Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2019

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi wedi'u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Melfast ddydd Mercher 18 Medi 2019. Bydd yn dechrau am 08.30am dan arweiniad Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock. Mae croeso i chi ddod i’r cyfarfod neu gallwch chi wylio'n fyw ar-lein

Mae'r agenda'n cynnwys trafodaeth ar yr eitemau hyn: 

  • diweddariad ar ein gwaith ar orsensitifrwydd bwyd a gweithredu’r adolygiad labelu alergenau 
  • cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer system labordai bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig  
  • ein dull tuag at ansicrwydd a risg mewn perthynas â'r broses dadansoddi risg 
  • adolygiad a chamau nesaf y rhaglen lleihau campylobacter 
  • diweddariad ar ein cynnydd o ran ymwrthed gwrthficrobaidd (AMR) 

Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael drwy dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd  

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi yn cael ei gynnal yn Ystafell Lagan, Gwesty Hilton, Lanyon Place, Belffast, BT1 3LP.

Mae croeso i chi ddod i gyfarfod y Bwrdd. Bydd angen i chi anfon e-bost atom ni er mwyn cofrestru ar gyfer y cyfarfod. Efallai bod lleoedd yn gyfyng, felly cofiwch ddisgwyl am neges swyddogol i gadarnhau eich bod wedi'ch cofrestru cyn gwneud unrhyw drefniadau.

Gallwch chi hefyd wylio'r cyfarfod ar-lein trwy gofrestru ar ein gwefan bwrpasol.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
ffôn: 020 8481 3302 
email: fsaboardmeetings@livegroup.co.uk