Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr asesiad

Cyflwyno'ch asesiad ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i chi.

Rydych bellach wedi ystyried y canlynol:

  • crynodeb o'r gweithgareddau a gynhelir yn y Carib Bayou
  • manylion ystod y bwydydd maent yn eu paratoi 
  • manylion hanes y safle 
  • manylion y staff a gyflogir ar hyn o bryd
  • peth gwybodaeth am ddefnydd y busnes o 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell'
  • peth gwybodaeth am yr arferion hylendid bwyd a ddefnyddir gan y busnes
  • nifer o luniau a fideos o'r gegin.

Gydag unrhyw ymarfer o’r math hwn, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y scenario. Dylech gyfyngu’ch trafodaethau i’r wybodaeth a ddarparwyd i chi. Ble nad oes gwybodaeth ar gael am fater penodol, dylech dybio nad oedd materion hylendid bwyd andwyol ar y pryd ac felly dylech ond sgorio ar sail yr hyn sy’n hysbys i’r swyddog archwilio. Er mwyn rhoi sgôr risg hylendid bwyd i’r safle dan sylw, nodwch eich sgoriau ar gyfer elfennau canlynol y sgôr risg yn dilyn ymyriad, yn unol â’r hyn sydd yn Atodiad 5 y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

  • Cydymffurfiaeth gyfredol (Hylendid)
  • Cydymffurfiaeth gyfredol (Strwythur)
  • Hyder yn y gweithdrefnau rheoli.

Efallai bydd y dogfennau canlynol o gymorth i chi:

Nawr, gallwch gymharu'ch sgoriau gyda'r canlyniad disgwyliedig a bwrw golwg dros adroddiad arolygu'r swyddog (Saesneg yn unig):

Yn ôl i drafodaethau gyda'r staff Ymlaen i restr ymarferion cysondeb