Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser: egwyddorion gweithio
Egwyddorion a rennir rhwng y llywodraeth a’r diwydiant ar gyfer ymatebion cydlynol i ddigwyddiadau bwyd.
Crynodeb
Mae’r Fforwm Ymateb Targededig (‘Targeted Response Forum’) yn darparu dull strwythuredig o rannu gwybodaeth a signalau yn gynharach, ar draws sectorau a’r gadwyn cyflenwi bwyd. Mae hyn yn galluogi’r diwydiant, rheoleiddwyr, cyrff anllywodraethol a rhanddeiliaid eraill i reoli digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, uniondeb bwyd, a buddiannau defnyddwyr, sy’n dod i’r amlwg neu a allai ddod i’r amlwg, a gwneud hynny mewn modd mwy effeithiol.
Datblygwyd y Fforwm mewn ymateb i’r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau cymhleth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Fforwm yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth a chydlynu cydweithredol, gan gefnogi gwell aliniad pan effeithir ar nifer o frandiau neu fusnesau. Y nod yw diogelu defnyddwyr a chynnal hyder y cyhoedd yn y system fwyd.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac nid yw’r Fforwm yn darparu cyngor cyfreithiol nac yn newid cyfrifoldebau cyfreithiol na rheoleiddiol unrhyw sefydliad. Mae rheolau ymgysylltu clir yn gosod terfynau llym ar y math o wybodaeth y gellir ei rhannu â’r Fforwm, gan wahardd trafod materion cystadleuol a chaniatáu rhannu gwybodaeth sydd eisoes yn y parth cyhoeddus, neu ddata cyhoeddus hanesyddol crynodedig yn unig.
Rhaid i sefydliadau barhau i gydymffurfio â chyfraith gystadleuaeth a cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol yn ôl yr angen (yn unol â’r rheolau a gynhelir gan y Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser (‘Institute of Grocery Distribution’ (IGD)).
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac awdurdodau lleol yn parhau i arfer eu cyfrifoldebau statudol a’u rolau gorfodi, gan gynnwys hysbysu’r awdurdodau lleol yr effeithir arnynt drwy’r trefniadau arferol, a’u cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch cywiro a chyfyngu. Gellir gwahodd awdurdodau iechyd cyhoeddus perthnasol, fel Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), i gymryd rhan, yn dibynnu ar ba rannau o’r DU yr effeithir arnynt.
Nid oes unrhyw newid i sut a phryd y cyhoeddir rhybuddion i alw cynhyrchion yn ôl neu rybuddion cyhoeddus, nac i egwyddorion tryloywder yr ASB a’r gofynion i roi gwybod i ddefnyddwyr lle bo angen.
Gweledigaeth
Y weledigaeth yw cysylltu pob cwmni perthnasol â phroses ymateb i ddigwyddiadau cyn gynted â phosib, gan alluogi ymatebion cyflym gan y diwydiant sy’n diogelu defnyddwyr.
Cyflwyniad
Wrth i amlder a chymhlethdod digwyddiadau barhau i gynyddu, mae angen i’r diwydiant a chyrff y sector cyhoeddus gydweithio’n agosach, er mwyn atal, lleihau a rheoli digwyddiadau bwyd yn effeithiol.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r egwyddorion gweithio ar gyfer yr ASB a’r IGD, gan sefydlu proses gydweithredol i wella’r broses o rannu gwybodaeth yn ystod digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, safonau bwyd a buddiannau defnyddwyr.
Bydd trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid allweddol – gan gynnwys awdurdodau lleol, cyrff gorfodi’r gyfraith a rheoleiddio, a rhanddeiliaid yn y sectorau bwyd a diod – yn cael eu cryfhau.
