Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Ein Bwyd 2022: Safbwynt byd-eang

Mae'r bennod hon yn edrych ar ble y cawsom ein bwyd a'n bwyd anifeiliaid yn 2022, a pha effaith y gallai'r tarfu ar y system fwyd fod wedi'i chael ar safonau bwyd.

Safonau bwyd a bwyd anifeiliaid a gaiff eu mewnforio 

Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Ein patrwm o ran mewnforion bwyd a sut y newidiodd hyn yn ystod 2022 
  • Diogelwch ein mewnforion yn seiliedig ar ddata a gesglir ar y ffin 
  • Cytundebau masnach rydd wrth i’r DU ddatblygu  partneriaethau masnachu ffurfiol newydd

Cyflwyniad 

Mae bwyd yn fusnes byd-eang. Mae rhwydweithiau masnachu soffistigedig yn cefnogi’r ystod eang o gynnyrch ffres sydd ar gael yn ein siopau, ac yn rhoi mynediad fforddiadwy i gwmnïoedd at nwyddau crai – gan gynnwys grawn, olew coginio, siwgr a halen – sy’n angenrheidiol i weithgynhyrchu nwyddau. 

Eto, gyda mwy na dwy ran o bump (42%)[16] o’n bwyd yn dod o dramor, gall unrhyw darfu ar fewnforion arwain at ganlyniadau difrifol i ddefnyddwyr a’r busnesau sy’n dibynnu ar fynediad sefydlog at gyflenwadau bwyd byd-eang. Yn yr un modd, mae’n rhaid i bartneriaid masnachu’r DU fod â hyder yn y bwyd rydym yn ei allforio, gan gynnwys y cynhwysion y gallem fod wedi’u mewnforio at ddibenion cynhyrchu bwyd yn y DU. Felly, mae cynnal diogelwch a safonau’r bwydydd a gaiff eu mewnforio yn hynod bwysig. 

Mae’r bennod hon yn trafod o ble daeth ein bwyd a bwyd anifeiliaid y DU yn 2022, a pha effaith y gallai’r tarfu ar y system fwyd fod wedi’i chael ar safonau bwyd. Mae’n nodi pa wiriadau y mae rheoleiddwyr wedi’u cynnal ar fwyd a fewnforir, yr hyn y maent wedi’i ganfod, a pha fesurau diogelu newydd a roddwyd ar waith o ganlyniad i ymadael â’r UE. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y gall ein data rheoli ar y ffin ei ddweud wrthym ynghylch a yw diogelwch a dilysrwydd cyffredinol ein bwyd a fewnforir yn cael eu cynnal. 

Tirwedd mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n newid

Yn 2022, roedd mewnforion wedi parhau i fod yn bwysig i sector bwyd y DU, wrth i lefelau ddychwelyd i’r niferoedd cyn y pandemig. Daeth cyfanswm o 218 miliwn yn fwy o dunelli o fwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir i’r wlad yn ystod 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (sef cynnydd o 5.6%), gyda’n mewnforion felly’n dychwelyd i’r lefelau cyfartalog a welwyd dros y saith mlynedd blaenorol (ffigurau 13 a 14)[17].

Ffigur 13: Cyfanswm mewnforion y DU o’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid, 2014-2022 

Cofnodwyd y cyfeintiau mewnforio uchaf yn 2018, 2019 a 2020. Yn 2022, cofnodwyd 41,427,528 o fewnforion.

Ffigur 14: Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm cyfaint mewnforion y DU

-9% o gyfanswm cyfeintiau mewnforion a gofnodwyd yn y DU yn 2021 a 5.6% yn 2022.

Rydym hefyd yn parhau i gael y rhan fwyaf o’n bwyd a’n bwyd anifeiliaid o nifer o’r un gwledydd â chyn y pandemig. Ychydig iawn o newid a fu yn y 10 prif wlad y mae’r DU yn mewnforio ohonynt (ffigur 15), a’r unig eithriad yw rhywfaint o amrywiad mewn masnach â phartneriaid  yn Ne America. 

Fodd bynnag, ceir mwy o anwadalrwydd (volatility) ymhellach i lawr y rhestr. Mae ffigur 16 yn dangos bod y rhyfel yn Wcráin wedi gwrthdroi’n gyfan gwbl, bron, y cynnydd mewn mewnforion o Rwsia ac Wcráin a welwyd ers 2014. Ynghyd â llai o fewnforion o Latfia a Lithwania, mewnforiodd y DU tua miliwn tunnell yn llai o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid o’r pedair gwlad hyn yn 2022 o gymharu â 2021. 

Ffigur 15: Y 10 gwlad â’r cyfeintiau mewnforio uchaf ar gyfer 2022

Enw Gwlad Cyfaint y mewnforion yn 2022 (miliwn kg) Newid o flwyddyn i flwyddyn Safle 2022* Gwahaniaeth yn y safle
Yr Iseldiroedd**

5,521

33% 1 (1) Dim newid
Ffrainc 3,769 26% 2 (3) +1
Iwerddon 3,349 -3% 3 (2) -1
Gwlad Belg 2,875 24% 4 (5) +1
Sbaen 2,467 -3% 5 (4) -1
Yr Almaen 2,077 -1% 6 (6) Dim newid
Yr Eidal 2,038 -1% 7 (8) +1
Brasil 1,784 65% 8 (13) +5
Gwlad Pwyl 1,617 2% 9 (9) Dim newid
Yr Ariannin 1,523 -26% 10 (7) -3

* Mae safle 2021 mewn cromfachau. 

** Mae mewnforion o’r Iseldiroedd yn adlewyrchu effaith Rotterdam  fel canolbwynt byd-eang ar gyfer cludo nwyddau.

Ffigur 16: Newidiadau mewn gwerthoedd mewnforio ar draws gwledydd dethol

Enw’r wlad (safle) Cyfaint y mewnforion yn 2021 (miliwn kg) Cyfaint y mewnforion yn 2022 (miliwn kg) Newid canrannol yn y cyfaint o 2021 i 2022 Twf mewn mewnforion cyn y rhyfel (2014 i 2021)
Bwlgaria (46) 70 119 70% 120%
Estonia (62) 133 44 -67% 84%
Latfia (35) 296 169 -43% 41%
Lithwania (30) 347 248 -29% 96%
Romania (19) 102 451 340% 8%
Rwsia (55) 173 70 -60% 16%
Twrci (16) 555 562 1% 49%
Wcráin 1,175 474 -60% 87%
         

Mewn cyferbyniad, bu cynnydd sydyn mewn mewnforion o wledydd eraill De-ddwyrain Ewrop, er o sylfaen is, gan gynnwys cynnydd o 340% mewn cyfeintiau mewnforio o Rwmania a chynnydd o 70% mewn cyfeintiau mewnforio o Fwlgaria o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae Rwmania felly wedi codi o fod yn safle 48 ar y rhestr o’r gwledydd a fewnforiodd fwyaf yn 2021 i fod yn un o 20 o brif gyflenwyr bwyd y DU yn 2022 (safle 19 ar y rhestr ar hyn o bryd) (ffigur 16). Mae’n arferol gweld rhywfaint o anwadalrwydd yn llif nwyddau i’r DU wrth i fewnforwyr ymateb i amodau cyfnewidiol y farchnad.

Newidiadau mewn nwyddau

Mae ein data ar fewnforion bwyd wedi’i rannu yn ôl tri phrif fath o nwydd: Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO), sy’n cynnwys cig, wyau, pysgod a chynhyrchion llaeth; Bwyd nad yw’n Dod o Anifeiliaid (FNAO), sy’n cynnwys diodydd, grawnfwydydd, llysiau a ffrwythau; a Bwyd Anifeiliaid. Yn gyffredinol, rydym yn priodoli lefel uwch o risg diogelwch bwyd i POAO,  er bod FNAO yn peri risgiau hefyd, fel afflatocsinau mewn cnau (gweler isod, t.51) 

Mae ffigur 17 yn dangos cyfanswm y mewnforion yn 2022 wedi’u rhannu yn ôl y categorïau hyn. Mae’n dangos bod FNAO yn cyfrif am y rhan fwyaf o’n mewnforion bwyd yn ôl pwysau, tra bod POAO a mewnforion bwyd anifeiliaid yn debyg i’w gilydd yn ôl pwysau. Rydym yn mewnforio cyfran uwch o POAO na FNAO neu fwyd anifeiliaid o’r UE, er bod yr UE yn darparu mwy na hanner o bob grŵp.

Ffigur 17: Cyfanswm cyfaint mewnforion wedi’i rannu yn ôl y prif gategorïau POAO,  FNAO a Bwyd Anifeiliaid

Categori mewnforio  Cyfanswm yn 2022 (tunelli) Newid  yn y cyfaint 2019-2022 Newid  yn y cyfaint 2021-2022  Cyfran yr  UE 2022
Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) 7,000,000 -5% 10% 80%
Bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid (FNAO) 29,000,000 -1% 7% 64%
Bwyd anifeiliaid 6,000,000 -13% -7% 51%
Cyfanswm 42,000,000 -4% 6% 65%

Nodyn: Mae’r tabl uchod yn cyfeirio at ddau gyfnod er mwyn dangos newid cymharol yn erbyn yr hyn y gellid ei ystyried yn gyfnod mwy sefydlog (2019), ac yna newid o flwyddyn i flwyddyn (2021) yn sgil effeithiau ymadael â’r UE a’r pandemig.

Pa mor ddiogel yw bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir?

Rhaid i’r bwyd rydyn ni’n ei fewnforio fod yn ddiogel. Dyma un o’r rhesymau pam mae’n hollbwysig cynnal rheolaethau effeithiol ar y ffin ar gyfer yr holl fwydydd a gaiff eu mewnforio, gan gynnwys y cynhyrchion sy’n dod o aelod-wladwriaethau’r UE. Fel yr ydym wedi gweld, mae’r UE yn dal i ddarparu dwy ran o dair o’r holl fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid, ac 80% o’r holl gig a chynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid (ffigur 17).

Mae’r holl gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir o’r tu allan i’r UE yn destun cyfres o wiriadau i sicrhau eu bod yn ddiogel. Mae’r math o wiriadau yn dibynnu ar y math o gynnyrch a lefel y risg bosib i iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a phlanhigion. 

Ar hyn o bryd, mae’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod o anifeiliaid sy’n dod o’r tu allan i’r UE yn destun gwiriadau dogfennol (sy’n cadarnhau bod dogfennau priodol yn cael eu darparu) a gwiriadau adnabod (sy’n cadarnhau bod y cynnyrch yn cyd-fynd â’r ddogfennaeth). Cynhelir gwiriadau ffisegol ychwanegol ar hap, a hynny ar ganran a bennir ymlaen llaw. 

Yn gyffredinol, ystyrir bod bwydydd FNAO yn peri risg isel. Pan nodir risgiau penodol – er enghraifft, os yw samplu yn nodi risg annodweddiadol o wlad benodol neu mewn perthynas â nwydd penodol y mae angen gosod rheolaethau ychwanegol arno – caiff y nwyddau dan sylw eu dosbarthu fel risg uchel a byddant yn destun rheolaethau priodol. 

O dan y trefniadau gweithredu presennol ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir i Ogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau’r UE. O hydref 2023 ymlaen, bydd Fframwaith Windsor yn caniatáu i safonau Prydain Fawr ar gyfer iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a deunyddiau organig wneud cais am symud nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw trwy gynllun symud nwyddau manwerthu newydd Gogledd Iwerddon a’u gosod ar y farchnad yno. Felly, bydd nwyddau sy’n symud drwy’r llwybr hwn sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n destun rheolaethau mewnforio ym Mhrydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad Gogledd Iwerddon. 

Mae ffigur 18 yn dangos bod y mwyafrif helaeth o nwyddau nad ydynt yn dod o’r UE yn cydymffurfio ar draws y tri gwiriad hyn (dogfennol, adnabod a ffisegol), heb unrhyw newidiadau amlwg yn erbyn y mesurau hyn. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r risg i ddefnyddwyr o lwythi nad ydynt yn cydymffurfio o wledydd y tu allan i’r UE wedi cynyddu. 

Mae’r sefyllfa’n llai eglur ar gyfer cynhyrchion sy’n dod i mewn o aelod-wladwriaethau’r UE. Hyd nes y bydd y rheolaethau mewnforio newydd a ddiffinnir gan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau yn cael eu cyflwyno’n raddol, nid yw rheolaethau’r ffin yn gymwys i gynhyrchion sy’n tarddu o’r UE sy’n dod i mewn i’r DU. Er hyn, cyflwynwyd gofyniad newydd i fewnforwyr roi gwybod i awdurdodau’r ffin ymlaen llaw am lwythi o nwyddau risg uchel (o holl wledydd yr UE ac eithrio Iwerddon) ar 1 Ionawr 2022. 

Ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, felly, nid oedd unrhyw reolaethau mewnforio yn cael eu cymhwyso’n rheolaidd ar y ffin ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE. Er bod y tebygolrwydd bod unrhyw gynnydd sylweddol mewn risg yn isel, mae hyn yn golygu nad yw’r ASB  nac FSS yn gallu dweud sut mae risg diogelwch bwyd i gynhyrchion yr UE wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. 

Ffigur 18: Canran y llwythi o weddill y byd a fethodd gwiriadau mewnforio ym Mhrydain Fawr, 2021-22

Gwiriadau dogfennol

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.91% 0.91%
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 0.54% 0.31%
Pob llwyth 0.84% 0.78%

 

Gwiriadau adnabod

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.84% 0.63%
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 1.94% 1.16%
Pob llwyth 0.87% 0.65%

 

Gwiriadau ffisegol

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) Ddim ar gael* Ddim ar gael*
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 4.31% 2.60%
Pob llwyth (NA) (NA)

 

Samplu (fel rhan o wiriad ffisegol)

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.99% 0.93%**
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 4.78% 4.13%
Pob llwyth 2.76% 2.44%

* Ers  ymadael â’r UE a symud i’r system Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), dim ond canlyniad y gwiriadau samplu a gynhaliwyd sy’n cael eu cofnodi gan y system, a’r canlyniadau hynny a gynrychiolir gan y ffigurau a welir uchod.

**21 canlyniad heb eu cadarnhau eto, o fwy na 1,000.

Newidiadau i ddynodiad bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid

Fel y soniwyd eisoes, mae’r DU yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran gwiriadau ar y ffin ar fwyd a fewnforir. Mae pob cynnyrch anifeiliaid yn destun gwiriadau, yn ogystal â rhai bwydydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Gall rhai cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid beri risg i iechyd y cyhoedd oherwydd halogiad posib â phlaladdwyr, tocsinau sy’n digwydd yn naturiol (afflatocsinau), metelau trwm neu ficrobau niweidiol fel Salmonela. Gall y risgiau hyn newid yn gyflym oherwydd ffactorau fel y tywydd, arferion ffermio a thechnegau cynhyrchu, a gallant amrywio rhwng gwahanol wledydd tarddiad. 

Mae ymadawiad y DU â’r UE yn golygu bod gan yr ASB ac FSS bellach gyfrifoldebau i dargedu risgiau penodol i ddefnyddwyr trwy asesu a diwygio’r rhestr o bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) ym Mhrydain Fawr. Rydym wedi cynnal gwaith dadansoddi newydd i helpu i wneud y rhestr yn fwy perthnasol i’r bwyd rydym yn ei fwyta, ac asesu’r risgiau cysylltiedig. 

O ganlyniad, yn ystod 2022 rhoddodd yr ASB ac FSS gyngor i weinidogion i ychwanegu pum math o gynnyrch newydd at y rhestr bresennol o HRFNAOs ac i gynyddu lefelau gwirio ar gyfer 13 arall. Roedd nifer o’r ychwanegiadau at y rhestr yn deillio o bryderon ynghylch presenoldeb gweddillion plaladdwyr, a allai fod yn rhannol oherwydd yr amodau sych iawn a brofwyd mewn rhai gwledydd, gan adael mwy o weddillion ar gnydau. 

Mae ehangu’r ystod o nwyddau HRFNAO yr ydym yn eu rheoli ar y ffin yn cynyddu ein dealltwriaeth o gydymffurfiaeth y gwledydd sy’n allforio â’n gofynion diogelwch bwyd, a gall hyn fod yn defnyddiol ar gyfer unrhyw asesiadau risg yn y dyfodol. Mae hefyd yn anfon neges bwerus i wledydd sy’n allforio bod ein rheolaethau yn gadarn ac y byddwn yn targedu mewnforion nad ydynt yn cydymffurfio ar y ffin. 

Rhoddodd yr ASB ac FSS gyngor hefyd i weinidogion y dylid tynnu tri chynnyrch oddi ar y rhestr yn gyfan gwbl yn dilyn asesiad risg a ddangosodd eu bod yn cydymffurfio, ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd. Yn ogystal, rydym wedi cynnal llai o arolygiadau ar bum cynnyrch arall gan fod y risgiau cysylltiedig bellach yn llai tebygol o achosi niwed. Mae’r rhain wedi’u nodi yn ffigur 19. 

