Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig

Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2024

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb:

  • busnesau bwyd a chymdeithasau masnach y diwydiant sydd â buddiant mewn cynhyrchion rheoleiddiedig
  • awdurdodau cymwys (awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd)
  • defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A yn y pecyn ymgynghori.

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn, a gynhelir ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn ymwneud â’r cynigion cychwynnol i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn symleiddio’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Mae cynhyrchion rheoleiddiedig yn gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y mae’n rhaid iddynt gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd, cyflasynnau, bwydydd newydd, organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, ac ychwanegion bwyd anifeiliaid.

Etifeddwyd y broses awdurdodi bresennol gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Bwrdd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cytuno y bydd angen gwneud newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n gallu ymdopi â chyflymder arloesi yn y diwydiant bwyd. Y ddau gynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw:

  • cael gwared ar y gofynion adnewyddu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys, neu sydd wedi’u cynhyrchu ar sail organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a chyflasynnau mwg; a
  • caniatáu i awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ddod i rym pan gânt eu cyhoeddi, yn debygol ar gofrestr swyddogol, yn dilyn penderfyniad gweinidogol.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y ddau gynnig cychwynnol ar gyfer diwygiadau deddfwriaethol er mwyn symleiddio’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig, fel yr amlinellir uchod ac y manylir arnynt yn y pecyn ymgynghori.

Rydym yn ceisio adborth ar y cynigion a’n hasesiad o’r effeithiau posib sydd wedi’u nodi yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried. 
Dyma gyfle rhanddeiliaid i gyfrannu at y cyngor terfynol a roddir i weinidogion.

Mae’r ASB ac FSS yn bwriadu cyflwyno cynigion pellach ar gyfer diwygio a moderneiddio’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Cam cyntaf yw’r cynigion hyn. Bydd mwy o wybodaeth am gynlluniau diwygio tymor hwy yn cael ei chyflwyno i Fyrddau’r ASB ac FSS ym mis Mehefin 2024 ac, os caiff y cynlluniau hyn eu derbyn, byddant yn destun ymgynghoriad ar wahân.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd:

Pecyn ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn erbyn 5 Mehefin 2024 trwy’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.