Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)
Guidance on Mechanically Separated Meat
Rhif y diwygiad | Dyddiad | Diben y diwygiad | Diwygiwyd gan |
---|---|---|---|
1 | Gorffennaf 2025 | - | - |
Crynodeb
Diben
Rhoi canllawiau ar sut y dylid cymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) yn Atodiad I, pwynt 1.14 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon.
Statws cyfreithiol
Canllawiau Cydymffurfiaeth Reoleiddiol; mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol.
Ar gyfer pwy mae’r cyngor hwn?
Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at:
- weithredwyr busnesau bwyd (FBOs)
- gweithgynhyrchwyr/proseswyr/trinwyr MSM a/neu baratoadau cig
- busnesau sy’n ymgorffori MSM a/neu baratoadau cig mewn cynhyrchion eraill
- busnesau sy’n rhoi cynhyrchion o’r fath ar farchnad y DU, ac allforwyr
Gellir eu defnyddio hefyd gan:
- awdurdodau lleol
- staff gweithredol yr ASB
- a staff yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cefnogi rheolaethau swyddogol a sicrhau cysondeb y dull rheoleiddio
I ba wledydd yn y DU mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Lloegr
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn yr Alban at Safonau Bwyd yr Alban.
Dyddiad adolygu
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn erbyn 3 Ionawr 2027.
Geiriau allweddol
- Cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)
- Hylendid cig
- Cyfraith bwyd
Cyflwyniad
Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon (‘y Rheoliadau’ gyda’i gilydd) yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas â bwyd sy’n dod o anifeiliaid. Mae’r gofynion hylendid penodol y mae’n rhaid eu cymhwyso i baratoi a thrin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn dibynnu ar natur y cynnyrch fel y’i diffinnir o dan y Rheoliadau. Rhaid i sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu a/neu’n trin cynhyrchion sy’n ddarostyngedig i ofynion o dan Atodiad III o’r Rheoliadau gael eu cymeradwyo ar gyfer gweithgynhyrchu a/neu drin cynhyrchion y maent yn dymuno eu rhoi ar y farchnad.
Rhaid dosbarthu unrhyw gynnyrch yn gywir er mwyn sicrhau bod y gwaith o’i baratoi a’i drin yn bodloni gofynion cyfraith bwyd ar gyfer y cynnyrch hwnnw. Mae dosbarthiadau cynnyrch wedi’u nodi yn y diffiniadau a ddarperir yn Atodiad I i’r Rheoliadau.
Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi dyfarniadau (‘y Dyfarniadau’ gyda’i gilydd) sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau. Nid oes unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau o ganlyniad i’r Dyfarniadau; nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ynghylch MSM wedi’u hychwanegu, eu diwygio na’u dileu.
Mae’n disodli ‘Canllawiau ar y Moratoriwm ar gynhyrchu a defnyddio cig heb y gewynnau o esgyrn anifeiliaid cnoi cil yn y Deyrnas Unedig’ 2012, a gafodd eu tynnu’n ôl yn swyddogol ar 14 Tachwedd 2022.
Mae’n waharddedig defnyddio esgyrn neu ddarnau ag asgwrn o wartheg, defaid a geifr ar gyfer cynhyrchu MSM, o dan Atodiad V i Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 999/2001 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs).
Cynulleidfa darged
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:
- Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio, neu sy’n bwriadu defnyddio, offer gwahanu cig mecanyddol yn eu prosesau cynhyrchu i wahanu cig gweddilliol oddi wrth esgyrn.
- Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio, neu sy’n bwriadu defnyddio, MSM fel cynhwysyn.
- Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n cynhyrchu neu’n defnyddio, neu sy’n bwriadu cynhyrchu neu ddefnyddio, cynhwysyn y mae angen eglurder ynghylch ei ddosbarthiad, hynny yw, ai MSM ydyw.
- Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gosod cynhyrchion MSM ar farchnadoedd Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, ac allforwyr.
Er bod y canllawiau hyn wedi’u bwriadu’n bennaf i gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd i gydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, gall awdurdodau lleol, staff gweithredol yr ASB a staff DAERA eu defnyddio i gefnogi rheolaethau swyddogol a darparu dull rheoleiddio cyson.
Diben y canllawiau
Eglurodd Dyfarniadau’r Llys sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau. Mae’r canllawiau hyn yn cynorthwyo gweithredwyr busnesau bwyd i benderfynu a yw cynnyrch yn MSM, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio.
Dylid darllen y canllawiau ar y cyd ag Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM, sy’n darparu rhagor o wybodaeth gyffredinol am MSM a chymorth i ddeall y goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd.
Statws cyfreithiol y canllawiau
Nodir Cyfraith yr UE a gymathwyd yn y canllawiau hyn gan ddefnyddio’r fformat canlynol: Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif xxx/xxxx. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys i’r rhan fwyaf o gyfraith bwyd a chyfraith hylendid a diogelwch bwyd anifeiliaid, ac fe’i nodir yn y canllawiau hyn gan ddefnyddio’r fformat canlynol: Rheoliad (CE) Rhif xxx/xxxx.
Mae gofynion eraill sydd y tu allan i gwmpas y canllawiau hyn, ond sydd hefyd yn darparu gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i gynhyrchu MSM, wedi’u manylu isod. Cyfrifoldeb gweithredwyr busnesau bwyd yw sicrhau cydymffurfiaeth â nhw.
- Gofynion cyfreithiol y Rheoliadau i’r graddau y maent yn ymwneud â chynhyrchu, trin a labelu MSM yn Adran V o Atodiad III i’r Rheoliadau.
- Mesurau TSE sy’n ymwneud ag MSM o dan Erthygl 9 ac Atodiad V (paragraff 5) o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 999/2001 ym Mhrydain Fawr a Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 yng Ngogledd Iwerddon.
- Y meini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd yn Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 2073/2005 ym Mhrydain Fawr a Rheoliad (CE) Rhif 2073/2005 yng Ngogledd Iwerddon, i’r graddau y maent yn ymwneud â chynhyrchu MSM.
Cyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw cydymffurfio â chyfraith bwyd. Ni all y ddogfen ganllaw hon gwmpasu pob senario, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol i ddeall sut mae’n gymwys yn eich amgylchiadau chi. Efallai y bydd gweithredwyr busnesau bwyd am geisio cyngor gan eu hawdurdod cymwys; milfeddyg swyddogol (OV) a benodwyd gan yr ASB ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd gan yr ASB; neu eu tîm diogelwch bwyd lleol ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd/a gofrestrwyd gan awdurdodau lleol.
Adolygu
Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw 03 Ionawr 2027.
Adborth
Rydym yn croesawu adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys nad yw bellach yn gyfredol, a byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad nesaf.
Diffino cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
Rhoddir y diffiniad o MSM ym Mhwynt 1.14 o Atodiad I i’r Rheoliadau: Mae ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ neu ‘MSM’ yn golygu’r cynnyrch a geir trwy dynnu cig oddi ar esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn, neu o garcasau dofednod, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.
Mae’r Llysoedd wedi ystyried a dehongli’r diffiniad o MSM. Rhaid cymhwyso’r dehongliad hwnnw wrth benderfynu a yw MSM wedi cael ei gynhyrchu/yn cael ei gynhyrchu/yn mynd i gael ei gynhyrchu.
Mae Adran V o Atodiad III i’r Rheoliadau yn nodi gofynion penodol y mae’n rhaid eu bodloni o ran cynhyrchu briwgig, paratoadau cig ac MSM. Mae gofynion ynghylch sefydliadau cynhyrchu, deunyddiau crai, hylendid (yn ystod ac ar ôl cynhyrchu), a labelu.
Ar gyfer cynnyrch y pennir mai MSM ydyw yn unol â dehongliad y Llysoedd, rhaid bodloni gofynion Adran V o Atodiad III er mwyn iddo gael ei roi ar y farchnad yn gyfreithlon.
Dylai gweithredwyr busnesau bwyd ystyried unrhyw ofynion deddfwriaethol ychwanegol (er enghraifft, gofynion labelu) yn ôl yr angen.
Dyfarniadau llys ar MSM (‘y Dyfarniadau’)
Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi’r dyfarniadau canlynol sy’n berthnasol i ddehongli’r diffiniad o MSM a nodir yn Atodiad I, Pwynt 1.14 i’r Rheoliadau:
- Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd Achos C-453/13 ar 16 Hydref 2014
- Rhif Achos yr Uchel Lys: CO/6923/2012 ar 23 Mawrth 2016
- Rhif Achos y Llys Apêl: C1/2016/2112 ar 25 Mai 2017
- Rhif Achos y Goruchaf Lys UKSC 2017/0110 ar 3 Ebrill 2019
- Dyfarniad yr Uchel Lys (Rhif yr Achos: CO/4360/2021 ar 5 Gorffennaf 2022
Dim ond y Llysoedd all roi datganiadau awdurdodol o ofynion cyfraith bwyd. Gan fod y Dyfarniadau wedi ystyried cynhyrchu MSM o dan y Rheoliadau, nid yw eu perthnasedd wedi’i gyfyngu i broses benodol a ddefnyddir nac i unrhyw fath neu frand penodol o offer sydd â swyddogaeth gwahanu mecanyddol.
