Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Proffesiynau a reoleiddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Gwybodaeth am y proffesiynau a reoleiddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), y broses ymgeisio ar gyfer ymuno â’r proffesiynau hyn a’r gofynion eraill i’w bodloni er mwyn eu hymarfer.

Mae’r ASB yn gyfrifol am reoleiddio proffesiynau sy’n sicrhau bod bwyd yn y DU yn ddiogel.

Sefydlwyd yr ASB yn 2000 (trwy Ddeddf Safonau Bwyd 1999) ar ôl sawl brigiad o achosion proffil uchel o salwch a gludir gan fwyd. Mae’n adran annibynnol, anweinidogol.

Caiff rhai proffesiynau eu rheoleiddio gan yr ASB ar y cyd ag adrannau eraill y Llywodraeth neu eu rheoleiddio gan yr ASB ar ran gweinidogion:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC)

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DAERA)

Yr Adran Iechyd (DoH)

Gweinidogion Cymru

 

Proffesiwn a reoleiddir Cyd-reoleiddiwr (Cymru) Cyd-reoleiddiwr (Lloegr) Cyd-reoleiddiwr (Gogledd Iwerddon
Lladd mewn lladd-dai a gymeradwyir gan yr ASB Gweinidogion Cymru Defra DAERA
Dadansoddwyr Cyhoeddus Gweinidogion Cymru DHSC DoH
Dadansoddwyr Bwyd Gweinidogion Cymru DHSC DoH
Dadansoddwyr Amaethyddol Gweinidogion Cymru DHSC DAERA
Archwilwyr Bwyd Gweinidogion Cymru DHSC DoH

Lladd mewn lladd-dai a gymeradwyir gan yr ASB

Mae Rheoliad a Ddargedwir (EU) 1099/2009 (Erthygl 7) yn nodi mai dim ond unigolion sydd â’r cymhwysedd priodol a ddylai ladd anifeiliaid a chyflawni gweithrediadau cysylltiedig. Mae hyn yn golygu mai dim ond person sydd â Thystysgrif Cymhwysedd (CoC) sy’n gallu cyflawni gweithrediadau lladd.

Mae gan yr ASB rwymedigaeth gyfreithiol i benodi Lladdwyr yng Nghymru a Lloegr, a chaiff yr Asiantaeth ddyroddi Tystysgrifau Cymhwysedd parhaol a rhai dros dro. Mae’r tystysgrifau hyn yn dangos y mathau o anifeiliaid y caiff y lladdwr gyflawni gweithrediadau arnynt, yn ogystal â’r offer y gall eu defnyddio a’r mathau o weithrediadau lladd y gall eu cyflawni. 

Cymwysterau a’r broses ymgeisio i fod yn lladdwr

Er mwyn bod â’r hawl i ymarfer fel lladdwr a gwneud cais am Dystysgrif Cymhwysedd lawn, rhaid i’r ymgeisydd wneud y canlynol:

  • cwblhau hyfforddiant gyda hyfforddwr cymeradwy sydd wedi’i achredu gan y Cymhwyster Bwyd a Diod (FDQ) 
  • llwyddo yn yr asesiad a chael tystysgrif cymhwyster

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn Lladdwr a sut i gael CoC, cyfeiriwch at dudalen we’r ASB ar Drwydded i ladd. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor. Codir ffi o £25 i wneud cais am CoC llawn sy’n daladwy i’r ASB. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel lladdwr.  

Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael, rhwng Medi 2021 ac Awst 2022 gwnaeth 1552 o unigolion gais am y CoC dros dro er mwyn bod â’r hawl i ymarfer fel lladdwr ledled Cymru a Lloegr. Enillodd 1066 o unigolion drwyddedau CoC llawn a’r hawl i ymarfer. O’r 1066 hynny y rhoddwyd cydnabyddiaeth iddynt, roedd gan unigolion gymwysterau a lefelau profiad amrywiol gan nad oes angen unrhyw brofiad penodol i wneud cais am yr hawl i ymarfer. 

Nid oes disgwyl i laddwyr gofnodi a chynnal eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) na bodloni gofynion addysg barhaus.

Dadansoddwyr Cyhoeddus

Mae Adran 27 o Ddeddf Diogelwch Bwyd (1990), yn gosod gofynion statudol ar yr ASB a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â phenodi Dadansoddwyr Cyhoeddus yng Nghymru, ac yn Lloegr mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n syrthio ar yr ASB ac Ysgrifennydd Gwladol y DHSC. Mae’r ddeddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon i’w chael yn Erthygl 27 o Orchymyn Diogelwch Bwyd Gogledd Iwerddon (1991), sy’n gosod gofynion statudol ar yr ASB a’r Adran Iechyd (Gogledd Iwerddon) mewn perthynas â phenodi Dadansoddwyr Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau cemegol ar fwyd i sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymwysterau angenrheidiol er mwyn bod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus

I fod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus cymwys yn y DU, rhaid bod gennych radd Feistr mewn Dadansoddi Cemegol (MChemA) a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC). 

Er mwyn gwneud cais am y cymhwyster MChemA a bod yn gymwys i gael ei benodi’n Ddadansoddwr Cyhoeddus, mae angen i’r ymgeisydd fodloni’r canlynol: 

  • bod yn Gydymaith i’r RSC pan fydd yn cychwyn ar y broses MChemA. Bydd angen i’r ymgeisydd fod yn Aelod neu'n Gymrawd o’r RSC erbyn iddo wneud cais am Ran C o’r broses ymgeisio
  • bod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd mewn labordy Dadansoddwr Cyhoeddus yn y DU, neu labordy arall sy’n ymwneud â dadansoddi bwyd, yr amgylchedd, a meysydd amaethyddol perthnasol. 

Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf uchod, nid ydych yn gymwys i gael cymhwyster MChemA ac ni fyddwch yn gallu ymarfer fel Dadansoddwr Cyhoeddus yn y DU. Mae’r RSC yn sicrhau bod graddau a ddyfernir o dramor yn cyfateb i gymwysterau’r DU trwy’r ENIC (asiantaeth genedlaethol y DU ar gyfer cymwysterau a sgiliau rhyngwladol). Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB.

Efallai na fydd gan ymgeiswyr sy’n gwneud cais am MChemA yr holl brofiad sydd ei angen i fod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus. Yn yr achos hwn, efallai y bydd angen hyfforddiant ffurfiol arnynt hefyd. Gallai hyn fod ar ffurf seminarau, cyrsiau, neu secondiadau mewn labordai. Mae Cymdeithas y Dadansoddwyr Cyhoeddus (APA) yn trefnu cyrsiau hyfforddi ac yn cyhoeddi canllawiau hyfforddi i gefnogi ymgeiswyr MChemA.

Y broses ymgeisio i gael MChemA 

Mae’r broses ymgeisio i gael MChemA fel arfer yn cymryd tua 4 blynedd. Mae unrhyw ffioedd a godir yn daladwy i’r RSC. Er mwyn gwneud cais, mae angen y canlynol ar yr ymgeisydd:

  • CV cyfredol 
  • cynghorydd mewnol ac allanol 
  • marc llwyddo yn yr arholiadau Rhan A, Rhan B a Rhan C 
  • portffolio o dystiolaeth 

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau’r broses ymgeisio yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster MChemA yn cael ei ddyfarnu gan Fwrdd Arholi MChemA. Yn dilyn dyfarnu MChemA ac enwebiad gan awdurdod lleol, caiff yr unigolyn ymarfer fel Dadansoddwr Cyhoeddus. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Dadansoddwr Cyhoeddus. 

Er mwyn bod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus, mae’n ofynnol i unigolion sydd wedi ennill yr MChemA gael eu penodi gan awdurdod lleol

Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael, ers Ionawr 2020, enwebwyd 2 berson gan awdurdod lleol i ymarfer fel Dadansoddwr Cyhoeddus. Roedd gan yr unigolion hyn radd israddedig a’r MChemA. 

Disgwylir i Ddadansoddwyr Cyhoeddus gofnodi a chynnal eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’r RSC yn cynnig adnodd cofnodi DPP am ddim i aelodau er mwyn iddynt gadw golwg ar eu datblygiad. Fel arall, os yw’r Dadansoddwr Cyhoeddus yn aelod o APA, gellir defnyddio cynllun DPP APA i gofnodi datblygiad proffesiynol.

Dadansoddwyr Bwyd

O dan Adran 30 o Ddeddf Diogelwch Bwyd (1990) a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013, mae’r ASB a Gweinidogion Cymru yn rheoleiddio Dadansoddwyr Bwyd yng Nghymru. Yn Lloegr, yr ASB ac Ysgrifennydd Gwladol y DHSC sydd â’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae Dadansoddwyr Bwyd yn gyfrifol am archwilio bwyd fel rhan o gynnal rheolaethau swyddogol i sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymwysterau a’r broses ymgeisio i fod yn Ddadansoddwr Bwyd 

Er mwyn bod yn Ddadansoddwr Bwyd cymwys yn y DU, rhaid bod gennych radd Feistr mewn Dadansoddi Cemegol (MChemA) a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC). 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cymhwyster MChemA a bod yn gymwys i gael eich penodi fel Dadansoddwr Bwyd, cyfeiriwch at y cymwysterau angenrheidiol a’r broses ymgeisio ar gyfer bod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus a amlinellir uchod. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB. 

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau’r broses ymgeisio yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster MChemA yn cael ei ddyfarnu gan Fwrdd Arholi MChemA. Ar ôl dyfarnu’r MChemA, caiff yr unigolyn ymarfer fel Dadansoddwr Bwyd. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Dadansoddwr Bwyd. 

Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael, ers mis Ionawr 2020 nid oes unrhyw unigolion newydd wedi cael cydnabyddiaeth gan yr ASB i ymarfer fel Dadansoddwr Bwyd.

Disgwylir i Ddadansoddwyr Bwyd gofnodi a chynnal eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’r RSC yn cynnig adnodd cofnodi DPP am ddim i aelodau er mwyn iddynt gadw golwg ar eu datblygiad. Fel arall, os yw’r Dadansoddwr Bwyd yn aelod o APA, gellir defnyddio cynllun DPP APA i gofnodi datblygiad proffesiynol.

Dadansoddwyr Amaethyddol

O dan Adran 67(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ac Adran 14 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ayyb a Gorfodi) 2015, mae’r ASB a Gweinidogion Cymru yn rheoleiddio Dadansoddwyr Amaethyddol yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n syrthio ar yr ASB ac Ysgrifennydd Gwladol y DHSC.

Mae Dadansoddwyr Amaethyddol yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau cemegol i archwilio bwyd er mwyn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio ag Adran 14 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ayyb a Gorfodi) 2015 yng Nghymru a Lloegr, a Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ayyb a Gorfodi) (Gogledd Iwerddon) 2016 yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r Alban yn dilyn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Yr Alban) 2010.

Cymwysterau a’r broses ymgeisio i fod yn Ddadansoddwr Amaethyddol

Er mwyn bod yn Ddadansoddwr Amaethyddol cymwys, rhaid i chi feddu ar y canlynol:

  • gradd Feistr mewn Dadansoddi Cemegol (MChemA) neu statws Cemegydd siartredig a ddyfarnwyd gan y RSC 
  • profiad ymarferol o archwilio bwyd anifeiliaid, wedi’i ardystio gan Ddadansoddwr Amaethyddol gweithredol

Llwybr A: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Gradd Feistr mewn Dadansoddi Cemegol 

I wneud cais am y cymhwyster MChemA a bod yn gymwys i gael eich penodi’n Ddadansoddwr Amaethyddol, cyfeiriwch at y cymwysterau angenrheidiol a’r broses ymgeisio i fod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus a amlinellir uchod. Nid oes proses amgn ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB.  

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau’r broses ymgeisio yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster MChemA yn cael ei ddyfarnu gan Fwrdd Arholi MChemA. Yn ogystal â’r MChemA, cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Dadansoddwr Amaethyddol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cynnal archwiliadau ymarferol ar fwyd anifeiliaid sydd wedi’u hardystio gan Ddadansoddwr Amaethyddol gweithredol, a rhaid iddynt gael eu henwebu gan awdurdod lleol. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Dadansoddwr Amaethyddol. 

Llwybr B: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, statws Cemegydd Siartredig

I wneud cais am statws Cemegydd Siartredig (CChem) a bod yn gymwys i gael ei benodi’n Ddadansoddwr Amaethyddol, mae angen i’r ymgeisydd fodloni’r canlynol: 

  • bod yn Aelod neu’n Gymrawd o’r RSC
  • meddu ar radd meistr achrededig gan y RSC yn y gwyddorau cemegol neu wybodaeth gyfatebol trwy astudio a phrofiad gwaith arall.
  • dangos sgiliau a gwybodaeth uwch yn y gwyddorau cemegol a ddefnyddir yn y rôl gyfredol
  • ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus 

I wneud cais, mae angen y canlynol ar yr ymgeisydd:

  • CV cyfredol
  • mentor i helpu’r ymgeisydd i ddatblygu ei yrfa 
  • canolwr i wirio bod tystiolaeth yr ymgeisydd yn gywir. Caiff y canolwr a’r mentor fod yr un person.

Os nad yw ymgeiswyr yn bodloni’r meini prawf uchod, nid ydynt yn gymwys i gael Statws Cemegydd Siartredig ac ni fyddant yn gallu ymarfer fel Dadansoddwr Amaethyddol yn y DU. Mae hyn hefyd yn wir am unigolion â chymwysterau o dramor. Mae’r RSC yn sicrhau bod graddau a ddyfernir o dramor yn cyfateb i gymwysterau’r DU trwy’r ENIC.

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau pob agwedd ar y broses ymgeisio yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan y RSC. Yn ogystal, rhaid bod ymgeiswyr wedi cynnal archwiliadau ymarferol ar fwyd anifeiliaid, wedi’u hardystio gan Ddadansoddwr Amaethyddol gweithredol, cyn bod ganddynt hawl i ymarfer fel Dadansoddwr Amaethyddol. 

Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael, ers Ionawr 2020, enwebwyd 1 person gan awdurdod lleol i ymarfer fel Dadansoddwr Amaethyddol. Roedd gan yr unigolyn hwn radd israddedig, a dyfarnwyd MChemA iddo. 

Disgwylir i Ddadansoddwyr Amaethyddol gofnodi a chynnal eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’r RSC yn cynnig adnodd cofnodi DPP am ddim i aelodau er mwyn iddynt gadw golwg ar eu datblygiad. Fel arall, os yw’r Dadansoddwr Amaethyddol yn aelod o APA, gellir defnyddio cynllun DPP APA i gofnodi datblygiad proffesiynol.

Archwilwyr Bwyd

O dan Adran 30 o Ddeddf Diogelwch Bwyd (1990) a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013, mae’r ASB a Gweinidogion Cymru yn rheoleiddio Archwilwyr Bwyd yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n syrthio ar yr ASB ac Ysgrifennydd Gwladol y DHSC.

Mae archwilwyr bwyd yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau microbiolegol i archwilio bwyd er mwyn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymwysterau a’r broses ymgeisio i fod yn Archwiliwr Bwyd

Er mwyn bod yn Archwiliwr Bwyd cymwys, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • bod â’r cymwysterau priodol fel asesydd bwyd, a hynny cyn 5 Ebrill 2013 pan ddaeth Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013 (ar gyfer Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon) i rym. Os gwnaethoch hyfforddi fel asesydd bwyd ar ôl 5 Ebrill 2013, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

Meddu ar un o’r cymwysterau a restrir isod:

  • gradd ddosbarth cyntaf (gydag anrhydedd) mewn microbioleg 
  • gradd Feistr mewn Gwyddoniaeth 
  • gradd Feistr mewn Dadansoddi Cemegol (MChemA) a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC). 
  • cymrodoriaeth Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol (IBMS) a enillwyd ar ôl llwyddo yn yr arholiad Diploma Arbenigol Uwch mewn microbioleg feddygol a gynhelir gan yr IBMS.
  • cymrodoriaeth neu Aelodaeth o’r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd (IFST) 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol fel y rhestrir yn Atodlen 2 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013 (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Nid yw amser a dreulir mewn labordy fel myfyriwr israddedig yn cyfrif tuag at y gofyniad hwn. 

Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf uchod, ni fyddwch yn gallu ymarfer fel Archwiliwr Bwyd yn y DU. Mae hyn hefyd yn wir am unigolion â chymwysterau o dramor.

Llwybr A: Gradd mewn microbioleg neu radd Feistr mewn Gwyddoniaeth

Er mwyn bod yn gymwys i ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i’r ymgeisydd feddu ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • gradd ddosbarth cyntaf (gydag anrhydedd) mewn microbioleg 
  • gradd Feistr mewn Gwyddoniaeth, lle’r oedd o leiaf un papur arholiad ar faes microbioleg a lle’r oedd y radd wedi’i dyfarnu yn dilyn arholiad yn hytrach na thesis. 

Rhaid i raddau gael eu dyfarnu gan gorff sydd â’r grym i ddyfarnu graddau yn y DU (yn unol ag Adran 214 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988) neu brifysgol mewn Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Yn ogystal â’r radd, cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Archwiliwr Bwyd.  

Llwybr B: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Gradd Feistr Dadansoddi Cemegol

I wneud cais am y cymhwyster MChemA a bod yn gymwys i gael eich penodi’n Archwiliwr Bwyd, cyfeiriwch at y cymwysterau angenrheidiol a’r broses ymgeisio i fod yn Ddadansoddwr Cyhoeddus a amlinellir uchod. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB.  

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau’r broses ymgeisio yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster MChemA yn cael ei ddyfarnu gan Fwrdd Arholi MChemA. Yn ogystal â’r MChemA, cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cynnal archwiliadau ymarferol ar fwyd mewn labordy priodol. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Archwiliwr Bwyd. 

Lwybr C: Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Cymrodoriaeth a Diploma Arbenigol Uwch 

I fod yn gymwys i gael ei benodi’n Archwiliwr Bwyd trwy Gymrodoriaeth y llwybr IBMS, rhaid i’r ymgeisydd feddu ar Ddiploma Arbenigol Uwch gan yr IBMS mewn microbioleg feddygol. Mae’r ffioedd a godir am ymgymryd â’r Diploma Arbenigol Uwch yn daladwy i’r IBMS.

I fod yn gymwys i ymgymryd â’r Diploma Arbenigol Uwch, rhaid i’r ymgeisydd fodloni’r canlynol:

  • cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • meddu ar aelodaeth IBMS ar lefel Aelod neu Gymrawd drwy gydol y broses ymgeisio

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu mewn dwy ran: 

Rhan A

Portffolio o Ddysgu drwy Brofiad sy’n cynnwys:

Rhan B

Arholiadau ysgrifenedig sy’n cynnwys pedwar papur arholiad

  • traethawd generig 
  • cwestiynau ateb byr penodol yn unol â’r ddisgyblaeth 
  • cwestiynau traethawd penodol yn unol â’r disgyblaeth 
  • astudiaethau achos penodol yn unol â’r ddisgyblaeth

Mae’r IBMS yn cynnal digwyddiadau Paratoi Ymgeiswyr ar gyfer y rheiny sy’n ystyried neu sy’n ymgymryd â’r Diploma Arbenigol Uwch. Mae digwyddiadau’n cynnwys cyflwyniadau ar gwblhau’r portffolio, technegau arholiad a gweithdai gydag arholwyr.

Pan fydd ymgeiswyr wedi cwblhau proses ymgeisio IBMS ar gyfer y Diploma Arbenigol Uwch yn llwyddiannus, bydd y cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan y Bwrdd Arholi. Wedyn caiff deiliad y Diploma Arbenigol Uwch wneud cais am Gymrodoriaeth IBMS.

Cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Archwiliwr Bwyd. 

Llwybr D: Aelodaeth a Chymrodoriaeth y Sefydliad Gwyddor a Technoleg Bwyd a (IFST)

I fod yn gymwys ar gyfer aelodaeth yr IFST, rhaid i ymgeiswyr feddu ar y canlynol:

  • cymhwyster ôl-ysgol uwchradd fel gradd sylfaen, gradd israddedig, neu radd ôl-raddedig (PhD neu MSc) mewn pwnc perthnasol (er enghraifft gwyddor/technoleg bwyd, neu bynciau gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg eraill
  • profiad perthnasol sy’n dangos datblygiad parhaus gwybodaeth a sgiliau trwy ystod eang o gyflogaethau yn y diwydiant gwyddor a thechnoleg bwyd  

I wneud cais am Aelodaeth yr IFST, bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys: 

  • ffurflen gais (os nad yw eisoes yn aelod o’r IFST)
  • manylion un canolwr
  • CV cyfredol 
  • copi o’r cymhwyster uchaf, er enghraifft tystysgrif radd 

Mae ffioedd a godir am wneud cais i fod yn aelod o’r IFST yn daladwy i’r IFST. Yn ogystal ag aelodaeth IFST, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol. 

Cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy i’r ASB. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Archwiliwr Bwyd. 

I fod yn gymwys ar gyfer Cymrodoriaeth IFST, rhaid i’r ymgeisydd: 

  • fodloni’r gofynion ar gyfer aelodaeth yr IFST 
  • meddu ar o leiaf 5 mlynedd o brofiad uwch 
  • gallu dangos cyflawniadau pwysig mewn perthynas â gwyddor bwyd 

I wneud cais am Gymrodoriaeth, bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys:

  • ffurflen gais cymrodoriaeth 
  • dau ganolwr
  • CV cyfredol 
  • copi o'r cymhwyster uchaf, er enghraifft tystysgrif radd 

Cyn i’r unigolyn gael ymarfer fel Archwiliwr Bwyd, rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi cynnal archwiliadau ar fwyd am o leiaf 3 blynedd mewn labordy priodol. Nid oes proses amgen ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau tramor ac nid oes unrhyw ffioedd sy’n daladwy i’r ASB. Nid oes angen unrhyw ofyniad na thrwydded arall i ymarfer yn gyfreithlon fel Archwiliwr Bwyd. 

Yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael, ers mis Ionawr 2020 nid oes unrhyw unigolion wedi cael cydnabyddiaeth gan yr ASB i ymarfer fel Archwiliwr Bwyd. Yn flaenorol, mae unigolion wedi cael cydnabyddiaeth i ymarfer trwy Radd mewn Microbioleg neu lwybrau MchemA. 

Disgwylir i Archwilwyr Bwyd gofnodi a chynnal eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae'r RSC, yr IFST a’r IBMS yn cynnig adnodd cofnodi DPP am ddim i aelodau gadw golwg ar eu datblygiad.