Galwad am ddata: Acrylamid mewn bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn gofyn am ddata ar lefelau acrylamid mewn bwyd.
Galwad am dystiolaeth
Galwad am ddata: Acrylamid mewn bwyd
Mae’r ASB ac FSS yn gofyn am ddata ar lefelau acrylamid mewn bwyd.
Bydd yr alwad hon am ddata o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:
- cymdeithasau masnach y diwydiant
- sefydliadau busnesau bwyd
- ymchwilwyr a’r byd academaidd
Pwrpas yr alwad am ddata
Fel rhan o’n gwaith i gasglu tystiolaeth er mwyn llywio polisi ar acrylamid, rydym yn gofyn am ddata ar ddigwyddiadau. Defnyddir y data i lywio ein dealltwriaeth o’r risg a berir gan acrylamid.
Byddwn yn defnyddio’r data i gymharu lefelau digwyddiadau â lefelau meincnodi ac i ganfod sut y gellir rheoli lefelau acrylamid. Lle bo’n bosib, byddwn yn edrych ar dueddiadau dros amser ac yn dadansoddi’n fanylach yr arwyddion o’n harolwg diweddaraf. Byddwn yn asesu effaith mesurau lliniaru i leihau acrylamid.
Mae angen data arnom sy’n adlewyrchu gwir lefelau acrylamid er mwyn i unrhyw fesurau rheoleiddio adlewyrchu’r sefyllfa go iawn ar lawr gwlad a sicrhau eu bod yn gymesur ac yn gyraeddadwy.
Nid yw acrylamid yn cael ei ychwanegu at fwydydd yn fwriadol. Mae'n sgil-gynnyrch naturiol y broses goginio, ac mae wastad wedi bod yn bresennol yn ein bwyd. Er enghraifft, mae acrylamid yn cael ei ffurfio pan gaiff bwydydd startshlyd, fel tatws a bara, eu coginio ar dymheredd uchel (dros 120°C).
Mae profion labordy yn dangos bod acrylamid yn y deiet yn achosi canser mewn anifeiliaid. Mae gwyddonwyr yn cytuno ei bod yn bosib y gall acrylamid mewn bwyd achosi canser mewn pobl hefyd. Rydym yn argymell ein bod ni oll yn lleihau swm yr acrylamid ein deiet, fel rhagofal.
Sut i ymateb
Gellir anfon data atom naill ai drwy ddefnyddio templed yr ASB neu’r fformat a ddefnyddiwyd ar gyfer cyflwyno’r data i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop. I gyflwyno eich data, llenwch y daenlen a’i hanfon dros e-bost i fsacallsforevidence@food.gov.uk gan enwi’r ffeil mewn modd y gellir ei adnabod, er enghraifft ‘acrylamid’. Rydym hefyd yn gofyn am wybodaeth am ddefnyddio strategaethau i gyfyngu ar ffurfiant acrylamid, a bydd hyn yn cael ei chasglu trwy arolwg ar-lein.
Templed data a chanllawiau
Darllenwch y canllawiau ar gwblhau’r daenlen (Saesneg yn unig). Mae’n hanfodol bod pob maes gorfodol yn cael ei gwblhau.
Manylion yr alwad am ddata
Rydym yn croesawu data ar gyfer pob categori bwyd y gall acrylamid ffurfio ynddo.
Rydym yn ceisio data sy’n gynrychioliadol o’r lefelau a geir mewn amrywiaeth o gynhyrchion, gan gynnwys samplau heb lefelau canfyddadwy a gwerthoedd uchel.
Bydd y data a gesglir yn cael ei gyhoeddi fel data cyfanredol ac ni chaiff ei briodoli i unigolyn, busnes, corff masnach na sefydliad.
Oherwydd bod gan acrylamid lefelau meincnod nad ydynt yn uchafsymiau cyfreithlon, nid oes angen ystyried a yw’r lefel yn cydymffurfio wrth gyflwyno data. Felly, ar gyfer colofn AO y daenlen, dewiswch god JO29A “result not evaluated” ym mhob achos.
Yn ogystal â chasglu data am ddigwyddiadau gan ddefnyddio’r daenlen uchod, hoffem hefyd gasglu gwybodaeth am ddulliau o leihau ffurfiant acrylamid wrth brosesu ac unrhyw heriau gyda’r rheiny drwy’r arolwg hwn.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 30 Tachwedd 2025.
Dyma alwad am ddata gan yr ASB/FSS, a bydd unrhyw ddata a gyflwynir ar gael i’r ASB ac FSS ac yn cael ei ddefnyddio yn y broses dadansoddi risg ar gyfer acrylamid.
Os na allwch gyflwyno data erbyn y dyddiad cau hwn, cysylltwch â ni i roi gwybod pryd y bydd yr wybodaeth ar gael.
I gael mwy o wybodaeth am sut bydd yr ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd yr ASB.
I gael mwy o wybodaeth am sut bydd FSS yn trin eich data personol, cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd FSS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad hon am ddata, cysylltwch â’r timau Halogion Cemegol yn fsacallsforevidence@food.gov.uk
Gair am ein galwadau am ddata
Dysgwch pam rydym yn ceisio data a sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.