Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Galwad am dystiolaeth

Galwad am Dystiolaeth: Defnyddio plastig wedi’i ailgylchu, sy’n tarddu o gynlluniau plastig sy’n mynd i’r môr/cylchdro a chasgliadau amgylcheddol tebyg, mewn cynhyrchion deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

Galwad am dystiolaeth mewn perthynas â sut mae gweithredwyr busnesau’n bwriadu cynnal eu hasesiad risg eu hunain i bennu defnydd diogel o blastig wedi’i ailgylchu sydd wedi dod o’r amgylchedd agored (y môr, ‘yn mynd i’r môr’ neu’r tir), mewn cynhyrchion deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, neu dystiolaeth gan fusnesau sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 February 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 February 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer yr alwad hon am dystiolaeth er mwyn caniatáu mwy o amser i gyflwyno tystiolaeth.

Bydd yr alwad hon am dystiolaeth o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:

Y rheiny sy’n gweithgynhyrchu, trawsnewid a manwerthu plastig a phartïon â buddiant. Unrhyw fusnes sy’n defnyddio plastig wedi’i ailgylchu neu sydd wrthi’n ymchwilio i’r defnydd posib o blastig wedi’i ailgylchu mewn cynhyrchion deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd (FCM), y mae ei ddeunydd cychwynnol yn dod o’r amgylchedd agored.

Testun yr alwad am dystiolaeth

Rydym ni’n galw am dystiolaeth mewn perthynas â sut mae gweithredwyr busnesau’n bwriadu cynnal eu hasesiad risg eu hunain i bennu defnydd diogel o blastig wedi’i ailgylchu sydd wedi dod o’r amgylchedd agored (y môr, ‘yn mynd i’r môr’ neu’r tir), mewn cynhyrchion FCM, neu dystiolaeth gan fusnesau sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae angen i hyn ystyried ffynonellau o wledydd y mae eu safonau rheoleiddio a’u strategaethau rheoli gwastraff yn wahanol i rai’r Deyrnas Unedig (DU)/Undeb Ewropeaidd (UE) a lle mae gwybodaeth am ddefnydd a/neu gamddefnydd blaenorol yn llai sicr.

Pwrpas yr alwad am dystiolaeth

Gan fod plastig ‘sy’n mynd i’r môr’ (ocean-bound) yn gysyniad cymharol newydd mewn cynhyrchion FCM, bydd yr alwad am dystiolaeth yn helpu i asesu hyn a deunydd tebyg, a nodi unrhyw risgiau posib i iechyd pobl  o ran y defnydd disgwyliedig ohono. Bydd gwybodaeth am y defnydd o blastig a ddaw o’r amgylchedd mewn cynhyrchion FCM yn llywio asesiad risg annibynnol y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a gwaith dadansoddi polisi’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)/Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ar ddefnyddio plastig wedi’i ailgylchu yn ddiogel.  

Er nad oes diffiniad a dderbynnir ar gyfer plastig “sy’n mynd i’r môr”, mae enghreifftiau o ddiffiniadau yn y llenyddiaeth, ac un ohonynt yw What is Ocean Bound Plastic? - Ocean Bound Plastic Certification (obpcert.org).

Sut i ymateb

Mae'r alwad hon am dystiolaeth bellach wedi cau.

Manylion yr alwad am dystiolaeth

Mae’r ASB a FSS yn ymwybodol o’r defnydd o blastig wedi’i ailgylchu mewn cynhyrchion FCM sy’n cael eu cyflawni’n rhannol, neu’n llawn, gan ddefnyddio deunydd plastig a ddaw o’r amgylchedd (y môr, ‘yn mynd i’r môr’ neu’r tir.) Rydym ni’n ymwybodol o’r rhain yn cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Mae’n bosib bod y plastig wedi’i ailgylchu wedi dod o’r amgylchedd agored (plastig wedi'i waredu) neu wedi’i gasglu trwy systemau heblaw gwastraff dinesig. Rydym ni’n ystyried plastig a ddaw o’r amgylchedd agored fel unrhyw fath o blastig wedi’i waredu a gesglir i’w ailgylchu o’r amgylchedd, boed hynny o’r tir, y môr neu ddŵr croyw. Mae plastig “sy’n mynd i’r môr” yn gysyniad cymharol newydd mewn cynhyrchion FCM. Mae mentrau o’r fath yn cael eu hystyried yn ddull cynaliadwy o gynhyrchu plastig, ond mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd yn ddiogel i’r defnyddiwr. 

Ystyrir bod plastig a gafwyd o systemau casglu gwastraff ac ailgylchu sefydledig (er enghraifft cynlluniau dychwelyd ernes) y tu allan i gwmpas yr alwad hon am dystiolaeth. Mae’r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau sy’n Dod i Gysylltiad â Bwyd (FCMJEG), sy’n rhoi cyngor annibynnol i’r ASB, wedi cynnal gwerthusiad cychwynnol o blastig sy’n mynd i’r môr. Mae’r datganiad interim wedi’i gymeradwyo gan riant bwyllgor y FCMJEG, y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegau mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT). Bydd gwerthusiad llawn o risgiau posib plastig a ddaw o’r amgylchedd yn cael ei gynnal yn hwyrach eleni. Gan fod hwn yn gysyniad cymharol newydd o ran ei ddefnydd mewn cynhyrchion FCM, rydym ni wedi penderfynu cynnal galwad am dystiolaeth er mwyn cael tystiolaeth a gwybodaeth werthfawr a fydd yn cyfrannu at werthusiad y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol. 

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn deall y canlynol:

Bydd hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw dystiolaeth a gyflwynir gyfeirio at y rheoliadau, lle bo’n briodol. Er enghraifft, o dan Erthygl 13(2) o Reoliad 10/2011 yr UE a ddargedwir ar ddeunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd, caniateir gweithgynhyrchu haen blastig nad yw’n dod i gysylltiad uniongyrchol â bwyd ac sydd wedi’i gwahanu oddi wrth y bwyd gan haen blastig ychwanegol (rhwystr swyddogaethol) gan ddefnyddio sylweddau nad ydynt wedi’u rhestru yn y rhestr awdurdodedig. Fodd bynnag, ni ddylai’r sylweddau hyn gael eu dosbarthu na chynnwys sylweddau/halogyddion sy’n ‘fwtagenig’, ‘carsinogenig’ neu'n ‘wenwynig i atgenhedlu’ (CMR). Os oes sylweddau CMR yn bresennol, yn ôl y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod, nid yw’n bosibl eu cymhwyso, hyd yn oed y tu ôl i rwystr swyddogaethol. Os yw’r deunyddiau hyn yn cael eu defnyddio y tu ôl i ‘rwystr swyddogaethol’, byddai’n ddefnyddiol gwybod:

  • sut y gallwch chi bennu nad oes unrhyw sylweddau CMR yn bodoli yn y deunyddiau cychwynnol.
  • sut y sicrheir y gallu i olrhain yn llawn ar hyd y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys manylion y prosesau/technolegau a ddefnyddiwyd i sicrhau bod y deunyddiau yn cael eu dadheintio’n ddigonol ar unrhyw adeg.

Yn gyffredinol, mae gennym ni ddiddordeb mewn unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag asesiadau ar gynhyrchion FCM sy’n defnyddio plastig wedi’i ailgylchu a ddaw o’r amgylchedd. Rydym ni hefyd yn croesawu manylion unrhyw gyhoeddiadau (er enghraifft papurau gwyddonol) ac adroddiadau mewnol/heb eu cyhoeddi sydd wedi helpu i gefnogi eich asesiadau unigol.

Bydd yr holl wybodaeth a ddaw i law yn cael ei hadolygu a bydd yn rhan o ystyriaeth ehangach y pwyllgor gwyddonol priodol o blastig wedi’i ailgylchu sy’n tarddu o gynlluniau plastig sy’n mynd i’r môr/cylchdro a chasgliadau amgylcheddol tebyg. Bydd hyn yn amodol ar ofynion yr ASB o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) ac os bydd gwybodaeth o’r fath yn cynnwys data personol, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â https://www.food.gov.uk/cy/amdanom-ni/hysbysiad-preifatrwydd-ymgynghoriadau. Dylid nodi gwybodaeth fasnachol sensitif a/neu gyfrinachol ei natur yn glir yn eich ymateb. Bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r gofynion a amlinellir uchod.

Marchnad Gogledd Iwerddon 

Mae deddfwriaeth FCM y Comisiwn Ewropeaidd wedi’i chynnwys yn Atodiad 2 i’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon (NIP), ac felly’n gymwys yng Ngogledd Iwerddon.
 
Rhaid i weithredwyr busnesau eithrio presenoldeb posib halogion gwenwynig o ddeunyddiau a ddefnyddir mewn cynhyrchion FCM. Mae swyddogion yr ASB ar ddeall nad yw plastig wedi’i ailgylchu a ddaw o’r amgylchedd agored yn cael ei roi ar farchnad Gogledd Iwerddon mewn cynhyrchion FCM ar hyn o bryd. Pan fo gweithredwyr busnesau yn dymuno gosod plastig wedi’i ailgylchu a ddaw o’r amgylchedd agored mewn FCM ar farchnad Gogledd Iwerddon, dylent gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos cydymffurfiaeth â deddfwriaeth FCM berthnasol y Comisiwn Ewropeaidd, ynghyd â Rheoliad (CE) Rhif 178/2002, Erthygl 14, i’r alwad hon am dystiolaeth. 

Ymatebion

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno unrhyw ddata oedd 18:00 21 Hydref 2022. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch eich ymatebion i environmentplastic@food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd, sydd i’w gael yma: https://www.food.gov.uk/cy/amdanom-ni/hysbysiad-preifatrwydd-ymgynghoriadau.

I gael gwybodaeth am sut mae FSS yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd, sydd i’w gael yma: https://www.foodstandards.gov.scot/privacy/privacy-notices/consultations-privacy-notice

Os oes angen fformat mwy hygyrch o'r ddogfen hon arnoch, anfonwch fanylion i environmentalplastic@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.

Mae’r alwad hon am dystiolaeth wedi’i pharatoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban, hoffwn ni ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr alwad hon am dystiolaeth gan y cyhoedd.