Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hylendid personol

Canllawiau ar yr hyn y mae'n rhaid i chi a'ch staff ei wneud wrth drin bwyd.

Er mwyn cadw bwyd yn ddiogel, rhaid i bawb sy'n gweithio mewn ardal trin bwyd gynnal lefel uchel o hylendid personol.

Rhaid iddynt wisgo dillad: 

  • addas
  • glân
  • amddiffynol

Wrth baratoi neu drin bwyd, dylent:

  • gadw eu gwallt yn ôl a gwisgo gorchudd pen addas, e.e. het neu rwyd gwallt
  • peidio â gwisgo oriawr neu gemwaith (ac eithrio modrwy briodas)
  • peidio â chyffwrdd â'u hwyneb a'u gwallt, ysmygu, poeri, tisian, bwyta na chnoi gwm

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hylendid personol yn ein pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer arlwywyr.

Golchi dwylo

Mae golchi dwylo yn effeithiol yn hynod bwysig er mwyn helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu o ddwylo pobl. Mae'n rhaid i'r holl staff sy'n gweithio gyda bwyd olchi eu dwylo: 

  • pan maent yn y gegin neu'r ardal baratoi
  • cyn paratoi bwyd
  • ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd
  • ar ôl trin gwastraff bwyd neu wagio bin
  • ar ôl glanhau
  • ar ôl chwythu eu trwyn
  • ar ôl cyffwrdd â ffonau, switshis golau, dolenni drws a thiliau

Dylai staff sychu eu dwylo ar dywel tafladwy. Mae bacteria niweidiol yn gallu lledaenu ar ddwylo gwlyb neu laith. Defnyddiwch dywel tafladwy i gau'r tap.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am olchi dwylo yn ein pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer arlwywyr.

Fideo hyfforddi diogelwch bwyd – Golchi dwylo

Sut i olchi eich dwylo i atal bacteria rhag lledaenu.

Addas i weithio

Ni ddylech ganiatáu i unrhyw un drin bwyd na chael mynediad at ardal trin bwyd os ydynt: 

  • yn cario neu'n dioddef o glefyd sy'n debygol o gael ei drosglwyddo trwy fwyd 
  • os oes ganddynt glwyfau heintiedig, heintiau croen neu friwiau
  • os oes ganddynt ddolur rhydd

Os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i aelod o staff, rhaid iddynt ddweud wrth eu rheolwr ar unwaith.

Ni ddylai staff sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu ddychwelyd i'r gwaith hyd nes eu bod yn rhydd o unrhyw symptomau am 48 awr.

Mae'r canllawiau isod yn berthnasol i holl weithredwyr busnes bwyd y Deyrnas Unedig ac eithrio cynhyrchwyr cynradd, fel ffermwyr a thyfwyr.

Fideos hyfforddi diogelwch bwyd – Salwch staff

Beth i'w wneud os yw aelod o staff yn sâl yn y gwaith a pha mor hir y dylent aros gartref.

Cofiwch: Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol.