gyda’r RCVS.

Mae hyn wedi caniatáu iddynt weithio fel Milfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro (TRNOV), wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant yn Saesneg, a hynny er mwyn cynnal rheolaethau cig swyddogol mewn lladd-dai dan oruchwyliaeth. Yn yr Alban, ni chafodd FSS fynediad at y llwybr Cofrestru Dros Dro yn 2022.

Mae Cofrestru Dros Dro wedi galluogi cynnydd cyson yn nifer y Milfeddygon Swyddogol yng Nghymru a Lloegr. Roedd 103 o Filfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro allan o gyfanswm o 272 o Filfeddygon Swyddogol, a oedd yn cyfateb i 38% o’r holl Filfeddygon Swyddogol ar 31 Rhagfyr 2022.

Roedd hyn yn golygu bod modd cynnal y gwasanaeth a ddarperir mewn lladd-dai ac osgoi methiannau o ran darparu gwasanaethau, gan olygu na chafodd unrhyw ladd-dy ei atal rhag gweithredu oherwydd nad oedd Milfeddyg Swyddogol yn bresennol.

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae’r ASB yn gweithio gyda’i phartneriaid cyflawni ac wedi cytuno i gymorth ariannol ar ffurf amrywiad contract ar gyfer gweddill contractau presennol y Milfeddygon Swyddogol. Diben penodol hwn yw cynnig cyflogau uwch i Filfeddygon Swyddogol, yn unol â rolau milfeddygol eraill.

Mae’r ASB wedi gweithio’n agos gyda phrifysgolion i godi proffil Milfeddygon Swyddogol (gan fuddsoddi mwy yn y gwaith hwn) ac wedi cefnogi gwaith i greu pecynnau cyflog cystadleuol ar gyfer Milfeddygon Swyddogol. Mae FSS wedi sefydlu cynlluniau tâl a chydnabyddiaeth ychwanegol, wedi gwella hyfforddiant ac wedi datblygu cymhwyster Rheolaethau Swyddogol i Filfeddygon mewn partneriaeth agos ag Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

Fodd bynnag, er gwaethaf y mentrau hyn, mae cyflenwi gweithwyr proffesiynol profiadol yn y dyfodol i lenwi rolau Milfeddygon Swyddogol yn parhau i fod yn risg sylweddol ledled y DU, a bydd yr ASB ac FSS yn parhau i fonitro hyn yn agos ac yn mynd i’r afael â’r heriau hyn yn rhagweithiol.

I grynhoi

Llwyddodd naw o bob deg busnes a arolygwyd gan awdurdodau lleol ledled y DU i gael sgôr foddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, mae sgoriau hylendid bwyd ond yn gallu adlewyrchu data o’r arolygiad diwethaf a gynhaliwyd ym mhob sefydliad. Rydym yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar ddata o arolygiadau blaenorol i asesu a yw safonau hylendid wedi’u cynnal. Mae awdurdodau lleol yn parhau i adfer rheolaethau hylendid ac yn bwrw ymlaen â’r ôl-groniad o arolygiadau yn unol â’u cynlluniau adfer. Mae niferoedd arolygu cyffredinol ar gyfer 2022 wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd  cyn y pandemig. 

Er bod y data sydd ar gael ar safonau hylendid mewn sefydliadau cig, llaeth a bwyd anifeiliaid yn anghyflawn mewn mannau, mae’r darlun cyffredinol sy’n seiliedig ar yr arolygiadau diwethaf yn awgrymu bod mwyafrif helaeth y busnesau a arolygwyd yn gweithredu’n ddiogel, gyda mwy nag 89% yn cydymffurfio ar draws y sectorau hyn.

Mae’r heriau uniongyrchol o ran capasiti’r gweithlu yn sgil adleoli staff ers y pandemig wedi gwella i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae cyfran y swyddi hylendid bwyd heb eu llenwi mewn awdurdodau lleol yn cynyddu ac mae’r adnoddau cyffredinol a ddyrennir i reoli hylendid bwyd 13.8% yn llai nag oeddent yn 2010/11 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r ASB ac FSS yn credu bod hyn yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar dimau awdurdodau lleol presennol a gallai gynyddu’r risg y gallai materion diogelwch bwyd pwysig syrthio drwy’r rhwyd. 

Mae nifer y swyddi safonau bwyd wedi’u dyrannu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy’n cael eu staffio’n bennaf gan swyddogion safonau masnach, wedi gostwng 45.1% rhwng 2011/12 a 2021/22 tra bod cyfran uchel o’r gweithlu hefyd yn agosáu at oedran ymddeol. Ein pryder yw y gallai’r gostyngiad hwn yn y capasiti i asesu dilysrwydd, labelu a chydymffurfiaeth ag alergenau beryglu safonau bwyd yn y dyfodol. 

Yn yr Alban, mae nifer swyddi swyddogion cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi gostwng ychydig dros chwarter o gymharu â 2016/2017. Yn ôl Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban, ers 2016, bu gostyngiad o 14% mewn swyddi o fewn Iechyd yr Amgylchedd, gostyngiad o 21% yn nifer y swyddi wedi’u llenwi a chynnydd o 315% mewn swyddi gwag.

Mae sicrhau bod digon o adnoddau milfeddygol i reoli arolygiadau mewn sefydliadau cig yn cael ei rwystro gan ddiffyg milfeddygon yn ymuno â’r proffesiwn, cynnydd yn y nifer sy’n gadael y proffesiwn a heriau wrth recriwtio gweithwyr milfeddygol ychwanegol o wledydd Ewropeaidd. Er bod mesurau tymor byr wrth gefn wedi sicrhau bod arolygiadau hylendid cig yn cael eu cynnal yn ystod 2022 (yn fwyaf nodedig y gallu i gofrestru milfeddygon o dramor i weithio dan oruchwyliaeth dros dro), mae’n bwysig ein bod yn cadw ein Milfeddygon Swyddogol profiadol ac yn datblygu ffyrdd newydd o reoli’r galw.