Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cysylltu â ni

Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, defnyddio ein gwasanaethau neu ddod o hyd i'n manylion cyswllt.

Penderfyniad gorfodi mewn safleoedd cig cymeradwy

Gwrthod cymeradwyo safle cig

Os byddwn yn gwrthod cymeradwyo eich safle cig, mae gennych hawl i apelio i’r canlynol:

  • Llys Ynadon Cymru a Lloegr
  • Llys Awdurdodaeth Ddiannod yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch apelio o dan Reoliad 12 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009 fel y’u diwygiwyd.  Rhaid cyflwyno apeliadau i’r Llys o fewn mis.

I wneud ymholiad penodol am gymeradwyaeth safleoedd cig, cysylltwch â:

Archwiliad o safle cig cymeradwy

Os ydych yn anghytuno â chanlyniad ein harchwiliad o’ch safle, cysylltwch â’r Archwilydd Milfeddygol a gynhaliodd yr archwiliad er mwyn ceisio datrys unrhyw faterion.

Apelio archwiliad

Os na allwch ddatrys unrhyw anghytundeb yn anffurfiol, gallwch gyflwyno apêl gan ddefnyddio ein proses apelio dau gam.

Cam gyntaf y broses apelio

Bydd angen i chi gyflwyno’ch apêl o fewn 14 diwrnod calendr ar ôl i gopi o’ch adroddiad archwilio ddod i law.

Rhaid cyflwyno’r apêl ar ffurflen apelio archwiliad.  

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich honiad bod asesiad yr Archwilydd Milfeddygol yn anghywir.

Rhoddir manylion llawn am sut i apelio yn y llythyr a ddaw gyda phob adroddiad archwilio.

Bydd eich archwiliad a’r dystiolaeth a gyflwynwch yn cael eu hadolygu gan un o’n Harweinwyr Archwilio Milfeddygol o’r tu allan i’r ardal lle mae eich safle wedi’i leoli.  

Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr adolygiad archwilio o fewn 14 diwrnod calendr.

Stage two of appeal process

Gallwch apelio i swyddog ymchwilio allanol annibynnol os ydych yn anghytuno â chanlyniad ail adolygiad cam un olynol.

Er mwyn i ni ddechrau’r broses, rhaid i chi dalu £250 ar y cychwyn i gyfrannu at ein costau. Caiff yr arian hwn ei ad-dalu os bydd canlyniad yr apêl o blaid y busnes bwyd, a bydd amlder yr archwiliad yn cael ei newid o ganlyniad.

Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr adolygiad o fewn 14 diwrnod calendr.

Gogledd Iwerddon

Archwiliadau DARD yng Ngogledd Iwerddon

Mae Rhaglen Milfeddygol Iechyd y Cyhoedd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (DARD VPHP) yn cynnal archwiliadau o safleoedd cig ar ein rhan.  

Cysylltwch â DARD VPHP ar: 

Datganiad Adnoddau mewn safleoedd cig

Gallwch ofyn am adolygiad o’ch Datganiad Adnoddau os nad ydych yn cytuno â’n Rheolwr Cyflawni ar:

  • lefel adnoddau 
  • nifer yr oriau y codir tâl amdanynt yn eich safle cig

Er mwyn i ni ddechrau’r broses, mae’n rhaid i chi dalu £250 ar y cychwyn i gyfrannu at ein costau. Caiff yr arian hwn ei ad-dalu os bydd canlyniad yr adolygiad o blaid y busnes bwyd ar gam un neu ddau.

Cam gyntaf

Bydd angen i chi gyflwyno’ch cais am adolygiad o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i’ch Datganiad Adnoddau ddod i law. Darperir rhagor o wybodaeth gyda’r llythyr sy’n cyd-fynd â’ch Datganiad Adnoddau.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan Bennaeth Cyflawni Gweithredol o faes busnes arall a chynrychiolydd annibynnol o’r diwydiant. Byddant yn gwneud argymhelliad i’n Prif Swyddog Gweithredu am benderfyniad.  

Byddwch yn cael eich hysbysu o ganlyniad yr adolygiad o fewn pedair wythnos ar ôl i ni gael eich cais am adolygiad.

Ail gam

Os ydych yn anghytuno â chanlyniad adolygiad cam un, gallwch gyflwyno apêl bellach i ni o fewn wythnos ar ôl i’r adolygiad ddod i law.

Byddwn yn enwebu person annibynnol i adolygu’r apêl o fewn mis o’i chyflwyno i ni.

Gallwch gysylltu â’n tîm Cymorth Busnes Gweithrediadau:

Awdurdodiad i gael gwared ar ddeunydd risg penodedig (SRM) mewn safleoedd cig

Gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad os ydym wedi gwrthod neu wedi dileu eich awdurdodiad i gael gwared ar SRM. Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

Daw’r apêl hon o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy.

Dylid gwneud apeliadau yn ysgrifenedig i:
Pennaeth Polisi Grŵp Bwyd/ Head of Policy Food Group
Food Standards Agency
Clive House
70 Petty France
San Steffan
London SW1H 9EX

Byddwn yn ymateb i apeliadau o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl iddynt ddod i law. Os nad yw hyn yn bosib, byddwn yn eich diweddaru ac yn esbonio’r rheswm dros yr oedi.

Sefydliadau cig: hysbysiad gwella hylendid a hysbysiad camau unioni

Os ydych am apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi statudol a roddwyd i'ch sefydliad cig, mae’r manylion ar gefn pob hysbysiad ffurfiol.

Mae hysbysiadau gorfodi statudol yn cynnwys:

  • Hysbysiad Gwella Hylendid  
  • Hysbysiad Camau Unioni

Cwynion eraill am wasanaeth yr ASB mewn safleoedd cig

Gallwch anfon cwyn ffurfiol atom os nad ydych wedi gallu datrys eich cwyn yn lleol gyda’ch:

  • Rheolwr Cyflawni Gwasanaeth 
  • Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau Ardal 

Byddwch yn cael ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i’r gŵyn ddod i law.  Os nad yw hyn yn bosib, byddwn yn eich diweddaru ac yn esbonio’r rheswm dros yr oedi.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon mae Rhaglen Milfeddygol Iechyd y Cyhoedd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (DARD VPHP) yn cynnal rheolaethau swyddogol SRM mewn safleoedd cymeradwy ar ein rhan.

Cysylltwch â DARD VPHP drwy: