Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Ymateb polisi i blastigau sy'n mynd i'r môr fel deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd

Ymateb rheoli risg polisi i'r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar gyfer Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd ynghylch plastig sy'n mynd i'r môr

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Hoffai’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ddiolch i’r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar gyfer Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd (FCMJEG) am gynnal asesiad ar blastig sy’n mynd i’r môr (OBP) mewn perthynas â’i ddefnyddio mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs).

Mae’r FCMJEG yn asesu materion sy’n ymwneud ag FCMs ac yn darparu cyngor arbenigol annibynnol yn eu cylch i’r ASB. Fel rhan o’r broses Dadansoddi Risg, mae’r ASB ac FSS wedi ystyried yn ofalus opsiynau rheoli risg priodol a chymesur ynghylch addasrwydd y deunydd hwn mewn FCMs, yn seiliedig ar y cyngor arbenigol hwn.

Ystyriaethau ac argymhellion rheoleiddiol ynghylch plastig sy'n mynd i'r môr

Gall unrhyw ddull o gyfyngu ar y defnydd o blastig gan gynnwys OBP mewn FCMs mewn unrhyw ffordd olygu bod angen diweddariadau i ddeddfwriaeth briodol ynghylch FCMs a/neu gyfyngiadau penodol a nodir mewn awdurdodiadau unigol ar gyfer prosesau ailgylchu. O dan y system reoleiddio bresennol, mae angen asesu diogelwch prosesau ailgylchu plastig. Mae hyn yn cynnwys ystyried y deunydd a gaiff ei fewnbynnu fel rhan o’i effeithlonrwydd dadhalogi; mae hyn yn golygu y gallai fod yn heriol gwneud unrhyw gyfyngiadau priodol ar yr adeg hon, a hynny am nad oes unrhyw brosesau awdurdodedig hyd yma.  

Rydym yn argymell na ddylid defnyddio plastig wedi’i ailgylchu sydd wedi cael ei brosesu’n fecanyddol a adawyd yn wreiddiol yn yr amgylchedd agored mewn FCMs. Mae hyn yn cynnwys plastig a adawyd yn uniongyrchol ar dir, mewn dyfrffyrdd neu’r môr (‘plastigau sy’n mynd i’r môr’ – OBP), ac mewn lleoliadau lle mae diffyg seilwaith rheoli gwastraff Mae’r argymhelliad hwn yn seiliedig ar gasgliad yr FCMJEG na allent eithrio risg diogelwch o ddefnyddio’r math hwn o blastig mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd.

Deall plastig sy'n mynd i'r môr

Mae’n bwysig deall y diffiniadau o’r hyn a elwir yn “blastig sy’n mynd i’r môr.” Efallai na fydd rhai eitemau plastig sy’n cael eu casglu yn ffitio’n daclus i’n dehongliad ni o blastig sydd wedi’i adael yn yr amgylchedd a’r meini prawf sy’n gysylltiedig ag OBP. Efallai y bydd angen i unrhyw gamau rheoli risg dilynol ystyried amgylchiadau unigol menter sy’n cyflenwi neu’n defnyddio plastig wedi’i ailgylchu sy’n nodi hynny. Gallai hyn gynnwys y dull casglu a’r gwahanol gamau sy’n arwain at y gwaith terfynol o gynhyrchu’r eitemau plastig a gaiff eu hailgylchu.

Nid yw casgliadau plastig mwy rheoledig (tebyg i gasgliadau wrth ymyl y ffordd) sydd wedyn yn destun prosesau ailgylchu mecanyddol neu gemegol addas yn ddarostyngedig i’r argymhellion hyn. 

Diffinio 'plastig sydd wedi'i adael yn yr amgylchedd'  

Yn dilyn yr asesiad a gwaith yr ASB/FSS, mae’n briodol nodi term newydd i ddiffinio’n glir pa blastigau sydd o fewn neu y tu allan i gwmpas ein cyngor. Bydd y term ‘plastig gadawedig yn yr amgylchedd’ yn cael ei ddefnyddio i gwmpasu’r canlynol yn ein cyngor:

  • plastig sy’n adlewyrchu meini prawf safonol OBP fel y’u nodir uchod ac yn y llenyddiaeth gyhoeddedig.
  • mae’r defnydd o’r term ‘wedi'i adael’ yn cyfeirio at blastig sydd wedi’i daflu, naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol, i’r amgylchedd agored, lle mae risg o ddod 
  • rydym yn eithrio plastig sydd wedi’i gasglu ‘y tu allan’ i unrhyw sefyllfa gwaredu gwastraff (er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i, gasgliadau gwastraff preifat a chyhoeddus neu finiau ailgylchu).

Gofynion cydymffurfio ar gyfer busnesau

Mae angen i fusnesau sy’n cyflenwi neu’n defnyddio deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sicrhau bod olrheiniadwyedd yn cael ei sicrhau ar draws pob cam, ac nad yw unrhyw farchnata mewn perthynas ag FCMs yn camarwain defnyddwyr yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol.

Rhaid i bob FCM plastig gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym wedi cyhoeddi cyngor pellach ynghylch gofynion plastig wedi’i ailgylchu yn ymwneud ag FCMs.