Dehongli’r diffiniad o MSM gan y Llysoedd
Mae’r Llysoedd wedi dehongli bod y diffiniad o MSM yn seiliedig ar dri maen prawf cronnus, y mae’n rhaid eu darllen ar y cyd â’i gilydd, wrth benderfynu ai MSM yw cynnyrch. Caiff cynnyrch sy’n bodloni’r tri maen prawf isod ei ddosbarthu fel MSM:
- y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt, neu garcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt;
- y defnydd o ddulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw;
- colli neu addasu strwythur ffeibr cyhyrau’r cig sydd wedi’i adfer trwy ddefnyddio’r prosesau hynny.
Y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt, neu garcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt
Mae’r maen prawf cyntaf yn cyfeirio at dynnu’r cig sydd ar ôl ar esgyrn anifeiliaid ar ôl i’r cam cychwynnol o gigydda ddigwydd ac y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrtho. Ystyr cam cychwynnol cigydda yw unrhyw beth ar ôl y toriad cyntaf, y weithred gyntaf o dynnu neu wahanu esgyrn neu ddarnau o gig oddi wrth garcasau.
Ar gyfer cig heblaw dofednod, bydd unrhyw asgwrn a dynnir o’r carcasau neu ddarnau o gig gydag esgyrn sy’n mynd trwy broses gwahanu fecanyddol, ar ôl cam cychwynnol y cigydda/torri, yn arwain at gynhyrchu MSM, os yw hefyd yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.
O ran dofednod, mae elfen gyntaf y diffiniad o MSM yn nodi “carcasau dofednod”. Mae hyn yn golygu carcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt. Bydd tynnu cig o gorff cyfan yr aderyn a defnyddio unrhyw esgyrn neu ddarnau o gig gydag esgyrn fel deunyddiau crai yn arwain at gynhyrchu MSM, os bydd hefyd yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.
Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y cynnyrch terfynol ni waeth ai carcas dofednod cyfan, hanner carcas dofednod, neu darnau dofednod ag asgwrn, sy’n mynd trwy’r broses wahanu fecanyddol berthnasol.
Defnyddio dulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw
Mae’r dulliau gwahanu mecanyddol i adfer cig o’r deunyddiau crai y cyfeirir atynt yn y maen prawf cyntaf fel arfer yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, orfodi’r deunyddiau crai o dan bwysau trwy ridyll neu ddyfais debyg i wahanu’r asgwrn o feinwe’r cig.
Mae’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau yn gwahaniaethu rhwng dau isdeip o gig MSM gan ddibynnu ar y technegau cynhyrchu a ddefnyddir. Mae gan bob isdeip ofynion cyfreithiol penodol ynghylch sut y mae’n rhaid ei gynhyrchu a’i ddefnyddio. Nodir y rhain yn y drefn berthnasol ym mharagraffau 3 a 4, Pennod III, Adran V, Atodiad III i’r Rheoliadau.
Colli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau
Nid yw’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau yn ystyried faint o golled neu addasiad sydd i strwythur ffeibr y cyhyrau; yn hytrach, mae’n ystyried a oes colled neu addasiad o gwbl.
Bydd unrhyw golled neu addasiad i strwythur ffeibr y cyhyrau yn arwain at MSM, waeth beth fo’r graddau, i’r graddau y mae’r golled neu’r addasiad hwnnw, oherwydd y broses a ddefnyddir, yn fwy na’r hyn sydd wedi’i gyfyngu’n llym i’r pwynt torri.
Mae’r pwynt torri hwn yn golygu’r cam cychwynnol pan fydd cyhyrau cyfan yn cael eu datgysylltu oddi wrth garcas anifail neu’r weithred gychwynnol o dynnu neu wahanu esgyrn/darnau o gig oddi wrth garcasau.
Mae gwahanu cig oddi wrth esgyrn yn fecanyddol yn cynhyrchu gwahanu, llafnu neu dorri, sy’n addasu neu’n colli strwythur ffeibr y cyhyrau mewn mannau y tu hwnt i’r pwynt torri cychwynnol a ddefnyddir i ddatgysylltu cyhyrau cyfan neu dynnu cig o’r carcas. Mae’r broses hon yn arwain at MSM, os bodlonir y meini prawf cyntaf hefyd.
