Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Tŷ Llety'r Old Forge

Cafodd Tŷ Llety'r Old Forge ei agor yn ddiweddar. Mae'n westy gwely a brecwast gyda dwy ystafell wely sy'n cael ei redeg gan Cheryl a Chad Miller. Mae Chad wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn adnewyddu'r adeilad i safon uchel iawn. Uned ddiwydiannol oedd yr adeilad yn flaenorol. Mae Chad a Cheryl yn byw mewn rhan o'r adeilad, ac mae uchafswm o bedwar gwestai y noson yn aros yno mewn un ystafell ddwbl ac un ystafell twin. Mae ystafell ymolchi en-suite yn y ddwy ystafell.

Hanes

Mae Cheryl a Chad yn rhedeg y busnes fel partneriaid ac maent wedi cofrestu yn ddiweddar gyda'r awdurdod lleol fel busnes bwyd. Nid oes llawer o westeion wedi aros yn y gwesty hyd yma, ond mae nifer o bobl wedi bwcio i aros dros fisoedd yr haf drwy eu gwefan.

Gweithredwyr Busnes Bwyd 

Mae enwau Cheryl a Chad wedi'u nodi ar y ffurflen gofrestru fel gweithredwyr busnes bwyd. Nid ydynt yn cyflogi unrhyw staff eraill.

Mae Tŷ Llety'r Old Forge yn cynnig bwydlen frecwast.

England, Northern Ireland and Wales

System wedi'i seilio ar egwyddorion HACCP

Nid oes system yn ei lle sydd wedi'i seilio ar egwyddorion HACCP.

Proffiliau'r staff

Chad Miller

Treuliodd Chad bron i ugain mlynedd gyda'r Llynges Frenhinol fel stiward a chafodd ei ryddhau yn 2008 pan oedd yn gweithio fel Prif Is-swyddog (Lletygarwch). Bu Chad yn gweithio ar sawl llong wahanol ac roedd ei ddyletswyddau yn amrywio o baratoi prydau o ddydd i ddydd i'r criw, i bartïon coctêls a chiniawau ar gyfer pwysigion o bedwar ban byd pan fyddai'r llong mewn porthladd.

Yn ystod ei gyfnod yn y Llynges, enillodd Chad gymhwyster City & Guilds mewn Egwyddorion Lletygarwch ac Arlwyo (Gwasanaethau Lletygarwch) ym 1992, Tystysgrif Uwch mewn Hylendid Bwyd ym 1996, a mynychodd sesiynau hyfforddi a diweddaru blynyddol tan iddo gael ei ryddhau o'r Llynges yn 2008.

Mae wedi treulio'r wyth mlynedd diwethaf fel contractiwr adeiladu, yn ogystal â gweithio yn y diwydiant datblygu eiddo, ac aeth ati i adnewyddu'r Old Forge yn gyfan gwbl. Hen weithdy oedd yr adeilad yn flaenorol.

Mae bellach yn byw yn yr adeilad gyda'i wraig Cheryl ac maent yn bwriadu defnyddio dwy ystafell: un ddwbl ac un twin, fel rhan o'u busnes Gwely a Brecwast.

Cheryl Miller

Yn ddiweddar, mae Cheryl wedi ymddeol o'i gyrfa nyrsio lle’r oedd yn arbenigo mewn gofal diabetig. Nid yw hi erioed wedi rhedeg busnes bwyd na bod yn rhan o'r diwydiant lletygarwch. Nid yw hi wedi derbyn unrhyw hyfforddiant hylendid bwyd ffurfiol, ond fe fagodd hi ddau o blant ar ei phen ei hun yn bennaf, gan fod Chad oddi cartref gyda'i waith am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw. Mae'r plant bellach wedi hedfan y nyth.

Yn ôl i’r ymarferion cysondeb Nesaf: sylwadau

 

Resources

England, Northern Ireland and Wales