Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Archwilio Rheoleiddiol

Siarter Archwilio Rheoleiddiol

Mae archwiliadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o awdurdodau cymwys yn rhoi sicrwydd bod y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y DU a chanllawiau swyddogol.

Mae awdurdodau cymwys yn cynnwys yr ASB, awdurdodau lleol, a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau cymwys drwy Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (ceir deddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon).

Mae ein harchwiliadau wedi’u llunio i wirio bod trefniadau a gynlluniwyd yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac i asesu a yw’r trefniadau hynny’n addas i gyflawni amcanion y gofynion a’r canllawiau cyfreithiol perthnasol. Mae ein Llawlyfr Archwilio Rheoleiddiol yn rhoi manylion am sut rydym yn cynnal yr archwiliadau hyn.

Nodau swyddogaeth archwilio rheoleiddiol yr ASB yw:

  • helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy hybu trefniadau effeithiol ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd
  • cynnal a gwella hyder defnyddwyr yn y system a ddefnyddir ar gyfer rheolaethau swyddogol
  • cynorthwyo i nodi a lledaenu arferion da er mwyn hybu cysondeb
  • darparu gwybodaeth i helpu i lunio polisi’r ASB
  • hyrwyddo cydymffurfiaeth â chanllawiau canolog neu Godau Ymarfer
  • darparu modd o nodi tanberfformiad o ran gwaith awdurdodau cymwys o ddarparu gwasanaethau ym maes cyfraith bwyd
  • hyrwyddo archwilio rhwng awdurdodau ac adolygiadau gan gymheiriaid
  • nodi gwelliannau parhaus

Egwyddorion:

  1. Rhaid dewis pob rhaglen archwilio yn seiliedig ar broses gynllunio ddogfenedig sy’n seiliedig ar risg.
  2. Rhaid i bob rhaglen archwilio gynnwys amcanion clir.
  3. Rhaid i bob cynllun rhaglen archwilio sicrhau bod gan y tîm archwilio y cymhwysedd technegol priodol/penodol i gyflawni amcanion y rhaglen archwilio.
  4. Bydd y tîm archwilio’n cymhwyso egwyddorion gwelliant parhaus at bob rhan o’r system archwilio.
  5. Bydd y tîm archwilio’n rhagweithiol wrth ddarparu eglurder i awdurdodau cymwys (y sawl a archwilir) gan gynnwys cyfathrebu cyn pob archwiliad, a rhoi adborth yn ystod ac ar ôl yr archwiliadau.
  6. Bydd pawb sy’n destun archwiliad yn cael adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi canfyddiadau’r archwiliad yn glir.
  7. Bydd gan y sawl a archwilir, trwy argymhellion a wneir yn yr adroddiad archwilio, ddealltwriaeth glir o’r gwelliannau sydd eu hangen a dyddiadau a gytunwyd ar gyfer rhoi’r gwelliannau ar waith trwy’r cynllun gweithredu a nodir yn eu hadroddiad archwilio.
  8. Bydd y sawl a archwilir yn cael cyfle i roi adborth ysgrifenedig ar ôl archwiliad a fydd yn cael ei gofnodi a’i adolygu’n annibynnol.