Ar gyfer cig dofednod, hyd yn oed os yw carcas cyfan, y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrtho, yn cael ei wahanu’n fecanyddol, bydd y llafnu neu’r torri sy’n gysylltiedig â’r broses yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau ac, felly, bydd yn arwain at MSM.
Nid MSM fydd cig a dynnir o garcas os caiff ei dynnu trwy ddulliau mecanyddol yn ystod cam cyntaf torri cig o’r carcas cyfan, ond fel arfer, bydd yn MSM os caiff ei dynnu trwy ddulliau mecanyddol wedi hynny. Felly, wrth ddefnyddio prosesau mecanyddol, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng MSM a’r cynnyrch a geir trwy dorri cyhyrau cyfan. Nid yw’r olaf yn dangos colled neu addasiad mwy cyffredinol o strwythur ffeibr y cyhyrau, ond mae’n datgelu colled neu addasiad o strwythur ffeibr y cyhyrau sydd wedi’i gyfyngu’n llym i’r pwynt torri. O ganlyniad, er enghraifft, nid yw cyhyrau sy’n cael eu datgysylltu o’r carcas trwy dorri’n fecanyddol yn gyfystyr ag MSM.
Y deunyddiau crai a’r prosesau a ddefnyddir fydd yn pennu a yw strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu. Mae’n hawdd gwybod a yw carcas neu ran o garcas wedi mynd trwy’r broses gychwynnol o dynnu cig o garcas, ac felly nid oes angen cymhwyso prosesau ymchwilio microsgopig manwl.
Cysylltiadau
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y canllawiau at dimau Polisi Hylendid Cig yr ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost perthnasol:
- Cymru – Food.Policy.Wales@food.gov.uk
- Gogledd Iwerddon – NIOperationalpolicy@food.gov.uk
- Lloegr – meathygiene@food.gov.uk
Dylid uwchgyfeirio ymholiadau gan awdurdodau lleol gyda’r ASB yn unol â’r dull hierarchaeth sefydledig.
Os oes ymholiad yn ymwneud â sut mae’r Canllawiau’n berthnasol i brosesau cynhyrchu penodol, ceisiwch gyngor gan eich awdurdod cymwys, milfeddyg swyddogol a benodwyd gan yr ASB ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd gan yr ASB, neu dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol ar gyfer sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo/eu cofrestru gan yr awdurdod lleol.
Cymeradwyaeth ac apeliadau
Os hoffech chi gynhyrchu MSM, bydd angen cymeradwyaeth arnoch chi gan yr ASB neu’ch awdurdod lleol.
I gael mwy o wybodaeth am y broses gymeradwyo, trowch at wefan yr ASB: Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd.
Os oes angen cymeradwyaeth yr ASB ar eich sefydliad i gynhyrchu MSM, gwnewch gais drwy wasanaeth cymeradwyo’r ASB. Os oes angen cymeradwyaeth gan awdurdod lleol ar eich sefydliad, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad y mae’r ASB neu’r Awdurdod Cymwys wedi’i wneud, gallwch apelio yn ei erbyn:
- Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr ASB
- Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan awdurdod lleol
Mwy o wybodaeth
I weld mwy o wybodaeth, gan gynnwys ymholiadau cyffredinol a goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd, gweler Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM. Argymhellir darllen y cwestiynau cyffredin ar y cyd â’r canllawiau.
Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM
Ymholiadau cyffredinol
Beth yw cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)?
Ceir MSM trwy dynnu cig o esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn (ar gyfer rhywogaethau cig coch, mae hyn fel arfer yn cynnwys porc, gan fod MSM sy’n deillio o wartheg, defaid a geifr wedi’i wahardd); neu o garcasau dofednod. MSM yw’r cynnyrch os caiff ei dynnu gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibrau’r cyhyrau.
Mae MSM yn ddiogel i ddefnyddwyr, gan dybio ei fod yn cael ei gynhyrchu yn unol â’r gofynion deddfwriaethol, a’i fod yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion terfynol. Fodd bynnag, ni all gyfrif tuag at y ganran o gynnwys cig a nodir ar labelu’r cynhyrchion hynny o dan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1169/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon.
Beth yw’r gwahanol fathau o MSM?
Mae dau isdeip o MSM, ac mae’r rhain yn dibynnu ar y technegau a ddefnyddir yn ystod y broses gwahanu mecanyddol. Yr isdeip a gynhyrchir sy’n pennu pa ddefnydd y caniateir ei wneud ohono. Yr isdeipiau yw:
MSM a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau nad ydynt yn newid strwythur yr esgyrn, ac nad yw ei gynnwys calsiwm yn sylweddol uwch na chynnwys briwgig (nid yw’n uwch na 0.1% (=100 mg/100 g neu 1000 ppm)). Weithiau cyfeirir at yr isdeip hwn gan y diwydiant fel MSM ‘pwysedd isel’; fodd bynnag, nid yw hwn yn derm sydd wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau.
Mae dulliau cynhyrchu a defnyddio yn ddarostyngedig i ofynion hylendid a nodir yn Atodiad III i’r Rheoliadau, Adran V, Pennod III, paragraff 3; a gofynion labelu ym Mhennod IV.
Gellir defnyddio’r isdeip hwn mewn paratoadau cig y mae bwriad clir i’w coginio, ac mewn cynhyrchion cig. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys cynhyrchion nad ydynt yn barod i’w bwyta, fel byrgyrs a nygets cyw iâr.
MSM a gynhyrchir gan ddefnyddio technegau heblaw’r rhai a grybwyllir yn y pwynt uchod. Weithiau cyfeirir at yr isdeip hwn gan y diwydiant fel MSM ‘pwysedd uchel’; fodd bynnag, nid yw hwn yn derm sydd wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau.
Mae dulliau cynhyrchu a defnyddio yn ddarostyngedig i ofynion hylendid a nodir yn Atodiad III i’r Rheoliadau, Adran V, Pennod III, paragraff 4; a gofynion labelu ym Mhennod IV.
Dim ond wrth weithgynhyrchu cynhyrchion parod i’w bwyta sydd wedi’u trin â gwres gan sefydliadau cymeradwy y gellir defnyddio’r isdeip hwn. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys selsig wedi’u coginio fel frankfurters, a chig tun.
Pa dermau eraill a ddefnyddir gan y diwydiant ar gyfer MSM?
Mae ‘cig Baader’ a ‘chig 3mm’ ymhlith termau amgen a ddefnyddir gan y diwydiant i ddisgrifio cynhyrchion a gynhyrchir drwy wahanu cig yn fecanyddol, gan gyfeirio’n aml at frand y peiriannau a ddefnyddir, neu agorfa rhidyllu’r offer. Yn aml nid yw termau o’r fath yn ymwneud â’r math o gynnyrch a gynhyrchir ac nid ydynt wedi’u diffinio yn y gyfraith. Rhaid dosbarthu cynhyrchion a gynhyrchir yn unol â’r tri maen prawf cronnus sy’n pennu ai MSM yw cynnyrch fel ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ neu ‘MSM’ a’u labelu’n briodol bob amser.
A oes unrhyw bryderon diogelwch bwyd yn gysylltiedig â chynhyrchu MSM?
Lle cynhyrchir MSM yn unol â gofynion hylendid bwyd, mae’r risgiau’n cael eu lleihau i lefel dderbyniol gan leihau pryderon diogelwch bwyd.
Mae gan MSM risg gynhenid y mae’r ffordd o’i baratoi a’i strwythur yn dylanwadu arni ac, o ganlyniad, rhaid bod mesurau lliniaru risg llymach ar waith ar gyfer y cynnyrch hwn. Mae’r gofynion cynhyrchu llymach ar gyfer MSM (er enghraifft,. deunyddiau crai a ganiateir, defnyddiau a ganiateir fesul isdeip a rheolaethau hylendid, gofynion microbiolegol ac ati), o gymharu â pharatoadau cig a briwgig, oherwydd natur fân neu ddarniog y cynnyrch.
A yw MSM sy’n deillio o wartheg, defaid neu eifr yn risg i iechyd y cyhoedd?
Mae defnyddio esgyrn gwartheg, defaid a geifr, neu ddarnau ag asgwrn, fel deunydd crai ar gyfer MSM wedi’i wahardd ers 2001 oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd, yn benodol, y risg bosib o Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) gan gynnwys Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE).
A yw tynnu’r dogfennau canllaw blaenorol* yn ymwneud ag MSM yn ôl a chyhoeddi canllawiau newydd yn golygu bod newidiadau i’r gyfraith ar MSM?
Nid oes unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau o ganlyniad i’r Dyfarniadau; nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ynghylch MSM wedi’u hychwanegu, eu diwygio, na’u dileu. Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi Dyfarniadau sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau.
*Tynnwyd y canllawiau i’r moratoriwm ar ‘gig heb y gewynnau’ yn ôl (yn yr un modd â’r moratoriwm ei hun) ar 14 Tachwedd 2022.
Goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd
Beth mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd ei wneud?
Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ynghylch MSM.
O ystyried yr eglurhad o’r diffiniad o MSM, efallai y bydd cynhyrchion nad oeddent wedi’u dosbarthu fel MSM yn flaenorol (hynny yw, cyn tynnu’r moratoriwm yn ôl ym mis Tachwedd 2022) y mae’n rhaid eu dosbarthu’n gywir bellach fel MSM. Mae hyn yn effeithio ar gategoreiddio’r cig fel MSM a’r defnydd o MSM fel cynhwysyn mewn cynhyrchion eraill. Bydd achosion lle efallai y bydd angen cymeradwyaeth i gynhyrchu MSM, a chyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw sicrhau hyn drwy wneud cais i’w awdurdod cymwys (sef yr ASB neu awdurdod lleol).
Bwriad y canllawiau yw cynorthwyo gweithredwyr busnesau bwyd i gyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol. Bydd mesurau penodol i’w cymryd gan weithredwyr busnesau bwyd (er enghraifft, newidiadau labelu neu ailfformiwleiddio cynnyrch) yn amrywio fesul achos. Os oes angen cymorth ychwanegol ar weithredwr busnes bwyd, dylai gysylltu â’r ASB neu ei awdurdod lleol i gael cyngor.
Beth yw’r gofynion ar gyfer cynhyrchu MSM a’i roi ar y farchnad?
Mae gofynion hylendid bwyd wedi’u nodi yn y Rheoliadau ynghylch cynhyrchu MSM o borc a dofednod. Mae gofynion gwahanol yn gymwys i bob un o’r ddau isdeip o MSM (gweler y cwestiwn, Beth yw’r gwahanol fathau o MSM?).
Nid yw MSM yn cyfrannu at gynnwys cig cynhyrchion terfynol, a rhaid ei labelu yn unol â gofynion deddfwriaethol (gweler y cwestiwn, Pan ddefnyddir MSM fel cynhwysyn, sut y dylid ei labelu?).
A fydd tynnu gewynnau a/neu dendonau o gig di-asgwrn trwy ddulliau mecanyddol yn arwain at MSM?
Mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at y tri maen prawf cronnus y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gynnyrch gael ei ddosbarthu fel MSM, fel y nodir gan y Llysoedd.
Nid yw tynnu gewynnau a/neu dendonau o ddarnau cig di-asgwrn yn bodloni’r maen prawf cyntaf. Gan nad yw’r deunydd crai yn cynnwys asgwrn, nid yw’r meini prawf cronnus yn cael eu bodloni, felly, yn yr achos hwn, nid MSM yw’r cynnyrch terfynol.
Mae rhai gweithredwyr busnesau bwyd yn defnyddio dulliau mecanyddol i wahanu cig oddi wrth feinweoedd diangen (er enghraifft, tendonau, gewynnau, cartilag, graean ac ati), fel rhan o broses gwirio ansawdd. Os nad dognau ag asgwrn neu gig heb esgyrn yw’r deunyddiau crai a ddefnyddir, nid yw hyn yn arwain at gynhyrchu MSM. Dylai fod gan weithredwyr busnesau bwyd weithdrefnau ar waith sy’n manylu ar ddibenion eu prosesau i egluro beth yw bwriad eu gweithgareddau.
Sut y caiff cig asgwrn tynnu dofednod ei ddosbarthu?
Mae’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau yn nodi: “mae cig wedi’i wahanu’n fecanyddol neu MSM yn golygu’r cynnyrch a geir trwy dynnu cig o esgyrn sy’n dwyn cnawd ar ôl tynnu’r esgyrn neu o garcasau dofednod, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy’n arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.”
O ran y defnydd o “tynnu cig o garcasau dofednod” yn y diffiniad: gall adfer cig yn fecanyddol o garcasau cyfan, unrhyw esgyrn, a darnau cig ag esgyrn, arwain at gynhyrchu MSM.
