Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Crynodeb gweithredol

Arolwg ‘ystadegyn swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mawrth 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mawrth 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau

Trosolwg o ‘Bwyd a Chi 2’

Arolwg yw Bwyd a Chi 2, a gomisiynir gan yr ASB, sy’n mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion bwyd eraill.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 10; yn benodol y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’, lle gofynnir i ymatebwyr am eu hymwybyddiaeth, eu defnydd a’u hagweddau tuag at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). (footnote 1)

Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 10 rhwng 9 Hydref 2024 a 7 Chwefror 2025. Cwblhaodd cyfanswm o 4,804 o oedolion ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr y fersiwn ar-lein neu’r fersiwn drwy’r post o’r modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’.

Y prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Roedd 89% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB – 94% yng Nghymru, 92% yng Ngogledd Iwerddon ac 89% yn Lloegr.

Roedd 62% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (73%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny yn Lloegr (61%).

O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 85% wedi dod ar draws y CSHB drwy weld sticer sgôr hylendid bwyd mewn safle busnes bwyd; roedd 36% wedi dod ar draws y sgôr ar wefan busnes bwyd; ac roedd 20% wedi’i gweld wrth archebu bwyd ar wefan neu ap dosbarthu bwyd.

Pan ddangoswyd llun o sticer y CSHB i’r ymatebwyr, dywedodd 91% eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (91%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (95%).

Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld y sticer mewn bwyty (82%), caffi (71%) neu siop tecawê (65%) yn ystod y 12 mis diwethaf.

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Roedd tua 4 o bob 10 (44%) o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein).

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon (49%) a Lloegr (43%).

O blith y rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (82%) wedi gwneud hyn drwy edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes.

Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr oedd bwytai (73%) a siopau tecawê (69%).

Roedd chwarter (25%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd, roedd 23% wedi’i gwirio ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), ac roedd 15% o’r ymatebwyr wedi’i gwirio ar wefan yr ASB.

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau

O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, dywedodd y rhan fwyaf y bydden nhw’n dal i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (93%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (60%).

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (94%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%).

O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, dywedodd tua 1 o bob 10 (9%) o’r ymatebwyr mai sgôr o 5 (da iawn) yw’r sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol wrth ystyried prynu bwyd.

Y sgôr dderbyniol isaf yn ôl 44% o’r ymatebwyr oedd 4 (da), a 3 (boddhaol ar y cyfan) fyddai’r sgôr dderbyniol isaf yn ôl 36% o’r ymatebwyr.

O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw, dewiswyd yr opsiwn ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa.

O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, y pryderon mwyaf cyffredin a fyddai ganddynt wrth ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sgôr hylendid bwyd oedd bod gan y busnes bwyd hwnnw safonau hylendid gwael (50%), a bod ganddo sgôr hylendid bwyd wael neu isel yr oedd yn ceisio ei chuddio (49%).

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (59%) a Gogledd Iwerddon (56%) yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid isel/wael a’i fod yn ceisio ei chuddio nag ymatebwyr yn Lloegr (48%).

Safbwyntiau ar orfod arddangos y sgôr

O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 92% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd.

Roedd 94% o’r farn y dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd.