Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyty'r Carib Bayou

Agorwyd bwyty'r Carib Bayou yn 2011 gan y gweithredwr busnes bwyd (FBO), Mr Serge Trescott, a'i wraig Henrietta. Mae'r bwyty yn arbenigo mewn bwyd o safon uchel o'r Caribi ac mae lle i uchafswm o 75 o bobl ynddo.

Staff

Mae Mr Trescott yn cyflogi cyfanswm o naw aelod o staff:

  • 2 gogydd: Carlos a Francis
  • 3 chogydd sous: Nicole, Tristram a Denise
  • 2 gynorthwyydd cegin: Kevin a Trevor
  • 2 weinyddes: Ulrika a Clarissa

Fel arfer, mae un cogydd, dau gogydd sous, un cynorthywydd cegin ac un weinyddes yn gweithio, ar wahân i'r penwythnosau, pan y mae pob aelod o'r staff yn bresennol. Mae pob aelod o'r staff wedi gweithio yn y bwyty ers iddo agor yn 2011, oni bai am y cynorthwywyr cegin a'r gweinyddesau. Mae'n anodd cadw staff yn y rolau hyn ac yn aml, mae Mr Trescott yn ricriwtio myfyrwyr sy'n ennill yr isafswm cyflog.

Dysgu rhagor am y staff

System wedi'i seilio ar egwyddorion HACCP

Mae Mr Truscott yn defnyddio systemBwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell a chafodd Roger, ymgynghorydd diogelwch bwyd, ei gyflogi er mwyn helpu i sefydlu'r system a chynnal archwiliadau diogelwch bwyd blynyddol. Mae Roger hefyd yn darparu gwasanaeth rheoli plâu, ac mae'n ymweld â'r bwyty bob tri mis er mwyn cynnal archwiliad plâu.

Hyfforddiant

Mae Mr Trescott yn cynnal sesiwn hyfforddi fewnol gyda'i staff bob blwyddyn gan gyfeirio at ei becyn 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell', yn ogystal â defnyddio'rfideos hylendid bwydo wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Saesneg un unig). Caiff presenoldeb staff yn y cyfarfodydd hyn ei gofnodi yn y pecyn. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd staff rheolaidd, gan gynnwys cyfarfod arolygu misol a gofnodir yn y pecyn.

Mae pob aelod staff newydd yn derbyn cyflwyniad byr i hylendid bwyd gan Mr Trescott, gan ddefnyddio'r adnodd hwn:

England, Northern Ireland and Wales

Hanes

Cafodd y bwyty ei archwilio ddiwethaf ar 20 Awst 2014. Cyn hynny, cynhaliwyd yr arolygiadau canlynol. Mae'r adroddiadau ar gyfer yr arolygiadau hynny fel a ganlyn:

Dyddiad Categori Sgôr Sgôr CSHB Adroddiad Arolygu
20 Awst 2014 B 75 4
16 Gorffennaf 2013 B 75 4
3 Gorffennaf 2012 B 75 4

Mae'r canlyniadau samplu canlynol wedi'u cofnodi:

Dyddiad Sampl Canlyniad
20 Ionawr 2015 Swabio handlen yr oergell Boddhaol
20 Ionawr 2015 Swabio bwrdd torri a ddefnyddir ar gyfer cig wedi'i goginio Boddhaol
20 Ionawr 2015 Swabio bwrdd torri a ddefnyddir ar gyfer llysiau wedi'u coginio Boddhaol
13 Mai 2012 Cig eidion wedi'i goginio Boddhaol

 

Yn ôl i'r ymarferion cysondebNesaf: sylwadau

Resources

England