O ran defnyddio’r term “diesgyrnu” yn y diffiniad: mae hyn yn cyfeirio at gael gwared ar y cig sydd ar ôl ar esgyrn anifeiliaid ar ôl cwblhau cam cychwynnol y cigydda. Mae hyn yn golygu unrhyw beth ar ôl y toriad cyntaf neu’r weithred gyntaf o dynnu neu wahanu esgyrn neu ddarnau o gig o’r carcas.
Mae trimiau’r asgwrn tynnu yn cynnwys yr asgwrn tynnu gyda rhywfaint o gyhyr ynghlwm ar ôl iddo gael ei dynnu neu ei wahanu oddi wrth fron carcasau dofednod i ddechrau. Os defnyddir gwahanu mecanyddol wedyn i dynnu’r cig o’r asgwrn tynnu, mae hyn yn arwain at MSM, os caiff strwythur ffeibr y cyhyrau ei golli neu ai addasu.
Beth yw’r goblygiadau ar gyfer darnau o gig ag asgwrn sydd â chyhyrau cyfan ynghlwm?
Mae darnau o gig ag asgwrn gyda chyhyrau cyfan ynghlwm yn arwain at gynhyrchu MSM os ydynt yn mynd trwy broses wahanu mecanyddol a bod strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu.
Mae gan rai darnau o gig ag asgwrn a ddefnyddir fel deunyddiau crai ar gyfer gwahanu mecanyddol rai cyhyrau cyfan ynghlwm (er enghraifft, asennau porc). Yn flaenorol (hynny yw, o dan y moratoriwm), efallai na fyddai cynhyrchion sy’n deillio o ‘doriadau’ o’r fath wedi’u dosbarthu fel MSM gan yr ystyriwyd nad oedd y maen prawf cyntaf (hynny yw, defnyddio esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u datgysylltu ohonynt) wedi’i fodloni. Mae’r defnydd hwnnw o’r maen prawf cyntaf yn anghywir, lle mae’r darn neu’r ‘toriad’ â’r asgwrn wedi cael ei ddiesgyrnu ac mae’r cyhyrau wedi’u tynnu i ryw raddau ymlaen llaw, hyd yn oed os nad oedd y diesgyrnu hwnnw’n cynnwys tynnu’r rhan fwyaf o’r cig a oedd ynghlwm wrth yr asgwrn yn wreiddiol.
A oes unrhyw wahaniaeth rhwng cynhyrchion gwahanu mecanyddol gan ddibynnu ar faint o gig sy’n weddill ar y deunydd crai a ddefnyddir?
Nac oes. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu rhwng faint o gig gweddilliol sydd ar ôl ar y deunydd crai. Mae unrhyw esgyrn neu ddarnau o gig ag esgyrn sy’n mynd trwy wahanu mecanyddol yn arwain at MSM, os caiff strwythur ffeibr y cyhyrau ei golli neu ei addasu, waeth beth fo cyfrannau’r cig a’r asgwrn sy’n bresennol.
Sut y dylid asesu a yw strwythur ffeibr y cyhyrau wedi’i golli neu ei addasu?
Nid oes angen asesu strwythur ffeibr y cyhyrau trwy ddulliau microsgopig i benderfynu ai MSM yw cynnyrch.
Pan ddefnyddir MSM fel cynhwysyn, sut y dylid ei labelu?
O ran labelu MSM yn ystod y broses gynhyrchu a chyn ei weithgynhyrchu i greu’r cynhyrchion terfynol, mae Erthygl 18 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 yng Ngogledd Iwerddon yn nodi bod yn rhaid sefydlu olrheiniadwyedd cynhyrchion ym mhob cam o’r prosesau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu. Mae Erthygl 3 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 931/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 931/2011 yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn darparu gofynion olrheiniadwyedd ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu i gyflenwyr ac awdurdodau cymwys.
Rhaid labelu cig wedi’i wahanu’n fecanyddol fel y’i diffinnir yn Atodiad I i’r Rheoliadau yn y rhestr gynhwysion fel ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ gydag enw(au) rhywogaethau’r anifeiliaid y mae’n deillio ohonynt.
Mae’r Rheoliadau’n nodi bod rhaid i becynnau a fwriadwyd ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy’n cynnwys paratoadau cig sy’n cynnwys MSM gynnwys hysbysiad sy’n nodi y dylid coginio cynhyrchion o’r fath cyn eu bwyta.
Yr ASB sy’n arwain ar ddeddfwriaeth labelu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon; Defra sy’n arwain ar ddeddfwriaeth yn Lloegr a Safonau Bwyd yr Alban sy’n arwain ar ddeddfwriaeth yn yr Alban.
Mae cyfraith labelu bwyd yn y DU wedi’i nodi mewn cyfuniad o gyfraith a gymathwyd (Prydain Fawr), cyfraith yr UE sy’n gymwys yn uniongyrchol (Gogledd Iwerddon), a deddfwriaeth ddomestig. Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011, ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr (FIC) ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon yn un o’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n pennu gofynion labelu bwyd.
Yn ôl gofynion Erthygl 7.1 o’r FIC, ni chaniateir darparu gwybodaeth sy’n gamarweiniol ynghylch nodweddion bwyd, yn enwedig ei natur, ei hunaniaeth, ei briodweddau, ei gyfansoddiad, ei faint, pa mor hir y bydd yn para, ei wlad tarddiad neu ei fan tarddiad a’i ddull gweithgynhyrchu neu gynhyrchu. Mae Erthygl 17 yn ei gwneud yn ofynnol mai enw’r bwyd fydd ei enw cyfreithiol neu, yn absenoldeb enw o’r fath, ei enw arferol neu, os nad oes enw arferol neu os nad yw’n cael ei ddefnyddio, enw disgrifiadol.
Mae Rhan B o Atodiad VII (i’r FIC) yn egluro na chaniateir labelu cynhyrchion sy’n cael eu dosbarthu fel MSM fel ‘cig’. Wrth ddatgan cynnwys cig bwyd, ni ddylid ystyried MSM yn gynnwys cig.
A fydd Dyfarniadau’r Llys neu weithredu’r Canllawiau hyn yn arwain at waredu cig, gan gynyddu gwastraff bwyd?
Nid yw’r Dyfarniadau’n atal unrhyw gynhyrchion a gynhyrchir yn unol â’r Rheoliadau rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Mae MSM yn ddiogel i’w fwyta a’i ddefnyddio fel cynhwysyn. Rhaid dosbarthu, trin a defnyddio rhai cynhyrchion nad oeddent yn cael eu hystyried yn MSM o’r blaen (o dan ganllawiau’r moratoriwm) fel MSM yn unig nawr, lle bodlonir y tri maen prawf a nodir yn y canllawiau hyn.
A ellir allforio MSM i’r Undeb Ewropeaidd/Gogledd Iwerddon?
Os yw busnes bwyd wedi’i gymeradwyo i gynhyrchu MSM ac mae wedi’i restru gan yr UE fel un sydd wedi’i awdurdodi i allforio MSM i’r UE, yna gellir allforio’r cynhyrchion i’r UE a Gogledd Iwerddon, os ydynt yn cydymffurfio â gofynion yr UE. Rhaid i’r holl allforion i’r UE/Gogledd Iwerddon, gan gynnwys MSM, fodloni gofynion yr UE, a rhaid iddynt gynnwys dystysgrif iechyd allforio (EHC) briodol. Mae Prydain Fawr wedi mabwysiadu EHC ar gyfer MSM porc. Felly gellir ei allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon (gyda’r EHC) o sefydliad ym Mhrydain Fawr sydd wedi’i restru gan yr UE fel un sydd wedi’i awdurdodi ar gyfer allforio MSM porc.
Nid oes EHC ar gyfer allforio MSM dofednod o Brydain Fawr i’r UE a Gogledd Iwerddon wedi’i sefydlu. Felly, ni ellir allforio MSM dofednod i’r UE a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellir allforio MSM dofednod a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu paratoadau cig neu gynhyrchion cig ym Mhrydain Fawr fel rhan o’r paratoadau cig neu’r cynhyrchion cig hynny. Gellir symud nwyddau wedi’u pecynnu ymlaen llaw ar gyfer manwerthu sy’n cynnwys MSM i Ogledd Iwerddon trwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon o dan un dystysgrif gyffredinol (bydd angen allforio MSM mewn swmp ar gyfer prosesu pellach i Ogledd Iwerddon drwy EHC).
I ddod o hyd i EHCs a dogfennaeth gysylltiedig ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, defnyddiwch y ddolen hon: Dod o hyd i dystysgrif iechyd allforio.
Atodiad B: Rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol
Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon
Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon
Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 999/2001 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 yng Ngogledd Iwerddon
Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 2073/2005 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 2073/2005 yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r ASB yn cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Fodd bynnag, ni all yr ASB warantu bod y dolenni a ddarperir yn gyfredol yn barhaus. Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith bwyd, a dylent gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod ganddynt fynediad at fersiynau cyfredol o’r gofynion deddfwriaethol.