Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecyn ymgynghori ar y cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi’r diwydiant cig yng Nghymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig.

Dyddiad lansio: 12 Hydref 2022

Ymateb erbyn: 4 Ionawr 2023

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Gweithredwyr busnesau bwyd, cyrff cynrychioliadol y diwydiant, defnyddwyr, a rhanddeiliaid eraill â buddiant

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau gan weithredwyr busnesau bwyd y diwydiant cig, cyrff cynrychioliadol, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill â buddiant mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar weithgarwch gorfodi, fel nad yw busnesau nad ydynt yn cydymffurfio ac sy’n destun gweithgarwch gorfodi yn elwa mwyach ar daliadau gostyngol yr ASB.   

Sut i ymateb

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd, [Dyddiad] Ionawr 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i finance.consultation@food.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd yr ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at Atodiad A.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Bydd gorfodi’n digwydd pan eir yn groes i ofynion rheoleiddio ac y mae angen cymryd camau gweithredu mewn ymateb i hyn, er enghraifft, pan dorrir gofynion lles mewn lladd-dai.

Mae’r ASB yn parhau i ddefnyddio dull cymesur ar gyfer gorfodi, a’i nod yw sicrhau bod penderfyniadau gorfodi’n dryloyw, atebol, cymesur, cyson, ac wedi’u targedu at achosion lle bo angen camau gweithredu a lle bo angen diogelu iechyd defnyddwyr a lles anifeiliaid. Wrth benderfynu pa fesurau i’w mabwysiadu, bydd yr ASB yn ystyried natur y diffyg cydymffurfiaeth a hanes blaenorol y gweithredwr o ran cydymffurfio. Ceir manylion llawn yn y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol, Pennod 7, Atodiad 2

Cefndir

Codwyd taliadau am weithgarwch gorfodi gan Filfeddygon Swyddogol ar y Gwasanaeth Hylendid Cig pan gymerodd drosodd y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol oddi wrth awdurdodau lleol yn 1995. Mae hyn wedi parhau o dan yr ASB. Yn fwy diweddar mae Arolygwyr Hylendid Cig sydd wedi’u hyfforddi’n briodol hefyd wedi cynnal rhywfaint o weithgarwch gorfodi.

Nid oedd yr amser a gofnodwyd ar gyfer Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig cyn 2021/22 yn gwahaniaethu rhwng gwaith gorfodi a chynnal rheolaethau swyddogol. Roedd hyn yn gyson â Rheoliad (EC) 882/2004 a oedd mewn grym tan 13 Rhagfyr 2019. Cafodd y ddeddfwriaeth hon ei diwygio a’i chydgrynhoi gan (EU) 2017/625 gan ddod i rym ar 14 Rhagfyr 2019. Cyflwynodd y ddeddfwriaeth ‘gweithgareddau swyddogol eraill’ fel dosbarth ar wahân er mwyn gwahanu rhai gweithgareddau oddi wrth ‘reolaethau swyddogol’. Mae gorfodi yn dod o dan weithgareddau swyddogol eraill. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn parhau i fod mewn grym fel rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir.

Gwrandawodd yr ASB ar bryderon gan gynrychiolwyr y diwydiant cig nad oedd y trefniadau codi tâl yn gwahanu gwaith gorfodi oddi wrth reolaethau cig eraill. Mewn ymateb i hyn, o 2021/22 ymlaen dechreuodd y broses o wahanu’r taliadau gorfodi oddi wrth daliadau eraill, gan nodi ar wahân yr amser a dreuliwyd ar waith gorfodi taladwy a ddangosir ar atodlenni anfonebau wrth gefn gweithredwyr busnesau bwyd. Pan wnaed y newid hwn, roedd y taliadau gorfodi yn parhau i fod yn destun gostyngiad yn yr un modd ag yr oedd taliadau rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai a sefydliadau trin helgig.  Mae’r ASB bellach yn cynnig tynnu’r gostyngiad ar daliadau gorfodi o ddechrau’r flwyddyn 2023/24, hynny yw 27 Mawrth 2023, gan nad yw’n briodol bod busnesau nad ydynt yn cydymffurfio yn elwa ar daliadau is. Ar hyn o bryd mae gostyngiadau ar waith gorfodi yn amrywio rhwng uchafswm o 90% a lleiafswm o 18%.

Mae’r ASB yn croesawu eich sylwadau ar y cynigion polisi isod.

Y prif gynigion a’r rhesymau dros newid:

Dyma’r prif gynigion:

  • tynnu’r gostyngiadau ar daliadau gorfodi
  • y byddai’r tâl am amser a dreulir ar waith gorfodi y gellir codi tâl ar ei gyfer yn cael ei godi ar y cyfraddau cost lawn fesul awr ar gyfer gwaith gorfodi a bennir fel rhan o broses cyllideb flynyddol yr ASB. Ar gyfer 2022/23, y gyfradd ar gyfer gwaith gorfodi gan Filfeddygon Swyddogol yw £53.30 a’r gyfradd ar gyfer Arolygwyr Hylendid Cig yw £36.20. Bydd y cyfraddau ar gyfer 2023/24 yn cael eu pennu ddechrau 2023.

Nid ymgynghoriad ar bolisi gorfodi’r ASB na’r egwyddor o godi tâl am weithgarwch gorfodi yw hwn. Mae wedi’i gyfyngu i’r gostyngiad cyfredol ar daliadau gorfodi ac ni chynigir unrhyw newidiadau i’r broses ostyngiadau ar gyfer taliadau eraill yr ASB ar gyfer y diwydiant cig.

Nid yw’n briodol bod gostyngiadau’n cael eu cymhwyso at daliadau ar gyfer ymdrin ag achosion o ddiffyg cydymffurfio gan weithredwyr busnesau bwyd â gofynion y ddeddfwriaeth. Ni ddylai’r trethdalwr ariannu gostyngiad ar y taliadau hyn. Gall gweithredwyr busnesau bwyd osgoi taliadau am waith orfodi drwy gydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol.

Cefndir

Beth gellir codi tâl ar ei gyfer? 

Unwaith y bydd y Milfeddyg Swyddogol neu’r Arolygwr Hylendid Cig yn penderfynu bod diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau, gallai fod angen cymryd camau gorfodi. Er enghraifft, os oes angen llythyr neu hysbysiad ffurfiol, mae’r amser a gymerir i baratoi a dyroddi’r dogfennau hyn yn weithgarwch gorfodi y gellir codir tâl ar ei gyfer ac a anfonebir i weithredwr y busnes bwyd.

Beth na chodir tâl ar ei gyfer?

Ni chodir tâl uniongyrchol am yr amser a dreulir ar weithgarwch ymchwilio unwaith y bydd diffyg cydymffurfio wedi’i nodi fel gwaith gorfodi.
 
Os gwneir penderfyniad i atgyfeirio achos i’w erlyn, ni chodir tâl trwy broses anfonebu’r ASB am yr amser a dreulir gan staff yr ASB wrth baratoi’r achos a mynd trwy broses y llys. Gellid, fodd bynnag, ddyfarnu costau o blaid yr ASB ac yn erbyn y gweithredwr busnes bwyd ar ôl erlyniad llwyddiannus.

Enghraifft esboniadol o gyhuddiadau

Mae’r canlynol yn enghraifft esboniadol o sut y byddai’r taliadau cyfredol yn cael eu cyfrifo gan gynnwys gostyngiad, a sut y byddai’r cynnig i dynnu gostyngiadau yn effeithio ar y taliadau hynny. Yn yr enghraifft hon defnyddiwyd cyfradd fesul awr milfeddyg swyddogol ar gyfer 2022/23.

Enghraifft: Ymgynghoriad ar dynnu taliadau am waith gorfodi

Tâl cyfredol a godir

Band gostyngiadau Oriau Gostyngiad Cyfradd fesul awr Tâl
1 0.25 90% £53.30 £1.33
2 0.25 75% £53.30 £3.33
3 0.25 21% £53.30 £10.53
4 0.25 20% £53.30 £10.66
5 0.25 19% £53.30 £10.79
6 1.75 18% £53.30 £76.49
Total 3 - - £113.13

Tâl arfaethedig

Oriau Cyfradd fesul awr Tâl
3 £53.30 £159.90
3 - £159.90

Yn yr enghraifft uchod, byddai tynnu’r gostyngiad yn arwain at dâl uwch o £46.77, hynny yw y gwahaniaeth rhwng y tâl gostyngedig o £113.13 a’r tâl heb ostyngiad o £159.90.

Gweler canllaw’r ASB ar gyfer Taliadau am reolaethau mewn safleoedd cig 2022-23 (food.gov.uk) i gael rhagor o fanylion am daliadau a gostyngiadau.

Mae manylion am gyfrifo cyfraddau taliadau’r ASB ar gyfer y diwydiant cig, gan gynnwys ar gyfer gwaith gorfodi, ar gael yn y cyflwyniad Data Cost 2022/23.  

Effeithiau

O ran yr amser cyffredinol a dreulir ar weithgareddau cig yr ASB, nid yw’r amser sy’n ymwneud â gwaith gorfodi yn sylweddol. Pe bai'r amser y codir tâl amdano ar gyfer gwaith gorfodi yn 1,000 o oriau, byddai hyn yn cynrychioli llai o lawer nag 1% o’r holl oriau a dreulir ar reolaethau cig, sef 1,300,000 o oriau mewn unrhyw flwyddyn.

Amcangyfrifir y byddai effaith gyffredinol tynnu gostyngiadau ar daliadau gorfodi yn llai na £20,000 y flwyddyn, neu oddeutu 0.1% o daliadau cyllidebol cyfredol y flwyddyn, sef £34,200,000. Felly nid oes angen asesiad effaith ar gyfer y newid arfaethedig hwn.

Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

  1. A ydych yn cytuno â’r cynnig y dylai gostyngiadau ar daliadau gorfodi er mwyn mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ddod i ben?
  2. Os nad ydych yn cytuno y dylai’r gostyngiad ddod i ben, a allwch esbonio pam rydych yn credu y dylai gweithredwyr busnesau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio elwa ar yr un cymorth ag y mae busnesau sy’n cydymffurfio yn ei gael?
  3. Os oes gennych gynnig arall ynghylch gostyngiadau ar daliadau gorfodi, a allwch nodi hyn, ynghyd â sut byddai’n gweithredu?
  4. Ceir ffurflen yn Atodiad D i chi ei defnyddio ar gyfer eich ateb. 

Ymatebion

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn [dyddiad] Ionawr 2022. Ceir ffurflen yn Atodiad D i’ch cynorthwyo wrth ymateb. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch ymatebion i finance.consultation@food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn trin eich data personol, cyfeiriwch at Atodiad A a’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Yn gywir

Richard Collier

Pennaeth Cyllid – Codi Tâl

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Atodiad A: Gwybodaeth safonol am yr ymgynghoriad

Datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych

Gallai’r wybodaeth a roddir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu i bartïon eraill yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004). Os ydych yn dymuno i’r wybodaeth rydych yn ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol bod yna God Ymarfer statudol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef, ac sy’n ymdrin â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymhlith pethau eraill. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam rydych yn ystyried bod yr wybodaeth a roddwyd gennych yn gyfrinachol. Os bydd cais i ddatgelu’r wybodaeth yn dod i law, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd unrhyw ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried fel un sy’n rhwymo. Yr ASB fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pam rydym yn casglu eich data personol?

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â’ch ymateb ac at ddibenion ystadegol. Gallem hefyd ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynglŷn â materion cysylltiedig. Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn nodi y gall yr ASB, fel adran o’r llywodraeth, brosesu data personol fel y bo angen er mwyn cyflawni’n effeithiol dasg er budd y cyhoedd.

Beth byddwn yn ei wneud â’r wybodaeth?

Mae’r holl ddata personol rydym yn ei brosesu yn cael ei gadw ar weinyddion o fewn yr UE. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael trwy Gytundebau Fframwaith 11 y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Bydd yr ASB weithiau’n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd hynny er budd y cyhoedd.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi’r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym amdanoch trwy gyflwyno cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost isod. Os byddwch chi ar unrhyw adeg o’r farn bod yr wybodaeth rydym yn ei phrosesu amdanoch yn anghywir, gallwch chi wneud cais i’w chywiro. Os hoffech wneud cwyn am y ffordd rydym wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data, a fydd yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb neu os ydych o’r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy https://ico.org.uk, neu drwy ffonio 0303 123 1113. Ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB yw Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch. Gallwch chi gysylltu â nhw trwy anfon e-bost i: informationmanagement@food.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi.

Atodiad B: Asesiad Effaith

Amcangyfrifir y byddai effaith gyffredinol tynnu gostyngiadau ar daliadau gorfodi yn llai na £20,000 y flwyddyn, ac o’r herwydd, nid oes angen asesiad effaith.

Dyddiad gweithredu unrhyw newid ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad fydd dechrau’r flwyddyn 2023/24, hynny yw dydd Llun 27 Mawrth 2023, sef diwrnod cyntaf cyfnod codi tâl Ebrill 2023. Bydd anfonebau i weithredwyr busnesau bwyd ar gyfer mis Ebrill yn cael eu hanfon ym mis Mai yn unol â’r amserlen arferol.

Atodiad C: Rhestr o bartïon â buddiant

  • Pob gweithredwr busnes bwyd mewn lladd-dai cig coch, lladd-dai dofednod, sefydliadau trin anifeiliaid hela a ffatrïoedd torri cymeradwy yng Nghymru a Lloegr
  • Cyngor Dofednod Prydain
  • Cymdeithas Cyflenwyr Cig Annibynnol
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
  • Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain
  • Cigyddion Crefft Cenedlaethol
  • Cymdeithas Genedlaethol y Delwyr Helwriaeth
  • Hybu Cig Cymru
  • Sustain
  • Which
  • Aelodau Gweithgor y Bartneriaeth, lle nad ydynt wedi’u cynnwys uchod
     
  •