Galwad am Dystiolaeth: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India
Ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch a fydd darpariaethau yn y Cytundeb Masnach rhwng y DU ac India sy’n ymwneud â masnachu cynhyrchion amaethyddol yn effeithio ar gynnal mesurau diogelu statudol y DU ar gyfer iechyd pobl ac, os felly, i ba raddau.
Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn fwyaf perthnasol i’r canlynol:
Defnyddwyr, cymdeithasau masnach, cyrff anllywodraethol, academyddion a phartïon sydd â buddiant.
Diben yr alwad am dystiolaeth
Bydd ymatebion rhanddeiliaid yn llywio cyngor yr ASB ac FSS i’r Adran Busnes a Masnach, a fydd wedyn yn cyfrannu at adroddiad Llywodraeth y DU (sy’n ofynnol o dan Adran 42(2) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020) fel rhan o’r broses graffu Seneddol ar gyfer y Cytundeb Masnach Rydd hwn.
Sut i ymateb
Wrth gyflwyno ymatebion, dylid sicrhau:
- eu bod ar ffurf dogfen Microsoft Word
- nad ydynt yn fwy na 2 dudalen o hyd (gan ddefnyddio ffont Times New Roman, maint 12, gyda bylchau 1.5 rhwng llinellau ac ymylon o 2.54cm)
Gall yr ASB ac FSS ddyfynnu’r ymatebion a ddaw i law yn eu cyngor. Os hoffech i’r holl ymatebion a gyflwynir gennych, neu ran ohonynt, gael eu trin yn gyfrinachol, cysylltwch â’r ASB a’r FSS drwy ftascrutiny@food.gov.uk. Mae gan yr ASB ac FSS ddisgresiwn llawn i benderfynu ar berthnasedd ymatebion.
Rhaid i unigolion neu endidau sy’n cyflwyno ymatebion nodi eu gwefan (os mai sefydliad ydynt), ynghyd â chyfeiriad e-bost a chyswllt a enwir. Gellir cysylltu ag unigolion neu endidau sy’n cyflwyno ymatebion i gael rhagor o wybodaeth.
Manylion yr alwad am dystiolaeth
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban (ASB ac FSS) yn ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch a fydd darpariaethau yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India sy’n ymwneud â masnachu cynhyrchion amaethyddol, yn effeithio ar gynnal mesurau diogelu statudol y DU ar gyfer iechyd pobl, ac i ba raddau, a hynny’n unol â chylch gwaith yr ASB ac FSS sy’n cwmpasu diogelwch bwyd a maeth.
Er gwybodaeth, yn unol â’r llythyr comisiynu a anfonwyd gan y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach a Sicrwydd Economaidd i’r ASB ac FSS, ni ddylai eich ymatebion roi sylw i fywyd neu iechyd anifeiliaid neu blanhigion; lles anifeiliaid; nac ymatebion o ran diogelu’r amgylchedd gan y bydd y meysydd hyn yn cael eu hasesu gan y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
Y dystiolaeth sydd ei hangen
Tystiolaeth destunol ynghylch a yw’r mesurau sy’n gymwys i fasnachu cynhyrchion amaethyddol yn India yn gyson â chynnal lefelau amddiffyniadau statudol y DU mewn perthynas â diogelwch bwyd a maeth, ac i ba raddau.
Ymatebion
Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd, 26 Medi 2025. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Anfonwch eich ymatebion i ftascrutiny@food.gov.uk.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Ar ran yr ASB, diolch i chi am ein helpu ni i sicrhau bod y polisi a gaiff ei lunio gennym yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
Y Tîm Trafodaethau Masnach, Cyfarwyddiaeth y DU a Materion Rhyngwladol.