Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 6

Bwyd a Chi 2 CSHB Cylch 6: Crynodeb gweithredol

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Trosolwg o Bwyd a Chi 2

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. 

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 6, modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’, sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Yn y modiwl hwn, gofynnir i ymatebwyr am eu hymwybyddiaeth a’u defnydd o’r CSHB, yn ogystal â’u hagweddau tuag ato. Mae’r modiwl hwn wedi’i gynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2 yn flynyddol.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 6 rhwng 12 Hydref 2022 a 10 Ionawr 2023. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan tua 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Ngham 6, cwblhaodd 4,918 o oedolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y fersiwn ar-lein neu’r fersiwn bost o’r modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg. 

Y prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

  • Roedd 86% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB – 92% yng Nghymru, 86% yn Lloegr a 91% yng Ngogledd Iwerddon(footnote).  
  • Roedd 55% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (69%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny yn Lloegr (54%).
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 83% wedi dod ar draws y CSHB drwy weld sticer sgôr hylendid bwyd wedi’i arddangos mewn safle busnes bwyd, ac roedd 38% wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd.
  • Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 87% eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (87%) nag yng Nghymru (91%) a Gogledd Iwerddon (93%)**. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld y sticer mewn bwyty (83%), caffi (75%) neu siop tecawê (69%) yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

  • Roedd tua 4 o bob 10 (43%) o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (42%) a Gogledd Iwerddon (48%).
  • O blith y rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau lle’r oedd ymatebwyr yn gwirio sgoriau oedd siopau tecawê (73%) a bwytai (73%). Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (82%) wedi gwirio’r sgôr trwy edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. 
  • Dywedodd tua un o bob 10 (11%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd, dywedodd 19% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser, roedd 32% yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd, a doedd 34% o’r ymatebwyr byth yn gwneud hyn.

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau

  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, dywedodd y rhan fwyaf y bydden nhw’n dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (93%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (59%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta bwyd mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (93%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%).
  • Dywedodd llai nag 1 o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr mai sgôr o 5 (da iawn) yw’r sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol wrth ystyried prynu bwyd. 4 (da) fyddai’r sgôr dderbyniol isaf yn ôl 43% o’r ymatebwyr, a 3 (boddhaol ar y cyfan) fyddai’r sgôr dderbyniol isaf yn ôl 41% o’r ymatebwyr 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta bwyd mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. 
  • Dywedodd 18% o’r rhai a oedd wedi clywed am y CSHB eu bod wedi penderfynu, yn ystod y 12 mis diwethaf, beidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd.

Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol

  • O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 93% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd. Yn yr un modd, roedd 94% o’r farn y dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd.