Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi amryw gynhyrchion rheoleiddiedig: pedwar bwyd newydd, tri ychwanegyn bwyd, cael gwared ar ddau ar hugain o awdurdodiadau cyflasynnau bwyd a chynnig i osod terfyn ar gyfer ethylen ocsid mewn ychwanegion bwyd

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am fwydydd newydd ac ychwanegion bwyd sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi, gan gynnwys cais i gael gwared ar awdurdodiad ar gyfer dau ar hugain o gyflasynnau bwyd a chynnig i osod terfyn ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd a ystyrir yn y ddogfen hon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Pwysig
Ar 30 Ionawr 2024, derbyniwyd pecyn o fesurau a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn galluogi Cynulliad Gogledd Iwerddon i ddychwelyd. Mae mwy o wybodaeth am y mesurau hyn ar gael ym Mhapur Gorchymyn Llywodraeth y DU, Diogelu’r Undeb. Mae’n bosib y bydd nifer bach o gyfeiriadau yn yr ymgynghoriad hwn bellach wedi dyddio, ond nid yw hanfod yr ymgynghoriad wedi newid. 

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • busnesau bwyd sy’n dymuno defnyddio’r ychwanegion bwyd yn y categorïau defnydd arfaethedig a busnesau bwyd a allai fod wedi defnyddio’r ddau ar hugain o sylweddau cyflasynnau yn eu bwyd
  • cynhyrchwyr a chyflenwyr bwydydd newydd, ychwanegion a chyflasynnau bwyd, mewnforwyr, dosbarthwyr a chyfanwerthwyr a manwerthwyr 
  • cymdeithasau Masnach y Diwydiant Bwyd yn y meysydd bwydydd newydd, ychwanegion bwyd a chyflasynnau
  • grwpiau defnyddwyr 
  • grwpiau ymgyrch yn ymwneud â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol 
  • sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr yn y gadwyn fwyd  
  • awdurdodau gorfodi ar draws y DU, gan gynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a Chynghorau Dosbarth      
  • defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach 

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A y pecyn ymgynghori.

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â phedwar cais am fwydydd newydd a thri chais am ychwanegion bwyd sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr a chais i gael gwared ar awdurdodiad ar gyfer dau ar hugain o sylweddau cyflasynnau bwyd ym Mhrydain Fawr. 

Ers 1 Hydref 2023, mae Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) newydd y Fframwaith Windsor ar waith. Gall nwyddau sy’n cael eu symud i Ogledd Iwerddon o dan NIRMS gael eu cynhyrchu i safonau Prydain Fawr at ddiben diogelu defnyddwyr ac iechyd y cyhoedd.

Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn ymwneud â’r cynnig i osod terfyn ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi asesiadau diogelwch ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ar gyfer y ceisiadau.

Argymhelliad Rheoli Risg yr ASB/FSS

Mae argymhellion Rheoli Risg yn ystyried yr asesiadau diogelwch (sy’n cynrychioli barn yr ASB ac FSS ar gyfer pob cais) yn ogystal ag effeithiau posib yn sgil awdurdodi’r bwydydd newydd a’r ychwanegion bwyd hyn a ffactorau cyfreithlon eraill y gallai gweinidogion ddymuno eu ystyried cyn gwneud penderfyniad ar y ceisiadau hyn.  

Asesiadau diogelwch yr ASB/FSS

Mae ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn wedi bod yn destun asesiad diogelwch gan yr ASB/FSS, gan gynnwys adolygiad llawn o goflenni’r ymgeiswyr. Mae safbwyntiau’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) wedi’u hystyried yn asesiad diogelwch yr ASB/FSS ar gyfer ceisiadau am fwydydd newydd. Mae safbwyntiau’r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ychwanegion, Ensymau a Chynhyrchion Rheoleiddiedig eraill (AEJEG) wedi’u hystyried yn asesiad diogelwch yr ASB/FSS ar gyfer ceisiadau am ychwanegion bwyd. Adolygodd y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) hefyd ddogfennau Cyngor Pwyllgor AEJEG ar gyfer y ceisiadau am ychwanegion bwyd, gan gytuno â chasgliadau’r AEJEG. Adlewyrchir safbwyntiau’r Pwyllgorau yn yr Asesiadau Diogelwch cyhoeddedig sy’n ffurfio barn yr ASB ac FSS ar y ceisiadau hyn. Nid oes angen asesiad diogelwch ar gyfer ceisiadau i dynnu sylweddau awdurdodedig.

RP19 Protein Reis Haidd (bwyd newydd)

RP200 Asidau Brasterog wedi’u Cymysgu â Chetyl  

RP549 lacto-N-ffycopentaos I (LNFP-l) a 2'-ffycosylactos (2’-FL) (bwyd newydd) 

RP1202 3-ffycosylactos (3-FL) (bwyd newydd)

RP1084 Glycosidau stefiol (E 960) o echdynion dail Stefia (ychwanegyn bwyd)

RP1140 Glycosidau Stefiol (E 960) a gynhyrchir gan Yarrowia lipolytica (ychwanegyn bwyd)

RP217 Ymestyn y defnydd o Bolyglyserol Polyricinoleate (E 476) (ychwanegyn bwyd)

Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid leisio eu safbwyntiau ar awdurdodi bwydydd newydd ac ychwanegion bwyd, cael gwared ar awdurdodiad y sylweddau cyflasynnau; gosod terfyn ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd. Bydd yr ASB yn ystyried adborth rhanddeiliaid, er mwyn hysbysu gweinidogion Cymru a Lloegr (gan roi gwybod i Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon) cyn iddynt wneud penderfyniad.  

Rydym yn ceisio adborth ar y telerau awdurdodi arfaethedig mewn perthynas â’r pedwar cais am fwydydd newydd a’r tri chais am ychwanegion bwyd, ein hasesiad o’r effeithiau posib a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.  

Mewn perthynas â’r cais i gael gwared ar awdurdodiad dau ar hugain o sylweddau cyflasynnau bwyd, a’r cynnig i osod terfyn ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd, rydym yn ceisio adborth ar yr effeithiau posib a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.

Mae’r FSS yn cyhoeddi ymgynghoriad cyfochrog i lywio penderfyniad gweinidogion yn yr Alban yn yr un modd.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd:

Pecyn ymgynghori ar geisiadau i awdurdodi pedwar bwyd newydd a thri ychwanegyn bwyd, cais i gael gwared ar ddau ar hugain o sylweddau cyflasynnau bwyd a chynnig i osod terfyn gweithredu ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd (HTML)

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:

E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Os ydych yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.