Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i gyfraith genedlaethol (Cymru yn unig) mewn perthynas â Chyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd ar fwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu

Penodol i Gymru

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar y cynigion i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth genedlaethol (Cymru yn unig) mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu, ar wahân, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu’n effeithiol ar ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 January 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 January 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

Crynodeb o ymatebion i;r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i gyfraith genedlaethol (Cymru yn unig) mewn perthynas â Chyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd ar fwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu (Saesneg yn unig).

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol: 

  • Gweithgynhyrchwyr bwyd, bwyd anifeiliaid a deunydd pecynnu bwyd, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr
  • Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yng nghyswllt bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu (extraction solvents)
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
  • Awdurdodau gorfodi

Mae rhestr lawn o bartïon sydd â buddiant ar gael yn Atodiad A i’r ddogfen ymgynghori.

Pwnc yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar y cynigion i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth genedlaethol (Cymru yn unig) mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu, ar wahân, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu’n effeithiol ar ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Ar hyn o bryd, mae’r ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol ar fwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu yn cynnwys elfennau anweithredol y mae angen eu datrys wedi i’r DU ymadael â’r UE. Yn benodol, mae’r ddeddfwriaeth yn croesgyfeirio at atodiadau ac erthyglau penodol yng Nghyfarwyddebau’r UE sy’n gysylltiedig â hi. Mae angen mynd i’r afael â’r elfennau anweithredol hyn gan ddefnyddio pwerau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (EUWA). Mae’r EUWA yn amodi y bydd peth o ddeddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU yn cael ei throsi’n gyfraith y DU ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r EUWA hefyd yn rhoi pwerau i weinidogion gywiro cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law), fel ei bod yn gweithredu’n effeithiol fel cyfraith y DU. Mae cywiriadau angenrheidiol wedi’u gwneud trwy nifer o offerynnau statudol ar draws adrannau’r Llywodraeth, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Ni fydd y pwerau hyn ar gael mwyach ar ôl 31 Rhagfyr 2022, a rhaid pennu’r ddeddfwriaeth genedlaethol ddiwygiedig cyn i’r pwerau ddod i ben. Yn ogystal, er mwyn sicrhau deddfwriaeth lân y gellir ei gweithredu, rhaid dileu cyfeiriadau amrywiol at y Cyfarwyddebau a’r atodiadau cysylltiedig o ddeddfwriaeth genedlaethol sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â newidiadau i’r Offerynnau Statudol yng Nghymru yn unig. Mae newidiadau tebyg yn cael eu cyflwyno i ddeddfwriaeth genedlaethol Lloegr a’r Alban.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynigion i ymgorffori gofynion a geir yng Nghyfarwyddebau’r UE mewn cyfraith genedlaethol ar fwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu. Gofynnwn i randdeiliaid ystyried a oes unrhyw ofynion perthnasol ar goll, neu a ydynt yn fodlon â’r newidiadau arfaethedig.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Mae ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos yn cael ei lansio i roi cyfle i bartïon sydd â buddiant wneud sylwadau ar y cynigion polisi ar gyfer ymgorffori gofynion a geir yng Nghyfarwyddebau’r UE mewn cyfraith genedlaethol ar fwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu.

Mae’r cyfnod ymgynghori hwn yn gymharol fyr o gymharu â’r hyd optimaidd o ddeuddeg wythnos. Mae’r ymgynghoriad hwn yn fyrrach am fod angen i’r ASB gwblhau’r broses gan roi digon o amser ar gyfer defnyddio pwerau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ,a fydd yn dod i ben ddiwedd 2022. Byddai’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio i roi’r ddeddfwriaeth ar waith pe bai’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn gefnogol.

Bydd unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried yn ofalus, a bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ASB o fewn tri mis i’r ymgynghoriad ddod i ben.

Pecyn ymgynghori

Wales

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad i'r cyfeiriad e-bost canlynol:

Polisi Bwyd Cymru: Food.Policy.Wales@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.