Amcanion
- sicrhau ymateb cydlynol i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, uniondeb bwyd a buddiannau defnyddwyr
- diogelu iechyd y cyhoedd drwy atal a rheoli salwch a gludir gan fwyd
- cynnal hyder y cyhoedd yn y gadwyn cyflenwi bwyd
- rhannu signalau, cudd-wybodaeth a gwybodaeth sganio’r gorwel i gryfhau dulliau ataliol
Cwmpas
Mae’r cylch gorchwyl hwn yn berthnasol i bob digwyddiad sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, uniondeb bwyd a buddiannau defnyddwyr a allai beri pryder i’r defnyddiwr, gan gynnwys halogiad cynnyrch, difwyno (‘adulteration’) a brigiadau o achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Dewisiadau wrth ymateb i ddigwyddiadau
| Ymateb | Risg | Perchennog | Manylion |
|---|---|---|---|
| Ymateb 1 | Cwmni/Cynnyrch penodol | Yr ASB | Proses rheoli digwyddiadau bresennol yr ASB (does dim angen fforymau anarferol na dulliau cyfathrebu eithriadol ehangach gan yr ASB) |
| Ymateb 2 | Ar draws y diwydiant | Yr ASB | Mae’r broses casglu tystiolaeth bresennol i aros yr un fath. Bydd yr ASB yn gweithio gyda chymdeithasau’r diwydiant a chymdeithasau masnach presennol i gyfnewid gwybodaeth berthnasol â rhanddeiliaid |
| Ymateb 3 | Ar draws y diwydiant | Y diwydiant a’r ASB | Mae rhanddeiliaid perthnasol (yr ASB, y diwydiant a chyrff iechyd y DU) yn cael eu cynnull mewn Fforwm Ymateb Targededig i asesu’r risgiau, yr effaith a’r adnodd sydd ei angen i ymateb |
Ymateb 1: Un cwmni neu gynnyrch lleol neu nifer bach ohonynt
Pan fydd y digwyddiad a nodwyd yn cael ei briodoli i gwmni penodol neu i nifer bach o gwmnïau a chynhyrchion, gyda nifer bach o awdurdodau lleol yn rhan ohono.
Yn yr achos hwn, nid oes unrhyw newid i brosesau presennol yr ASB o ran rheoli, atal ac ymateb i ddigwyddiadau. Ni fydd angen fforymau anarferol na dulliau cyfathrebu eithriadol ehangach gan yr ASB.
Ymateb 2: Rhannu gwybodaeth ar draws y diwydiant
Mewn ymateb i risg a nodwyd i iechyd y cyhoedd, uniondeb, buddiannau defnyddwyr neu hyder defnyddwyr. Pan fydd goblygiadau ar draws y diwydiant (sy’n cwmpasu sawl categori neu gadwyn gyflenwi), a phan fydd angen rhannu gwybodaeth yn eang ar draws y diwydiant. Er enghraifft, y rhybudd galw cynhyrchion yn ôl a gyhoeddwyd yn 2025, yn ymwneud â chynhyrchion oedd yn cynnwys garlleg a allai fod wedi’u halogi â physgnau.
Bydd y broses casglu tystiolaeth bresennol yn aros yr un fath ac ni fydd Fforwm Ymateb Targededig yn cael ei greu.
Bydd yr ASB yn gweithio gyda chymdeithasau’r diwydiant a chymdeithasau masnach i symleiddio a gwella’r broses ar draws y gadwyn gyflenwi.
Ymateb 3: Fforwm Ymateb Targededig
Mewn ymateb i risg a nodwyd i iechyd y cyhoedd, uniondeb, buddiannau defnyddwyr neu hyder defnyddwyr. Pan fydd goblygiadau ar draws y diwydiant (sy’n cwmpasu sawl categori neu gadwyn gyflenwi), a phan fydd yn hanfodol cynnull dim ond y partïon yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, er mwyn iddynt allu cydweithio â’r ASB ac awdurdodau iechyd y cyhoedd i nodi’r achos yn effeithlon a phenderfynu ar gamau gweithredu. Er enghraifft, roedd y brigiad o achosion o E. Coli yn 2024 yn gysylltiedig â bwyd ‘i fynd’.
Pam rydyn ni’n gweithio gyda’r Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser
- bydd yr IGD yn cefnogi’r ASB i gynnull yr holl bartïon yr effeithir arnynt (mewn cydweithrediad â chymdeithasau eraill yn y sector)
- mae’r IGD yn cynnig rôl unigryw yn y diwydiant – maent yn gweithredu fel cynullydd annibynnol, dibynadwy, gan uno rhanddeiliaid o bob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd-amaeth gyfan
- mae’r IGD yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau perthnasol y sector i ategu gweithgareddau a chamau gweithredu grŵp cyswllt diwydiant bwyd (FILG) yr ASB, er mwyn sicrhau bod pob rhanddeiliad yn cael gwybod cyn gynted â phosib, i allu ymateb yn gyflym
Egwyddorion gwaith y Fforwm Ymateb Targededig
- bydd naill ai’r diwydiant neu’r ASB yn cysylltu â’r IGD mewn ymateb i ddigwyddiad lle ystyrir ei bod yn hanfodol cynnull y rhanddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol i gydweithio â’r ASB ac awdurdodau iechyd cyhoeddus perthnasol y DU er mwyn mynd ati’n effeithlon i nodi’r ffynhonnell a’r achos, a phenderfynu ar gamau gweithredu priodol i ddiogelu defnyddwyr a’u buddiannau
- bydd y diwydiant a’r ASB yn cynghori’r IGD ar yr holl randdeiliaid allweddol sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad
- yna bydd yr IGD (mewn cydweithrediad â chymdeithasau perthnasol y sector) yn cysylltu â holl gyfranogwyr y Fforwm Ymateb Targededig, gan gynnwys cynrychiolydd perthnasol yr IGD, (footnote 1) y diwydiant, yr ASB ac awdurdodau iechyd cyhoeddus perthnasol y DU i drefnu cyfarfod rhithwir neu wyneb yn wyneb
- bydd y Fforwm Ymateb Targededig yn cael ei gyd-gadeirio gan y cynrychiolydd (dan nawdd yr IGD) a Rheolwr Digwyddiadau’r ASB
- bydd yr IGD yn gweithredu fel cynullydd annibynnol y Fforwm
- bydd cofnodion a chamau gweithredu yn cael eu cofnodi yn ystod y cyfarfod gan gynrychiolydd yr IGD a’u dosbarthu i’r holl gyfranogwyr, er mwyn cael cofnod cywir o’r trafodaethau, camau gweithredu a phenderfyniadau y mae pawb yn cytuno arno
- bydd gwybodaeth am yr ymateb yn cael ei rhannu gan yr ASB â’r diwydiant ehangach a sefydliadau ehangach y llywodraeth yn ôl yr angen (gweler Ymateb 2)
- bydd yr ASB a chyfranogwyr y Fforwm Ymateb Targededig yn cytuno ar ba rai o gymdeithasau’r sector i’w cynnwys
Amodau’r Fforwm
Mae cymryd rhan yn y Fforwm Ymateb Targededig yn ddewisol. Gall perchennog brand yr effeithir arno wrthod cymryd rhan yn y Fforwm. Yn yr achos hwn, gall y Fforwm barhau i ddigwydd gyda chytundeb perchnogion brandiau eraill yr effeithir arnynt.
Er mwyn i’r Fforwm gael ei ffurfio, rhaid i’r digwyddiad effeithio ar nifer o berchnogion brandiau.
Y trothwy sy’n pennu p’un a yw’r Fforwm yn ffurfio ai peidio: bydd pob digwyddiad yn cael ei asesu fesul achos, ond rhaid i’r egwyddorion isod gael eu bodloni:
- rhaid effeithio ar nifer o berchnogion brandiau
- rhaid effeithio ar fwy nag un sector
Gall yr ASB neu’r diwydiant ofyn i’r Fforwm gael ei ffurfio drwy’r IGD a chynrychiolydd yr IGD.
Mae rheolau ymgysylltu’r IGD ar gyfer y Fforwm Ymateb Targededig wedi’u cynnwys mewn dogfen ar wahân.
Coeden benderfynu ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau
Mae’r isod yn amlinellu coeden benderfynu enghreifftiol i bennu a ddylai Fforwm Ymateb Targededig gael ei ffurfio. Fel y nodir yn yr egwyddorion, bydd angen asesu pob digwyddiad fesul achos.
Y broses ar gyfer Fforwm Ymateb Targededig
Diagram llif yn dangos y broses ar gyfer penderfynu a yw Fforwm Ymateb Targededig yn briodol ar gyfer ymateb i ddigwyddiad bwyd. Mae’r broses yn dechrau drwy ofyn a yw’r digwyddiad yn effeithio ar nifer o berchnogion brandiau. Os mai ‘Nac ydy’ yw’r ateb, mae’r digwyddiad yn dilyn proses rheoli digwyddiadau bresennol yr ASB. Os mai ‘Ydy’ yw’r ateb, mae’r cwestiwn nesaf yn gofyn a yw’n hanfodol rhannu gwybodaeth yn eang ar draws y diwydiant. Os mai ‘Nac ydy’ yw’r ateb, mae’r digwyddiad eto’n dilyn proses rheoli digwyddiadau bresennol yr ASB. Os mai ‘Ydy’ yw’r ateb, bydd yr ASB yn rhannu’r wybodaeth. Wedyn, mae cwestiwn pellach yn gofyn a yw’n hanfodol cynnull y sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Os mai ‘Nac ydy’ yw’r ateb, mae'r broses yn troi yn ôl at broses rheoli digwyddiadau bresennol yr ASB. Os mai ‘Ydy’ yw’r ateb, bydd y Fforwm Ymateb Targededig yn cael ei gynnull.
Diagram yn dangos sut mae gwybodaeth am benderfyniadau a wneir gan yr ASB a pherchnogion brandiau’n cael ei rhannu – naill ai ar draws y diwydiant, drwy’r Sefydliad Dosbarthu Nwyddau Groser (IGD) fel cynullydd y diwydiant, neu drwy Fforwm Ymateb Targededig gyda hwyluswyr annibynnol – a’r berthynas rhwng y gwahanol lwybrau hyn. Ar y chwith, mae ‘Rhannu gwybodaeth ar draws y diwydiant’. Mae saeth ddwyffordd wedi’i labelu â’r geiriau ‘Penderfyniad gan yr ASB / gan berchnogion brandiau’. Mae’r saeth yn cysylltu ‘Rhannu gwybodaeth ar draws y diwydiant’ â ‘Cynullydd y diwydiant: IGD (gyda chefnogaeth cymdeithasau masnach)’. Yna mae saeth ddwyffordd arall, sydd hefyd wedi’i labelu â’r geiriau ‘Penderfyniad gan yr ASB / gan berchnogion brandiau’. Mae’n cysylltu’r IGD â’r ‘Fforwm Ymateb Targededig’. Mae’r diagram yn nodi bod y Fforwm Ymateb Targededig yn gweithio gyda hwylusydd annibynnol. Mae’r diagram yn dangos sut mae penderfyniadau’n pennu a yw gwybodaeth yn cael ei rheoli drwy ei rhannu ar draws y diwydiant neu’n cael ei huwchgyfeirio i Fforwm Ymateb Targededig y mae’r IGD yn ei gynnull.
Rolau a chyfrifoldebau ychwanegol
Dylai’r ASB gyfleu canfyddiadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth neu dystiolaeth o ganfyddiadau sy’n nodi achosion o dorri’r rheoliadau – gyda chefnogaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA). Bydd hyn yn caniatáu proses benderfynu glir a chadarn sy’n diogelu’r defnyddiwr. Bydd yr awdurdodau gorfodi perthnasol yn rhan o’r broses benderfynu.
Bydd yr ASB yn gyfrifol am rannu cadarnhad ysgrifenedig o gyngor yr ASB a sail y cyngor hwnnw, gan ddefnyddio’r wybodaeth gyfredol. Bydd yr ASB yn dosbarthu’r cyngor i unigolion y fforwm yn ôl yr angen, ac yn sicrhau bod y perchnogion data wedi cytuno arno.
Bydd yr holl gyfathrebu sy’n ymwneud â’r Fforwm Ymateb Targededig, gyda chefnogaeth yr IGD, yn cydymffurfio â rheol Chatham House a datganiad cydymffurfio’r IGD o ran cystadleuaeth. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn Rheolau Ymgysylltu’r Fforwm Ymateb Targededig.
Bydd yr ASB a’r IGD yn cytuno ar yr angen am adolygiad ar ôl y digwyddiad fesul achos, yn dilyn pob cyfarfod gan y Fforwm. Pan fydd adolygiadau’n cael eu cynnal, bydd adroddiad yn cael ei ddatblygu i gofnodi gwersi a ddysgwyd, argymhellion, a pherchnogion camau gweithredu ar gyfer pob argymhelliad.
Adolygu
Rhaid i Fforwm Arweinwyr Technegol yr IGD a’r ASB gynnal adolygiadau rheolaidd o ffyrdd o weithio i sicrhau effeithiolrwydd.
Mathau o ddigwyddiadau bwyd
Mae sawl math o ddigwyddiad bwyd. Er enghraifft:
Peryglon biolegol
Mae hyn yn cynnwys micro-organebau fel bacteria, feirysau, parasitiaid a ffyngau a all achosi salwch a gludir gan fwyd. Enghreifftiau cyffredin yw rhywogaethau salmonela (spp.), E. coli a listeria.
Peryglon cemegol
Mae’r rhain yn cynnwys sylweddau niweidiol a all halogi bwyd, fel alergenau, plaladdwyr, ychwanegion bwyd a thocsinau. Gall peryglon cemegol ddigwydd yn naturiol neu gael eu cyflwyno wrth brosesu bwyd.
Peryglon ffisegol
Deunyddiau estron yw’r rhain – er enghraifft, gwydr, metel, plastig a cherrig – a allai achosi anaf neu beri risg o dagu os cânt eu canfod mewn bwyd.
Labelu anghywir
Mae labelu anghywir yn atal defnyddwyr rhag cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau diogel a gwybodus. Dyma rai enghreifftiau:
Labelu alergenau
Mae’n hanfodol labelu’n glir unrhyw alergenau sydd yn bresennol yn y bwyd, fel pysgnau, cnau coed, seleri, grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten, llaeth, wyau, pysgod, cramenogion (‘crustaceans’), molysgiaid, bysedd y blaidd (‘lupin’), soi, mwstard, sylffitau a sesame.
Gall camlabelu alergenau arwain at risgiau difrifol i iechyd unigolion ag alergeddau.
Dyddiadau ‘dod i ben’
Dylai labeli gynnwys dyddiadau ‘dod i ben’ neu ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ i roi gwybod i ddefnyddwyr am oes silff y cynnyrch a’u hatal rhag bwyta bwyd sydd wedi troi.
Gwlad tarddiad
Mae nodi’r wlad tarddiad yn gallu bod yn bwysig ar gyfer olrheiniadwyedd ac ar gyfer defnyddwyr sy’n ffafrio cynhyrchion o ranbarthau penodol.
Rhybuddion a rhagofalon
Dylid labelu unrhyw beryglon posib yn glir, fel risgiau tagu i blant bach neu bresenoldeb sylweddau peryglus.
Cyfarwyddiadau storio
Mae cyfarwyddiadau o ran storio bwyd yn gywir yn helpu i gynnal diogelwch ac ansawdd y bwyd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio oergell neu rewgell, neu gadw’r cynnyrch mewn lle sych ac oer.