Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 6 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 6: Crynodeb Gweithredol

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. 

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 6 rhwng 12 Hydref 2022 a 10 Ionawr 2023. Cafodd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ (push-to-web) ei gwblhau gan gyfanswm o 5,991 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 4,217 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y fethodoleg). 

Ymhlith y modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn mae ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, ‘Pryderon am fwyd’, ‘Diogeledd bwyd’, ‘Bwyta gatref’, ‘Gorsensitifrwydd i fwyd’, a ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’.

Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd

  • Dywedodd 93% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta.
  • Roedd 87% o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir.

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd

  • Dywedodd 76% o’r ymatebwyr fod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder mewn ffermwyr (88%), a siopau ac archfarchnadoedd (85%) nag mewn siopau tecawê (62%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd (45%)

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

  • Roedd 90% o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB.
  • Dywedodd 78% o’r ymatebwyr a oedd yn meddu ar o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB eu bod yn ymddiried ynddi i sicrhau bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.
  • Dywedodd 82% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd); roedd 82% yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy’n gysylltiedig â bwyd ei nodi, ac roedd 79% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd.

Pryderon am fwyd

  • Nid oedd gan 82% o’r ymatebwyr unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta, a dim ond 18% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder.
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd â phryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd y maent yn ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd (32%), ac ansawdd bwyd (23%). 
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (65%). Roedd pryderon cyffredin eraill yn cynnwys gwastraff bwyd (62%), ansawdd y bwyd (61%), a faint o ddeunydd pecynnu bwyd a ddefnyddir (56%).

Diogeledd bwyd (Food security) 

  • Ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 75% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (61% diogeledd bwyd uchel, 14% diogeledd bwyd ymylol), a chafodd 25% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (12% diogeledd bwyd isel, 12% diogeledd bwyd isel iawn).
  • Dywedodd 80% o’r ymatebwyr eu bod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol yn ystod y 12 mis blaenorol. 

Bwyta allan a bwyd tecawê

  • Dywedodd 43% o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol.
  • Roedd 86% o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Dywedodd dros hanner (55%) yr ymatebwyr eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a bod ganddynt o leiaf ychydig o wybodaeth amdano. 

Alergeddau ac anoddefiadau bwyd a mathau eraill o orsensitifrwydd

  • Dywedodd 12% o’r ymatebwyr fod ganddynt anoddefiad bwyd; dywedodd 5% fod ganddynt alergedd bwyd; a dywedodd 1% fod ganddynt glefyd seliag. Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (78%) nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd.  
  • Roedd 26% o’r ymatebwyr a oedd â gorsensitifrwydd i fwyd wedi cael diagnosis gan y GIG neu ymarferydd meddygol preifat, ac roedd 5% wedi cael diagnosis gan therapydd amgen neu gyflenwol. Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif o’r ymatebwyr (74%) wedi cael unrhyw ddiagnosis.
  • Dywedodd 56% o’r ymatebwyr a oedd â gorsensitifrwydd i fwyd eu bod wedi profi adwaith yn y 12 mis blaenorol a dywedodd 39% nad oeddent wedi profi adwaith. 
  • Roedd 90% o’r ymatebwyr sy’n siopa am fwyd gan ystyried rhywun ag alergedd bwyd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol. 

Bwyta gartref

Glanhau

  • Dywedodd 46% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta.
  • Dywedodd 33% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, neu’n defnyddio hylif neu weipiau glanweithio (sanitising) wrth fwyta y tu allan i’w cartref.
  • Dywedodd 72% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd. 
  • Dywedodd 91% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd.

Oeri

  • Dywedodd 62% o’r ymatebwyr y dylai tymheredd eu hoergell fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius.
  • Dywedodd 61% o’r ymatebwyr ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd, naill ai â llaw (49%) neu drwy larwm tymheredd mewnol (11%).

Coginio

  • Dywedodd 89% o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta cyw iâr neu dwrci pan fyddant yn binc neu â sudd pinc. Fodd bynnag, nododd 9% o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta cyw iâr neu dwrci o leiaf yn achlysurol pan fydd yn binc neu pan fydd y sudd yn binc.

Atal croeshalogi

  • Dywedodd 56% o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn golchi cyw iâr amrwd, ond dywedodd 40% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn o leiaf yn achlysurol.  
  • Dywedodd 76% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd. 

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (use-by)

  • Dywedodd 65% o’r ymatebwyr mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach.
  • Dywedodd 64% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn edrych ar y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd.