Yr ASB yn cyhoeddi cyngor newydd i fusnesau ar ddefnyddio plastigau sy’n mynd i’r môr ar gyfer deunydd pecynnu bwyd
Heddiw, mae’r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd wedi cyhoeddi ei asesiad ar blastigau sy’n mynd i’r môr (‘ocean-bound plastics’ neu OBP) ac sy’n cael eu defnyddio mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd fel deunydd pecynnu bwyd a ddefnyddir mewn archfarchnadoedd ar gyfer cig, dofednod a physgod.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi adolygu’r asesiad ac wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gadarnhau diogelwch y math hwn o blastig a ddefnyddir mewn deunydd pecynnu bwyd a’r ffaith nad yw’n effeithio ar iechyd.
Felly, rydym yn cynghori busnesau i beidio â defnyddio plastig amgylcheddol wedi’i adael (‘abandoned environmental plastic’), gan gynnwys plastig sy’n mynd i’r môr, mewn deunydd pecynnu bwyd. Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i blastig wedi’i ailgylchu o amgylcheddau rheoledig, fel casgliadau ymyl y ffordd yn y DU, y gellir ei ddefnyddio’n ddiogel i becynnu bwyd.
Rydym yn cydnabod manteision ailgylchu plastig wedi’i adael sydd wedi’i gasglu o’r amgylchedd agored, yn enwedig plastig sydd mewn perygl o fynd i mewn i ddyfrffyrdd neu gefnforoedd (plastigau sy’n mynd i’r môr). Gall mentrau o’r fath, o’u cyflawni’n briodol, ddiogelu’r amgylchedd wrth gefnogi arloesedd a thwf economaidd. Fodd bynnag, ein rôl ni yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac mae gennym bryderon ynghylch diogelwch y plastigau hyn, yr ydym yn cyfeirio atynt fel plastigau amgylcheddol wedi’u gadael, pan gânt eu defnyddio ar eu ffurf ailgylchedig ar gyfer cynhyrchion fel cynwysyddion prydau parod, hambyrddau bwyd ffres a photeli.
Mae plastigau amgylcheddol wedi’u gadael yn cyfrif am ganran fach yn unig o’r farchnad plastigau ailgylchedig. Yn wir, plastigau ailgylchedig a gaiff eu casglu wrth ymyl y ffordd sy’n ffurfio’r ganran fwyaf o’r farchnad, ac mae’r rhain yn dal i fod yn ddichonadwy fel deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd. Mae deunyddiau plastig a gaiff eu casglu o amgylcheddau sefydledig a rheoledig, fel systemau casglu ymyl y ffordd yn y DU, wedi bod yn destun cryn dipyn o waith yn y gorffennol i sicrhau eu bod yn bodloni safonau diogelwch cyfredol.
Yn anffodus, nid ydym yn hyderus ar hyn o bryd fod y plastigau amgylcheddol wedi’u gadael sy’n cael eu casglu, ac sydd wedyn yn cael eu hailgylchu’n fecanyddol, yn bodloni’r un safonau.
Yng ngoleuni hyn, rydym yn cynghori busnesau i osgoi defnyddio’r math hwn o blastig mewn deunydd pecynnu bwyd ac i chwilio am ffyrdd eraill o’i ddefnyddio.
Mae ailgylchu plastigau yn ddeunydd pecynnu safon bwyd yn cael ei wneud yn hynod ofalus gan ddefnyddio deunydd a gesglir o ymyl y ffordd yn unig i sicrhau bod y plastig yn deillio o ddeunydd pecynnu bwyd, a hynny am resymau diogelwch bwyd. Mae llawer o gynhyrchion y gellir eu gwneud ac sy’n cael eu gwneud yn llwyddiannus gan ddefnyddio plastigau sy’n mynd i’r môr, gan gynnwys deunydd pecynnu nad yw ar gyfer bwyd, ac rydym yn croesawu’r eglurhad hwn gan yr ASB. Mae llygredd plastig yn drychineb amgylcheddol. Rhaid i ni gael gwared ar blastig untro problemus a diangen ac ailgylchu plastig yn ôl yn gynhyrchion a deunydd pecynnu priodol, lle bo modd. Mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd a’r brandiau bwyd y maent yn eu gwerthu yn aelodau o Gytundeb Plastigau’r DU (The UK Plastics Pact) ac wedi ymrwymo i’r perwyl hwn. Trwy eu gweithredoedd, mae 33 biliwn o eitemau plastig eisoes wedi’u tynnu oddi ar y silffoedd. Ond mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r llygredd plastig etifeddol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chyrff yn y diwydiant ac yn ystyried unrhyw bryderon penodol sydd ganddynt ynghylch plastig wedi’i ailgylchu sydd o’r safon i’w ddefnyddio ar gyfer bwyd, gan gynnwys y ffordd y caiff ei farchnata. Os oes unrhyw bryderon ynghylch labelu ar becynnau, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol.