Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Tŷ Llety'r Old Forge: arolygiad a sylwadau

Sylwadau a wnaed yn ystod yr arolygiad (heddiw).

Rydych yn ymweld â'r safle ac yn cwrdd â Chad a Cheryl. Mae Chad yn dangos y gegin i chi ac yna yn mynd â chi i weld y ddwy ystafell wely. Rydych yn nodi:

  • Mai tymheredd yr oergell yn y gegin yw 4°C
  • Mae’r holl fwyd sydd yn yr oergell o fewn ei ddyddiad defnyddio erbyn/ar ei orau cyn, ac mae’r holl fwyd amrwd yn cael ei storio ar waelod yr oergell
  • Mae’r holl arwynebau gwaith ac offer yn edrych yn lân
  • Mae’r dŵr yn y basn ymolchi a sinc y gegin yn boeth.

Trafodaethau gyda'r staff

Chad Miller - Gweithredwr y Busnes Bwyd 

Swyddog: Felly pryd wnaeth y busnes agor?

Chad: Daeth ein pedwar gwestai cyntaf i aros penwythnos diwethaf.

Swyddog: Beth yw uchafswm y gwesteion sy’n gallu aros yma ar y tro?

Chad: Dim ond pedwar.

Swyddog: A fyddwch yn derbyn unrhyw blant ychwanegol?

Chad: Na fyddwn

Swyddog: Sawl diwrnod yr wythnos fyddwch chi ar agor?

Chad: Byddwn yn derbyn gwesteion drwy gydol yr wythnos, ond dwi'n disgwyl i ni fod yn brysurach ar benwythnosau.

Swyddog: Ydych chi’n derbyn gwesteion sydd am aros am y tymor hir, megis pobl sy’n aros i gael eu hailgartrefu gan y cyngor?

Chad: Nac ydyn. Dwi’n credu bydd y rhan fwyaf o’n gwesteion ni yn ystod yr wythnos yn bobl busnes sy’n edrych am wely glân a rhad am y noson. Ar y penwythnosau, dwi’n dychmygu mai twristiaid fydd y rhan fwyaf o’n gwesteion.

Swyddog: Felly, yn y bon, eich tŷ chi yw hwn a rydych yn gobeithio denu ychydig o westeion i gyfrannu at eich incwm?

Chad: Yn union. Ein cartref ni yw hwn, nid gwesty. Dim ond rhoi gwely a brecwast i ychydig o westeion ydyn ni.

Swyddog: Pwy sy'n coginio ac yn trin y bwyd?

Chad: Y fi. Bydd Cheryl yn gwneud y gwaith tŷ a'r gwlau ond fi yn unig fydd yn coginio.

Swyddog: Ydych chi wedi cael unrhyw hyfforddiant hylendid bwyd?

Chad: Do, pan oeddwn yn y Llynges, ond roedd hynny sawl blwyddyn yn ôl. Rydw i wedi darllen cwpl o lyfrau am hylendid bwyd yn ddiweddar, ac wedi edrych ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, felly dwi'n hyderus mod i’n gwybod be’ dwi’n  wneud.  Mae yna fideos eitha’ da ar y wefan sy’n edrych ar goginio, glanhau, golchi dwylo ac yn y blaen. Dwi hefyd wedi darllen y canllawiau E.Coli, sy’n synnwyr cyffredin fwy neu lai.

Swyddog: O ble ydych chi'n cael eich bwyd?

Chad: ‘Dyn ni’n cael popeth o Sainsbury's sydd rownd y gornel.

Swyddog: Ydych chi’n cadw eich derbynebau wrth brynu bwyd?

Chad: Ydyn. Dwi’n eu rhoi i Cheryl gan ei bod hi’n edrych ar ôl y cyfrifon.

Swyddog: A fyddwch yn prynu bwyd o unrhyw le arall?

Chad: Na fyddwn, dim ond o Sainsbury's.

Swyddog: Ydych chi’n defnyddio'ch cegin ar gyfer y busnes ac i goginio'ch bwyd eich hun?

Chad: Ydyn, dim ond y gegin hon sydd gennym.

Swyddog: Oes unrhyw anifeiliaid anwes gennych chi?

Chad: Nac oes.

Swyddog: Oes unrhyw un arall yn byw yma gyda chi?

Chad: Dim ond Cheryl, fy ngwraig.

Swyddog: Ydych chi’n defnyddio'r pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell?

Chad: Nac ydyn. Dwi wedi edrych arno, ond roedd yn teimlo ychydig bach dros ben llestri ar gyfer beth dyn ni’n ei wneud. Hynny yw, dim ond uchafswm o bedwar brecwast bob dydd y bydda i'n eu paratoi, ond bydd yn llai na hynny y rhan fwyaf o'r amser. Dwi'n disgwyl y bydd rhai gwesteion ond eisiau tost a grawnfwyd beth bynnag.

Swyddog: Pa wiriadau ydych chi'n eu gwneud cyn paratoi bwyd yn y bore?

Chad: Dwi'n defnyddio'r un drefn a phan oeddwn yn y Llynges. Dwi'n gwirio bod yr holl arwynebau gwaith yn lân ac yn chwistrellu glanedydd drostynt. Dwi'n golchi fy nwylo cyn trin unrhyw fwyd ac ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd megis selsig, cig moch neu lysiau. Dwi'n gwirio bod tymheredd yr oergell yn is na 8°C drwy ddefnyddio thermomedr digidol, ac yn gwirio bod y bwyd i gyd o fewn ei ddyddiad defnyddio erbyn/ar ei orau cyn.

Swyddog: Esboniwch i mi sut ydych chi’n gwirio tymheredd yr oergell,

Chad: Dwi’n defnyddio thermomedr digidol ac yn glynu at be’r oeddwn i’n ei wneud yn y Llynges. Dwi’n rhoi’r prôb mewn gwydr o ddŵr rhewllyd er mwyn gwirio ei fod yn darllen fel ‘zero’. Yna, dwi’n berwi’r tegell ac yn rhoi’r prôb mewn cwpan o ddŵr berwedig am ychydig o eiliadau. Dwi wedi hen arfer gwneud hwn ar ôl dysgu hyfforddi i fod yn gogydd. Mae’n gwirio bod y prôb yn gweithio ac yn lladd unrhyw fygiau arno. Yna, dwi’n rhoi’r prôb i ganol y bwyd sydd ar silff ucha’r oergell.

Swyddog: Pam y silff uchaf?

Chad: Achos dyna ran poetha’r oergell. Os yw’r bwyd yn iawn yn y fan honno, yna bydd y gweddill yn iawn.

Swyddog: Beth fuasech yn ei wneud pe byddai’r gwiriadau tymheredd yn dangos bod y bwyd uwchben 8˚C?

Chad: Wel mi fuasai hynny’n creu problem. Nid wyf wedi dod ar draws hynny o’r blaen, ond dwi’n credu mai’r peth gorau i wneud fyddai mynd draw i Sainsbury’s a phrynu bwyd newydd ar gyfer brecwast. Dyna fyddai’r flaenoriaeth i mi. Ar ôl hynny, mi fuaswn i’n taflu’r holl fwyd o’r oergell i’r bin ac yn ceisio canfod beth sydd wedi digwydd. Dwi’n amau ei bod yn bosibl i rywbeth fwrw’r thermomedr yn ystod y dydd wrth lanhau tu mewn i’r oergell. Mae’r oergell yn newydd, a dan warant, felly faswn i ddim yn disgwyl iddi dorri.

Swyddog: Ydych chi’n ysgrifennu unrhyw beth i ddangos eich bod wedi gwneud y pethau hyn?

Chad: Nac ydw, 'dw i ddim yn gweld y pwynt. Dwi'n gwybod os ydw i wedi eu gwneud ai peidio, felly byddai'n wastraff amser i ddweud y gwir. Fel dwedes i, hen arfer o’r Llynges yw hi ac mae’n ail natur i mi.

Swyddog: Ydych chi’n gwirio tymheredd y selsig cyn eu gweini?

Chad: Nac ydw. Dwi wedi gweini miloedd o selsig pan oeddwn yn y Llynges, felly dwi'n gwybod pan maent wedi'u coginio.

Swyddog: Pa mor aml ydych chi’n gwirio tymheredd yr oergell?

Chad: Mae teclyn rheoli tymheredd ar y silff uchaf, felly dwin edrych arno bob tro dwi'n mynd at yr oergell, ond dwi bob amser yn ei wirio peth cynta'n y bore.

Swyddog: Beth fyddech yn ei wneud petaech yn sâl?

Chad: Byddai'n rhaid i westeion fynd i'r caffi yn Sainsbury's i gael brecwast. Mae Cheryl yn codi'n hwyr felly fyddai hi ddim eisiau coginio iddyn nhw.

Swyddog: Ble ydych chi'n golchi'ch dwylo?

Chad: Mae toiled wrth ymyl y gegin, felly hwnnw dwi'n ei ddefnyddio.

Swyddog: A yw’r gwesteion yn gallu cael mynediad at y toiled hwn?

Chad: Nac ydyn. Dim ond Cheryl a fi sy’n ei ddefnyddio. Dwi wedi rhoi peiriant tywelion papur yno fel nad oes rhaid i mi ddefnyddio tywel llaw arferol. Hefyd, dwi’n gadael y drws ar agor pan nad yw’n cael ei ddefnyddio fel y gallaf olchi fy nwylo ac yna dod yn syth i’r gegin heb orfod defnyddio handlen y drws.

Swyddog: Beth am olchi bwyd, offer a llestri?

Chad: Mae gennyn ni beiriant golchi llestri ar gyfer yr offer a'r llestri ac yn y blaen, a rydyn ni’n defnyddio'r sinc ar yr uned yng nghanol y gegin i olchi bwyd.

Swyddog: Ydych chi’n paratoi unrhyw fwyd ymlaen llaw?

Chad: Nac ydw, dwi ond yn coginio pan mae bwyd yn cael ei archebu.

Swyddog: Os yw gwestai yn gofyn am wy wedi'i ferwi'n feddal neu wy wedi'i ffrio â'r melynwy yn feddal, a fyddwch yn eu gweini?

Chad: Byddaf. Dim ond wyau Lion Brand o Sainsbury's ‘dyn ni’n eu defnyddio, felly nid oes problem.

Swyddog: Sut ydych chi’n glanhau'r arwynebau gwaith?

Chad: Dwi’n sgwrio'r arwynebau gwaith â dŵr poeth a sebon, yna dwi'n eu rinsio a'u sychu â thywel papur. Yna dwi'n eu chwistrellu â glanedydd a'u gadael i sychu yn naturiol.

Cheryl Miller - Gweithredwr y Busnes Bwyd

Swyddog: Ydych chi’n coginio neu yn trin bwyd?

Cheryl: Nac ydw. Dwi’n gadael hynny i Chad.

Swyddog: Beth am y siopa bwyd?

Cheryl: Mae Chad yn gwneud y siopa bwyd i gyd. Dwi'n gwneud y gwaith glanhau, yn tacluso'r ystafelloedd gwely ac yn edrych ar ôl y cyfrifon a'r archebion.

Swyddog: Beth fyddai'n digwydd pe byddai Chad yn sâl neu ddim ar gael fel arall? A fyddech yn gwneud rhywfaint o'r coginio wedyn?

Cheryl: Na fyddwn. Byddai'n rhaid i'r gwesteion fynd i Sainsbury's i gael brecwast.

Swyddog: A ydych yn cadw cofnod o’r bwyd yr ydych wedi’i brynu?

Cheryl: Ydw. Mae Chad yn prynu popeth o Sainsbury’s a dwi’n cadw’r derbynebau ar gyfer ein cyfrifon.

 

Yn ôl i’r cyflwyniadNesaf: yr asesiad

 

Resources

England, Northern Ireland and Wales