Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Diogel a chadarn

Digwyddiadau bwyd, troseddau bwyd a samplu gwyliadwriaeth.

Digwyddiadau bwyd, troseddau bwyd  a samplu gwyliadwriaeth

Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Nifer a natur y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid a adroddwyd yn 2022
  • Y canfyddiadau diweddaraf o raglenni samplu a gwyliadwriaeth  bwyd cenedlaethol.
  • Gweithgarwch a gwaith yr unedau cenedlaethol troseddau bwyd.

Cyflwyniad

Sut ydyn ni’n gwybod a yw’r bwyd sydd ar werth ledled y DU yn ddiogel neu’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label? Sut mae awdurdodau’n gwirio nad yw bwyd yn debygol o achosi niwed i ni, a beth maen nhw’n ei wneud os felly? Sut ydyn ni’n deall ac yn ymateb i achosion o dwyll, ymyrryd â bwyd neu nwyddau ffug sy’n dod i mewn i’r farchnad? A pha gasgliadau y gallwn ddod iddynt, o hyn oll, ynghylch a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal?

Mae’r ASB ac FSS yn defnyddio ystod o dystiolaeth gan asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol, awdurdodau gorfodi lleol, y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, manwerthwyr bwyd a’r cyhoedd, i’n helpu i ddeall ac ymateb yn gyflym i broblemau yn ein cyflenwad bwyd. 

Mae systemau sefydlog ar gyfer hysbysiadau am ddigwyddiadau sy’n helpu’r ASB ac FSS i rybuddio defnyddwyr pan fydd bwyd wedi’i halogi, yn anniogel, neu’n debygol o achosi afiechyd. Mae hyn bellach wedi’i ategu gan ddefnydd cynyddol o dechnoleg uwch sy’n seiliedig ar DNA i olrhain achosion o salwch a gludir gan fwyd a thargedu camau gweithredu yn y ffynhonnell. 

Mae Unedau Troseddau Bwyd pwrpasol yn yr ASB ac FSS yn gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau bwyd ac asiantaethau eraill i ymchwilio a tharfu ar weithgarwch troseddol yn y gadwyn cyflenwi bwyd, gan naill ai ddwyn achosion gerbron y llys neu darfu ar weithgareddau unigolion neu sefydliadau sy’n ymwneud â thwyll neu gamymddwyn. 

Yn sail i hyn, mae’r ASB, FSS a Defra yn cynnal gweithgarwch samplu wedi’i dargedu sy’n profi dilysrwydd a diogelwch cynhyrchion dethol sydd ar werth yn y DU, sy’n cyd-fynd â’r gwiriadau rheolaidd y mae awdurdodau lleol a busnesau bwyd yn eu cynnal i sicrhau bod y bwyd a brynwn yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Golwg Manwl 1: Digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid

Cyflwyniad

Diffinnir digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid fel unrhyw ddigwyddiad lle mae pryderon ynghylch diogelwch, ansawdd neu ddilysrwydd cynhyrchion y gallai fod angen gweithredu arnynt i ddiogelu defnyddwyr. Daw hysbysiadau gan awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, cyrff y llywodraeth, y diwydiant, gwledydd eraill, a defnyddwyr eu hunain.

Mae’r ASB, FSS a’n partneriaid yn edrych yn fanwl ar unrhyw newidiadau sylweddol yn y data i’n helpu i ganfod problemau sy’n dod i’r amlwg yn ein cadwyn fwyd. Fodd bynnag, gall ffactorau eraill effeithio ar gyfradd y digwyddiadau a adroddir i ni, gan gynnwys rheoliadau newydd sy’n dod i rym neu welliannau o ran canfod ac adrodd, yn ogystal â newidiadau sylweddol mewn diogelwch ac ansawdd bwyd.

At ei gilydd, adroddwyd am 2,221 o ddigwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid yn ystod 2022, a hwnnw’n ffigur ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Er ei bod yn bosib bod y newid hwn oherwydd gwahaniaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn arferion adrodd, yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn diogelwch bwyd, mae’r ffaith bod y ffigurau cyffredinol yn parhau i fod yn gyson â thueddiadau hirdymor yn awgrymu na fu newidiadau mawr yn nifer cyffredinol y digwyddiadau a adroddwyd (ffigur 36). 

Ffigur 36: Nifer y digwyddiadau bwyd a gofnodwyd yn y DU 

Gwlad 2019 2020 2021 2022
Ledled y DU 2,598 2,261 2,363 2,221

Categorïau bwyd sydd fwyaf cysylltiedig  â digwyddiadau

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, cig a chynhyrchion cig (ac eithrio dofednod) a gyfrannodd at y nifer uchaf o ddigwyddiadau bwyd yn 2022, gan gyfrif am 13% o’r holl ddigwyddiadau. Y cynhyrchion hyn sy’n fwyaf cysylltiedig â digwyddiadau bwyd yn gyson ers 2019 ac maent ymhlith y grwpiau bwyd sy’n destun y profion amlaf a mwyaf trylwyr. Roedd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn ymwneud ag achosion o weddillion yn cael eu canfod mewn meddyginiaeth filfeddygol, halogiad microbiolegol, a gwallau labelu neu becynnu. 

Categori arwyddocaol arall yn 2022 oedd bwydydd deietetig, atchwanegiadau bwyd a bwydydd cyfnerthedig, a oedd yn cyfrif am 9% o ddigwyddiadau, a hynny’n bennaf oherwydd achosion o gynhwysion anawdurdodedig yn y cynhyrchion hyn. Roedd grawnfwydydd a chynhyrchion popty yn cyfrannu at gyfran debyg o achosion (9%), gyda llawer o’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â phresenoldeb cynhwysion anawdurdodedig, yn ogystal â phroblemau gyda chynhyrchu, labelu a phecynnu. 

Mae cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod wedi bod yn y chwech uchaf ers 2020 oherwydd problemau parhaus gyda diffyg cydymffurfiaeth cyw iâr a chynyrchion cyw iâr o Wlad Pwyl sy'n cynnwys Salmonela serovar Enteritidis (a elwir hefyd yn Salmonela Enteritidis). Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn gwyliadwriaeth a samplu mewn cysylltiad â’r cynhyrchion hyn.

Mae llawer o’r categorïau hyn yn cael sylw amlwg yng ngweithgarwch samplu’r ASB ac FSS (gweler isod, tudalen 97), oherwydd gwendidau yn y cynhyrchion a’r angen am wyliadwriaeth  a monitro parhaus.

Ers 2019 (ffigur 37), dim ond wyth o 35 o gategorïau cynnyrch gwahanol (Atodiad 5) sydd wedi ymddangos yn y chwe phrif gategori bwyd ar gyfer digwyddiadau bwyd, sy’n awgrymu patrwm cyson, at ei gilydd, yn natur digwyddiadau.

Ffigur 37: Y chwe phrif gategori bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau  a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

Ffigur 37: Y chwe phrif gategori bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau  a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

Halogiad gan ficro-organebau niweidiol

Y math mwyaf cyffredin o berygl mewn digwyddiadau bwyd a adroddwyd yn ystod 2022 oedd micro-organebau pathogenig, a oedd yn cyfrif am 29% o’r holl achosion. Mae Salmonela yn parhau i gyfrif am y mwyafrif o’r digwyddiadau microbiolegol hyn. Er bod y prif ffigurau ar gyfer halogiad gan ficro-organebau yn dangos cynnydd sylweddol o un flwyddyn i’r llall, mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd sylweddol yn yr achosion o ffliw adar a gofnodwyd yn Lloegr yn ystod 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol[26]. Ac eithrio’r achosion hyn, arhosodd y ffigurau ar gyfer digwyddiadau micro-organebau pathogenig mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn weddol sefydlog rhwng 2021 a 2022, er bod dal cynnydd sylweddol iawn mewn achosion o gymharu â 2019 (ffigur 38).

Ffliw adar a diogelwch bwyd

Er nad yw ffliw adar yn peri pryder o ran diogelwch bwyd, mae’r ASB ac FSS yn rhan o’r gwaith o gydgysylltu’r ymateb i glefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd. Yn achos ffliw adar, mae hyn yn cynnwys olrhain dofednod a anfonir i’w lladd yn ystod y cyfnod cyn cadarnhau’r clefyd, at ddibenion rheoli clefydau anifeiliaid. Adroddwyd am gyfanswm o 228 o achosion o ffliw adar yn 2022, o gymharu â 56  yn 2021.

Ffigur 38: Nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yn y DU

Math o halogiad 2019 2020 2021 2022
Micro-organebau pathogenig 360 (14%) 431 (19%) 584 (25%) 647 (29%)

(Testun mewn cromfachau: Canran cyfanswm y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer  y flwyddyn honno.)

Digwyddiadau bwyd yn ymwneud ag alergenau

Mae nifer y digwyddiadau a nodwyd yn 2022 sy’n ymwneud ag alergenau heb eu datgan neu wedi’u datgan yn anghywir wedi dychwelyd i’r lefelau hynny a welwyd cyn y pandemig, a hynny yn dilyn gostyngiad mewn achosion yn ystod 2020 a 2021. Mae adroddiadau am ddigwyddiadau bellach yn cyfateb yn fras i’r ffigurau uwch a welwyd yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, yn dilyn gostyngiadau yn 2020 a 2021.

Er nad oes modd gwybod yn sicr, mae’n bosib bod y gostyngiad yn 2020 a 2021 wedi deillio o gyfuniad o newidiadau i ymddygiad defnyddwyr yn ystod y pandemig, symleiddio llinellau cynhyrchu bwyd, gostyngiad yn nifer y busnesau a oedd yn gweithredu ar y pryd, a newidiadau i archwiliadau bwyd wyneb yn wyneb mewn safleoedd bwyd. Mae’n ymddangos, wrth i bethau sefydlogi eto ar ôl y pandemig, fod tueddiadau o ran nifer y digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alergenau hefyd wedi dychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig. 

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gefnogi busnesau bwyd i roi rheolaethau alergenau effeithiol ar waith, gan gynnwys defnyddio labelu cywir, rhoi’r wybodaeth gywir i ddefnyddwyr, a mesurau rheoli da wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd.

Ffigur 39: Nifer y digwyddiadau bwyd sy’n ymwneud ag alergenau

Math o ddigwyddiad bwyd 2019 2020 2021 2022
Alergenau 355 240 272 322

Nifer yr achosion o glefydau a gludir gan fwyd

Er bod nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol a adroddwyd wedi  parhau’n uchel, nid yw ein dadansoddiad yn awgrymu unrhyw newidiadau arbennig o  amlwg yng nghyfraddau’r clefydau a gludir gan fwyd a ganfuwyd yn ystod 2022 – gydag  un eithriad nodedig.

Mae data gan asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU (ffigur 40) yn dangos cynnydd mewn achosion o heintiau Salmonela spp. yn y DU yn ystod 2022 ond maent yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19. Mae achosion a adroddwyd o heintiau Campylobacter spp. a Listeria monocytogenes yn debyg i’r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, bu cynnydd yn yr adroddiadau o STEC O157, i’w lefel uchaf ers 2015, yn bennaf oherwydd brigiad o achosion (outbreak) cenedlaethol mawr yr ymchwiliwyd iddo yn ystod haf 2022. 

Mae’n bwysig nodi nad trosglwyddiad a gludir gan fwyd sy’n gyfrifol am bob achos o haint gan y pathogenau hyn — er enghraifft, gellir cael heintiau trwy ledaeniad o berson i berson — ac felly efallai nad yw newid mewn lefelau o reidrwydd yn adlewyrchiad o safonau bwyd y DU.

Ffigur 40: Tueddiadau yn yr achosion o’r pedwar prif bathogen GI a gadarnhawyd  gan labordai yn y DU fesul 100,000 o’r boblogaeth

Mae nifer yr achosion o Gampylobacter yn parhau i fod yn sefydlog; mae Salmonela wedi cynyddu o 9 yn 2021 i oddeutu 14 yn 2022; cynyddodd achosion STEC O157 yn 2022 i 1.8; ac mae nifer yr achosion o Listeria monocytogenes yn parhau’n gyson. Mae nifer yr achosion o Gampylobacter yn parhau i fod yn sefydlog; mae Salmonela wedi cynyddu o 9 yn 2021 i oddeutu 14 yn 2022; cynyddodd achosion STEC O157 yn 2022 i 1.8; ac mae nifer yr achosion o Listeria monocytogenes yn parhau’n gyson. Mae nifer yr achosion o Gampylobacter yn parhau i fod yn sefydlog; mae Salmonela wedi cynyddu o 9 yn 2021 i oddeutu 14 yn 2022; cynyddodd achosion STEC O157 yn 2022 i 1.8; ac mae nifer yr achosion o Listeria monocytogenes yn parhau’n gyson. Mae nifer yr achosion o Gampylobacter yn parhau i fod yn sefydlog; mae Salmonela wedi cynyddu o 9 yn 2021 i oddeutu 14 yn 2022; cynyddodd achosion STEC O157 yn 2022 i 1.8; ac mae nifer yr achosion o Listeria monocytogenes yn parhau’n gyson.

Ffynhonnell: Daw’r data o sawl system adrodd byw a reolir gan asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus yr Alban ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon). Data dros dro yw’r data a gall newid.  

Mae’r data yn ffigur 40 yn deillio o sawl system adrodd byw. Cyfrifir cyfraddau fesul 100,000 o’r boblogaeth (echel ‘y’) gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (defnyddiwyd amcangyfrifon 2021 ar gyfer 2022 gan nad yw amcangyfrifon 2022 ar gael eto). Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau dros amser, yn enwedig dros y cyfnod pandemig COVID-19 (2020 i ddechrau 2022) oherwydd yr amryfal ffactorau a effeithiodd ar y broses o adrodd ar bathogenau.

Rôl dilyniannu genom cyfan

Ers 2015, mae Labordai Cyfeirio Cenedlaethol y DU yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi defnyddio dilyniannu genom cyfan rheolaidd i ganfod, deall ac olrhain y prif bathogenau gastroberfeddol fel Salmonela spp, STEC, Shigella spp., a Listeria monocytogenes.

Cynhelir dilyniannu genom cyfan mewn labordai, lle defnyddir un broses gyflym i bennu cyfansoddiad genetig cyfan organeb neu fath o gell benodol. Mae’n darparu olion bysedd  DNA manwl iawn a all helpu i gysylltu achosion â’i gilydd, gan ganiatáu i achos gael  ei ganfod yn gyflym. 

Rhwng Ionawr 2022 a Rhagfyr 2022, canfuwyd ac ymchwiliwyd i 40 o frigiadau o achosion a gludir gan fwyd (ffigur 41) a briodolwyd i bathogenau penodol, gan arwain at nifer o ymchwiliadau llwyddiannus i frigiadau o achosion a lwyddodd i nodi’r cyfrwng a/neu ffynhonnell yr halogiad. Yn dilyn hyn, rhoddwyd mesurau rheoli effeithiol ar waith, gan gynnwys y canlynol:

Astudiaeth achos: Salmonela spp. mewn siocled Ferrero

Roedd y ffordd y rheolwyd brigiad o achosion o Salmonela Typhimurium monoffasig mewn cynhyrchion siocled y grŵp Ferrero yn dangos sut mae dilyniannu genom cyfan yn gwella ein gallu i olrhain, nodi ac ymateb i broblemau diogelwch bwyd ar draws ffiniau rhyngwladol. 

Dadansoddodd yr asiantaethau iechyd cyhoeddus wybodaeth am amlygiad bwyd a gasglwyd o achosion o salwch ym mis Mawrth 2022, a chanfuwyd mai bwyta wyau Kinder a chynhyrchion eraill a weithgynhyrchir gan Ferrero oedd y cyswllt cyffredin ar draws pob achos. Cadarnhawyd hyn bythefnos cyn Pasg 2022, pan oedd disgwyl i nifer y wyau siocled a fwyteir gan blant gynyddu’n sylweddol.

Defnyddiwyd dilyniannu genom cyfan i gadarnhau bod rhai achosion o salmonelosis yn gysylltiedig â’i gilydd a bod ymchwiliadau i’r gadwyn fwyd wedi olrhain y broblem i un safle gweithgynhyrchu yng Ngwlad Belg. Yn dilyn hyn, galwyd yr holl gynhyrchion dan sylw yn ôl. Gan mai’r DU oedd y wlad gyntaf i nodi ffynhonnell y brigiad o achosion, rhannwyd canfyddiadau ymchwiliad y DU yn rhyngwladol hefyd, gan arwain at alw’r cynhyrchion yn ôl mewn 98 o wledydd eraill ac atal gweithgynhyrchu ar safle Ferrero yng Ngwlad Belg yn ystod haf 2022.

Ffigur 41: Nifer yr achosion a briodolir i bathogenau penodol a nodwyd yn y DU, 2022

11 clwstwr o Salmonela; 8 C.pertingens; 6 norofeirws; 3 chlwstwr o STEC O157; 5 clwstwr o Listeria monocytogenes.

* Caiff norofeirws ei gofnodi fel arfer (ond nid bob amser) fel ‘norofeirws a amheuir’ gan nad yw hyn yn cael ei gadarnhau fel mater o drefn gan brofion microbiolegol. Yn hytrach, caiff ei nodi fel arfer fel yr achos yn seiliedig ar symptomau a nodwyd gan gleifion a’r cyflwyniad clinigol.

Rhybuddion bwyd a hysbysiadau galw’n ôl 

Unwaith y bydd digwyddiad bwyd wedi’i nodi, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r cynnyrch dan sylw gael ei dynnu neu ei alw’n ôl – fel oedd yn wir yn yr enghraifft Ferrero a ddisgrifiwyd uchod. Mae’r ASB ac FSS yn cyhoeddi rhybuddion amrywiol i roi gwybod i ddefnyddwyr a busnesau bwyd eraill am y broblem a pha gamau y mae angen eu cymryd i leihau’r risg.

Cyhoeddir Rhybudd Alergedd pan fydd y cynnyrch wrthi’n cael, neu wedi cael,  ei alw’n ôl oherwydd nad yw gwybodaeth am alergenau wedi’i datgan ar labeli bwyd (gan gynnwys diffyg gwybodaeth yn Saesneg) neu oherwydd bod yr wybodaeth ar y label yn anghywir.

Cyhoeddir Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl pan fydd pryderon am ddiogelwch cynnyrch, gan amlaf oherwydd halogiad, cambecynnu neu gamlabelu cynhyrchion.

Cyhoeddir Rhybudd Bwyd er Gweithredu ar gyfer awdurdodau lleol a defnyddwyr pan fydd dosbarthiad cynhyrchion yn llai amlwg neu pan na fydd busnes bwyd yn cymryd y camau gofynnol i dynnu cynhyrchion oddi ar y farchnad, a bod angen gweithredu adferol gan awdurdodau lleol.

Ni fu unrhyw newid cyffredinol yn nifer cyfunol y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan asiantaethau bwyd y DU yn 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (ffigur 42) er bod nifer yr achosion o alergenau wedi cynyddu. Mae hyn yn bennaf oherwydd y cymerwyd camau gweithredu mewn perthynas â diogelwch bwyd cyn i’r cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt gyrraedd defnyddwyr. 

O ran y categorïau bwyd y cyhoeddwyd rhybudd alergedd ar eu cyfer, cynhyrchion sy’n cynnwys llaeth heb ei ddatgan yw’r categori bwyd mwyaf cyffredin o hyd, wedi’i ddilyn gan gnau heb eu datgan, wyau heb eu datgan a grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten heb ei ddatgan (ffigur 43).

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd cyfanswm o 80 o Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl yn 2022 (ffigur 44) oherwydd problemau fel halogiad microbiolegol, halogiad ffisegol, diffygion cynhyrchu neu ddefnyddio codau dyddiad anghywir ar gynhyrchion. 

Ffigur 42: Cyfanswm y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS

Gwlad 2019 2020 2021 2022
DU 115 77 83 83

Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau'r ASB ac FSS

Mae’r newid o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl a gyhoeddwyd rhwng 2021 a 2022 (cynnydd o 23%) yn bennaf oherwydd newidiadau yn y ffordd rydym yn casglu’r data hwn: mae’r holl rybuddion diweddaredig sy’n cael eu cyhoeddi pan fydd newid i’r achos gwreiddiol o alw cynnyrch yn ôl bellach yn cael eu cofnodi yn y cyfanswm. Felly nid yw’r duedd yn dangos unrhyw gynnydd sylweddol mewn digwyddiadau bwyd difrifol.

Nid oes unrhyw Rybuddion Bwyd er Gweithredu wedi’u cyhoeddi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n dangos, pan fo mater diogelwch, fod busnesau bwyd yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a’r ddwy asiantaeth fwyd genedlaethol i sicrhau bod gofynion diogelwch yn cael eu bodloni.

Ffigur 43: Rhybuddion Alergedd yn ôl y math o alergen

Gwnaed y nifer mwyaf o rybuddion alergedd bwyd mewn perthynas â llaeth, wedi’i ddilyn gan gnau, wyau a grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten.

Ffigur 44: Cyfanswm yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl a gyhoeddwyd yn y DU

Gwlad 2019 2020 2021 2022
DU 56 66 65 80

Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau’r ASB ac FSS

Golwg Manwl 2: Samplu gwyliadwriaeth bwyd

Cyflwyniad

Mae gwaith samplu bwyd targededig yn ffordd bwysig arall o fonitro diogelwch a dilysrwydd ein bwyd. Wrth i awdurdodau lleol a busnesau bwyd brofi cynhyrchion fel mater o drefn i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol, mae gwyddonwyr a gomisiynir gan yr ASB, FSS a Defra yn samplu cynhyrchion dethol o bryd i’w gilydd i olrhain risgiau sy’n dod i’r amlwg, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a llywio’r gwaith o ddatblygu polisi. Mae’r samplau y cyfeirir atynt yn yr adran hon yn samplau answyddogol, sy’n golygu na chymerwyd samplau yn uniongyrchol gan swyddogion samplu awdurdodedig ac nad oedd modd defnyddio’r canlyniadau mewn achos gorfodi nac erlyniad. 

Rôl labordai swyddogol

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r DU fod â labordai swyddogol dynodedig sy’n dadansoddi diogelwch a chyfansoddiad samplau bwyd a bwyd anifeiliaid a anfonir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd at ddibenion gorfodi  neu wyliadwriaeth. 

Mae gweithgarwch samplu awdurdodau lleol wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – er enghraifft, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bu gostyngiad o 79.1% yn nifer y samplau nad ydynt yn ficrobiolegol a gymerwyd rhwng 2016 a 2021, ac yn yr Alban gwelwyd gostyngiad o 70.9% (mewn samplau microbiolegol a chemegol) rhwng 2016/17 a 2020/21. O ganlyniad, mae llawer o labordai swyddogol wedi cau – er enghraifft, roedd gan Loegr naw labordy yn 2013 o gymharu â phedwar ers 2019. Gyda llai o fynediad i labordai Ewropeaidd ers i ni ymadael â’r UE, mae angen i’r ASB ac FSS wneud y mwyaf o allu’r DU i gynnal profion fel y gall y gwaith dadansoddi pwysig hwn barhau. 

Er bod yr adnoddau labordy sydd ar gael wedi sefydlogi yn ystod 2022, rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngallu, galluedd ac arbenigedd y DU. Yn yr Alban, mae yna bedwar labordy profi bwyd a ariennir yn gyhoeddus (labordai dadansoddwyr cyhoeddus). Mae’r pedwar labordy hyn yn gyfrifol am archwilio microbiolegol a dadansoddi cemegol, gan gynnwys halogion, safonau, dilysrwydd a phrofion alergenau ar yr holl samplau bwyd a gesglir yn yr Alban. 

Yn yr adran hon, rydym yn crynhoi canfyddiadau’r tri arolwg a gynhaliwyd yn 2022: arolwg samplu targededig yr ASB yn 2022, rhaglen samplu gyfansoddol a chemegol FSS, ac arolwg rhywogaethu cig a physgod Defra. Mae’r rhaglenni a’r gweithgareddau hyn yn cael eu cydlynu’n ofalus ar draws y llywodraeth i sicrhau cydgysylltiad, yr effeithlonrwydd mwyaf,  a bod rhaglenni’r ASB ac FSS yn cael eu llywio gan anghenion a gwybodaeth ranbarthol.

Fodd bynnag, mae angen deall y canlyniadau yn eu cyd-destun. Gan fod arolygon yr ASB ac FSS wedi’u targedu’n benodol iawn at y mannau lle gwyddom fod risgiau, maent yn fwy tebygol o nodi canlyniadau anfoddhaol ac felly nid ydynt yn cynrychioli safonau bwyd cyffredinol y DU. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau’n cynnig mewnwelediadau hanfodol sy’n helpu’r awdurdodau diogelwch bwyd cenedlaethol, y diwydiant ac awdurdodau gorfodi i ymateb i broblemau posib yn y gadwyn fwyd a thargedu adnoddau cyfyngedig yn well.

Er enghraifft, mae awdurdodau lleol eisoes wedi cymryd camau uniongyrchol yn dilyn canlyniadau’r llynedd, gan ddarparu cyngor a chymorth i fusnesau unigol ar faterion yn amrywio o laeth heb ei ddatgan mewn cynhyrchion bara, i oregano y canfuwyd ei fod yn cynnwys dail olewydd. Mae’r ASB ac FSS hefyd yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i rannu gwybodaeth a mynd i’r afael â meysydd sy’n peri pryder, yn enwedig drwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth  y Diwydiant Bwyd.

Arolwg targededig yr ASB yn 2022

Yr hyn a brofwyd

Profwyd tua 600 o samplau ar gyfer problemau o ran dilysrwydd a phresenoldeb alergenau a halogion. Gwiriwyd labeli hefyd i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth â safonau gwybodaeth bwyd. Roedd yr eitemau a brofwyd yn yr arolwg yn cynnwys y rheiny a oedd eisoes yn hysbys fel eitemau mewn perygl uchel o fethu ar sail safonau cyfansoddol neu ddilysrwydd – er enghraifft, cafodd oregano ei gynnwys oherwydd heriau rhyngwladol o ran dilysrwydd. 

Mae rhai o’r eitemau bwyd yr un fath ag mewn blynyddoedd blaenorol, fel y gallwn weld sut mae methiannau’n newid dros amser a nodi problemau sy’n dod i’r amlwg. Cafodd eitemau bwyd eraill eu cynnwys i wirio bod safonau’n cael eu cynnal er gwaethaf y pwysau economaidd ar gynhyrchwyr bwyd (er enghraifft, safonau cyfansoddol selsig a briwgig eidion). Ategwyd y rhain gan fwydydd eraill sy’n cael eu bwyta’n aml fel bara a llaeth.

Prif ganlyniadau

  • Gwnaeth 86% o’r samplau basio’r holl wiriadau, o gymharu ag 89% y llynedd. Ar gyfer busnesau bwyd mawr (fel archfarchnadoedd neu gyfanwerthwyr), roedd 96% o’r samplau a brofwyd yn cydymffurfio’n llwyr.
  • Roedd tua thraean o’r holl fethiannau a nodwyd (28 allan o 82) yn ymwneud â phroblemau o ran labelu. Er bod y rhan fwyaf o’r problemau yn gymharol ddibwys, roedd rhai problemau mwy difrifol lle’r oedd labeli cynhwysion, gan gynnwys gwybodaeth am alergenau, ar goll neu wedi’u cyflwyno’n anghywir ar y deunydd pecynnu.
  • Canfuwyd bod un rhan o bump o’r samplau bara a ddadansoddwyd ar gyfer llaeth a sesame (saith allan o 35) yn cynnwys alergenau heb eu datgan, a phob un ohonynt yn ymwneud â chynhyrchion a oedd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol. Ystyriwyd bod pump allan o 106 sampl o gynhyrchion figan (a brofwyd ar gyfer llaeth, wyau a physgnau) a chynhyrchion ‘rhydd rhag’ (a brofwyd ar gyfer llaeth, glwten a chnau) hefyd yn anfoddhaol oherwydd alergenau heb eu datgan neu broblemau o ran y labeli. O’r pedwar methiant, roedd un yn ymwneud â glwten heb ei ddatgan mewn cynnyrch ‘rhydd rhag’, ac roedd tri yn ymwneud â chynhyrchion figan a oedd yn cynnwys llaeth a physgnau heb eu datgan.
  • Archwiliwyd selsig a briwgig i ganfod yr union rywogaeth a oedd yn y sampl bwyd. Aseswyd cynnwys cig y selsig hefyd, yn ogystal â chynnwys braster, protein a cholagen y briwgig i wneud yn siŵr bod y rhain yn cyd-fynd â’r gwerth a nodwyd ar y pecynnau. Er mai dim ond un sampl allan o 80 oedd yn anfoddhaol o ran dilysrwydd (canfuwyd DNA defaid mewn selsigen borc), nid oedd 11 sampl yn bodloni’r lefelau a ddatganwyd ar y label: roedd chwech o bob 40 sampl selsig, er enghraifft, yn cynnwys llai o gig porc nag a ddatganwyd.
  • Roedd tri achos o ddiffyg cydymffurfio gan iogwrt, a brofwyd am y tro cyntaf ar gyfer problemau o ran cyfansoddiad (cynnwys protein llaeth, asid bensöig ac asid sorbig). Cafwyd canlyniadau a oedd mymryn yn well na’r flwyddyn flaenorol ar gyfer menyn a marjarîn (cynnwys braster llaeth). O ran oregano (dilysrwydd, mycotocsinau a metelau trwm), reis basmati (dilysrwydd), a llaeth (cynnwys braster), gwelwyd cyfraddau methiant tebyg i arolwg 2021/22, sy’n dangos bod heriau’n parhau gyda’r cynhyrchion hyn. Wrth ystyried caws (rhywogaethu a chynnwys braster), cynyddodd nifer yr achosion o ddiffyg cydymffurfio, a bu cynnydd nodedig hefyd yng nghyfraddau methiant olew olewydd yn erbyn y safonau a brofwyd – o 7% yn unig yn 2021 i 25% yn 2022. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o’r rhain yn ymwneud â mân anghysondebau o ran labelu, yn hytrach na chyfansoddiad y cynnyrch (er enghraifft, peidio â rhoi cyfarwyddiadau storio gorfodol).

Ffigur 45: Crynodeb o ganlyniadau samplu anfoddhaol fesul categori

Mae’r canlyniadau samplu mwyaf anfoddhaol yn gysylltiedig â bara, wedi’i ddilyn gan selsig, llaeth, olew olewydd ac oregano.

*Ychwanegwyd pum nwydd yn 2022/23 ac felly nid oes data ar gyfer y rhain yn 2021/22  er mwyn gwneud cymhariaeth.

Ffigur 46: Rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio ar draws yr holl samplau

Rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio: cyfansoddiad 35.4%, labelu 34.1%, alergenau 13.4%, dilysrwydd 13.4% a halogion 3.7%.

Rhaglen samplu halogion cemegol a chyfansoddol FSS ar gyfer 2021/22

Yr hyn a brofwyd

Fel rhan o’r rhaglen, profwyd briwgig eidion wedi’i becynnu ymlaen llaw, ceirch a bwydydd a diodydd sy’n cynnwys ceirch, a diodydd sy’n cynnwys cnau almon a chnau coco ar gyfer gwahanol broblemau o ran halogion cyfansoddol a chemegol. Yn ogystal, archwiliwyd amrywiaeth o gynhyrchion bwyd figan a bwyd ‘rhydd rhag’ ar gyfer presenoldeb alergenau heb eu datgan.

Prif ganlyniadau

  • Barnwyd bod wyth allan o 45 sampl (18%) o gynhyrchion briwgig eidion wedi’u  pecynnu ymlaen llaw yn anfoddhaol o ran dadansoddi cyfansoddol.
  • Canfuwyd mycotocsinau mewn sawl sampl o geirch a chynhyrchion sy’n cynnwys  ceirch, ond nid ar lefelau a fyddai’n peri unrhyw risg i iechyd y cyhoedd. Ni fethodd yr  un o’r samplau oherwydd lefelau anniogel o fetelau trwm.
  • Allan o 80 sampl o gynhyrchion figan a ‘rhydd rhag’, canfuwyd bod tri yn cynnwys alergenau heb eu datgan.
  • Ni chanfuwyd bod yr un o’r samplau o ddiodydd cnau almon yn cynnwys lefelau  anniogel o fycotocsinau neu fetelau trwm, ac roedd gan yr holl ddiodydd cnau coco a samplwyd lai na 10 µg/kg o 3-monocloropropan diol (3-MCPD), sef halogydd cemegol; mae hyn yn cynrychioli lefel sy’n sylweddol is na’r hyn a ystyrir yn risg i iechyd.  

Arolwg rhywogaethu cig a physgod Defra ar gyfer 2022

Yr hyn a brofwyd

Yn 2022, gwnaeth Defra ariannu ymarfer samplu dilysrwydd bwyd anffurfiol fel rhan o  weithgarwch samplu ehangach wedi’i gydlynu gan yr ASB i helpu i lywio rhaglenni samplu yn y dyfodol. Edrychodd yr ymarfer, a gynhaliwyd gan labordy preifat masnachol, ar bresenoldeb posib rhywogaethau heb eu datgan mewn 354 o gynhyrchion cig a physgod gwyn wedi’u prosesu i’w manwerthu a’u cyfanwerthu. 

Roedd y samplau’n deillio o un o dair ardal – y DU, yr UE a thu allan i’r UE – a chawsant eu prynu mewn gwahanol safleoedd wedi’u gwasgaru ar draws naw lleoliad daearyddol yn Lloegr. Tynnwyd sylw’r ASB a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd at unrhyw samplau o arolygon Defra nad oeddent yn cydymffurfio ar gyfer camau gweithredu dilynol. 

Canlyniadau

Dangosodd y canlyniadau cyffredinol mai 96% oedd lefel y gydymffurfiaeth â’r rheolau labelu o ran nodi rhywogaethau cig a physgod. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos lefelau tebyg o gydymffurfiaeth ar gyfer yr un arolwg a gynhaliwyd yn 2019.

Pedair elfen allweddol rhaglen samplu FSS

1. Profwyd briwgig eidion a chynhyrchion stêc wedi’u pecynnu ymlaen llaw ar gyfer lefelau braster a meinwe gysylltiol (a ddangosodd bresenoldeb deunydd heblaw’r cig cyhyrol). Mae’r gwaith profi hwn yn helpu i asesu cydymffurfiaeth â gofynion labelu deddfwriaethol yn ogystal â’r cynnydd a wnaed er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Pwyllgor Cyswllt Gorfodi Bwyd yr Alban (SFELC) ar safonau ansawdd ar gyfer briwgig eidion a briwgig stêc.

2. Cafodd samplau o geirch a chynhyrchion bwyd a diod sy’n cynnwys ceirch eu casglu a’u profi ar gyfer amrywiaeth o fycotocsinau a metelau trwm. Gall yr  halogion hyn fodoli yn naturiol mewn ceirch ac, os ydynt  yn bresennol mewn lefelau gormodol, gallant gael  effeithiau negyddol ar iechyd. 

3.  Cafodd cynhyrchion diodydd cnau almon eu casglu a’u profi ar gyfer mycotocsinau a metelau trwm, a chafodd diodydd cnau coco eu profi ar gyfer 3-MCPD ac esterau glycidyl eraill. Mae mycotocsinau yn docsinau sy’n digwydd yn naturiol a gynhyrchir gan lwydni a gellir eu canfod mewn cnau almon, ac mae 3-MCPD yn halogyn sy’n gallu digwydd mewn rhai bwydydd wrth eu prosesu. Gall y ddau fod yn niweidiol os cânt eu bwyta i ormodedd. 

4. Cafodd samplau o bum grŵp bwyd – cynnyrch figan a heb laeth, prydau heb laeth, grawnfwyd heb glwten, bariau grawnfwyd a chacennau, a phrydau heb gnau – eu casglu a’u profi ar gyfer presenoldeb alergenau heb eu datgan i brofi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth labelu.

Casgliadau

Yn gyffredinol, yn y meysydd a dargedwyd, nid oes unrhyw wahaniaeth ystadegol yn lefel y canlyniadau nad ydynt yn cydymffurfio o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda busnesau mawr yn mwynhau lefel uwch o ganlyniadau boddhaol na busnesau bwyd llai. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyder bod safonau bwyd yn cael eu cynnal, yn enwedig o ystyried bod y gwaith samplu wedi’i lywio gan wybodaeth ac wedi’i dargedu at feysydd risg uchel.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn datgelu rhai materion diogelwch cyhoeddus a allai fod yn ddifrifol yn ymwneud â datgan alergenau, gan atgyfnerthu’r angen parhaus am wiriadau rheolaidd gan awdurdodau lleol a busnesau fel rhan o waith profi a gorfodi arferol. O ran y gwaith samplu briwgig a selsig a ariennir gan FSS i asesu ansawdd y cynnyrch a brynir gan ddefnyddwyr, dangosodd hyn hefyd nifer sylweddol o ganlyniadau anfoddhaol. 

Er bod ein rhaglenni samplu’n darparu mewnwelediad defnyddiol, maent yn neilltuo adnoddau cyfyngedig i dargedu risgiau a nwyddau penodol yn system fwyd y DU ac nid ydynt yn rhaglenni samplu cynhwysfawr, cyflawn. Byddai angen buddsoddi mewn gwyliadwriaeth ehangach i roi gwell sylw i system fwyd y DU.

Profion gwlad tarddiad

Ni chynhaliwyd unrhyw brofion gwlad tarddiad yn yr arolygon hyn. Er bod y profion hyn yn cael eu cynnig yn fasnachol ac yn gallu rhoi mewnwelediad amodol i bryderon dilysrwydd yn y maes hwn, mae heriau o ran cyflawni canlyniad pendant, ac mae’n debygol y bydd angen dilysu unrhyw ganlyniadau anghyson drwy lwybrau eraill. Mae diddordeb defnyddwyr yn parhau i fod yn uchel yn y maes hwn o wyliadwriaeth a samplu, ac mae’r ASB yn gweithio mewn partneriaeth â Defra i adolygu profion gwlad tarddiad ac i asesu dichonoldeb dulliau i’w defnyddio wrth ymgymryd â gwaith gorfodi.  

Astudiaeth Achos: Deall heriau dilysrwydd: mêl

Mae mêl yn gymysgedd cymhleth, naturiol o wahanol siwgrau sy’n cael eu cynhyrchu’n gyfan gwbl gan wenyn. Er nad oes tystiolaeth bod unrhyw fêl ar werth yn y DU yn anniogel, mae’n gynnyrch y gellid ei newid neu ei ddifwyno’n anghyfreithlon drwy ychwanegu siwgr heb ei ddatgan. Nid oes un dull profi unigol sy’n gallu cadarnhau dilysrwydd mêl. 

Mae hyn wedi arwain at honiadau o dwyll mêl, ac mae adroddiad diweddar gan yr UE wedi tynnu sylw at bryderon sy’n gysylltiedig â difwyno â suropau siwgr, yn seiliedig ar y canlyniadau ‘amheus’ a adroddwyd mewn perthynas â’r gwaith samplu cydgysylltiedig o fêl wedi’i fewnforio a gynhaliwyd gan aelod-wladwriaethau. Gwnaeth yr adroddiad hwn hefyd amlygu cyfyngiadau dulliau labordy, os cânt eu defnyddio ar eu pennau eu hunain, i brofi difwyno a’r angen am ddulliau profi gwell, wedi’u cysoni, a dderbynnir yn eang i gadarnhau dilysrwydd y samplau. Mae ymchwiliadau pellach ar y gweill gan y gwledydd sy’n mewnforio, a hynny i gymryd camau dilynol ar sail y canlyniadau a nodwyd yn rhai ‘amheus’. Mae Defra wedi sefydlu grŵp mêl arbenigol annibynnol yn y DU i roi cyngor ar gasgliadau adroddiad yr UE yn seiliedig ar y dadansoddiad gwyddonol a gynhaliwyd a’r dehongliad o’r dull a ddefnyddiwyd i bennu canlyniadau’r sampl. 

Mae gan yr ASB, FSS a Defra raglen waith sylweddol wedi’i neilltuo i fêl. Ei nod yw ymgysylltu a gweithio gyda’r gymuned fêl, gan gynnwys ymchwilwyr, swyddogion gorfodi, y diwydiant a chyrff rhyngwladol i ddiogelu’r nwydd pwysig hwn. Mae’r rhaglen waith yn cymryd camau i wella’r dulliau profi dilysrwydd cyfredol, gan weithio gydag arbenigwyr yn y DU i ddatrys y broblem heriol hon. Drwy’r datblygiadau hyn – sy’n cynnwys datblygu technoleg well, safoni a dilysu dulliau profi, gwella dealltwriaeth o bwysigrwydd defnyddio tystiolaeth ac arferion gorfodi da – bydd gennym gyfres well o offer i sicrhau dilysrwydd mêl sydd ar werth yn y DU.

Golwg manwl 3: Troseddau bwyd

Cyflwyniad

Fel yr ydym eisoes wedi gweld, mae gwaith samplu’n gallu helpu’r asiantaethau safonau bwyd cenedlaethol i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ymateb i broblemau cydnabyddedig o ran diogelwch a dilysrwydd y gellir eu datrys wedyn gyda’r busnesau dan sylw. Fodd bynnag, samplu gwyliadwriaeth yw un o’r ffyrdd y gallwn ganfod enghreifftiau mwy drygionus o gamymddwyn, ac mae’n chwarae rhan bwysig wrth ein galluogi i ganfod ac ymateb i arwyddion o droseddoldeb yn ein system fwyd. 

Diffinnir troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd, gan gynnwys diodydd ac anifeiliaid. Mae’n amrywio o ddwyn, difwyno neu gamgyfleu cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid i brosesu a gwaredu bwyd, diod a bwyd anifeiliaid yn anghyfreithlon yn ystod ac ar ôl cynhyrchu. Yn aml, mae troseddwyr yn gwneud ymdrech fwriadol i gadw’r gweithgarwch hwn yn gudd, a dyna un o’r rhesymau pam na sylwir ar gynifer o achosion o droseddau bwyd a pham na adroddir amdanynt. Fodd bynnag, fel y canfu adroddiad academaidd diweddar a gomisiynwyd gan yr ASB, gallai troseddau bwyd gostio cymaint â £2 biliwn y flwyddyn i economi a chymdeithas y DU ac effeithio ar ddefnyddwyr, busnesau a rheoleiddwyr fel ei gilydd.

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd  yr Alban (SFCIU) yn gweithio gyda’r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod, manwerthwyr  bwyd ac awdurdodau lleol i nodi troseddau bwyd, ymchwilio iddynt, tarfu arnynt a’u hatal. Mae’r ddwy uned yn diogelu defnyddwyr a busnesau cyfreithlon trwy gynnal ymchwiliadau sy’n seiliedig ar gudd-wybodaeth, gan ysgogi erlyniadau troseddol, asesu a chyfathrebu bygythiadau, a gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, y llywodraeth, adrannau gorfodi’r gyfraith a’r diwydiant i atal troseddau bwyd.

Ar beth y gwnaeth yr unedau troseddau bwyd ganolbwyntio yn 2022?

Gwnaeth y ddwy uned troseddau bwyd osod blaenoriaethau a ddisgrifir yn eu Strategaethau Rheoli priodol. Mae’r rhain yn seiliedig ar eu dadansoddiad o’r cyfleoedd ar gyfer ymddygiad troseddol neu ar wendidau hysbys yn y gadwyn fwyd. Er bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu cydbwyso yn erbyn angen ehangach i fod yn wyliadwrus am fygythiadau troseddau bwyd eraill sy’n dod i’r amlwg, maent yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer y gudd-wybodaeth y mae’r unedau troseddau bwyd yn ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y diwydiant bwyd, awdurdodau lleol a’r cyhoedd. Yn wir, o’r 1,814 o adroddiadau cudd-wybodaeth am droseddau bwyd a ddaeth i law yn ystod 2022 – sef gwybodaeth sy’n ymwneud â throsedd bwyd newydd neu drosedd a nodwyd eisoes – roedd tua dwy ran o dair (65%) yn ymwneud â’r blaenoriaethau strategol hyn.

Ymchwiliadau byw

Unwaith y caiff cudd-wybodaeth ei derbyn a’i hasesu, os oes amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i gyflawni, gall yr unedau agor ymchwiliad neu ei gyfeirio at asiantaethau eraill sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith.

Arweiniwyd cyfanswm o 35 o ymchwiliadau byw gan ddwy uned troseddau bwyd y DU yn ystod 2022. Fel y gwelir yn ffigur 47, aethant i’r afael ag amrediad eang o fygythiadau, gan gynnwys y rheiny a oedd yn ymwneud â’r canlynol:

  • y sector cig coch – fel ffugio o ble y mae’r cig wedi dod 
  • rhoi cynhyrchion, na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl  (er enghraifft sgil-gynhyrchion anifeiliaid), yn ôl yn y gadwyn fwyd
  • mynd ar drywydd cyflenwyr cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd  ond sy’n cael eu gwerthu fel bwyd 

Yn sgil ymchwiliadau i dwyll difrifol a gynhaliwyd yn 2022, mae achosion troseddol cymhleth yn mynd drwy’r system gyfiawnder. Ar hyn o bryd, mae dau achos sy’n ymwneud â dargyfeirio sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynllwynio i ddwyn eitemau bwyd gwerth uchel trwy ddynwared busnesau cyfreithlon, ynghyd â chyhuddiad cysylltiedig o dan Ddeddf Elw Troseddau 2002, yn aros am dreial.

Yn yr Alban, gwnaeth ymchwiliadau SFCIU ganolbwyntio ar dwyll a amheuir mewn perthynas ag alcohol ffug, olrheiniadwyedd a materion o ran difwyno yn y gadwyn cyflenwi cig, a lladd anghyfreithlon mewn safleoedd heb eu cymeradwyo, gyda nifer o ymchwiliadau’n mynd rhagddynt yn yr un modd drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Fel y gwelir yn ffigur 47, mae ffocws y gwaith ymchwiliol a gynhaliwyd yn 2022 yn dangos bod cyfran sylweddol o’r ymchwiliadau i droseddau bwyd yn ymwneud â chig a chynhyrchion cig, er bod ein hymchwiliadau’n parhau i gwmpasu amrywiaeth o nwyddau. 

Er na ddylem o reidrwydd ddod i unrhyw gasgliadau o hyn am y rhagdueddiad i droseddau bwyd ar draws y mathau hyn o fwydydd, mae hyn yn dangos lle mae ein hymchwilwyr yn canolbwyntio eu hamser ac adnoddau.

Ffigur 47: Y meysydd ffocws allweddol ar gyfer ymchwiliadau i droseddau bwyd yn 2022

Y meysydd ffocws allweddol Nifer yr ymchwiliadau byw
Cig a chynhyrchion cig 10
Arall 8
Alcohol 6
Cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwydydd 4
Gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid 3
Melysion 2
Pysgod a bwyd môr 2

Tarfu ar droseddau bwyd

Mae’r NFCU ac SFCIU yn gweithio gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi eraill i darfu ar ymddygiadau troseddol neu eu hatal. Mae ‘tarfiadau’ yn cael eu cofnodi pan fydd ymyriad yn cael effaith uniongyrchol ar droseddau bwyd, fel grŵp troseddol yn cael ei atal rhag gweithredu yn y ffordd arferol, er enghraifft trwy atafaelu asedau troseddol neu dynnu gwefannau sy’n marchnata cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd yn anghyfreithlon.

Cyflawnwyd cyfanswm o 102 o darfiadau ar draws yr unedau yn ystod 2022. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd y mwyafrif (64%) o darfiadau’r NFCU yn ymwneud  â chamau a gymerwyd yn erbyn cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd a oedd yn cael eu marchnata i’w bwyta gan bobl. Roedd hyn yn cynnwys dileu neu atal gwefannau a oedd yn cynnig gwerthu’r cemegyn gwenwynig 2,4-Dinitroffenol (DNP) wedi’i farchnata’n anghyfreithlon fel llosgwr braster. 

Cyfrifoldebau newydd ar gyfer mynd i’r afael â gwerthu DNP yn anghyfreithlon

O 1 Hydref 2023 ymlaen, yr heddlu fydd yn gyfrifol am droseddau sy’n ymwneud â DNP, gan gynnwys gwerthiannau anghyfreithlon, trwy orfodi Deddf Gwenwynau 1972. Bydd hyn fel rhan o ddull cyfannol ar draws y llywodraeth tuag at fynd i’r afael â gwerthu a defnyddio’r sylwedd, a bydd yr NFCU yn gweithio i sicrhau bod y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo’n esmwyth ac i sicrhau parhad o ran ffocws. 

Gwnaeth y ddwy uned troseddau bwyd hefyd darfu ar weithgarwch troseddol yn y sector cig coch ac atal sgil-gynhyrchion anifeiliaid rhag cael eu dargyfeirio i’r gadwyn fwyd trwy weithgareddau gweithredol, fel ymweliadau gorfodi cydgysylltiedig â phroseswyr  a chynhyrchwyr. 

Yn yr Alban, roedd mwy na thraean (35%) o’r tarfiadau a arweiniwyd gan SFCIU  yn canolbwyntio yn yr un modd ar gamymddwyn a throseddoldeb yn ymwneud â chig a chynhyrchion cig. Cymerodd SFCIU gamau yn erbyn gweithgarwch twyllodrus yn ymwneud â the, melysion a mêl, a gwnaeth gyfres o ymweliadau dirybudd â lleoliadau trwyddedig amrywiol i wirio am gynhyrchion ffug, cefnogi busnesau cyfrifol ac atal unrhyw weithgarwch troseddol posib yn y dyfodol.

Ymgymerodd y ddwy uned hefyd â gwaith targededig gyda busnesau i gyfyngu ar gyfleoedd  ar gyfer twyll bwyd trwy bolisïau, gweithdrefnau a rheolaethau gwell.

Ffigur 48: Y meysydd ffocws allweddol ar gyfer gwaith tarfu a gyflawnwyd gan unedau troseddau bwyd yn 2022

 

Y meysydd ffocws allweddol Nifer yr achosion o darfu
Cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwydydd 48
Cig a chynhyrchion cig 25
Arall 19
Gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid 5
Pysgod a bwyd môr 3
Alcohol 2

Ciplun o ymchwiliadau troseddau bwyd mawr yn 2022

Ymgyrch HAWK

Ymgyrch HAWK yw’r enw ar ymchwiliad troseddol parhaus i amheuaeth o dwyll cig. Dechreuodd yr NFCU ymchwiliad i honiadau o dwyll bwyd yn ymwneud â gwlad tarddiad cynhyrchion cig wedi’u coginio a gyflenwyd gan fusnes bwyd ym mis Awst 2021, a dechreuodd atafaelu tystiolaeth yn fuan wedyn. Tynnwyd cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt oddi ar y silffoedd ar unwaith. Camgyfleu yw prif ganolbwynt Ymgyrch HAWK. Nid yw materion diogelwch bwyd byw yn rhan o’r ymchwiliad, ond ymchwiliwyd i bryderon diogelwch bwyd hanesyddol a rhoddwyd sylw iddynt.

Ymgyrch PEARL 

Gwnaeth yr NFCU gynorthwyo Cyngor Dosbarth Chichester wrth iddo fynd i’r afael ag achosion o gynaeafu pysgod cregyn o welyau a oedd wedi’u dosbarthu’n anniogel i’w bwyta gan bobl. Caiff gwelyau pysgod cregyn eu dosbarthu yn unol â lefelau’r E. coli a ganfyddir mewn cnawd pysgod cregyn. Yn yr achos hwn, roedd y cynaeafwyr yn hel o ardaloedd gwaharddedig lle’r oedd lefelau uchel o E. coli yn gwneud y gwelyau’n anniogel i bobl eu bwyta. Gwnaeth yr ymgyrch hwn atafaelu a dinistrio cynhyrchion a gynaeafwyd yn anghyfreithlon a chymryd camau gorfodi yn erbyn y cynaeafwyr a’r busnes a oedd yn derbyn y cynnyrch. Mae hyn wedi helpu i atal troseddu yn yr ardal hon, gyda llai o adroddiadau am gynaeafwyr anghyfreithlon.

Ymgyrch MOONRAKER

Dan arweiniad Cyngor Swydd Wiltshire, a chyda chefnogaeth yr NFCU, gwnaeth Ymgyrch MOONRAKER ymchwilio i sawl ffatri torri cig anghyfreithlon a oedd yn gweithredu mewn safleoedd golchi ceir. Roedd y cig yn cael ei dorri mewn safleoedd heb eu cymeradwyo, gan achosi risgiau iechyd sylweddol i ddefnyddwyr. Yn 2021, llwyddodd yr NFCU i gynorthwyo Cyngor Swydd Wiltshire mewn achosion troseddol a arweiniodd at ddedfryd carchar o 10 mis i’r troseddwr. 

Yn ystod 2022, rhoddwyd gorchymyn atafaelu gwerth £154,000 i’r NFCU yn erbyn y troseddwr – roedd hyn yn cynnwys atafaelu asedau sylweddoladwy gwerth £3,500. Mae gorchmynion atafaelu’n ychwanegu haen ychwanegol o ganlyniadau y tu hwnt i ganlyniadau cyfiawnder troseddol safonol i droseddwyr, gan gynyddu’r effaith ataliol.

Ymgyrch OPSON

Gwnaeth yr NFCU ac SFCIU gymryd rhan yn Ymgyrch OPSON, sef menter ryngwladol a gydlynwyd gan Europol ac INTERPOL i fynd i’r afael ag achosion o werthu cynhyrchion bwyd a diod ffug ac is-safonol. Gwnaeth yr NFCU ac SFCIU gynorthwyo a chydlynu partneriaid, yn enwedig awdurdodau lleol, i gwblhau dros 400 o wiriadau ledled y DU yn ystod 2022. Roedd hyn yn cynnwys 300 o wiriadau o gadwyni cyflenwi pysgod a bwyd môr, a dynnodd sylw at nifer o fân doriadau, a thros 100 o wiriadau ar gynhyrchion alcohol, a ganfu nad oedd rhai gwirodydd jin a fodca a gynhyrchwyd mewn sypiau bach yn cyd-fynd â’r lefelau cynnwys alcohol a hysbysebwyd. 

Ymgyrch SLAINS

Yn yr achos cyntaf o’i fath i fod yn destun erlyniad yn yr Alban, plediodd dyn yn euog o gyflenwi’r cyhoedd yn feius ac yn ddiofal â’r cemegyn gwenwynig 2,4-Dinitroffenol (DNP) i’w fwyta gan bobl. Mae’n aml yn cael ei farchnata fel llosgwr braster ac, ers 2007, mae 33 o bobl wedi marw yn y DU drwy lyncu DNP. Profodd yr ymchwiliad ar y cyd a arweiniwyd gan SFCIU rhwng Cyngor Falkirk a Heddlu’r Alban, a gwblhawyd yn 2022, fod yr unigolyn rhwng mis Mai 2017 a mis Hydref 2021 wedi cyflenwi cwsmeriaid yn y DU ac yn fyd-eang – yn UDA, Asia ac Awstralia – â symiau sylweddol o DNP er budd ariannol sylweddol. Wedi hynny, cafodd ei ddedfrydu i 37 mis yn y carchar. Gwnaeth amgylchiadau’r achos hwn helpu i lywio adolygiad gan y Swyddfa Gartref ar DNP, gan arwain at ei restru’n gyffur dosbarthedig o dan Ddeddf Gwenwynau 1972.

Ymweliadau â safleoedd trwyddedig yn yr Alban

Ym mis Hydref 2022, fel rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â thwyll yn y gadwyn cyflenwi alcohol, gwnaeth SFCIU ynghyd â phartneriaid gydlynu 43 o ymweliadau dirybudd â safleoedd trwyddedig yn Glasgow. Cyflawnwyd y rhain dros gyfnod o ddeuddydd i wirio dilysrwydd brandiau penodol a oedd yn cael eu gwerthu, cefnogi busnesau cyfrifol a chyflwyno neges atal i’r rhai a oedd yn gwerthu brandiau ffug yn fwriadol. Ni nodwyd unrhyw broblemau, ac ymatebodd y busnesau’n gadarnhaol i’r ymweliadau. 

A wnaeth troseddau bwyd gynyddu yn 2022?

Bydd troseddwyr bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud elw, ac yn aml gall y cyfleoedd hynny ddeillio o amodau economaidd ehangach. Cododd amodau arbennig o ffafriol yn 2022: oherwydd chwyddiant prisiau, yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig COVID-19, digwyddiadau hinsawdd eithafol, ac effaith y gwrthdaro yn Wcráin ar gadwyni cyflenwi,  agorwyd llwybrau newydd ar gyfer ymddygiad troseddol a chynyddodd y cymhellion  i gyflawni troseddau bwyd. 

Fodd bynnag, er bod rhai arwyddion achosion o ddiffyg cydymffurfio rheoleiddiol yn sgil pwysau costau, nid ydym wedi canfod unrhyw dystiolaeth o’n rhaglenni samplu, ein gwyliadwriaeth na’n cudd-wybodaeth fod newid mawr wedi bod yn nifer neu batrwm yr achosion o dwyll bwyd difrifol yn ystod 2022.

Ategir y canfyddiad hwn gan ddata ar ddilysrwydd a rennir gan y diwydiant bwyd ei hun trwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd (FIIN). Fodd bynnag, mae’r data hwn yn gogwyddo tuag at fusnesau mwy sy’n debygol o gael eu diogelu’n well rhag dylanwadau troseddol yn eu cadwyn gyflenwi. 

Wedi dweud hynny, mae’r ASB ac FSS yn parhau i fod yn ymwybodol iawn o’r risgiau  uwch a gyflwynir gan yr amgylchedd economaidd a geowleidyddol ac yn parhau i gynnwys  hyn yng ngwaith yr unedau troseddau bwyd.

I grynhoi

Mae’r data sydd ar gael ar ddigwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid yn rhoi darlun cymharol sefydlog ar gyfer 2022. Ni fu unrhyw newidiadau ystyrlon yn nifer cyffredinol y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid yr adroddwyd amdanynt, nac yn nifer y rhybuddion a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS. Er bod achosion o STEC O157 wedi codi i’w lefelau uchaf ers 2015 oherwydd brigiad sylweddol o achosion yn ystod haf 2022, mae cyfraddau clefydau eraill a gludir gan fwyd wedi dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig.

Mae’r rhaglenni samplu bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd y llynedd yn dangos bod cynhyrchion o fusnesau bwyd mawr yn cyflawni cyfraddau cydymffurfio uchel iawn ar draws ystod o wiriadau dilysrwydd a diogelwch. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen mwy o waith i helpu busnesau bwyd llai i wella eu lefelau cydymffurfio, a bod angen cymryd camau pellach i fynd i’r afael â methiannau penodol ar draws mathau penodol o gynnyrch, yn enwedig o ran diffyg cydymffurfio wrth reoli alergenau. Mae astudiaethau FSS a Defra hefyd yn dangos pwysigrwydd gwyliadwriaeth barhaus ar gyfer cynhyrchion cig i sicrhau bod safonau dilysrwydd a chyfansoddiad yn cael eu bodloni. Bydd gwybodaeth a gasglwyd o arolygon 2022 yn helpu i lywio’r gwaith samplu sydd i ddod yng ngweithgareddau gwyliadwriaeth 2023/24.

Gwnaeth ein hunedau cenedlaethol troseddau bwyd gynnal ymchwiliadau mawr ledled y DU yn ystod 2022, gan arwain at erlyniadau proffil uchel. Gwnaethant hefyd gyflawni amrediad o gamau gweithredu targededig i darfu ar weithgarwch troseddol. Fodd bynnag, mae ein system fwyd yn parhau i fod yn darged i droseddwyr, yn enwedig yng ngoleuni’r amgylchedd economaidd heriol a’r tarfu ar gadwyni bwyd a achosir gan ddigwyddiadau byd-eang. Er nad ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi golygu mwy o weithgarwch troseddol yn ystod 2022, mae ein hunedau troseddau bwyd yn parhau i weithio’n agos gyda heddluoedd lleol, adrannau safonau masnach ac eraill i ddiogelu defnyddwyr a busnesau a chymryd camau effeithiol yn erbyn troseddwyr.