Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Diweddariad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Diwygio safbwyntiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)/Safonau Bwyd yr Alban ar bum cais i awdurdodi bwydydd newydd

Dyma roi gwybod i randdeiliaid am ddiwygiadau a wnaed i safbwynt yr ASB/FSS ar bum cais am fwydydd newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 March 2022

Ymgynghorodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ddiweddar ar chwe chais am fwydydd newydd ar gyfer marchnad Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae diwygiadau i bump o'r safbwyntiau hyn wedi'u cynnig ers hynny, cyn mynd ati i roi cyngor i Weinidogion. Er nad yw'r newidiadau arfaethedig yn effeithio ar yr asesiad diogelwch, mae adborth gan randdeiliaid yn parhau i fod yn hanfodol wrth lunio polisïau tryloyw. Dyma’r rheswm dros dynnu sylw rhanddeiliaid at y diwygiadau hyn. 

Pwysig

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol ar y mân newidiadau i safbwynt yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar y ceisiadau bwydydd newydd a amlinellir isod. Dylid darparu sylwadau o fewn pythefnos i ddyddiad y cyhoeddiad hwn ac mae’r un datganiad preifatrwydd yn berthnasol i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ag sy’n berthnasol i ymgynghoriadau. Gellir gellir dod o hyd i fanylion y datganiad yn ein hysbysiad preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Dylid anfon sylwadau dros e-bost at:  RPconsultations@food.gov.uk

Gwybodaeth am y bwydydd newydd

Cyhoeddwyd ein FSS%20Consultation%20121121%20track%20changes%20%281%29-en_gb-cy_gb-C%201712.pdf">hymgynghoriad ar chwe chais ar gyfer bwydydd newydd ar wefan yr ASB ar 17 Rhagfyr 2021, a chynhaliwyd yr ymgynghoriad am 8 wythnos.  Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau a’r cam nesaf yw rhoi cyngor i Weinidogion y DU ar awdurdodi’r bwydydd newydd hyn. 

Fodd bynnag, rydym ni wedi nodi bod angen adolygu rhai agweddau ar y telerau ar gyfer awdurdodi bwydydd newydd. Mae angen gwneud y diwygiadau hyn cyn rhoi cyngor i Weinidogion, ac fel rhan o ymrwymiad yr ASB i lunio polisïau mewn ffordd agored a thryloyw, mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am y newidiadau hyn ac yn cael cyfle i wneud sylwadau.  

Gan gymryd i ystyriaeth asesiad diogelwch y bwydydd newydd hyn, mae angen symud ymlaen â thri o'r ceisiadau fel ychwanegiadau newydd i'r rhestr awdurdodedig o fwydydd newydd, yn hytrach nag estyniadau i'r awdurdodiadau cyfredol. Daeth yr UE i’r un casgliad wrth awdurdodi’r cynhyrchion hyn, sydd eisoes wedi’u hawdurdodi yng Ngogledd Iwerddon o dan delerau presennol y Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon (NIP).  Mae’r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad hwn wedi’i nodi yn y safbwyntiau diwygiedig, sydd wedi'u diwygio yn unol â hynny. Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban hefyd wedi'u diwygio i gywiro penawdau dau o'r ceisiadau.

Crynodeb o’r adolygiadau i’r safbwyntiau ar y bwydydd newydd

  • RP8 – 3'-sialylactos (3'-SL): pennawd wedi'i ddiwygio i gyfeirio at halen sodiwm;
  • RP9 – 6'-sialylactos (6'-SL): pennawd wedi'i ddiwygio i gyfeirio at halen sodiwm;
  • RP14 – cymysgedd 2’-ffwcosyl-lactos / deuffwcosyl-lactos : dim newid;
  • RP87 – Olew algaidd DHA-lawn o straen Schizochytrium sp. WZU477: newid o estyniad ar ddefnydd i awdurdodiad newydd;
  • RP810 – DHA 550 (cais i gynyddu cymeriant dyddiol DHA o'r ffynhonnell hon i 1000 mg/dydd mewn atchwanegiadau bwyd): newid o ymestyn y defnydd i awdurdodiad newydd ar gyfer olew o Schizochytrium sp. straen FCC-3204. O dan 'Defnyddiau a lefelau defnydd arfaethedig', mae'r amodau defnydd bellach wedi'u cyflwyno ar ffurf tabl; mae'r swp-ddadansoddiad wedi'i hepgor o'r tabl Manylebau ac mae'r paramedr p-anisidin wedi'i ychwanegu;
  • RP811 – DHA 550 (cais i ymestyn y defnydd i fformiwla babanod a fformiwla ddilynol): newid o ymestyn y defnydd i awdurdodiad newydd ar gyfer olew o Schizochytrium sp. straen FCC-3204. O dan 'Defnyddiau a lefelau defnydd arfaethedig', mae'r amodau defnydd bellach wedi'u cyflwyno ar ffurf tabl; mae'r dadansoddiad swp wedi'i hepgor o'r tabl Manylebau ac mae'r paramedr p-anisidin wedi'i ychwanegu.

Mae manylion y newidiadau hyn a’r rhesymeg wedi’u cynnwys yn y ddogfen safbwyntiau diwygiedig sydd ynghlwm:

Safbwyntiau gwyddonol

Diweddarwyd 31 Mawrth 2022

Gofynion ychwanegol sy’n ymwneud â labelu atchwanegiadau bwyd 

At hynny, cynigir bod y ddarpariaeth ganlynol yn cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â chais RP810:  

  • Bydd labeli atchwanegiadau bwyd sy'n cynnwys olew Schizochytrium sp. (FCC-3204) yn cynnwys datganiad na ddylai’r bwyd gael e fwyta gan fabanod a phlant o dan 3 oed.

Mae hyn yn seiliedig ar ddefnydd bwriadedig y bwyd newydd mewn atchwanegiadau bwyd a gynigir gan yr ymgeisydd. Roedd yr asesiad risg yn seiliedig ar ddefnydd mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer y boblogaeth darged arfaethedig, ac o’r herwydd nid yw casgliadau’r asesiad risg yn dod i gasgliad ynghylch diogelwch y bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant o dan 3 oed. Mae angen i'r bwyd newydd felly gael ei labelu yn unol â hyn, pan gaiff ei ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd.

Camau nesaf

Yn dilyn adolygu safbwyntiau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, bydd unrhyw adborth ar y diwygiadau hyn yn cael ei ystyried, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, wrth benderfynu’n derfynol ar y cyngor i’w roi i Weinidogion y DU.