Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr arolygiad: sylwadau

Adroddiad o ddiwrnod yr arolygiad a'r hyn a welwyd.

Mae Mr Truscott, y gweithredwr busnes bwyd, yn eich cyfarfod chi. Mae'n dangos ei gopi o 'Bwyd mwy Diogel, Busnes Gwell' i chi ac yn siarad â chi am y dulliau diogel. Rydych yn nodi nad yw pob un o'r taflenni dyddiadur wedi'u harwyddo. Yna, rydych yn mynd i gegin y bwyty ac yn sylwi ar y canlynol:

  • Mae saith o bobl yn gweithio yn y gegin ar adeg eich ymweliad: Carlos, Francis, Nicole, Tristram, Denise, Kevin a Ulrika
  • Rydych yn gweld Carlos yn torri cig amrwd ar fwrdd torri lliw glas golau ac yn sylwi bod un o'r cyllyll ar gyfer cig amrwd y mae'n ei defnyddio wedi disgyn ar yr arwyneb gwaith.
  • Mae Francis yn codi'r bwrdd torri sydd â'r cig amrwd arno a'i symud i ochr arall y safle gwaith. Yna, rydych yn gwylio Kevin yn glanhau a diheintio'r arwyneb gwaith ble y cafodd y cig amrwd ei dorri, ac yn gwylio Denise sy'n dechrau paratoi'r pwdinau yn yr ardal hon. Cyn dechrau paratoi'r bwyd, rydych yn gweld Denise yn golchi ei dwylo ac wedyn mae hi'n rhoi bwrdd torri gwyn ar yr arwyneb gwaith. Mae hi'n mynd ati i dorri banana a phinafal ar y bwrdd torri.
  • Yna, rydych yn gwylio Francis yn rhoi cig amrwd mewn padell ffrio.
  • Mae Carlos yn sgrafellu'r gridyll ac yna mae Nicole yn mynd ati i goginio courgettes

 

Yn ôl i'r cyflwyniadNesaf: trafodaethau gyda'r staff