Figure 19: Newidiadau i ddynodiad bwydydd risg uchel

Nwyddau HRFNAO a fewnforir sydd wedi’u hasesu o ran risg a’u tynnu o reolaethau ar y ffin gan eu bod yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd wedi’i fewnforio ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Nwydd Gwlad Perygl
Aeron goji Tsieina Gweddillion plaladdwyr
Grawnwin sych Twrci Ocratocsin A
Cnau pistachio UDA Afflatocsinau

Nwyddau HRFNAO a fewnforir sy’n parhau i fod yn destun rheolaethau, ond rydym wedi nodi lleihad mewn risg / gwelliannau o ran cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd a fewnforir. 

 

Nwydd Gwlad Perygl
Cnau daear Brasil Afflatocsinau
Cnau daear Tsieina Afflatocsinau
Cnau cyll Twrci Afflatocsinau
Dail betel (Piper betle) Bangladesh Salmonela
Cnau cyll Georgia Afflatocsinau

Nwyddau FNAO a fewnforir sydd wedi’u hasesu o ran risg a’u tynnu o reolaethau ar y ffin gan eu bod yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd wedi’i fewnforio ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Nwydd Gwlad Perygl
Cnau daear Brasil Gweddillion plaladdwyr
Lemonau Twrci Gweddillion plaladdwyr
Dail betel (Piper betle) Gwlad Thai Salmonela

Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys)

Twrci Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Uganda Salmonela

Nwyddau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid (HRFNAO) a fewnforir y mae’r rheolaethau ar y ffin wedi cynyddu ar eu cyfer oherwydd cynnydd mewn diffyg cydymffurfio / risg i iechyd y cyhoedd. Mae gofynion mewnforio ychwanegol yn berthnasol i nwyddau sy’n cael eu symud i Atodiad 2. Rhaid i’r nwydd gael Tystysgrif Iechyd Allforio a rhaid iddo fod yn destun profion labordy i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr.

Nwydd Gwlad Perygl
Pupur du (Piper nigrum) Brasil Salmonela
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Gwlad Thai Gweddillion plaladdwyr
Ocra India Gweddillion plaladdwyr

Orenau

Twrci Gweddillion plaladdwyr
Mandarin, clementin, Wilkings (amrywiaeth mandarin) a mathau tebyg o ffrwythau sitrws hybrid tebyg Twrci Gweddillion plaladdwyr
Jacffrwyth  Malaysia Gweddillion plaladdwyr
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Uganda Gweddillion plaladdwyr
Puprynnau Melys (Capsicum annuum) Twrci Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Swdan Salmonela
Dail gwinwydd Turkey Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Ethiopia Salmonela
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Sri Lanka Afflatocsinau
Cnau daear India Afflatocsinau

Hysbysiadau ar y Ffin a Rheolaethau Swyddogol Dwys 

Mae ymadawiad y DU â’r UE hefyd wedi newid y broses pan fo achosion o dorri safonau  bwyd a fewnforir. Pan fydd llwyth (consignment) o gynnyrch wedi methu’r gwiriadau,  mae’r DU yn hysbysu awdurdodau gorfodi i dargedu mewnforion tebyg. Roedd cyfanswm  o 326 o hysbysiadau ar y ffin yn 2022, sef y flwyddyn gyntaf ers rhoi’r system newydd  hon ar waith. Mae’r manylion isod.

Y pedwar prif reswm dros Fethiannau Hysbysiadau ar y Ffin

  • Roedd 126 o’r achosion yn ymwneud â methiannau dogfennol/adnabod (gallai’r rhai gynnwys methiannau ffisegol)
  • Roedd 33 yn ymwneud â methiannau ffisegol (fel nwyddau wedi’u difetha, nwydd gwahanol i’r hyn a ddisgrifir ar dystysgrif mewnforio neu IPAFFS, neu fater estron)
  • Roedd 58 yn ymwneud â methiannau mycotocsinau (afflatocsinau ac ocratocsinau)
  • Roedd 29 yn ymwneud â methiannau plaladdwyr

Ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a fewnforir, os bydd swyddogion ar y ffin yn canfod bod gofynion mewnforio Prydain Fawr yn cael eu torri dro ar ôl tro neu bod achos difrifol, gallai llwythi yn y dyfodol gan y busnes bwyd dan sylw fod yn destun rheolaethau swyddogol dwys (IOC). O dan y rheolau hyn, byddai’n rhaid cynnal gwiriad ffisegol ar gyfer yr holl lwythi a gaiff eu mewnforio gan sefydliad sy’n destun IOC nes i’r IOC ddod i ben. Mae’r ASB yn hysbysu’r awdurdodau yn y wlad sy’n peri pryder, fel y gallant gymryd camau i ddatrys y broblem. 

Yn gyffredinol, mae mewnforion o’r tu allan i’r UE wedi parhau i gydymffurfio i raddau helaeth â gwiriadau mewnforio o gymharu â’r llynedd. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw ostyngiad sylweddol yn niogelwch ein mewnforion, er bod y darlun yn gyfyngedig o hyd heb reolaethau tebyg ar fewnforion yr UE. Mae ein system hysbysiadau ar y ffin a’n gallu i ddefnyddio rheolaethau dwys yn gwella ein gallu i dargedu risgiau penodol ac achosion o ddiffyg cydymffurfio er mwyn diogelu defnyddwyr y DU rhag niwed.

Yn 2022, defnyddiwyd y broses IOC ar 11 achlysur oherwydd bygythiadau parhaus neu fygythiadau difrifol i iechyd y cyhoedd. O’r 11 IOC a grëwyd: 

  • Roedd pump yn benodol i sefydliadau dofednod ym Mrasil oherwydd bod cynhyrchion  wedi’u halogi â Salmonela.
  • Roedd tri yn ymwneud â methiannau gweddillion meddyginiaeth  filfeddygol mewn sefydliadau ym Mangladesh, India a Fietnam.
  • Bu methiant o ran Gyrodactylus salaris (mwydod parasitig) o sefydliad ym Moroco.
  • Bu methiant o ran sylffwr deuocsid (mewn gelatin bwytadwy) o sefydliad ym Mhacistan. 
  • Bu methiant o ran dilysu rhywogaethau (gwiriad ffisegol corfforol yn anghyson â’r ardystiad iechyd) o sefydliad yn Tsieina.

2022 oedd blwyddyn lawn gyntaf y broses IOC ac felly nid oes data cymaradwy  ar gael hyd yn hyn.

Cytundebau masnach rydd a diogelu iechyd

Wrth i’r DU ddatblygu partneriaethau masnachu ffurfiol newydd gyda gwledydd y tu allan i’r UE, mae’n bwysig bod mesurau diogelu statudol ar waith i gynnal safonau diogelwch bwyd a fewnforir o dan y cytundebau masnach rydd (FTAs) hyn.

Mae’r DU eisoes wedi llofnodi FTAs newydd ag Awstralia (Rhagfyr 2021) a Seland Newydd (Chwefror 2022) a ddaeth i rym yn gynnar yn 2023. Mae Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU esbonio a yw’r amddiffyniadau ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a nodir yng nghyfraith y DU yn cael eu cynnal. 

Fel rhan o hyn, gofynnwyd i’r ASB ac FSS archwilio a oedd y ddau FTA yn cynnal amddiffyniadau diogelwch bwyd y DU. Nid oedd materion ehangach yn ymwneud â’r FTAs sydd y tu allan i gylch gwaith yr ASB ac FSS (fel tariffau a’r effaith bosib ar lifoedd masnach dros amser) o fewn cwmpas y cyngor y gofynnwyd i ni amdano: amddiffyniadau statudol iechyd pobl oedd ffocws mandadol ein hadroddiad. 

Gwnaethom edrych i weld a oedd angen gwneud newidiadau i system reoleiddio bwyd y DU er mwyn cydymffurfio â’r FTA, ac a fyddai effaith ar lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i reoleiddio ym meysydd diogelwch bwyd a maeth (a ddiffinnir fel: honiadau maeth ac iechyd; fitaminau, mwynau a sylweddau penodol eraill; atchwanegiadau bwyd; a bwydydd ar gyfer grwpiau penodol). 

Daeth yr ASB ac FSS i’r casgliad bod y FTAs ag Awstralia a Seland Newydd wedi cynnal amddiffyniadau diogelwch bwyd i ddefnyddwyr. Yn ogystal, gwnaethom asesu a oedd cytundeb Seland Newydd yn cynnal gofynion maeth y DU a daethom i’r casgliad ei fod. Byddwn yn parhau i graffu ar unrhyw gytundebau yn y dyfodol a bydd yr asesiadau hyn yn parhau i ystyried amddiffyniadau maeth statudol.

Deall safonau cynhyrchu bwyd 

Mae’r ASB ac FSS hefyd yn cydnabod bod gan ddefnyddwyr ddiddordeb mewn deall safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir, gan gynnwys eu safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid.

I gefnogi hyn, yn ddiweddar, fe gomisiynodd yr ASB yr ymgynghoriaeth bwyd ADAS i nodi metrigau mesuradwy a ffynonellau data ar gyfer safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir er mwyn gallu rhoi darlun gwell i’r cyhoedd. 

Fodd bynnag, amlygodd adroddiad ADAS fod: 

  • Diffyg cyffredinol yn y data sydd ar gael i’r cyhoedd a phroblemau gydag ansawdd y data cyfyngedig sydd ar gael
  • Diffyg metrigau mesuradwy neu ddulliau clir o’u mesur neu eu monitro
  • Diffyg fframweithiau i werthuso safonau cynhyrchu

Er bod y system bresennol o wiriadau ar y ffin yn rhoi sicrwydd i ni o ran diogelwch bwyd, nid oes system debyg ar gyfer safonau cynhyrchu bwyd. Mae’r gallu i asesu safonau cynhyrchu, fel lles anifeiliaid neu safonau amgylcheddol bwyd wedi’i fewnforio ar sail debyg i fwyd y DU, yn hanfodol er mwyn i ni, fel cyrff gwarchod, allu asesu a yw safonau’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU wedi cael eu cynnal. 

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn awgrymu bod angen rhoi sylw pellach i’r meysydd hyn a byddwn yn parhau i archwilio’r rhain, tra hefyd yn parhau i gydweithio â phartneriaid ar draws y llywodraeth i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu cydnabod. 

I grynhoi

Yn fras, dychwelodd cyfaint y bwyd a fewnforiwyd i’r DU i gyfeintiau cyfartalog yn 2022 yn dilyn gostyngiad yn 2021. Fodd bynnag, mae cyfuniad o ffactorau wedi tarfu ar batrymau cyflenwadau bwyd, gan leihau’r swm sy’n cael ei fewnforio o Wcráin, Rwsia, Latfia, a Lithwania yn arbennig. Mae gwledydd eraill fel Rwmania a Bwlgaria wedi profi cynnydd sylweddol mewn lefelau masnachu. 

Ar gyfer nwyddau o’r tu allan i’r UE sy’n destun gwiriadau ar ffin Prydain Fawr, roedd y mwyafrif helaeth ohonynt yn cydymffurfio â rheolaethau mewnforio, sy’n awgrymu na fu unrhyw gwymp cyffredinol sylweddol mewn safonau diogelwch bwyd. Fodd bynnag, mae Prydain Fawr wedi cynyddu nifer y nwyddau risg uchel dynodedig yn ystod 2022 ac wedi cyhoeddi IOCs mewn rhai achosion i adlewyrchu’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â rhai cynhyrchion o rai gwledydd. Mae’n hanfodol bod y DU yn rhoi’r rheolaethau cadarn a nodir yn y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau ar waith yn gyflym er mwyn sicrhau bod gennym sicrwydd tebyg ar gyfer bwyd a fewnforir o’r UE. 

Mae dau FTA newydd wedi’u harwyddo a byddant yn dod i rym o 2023. Mae’r ASB ac FSS wedi cyfrannu at asesiadau swyddogol y llywodraeth i weld a yw’r cytundebau hyn yn cynnal amddiffyniadau statudol ar gyfer iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid a’r amgylchedd, ac wedi dod i’r casgliad bod yr FTAs newydd yn gwneud hynny. Byddwn yn parhau i graffu ar unrhyw gytundebau yn y dyfodol. 

Comisiynodd yr ASB adroddiad yn archwilio sut y gallai nodi a chasglu gwell gwybodaeth am safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir. Roedd hyn yn tanlinellu’r diffyg data sydd ar gael, sy’n ei gwneud yn amhosib cynnal asesiad o safonau cynhyrchu bwyd wedi’i fewnforio. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i archwilio sut y gallant goroesi’r her hon. Fodd bynnag, tan hynny, ni allwn gynnig asesiad, sy’n seilieig ar ddata, o’r safonau lles anifeiliaid neu amgylcheddol, na safonau cynhyrchu eraill, mewn perthynas â bwyd wedi’i fewnforio.