Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 3 – Diogeledd Bwyd

Mae’r bennod hon yn adrodd am lefelau diogeledd bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a sut roedd diogeledd bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025

Cyflwyniad

“Mae diogeledd bwyd yn bodoli pan fydd gan bawb, ar bob adeg, fynediad ffisegol ac economaidd at fwyd digonol, diogel a maethlon sy’n bodloni eu hanghenion deietegol a’u dewisiadau bwyd ar gyfer byw bywyd bywiog ac iach.”
– Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996.

Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio’r 10 eitem a geir ym Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau a ddatblygwyd gan Adran Amaeth yr Unol Daleithiau (USDA) i fesur statws diogeledd bwyd defnyddwyr.

Mae’r ymatebwyr yn cael eu neilltuo i un o’r categorïau statws diogeledd bwyd canlynol:

  • Uchel: dim arwyddion o broblemau na chyfyngiadau o ran mynediad at fwyd.
  • Diogeledd bwyd ymylol: un neu ddau o arwyddion wedi’u nodi – fel arfer, pryder o ran a oes digon o fwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Ychydig neu ddim arwydd o newidiadau mewn deietau neu gymeriant bwyd.
  • Isel: adroddiadau bod ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet wedi gostwng. Ychydig neu ddim arwydd o gymeriant bwyd is.
  • Isel iawn: adroddiadau o arwyddion lluosog o darfu ar batrymau bwyta a chymeriant bwyd is.

Cyfeirir at y rhai sydd â lefelau uchel neu ymylol o ddiogeledd bwyd fel rhai sydd â diogeledd bwyd. Cyfeirir at bobl â lefelau isel neu isel iawn o ddiogeledd bwyd fel rhai â diffyg diogeledd bwyd.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y caiff diogeledd bwyd ei fesur, a sut y caiff dosbarthiadau eu neilltuo a’u diffinio, yn Atodiad A, ac ar wefan Diogeledd Bwyd yr USDA.

Diogeledd bwyd

Ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, cafodd 79% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (65% â diogeledd bwyd uchel, 14% â diogeledd bwyd ymylol), a chafodd 21% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (10% â diogeledd bwyd isel, 11% â diogeledd bwyd isel iawn). (footnote 1)

Roedd tua thri chwarter o’r ymatebwyr â diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddyn nhw lefel uchel neu ymylol o ddiogeledd bwyd) yn Lloegr (79%), Gogledd Iwerddon (77%), a Chymru (75%). Roedd tua chwarter o’r ymatebwyr â diffyg diogeledd bwyd (hynny yw, roedd ganddyn nhw lefel isel neu isel iawn o ddiogeledd bwyd) yn Lloegr (21%), Gogledd Iwerddon (23%), a Chymru (25%) (Ffigur 5).

Ffigur 5. Diogeledd bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Uchel;Ymylol;Isel;Isel iawn
Cymru;64;12;13;11
Gogledd Iwerddon;65;13;13;10
Lloegr;65;14;10;11

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Profiadau o ddiffyg diogeledd bwyd

Gofynnwyd hyd at ddeg cwestiwn i’r ymatebwyr o Fodiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr UD, (footnote 2)  a hynny er mwyn pennu eu dosbarthiad diogeledd bwyd.

Gofynnwyd y tri chwestiwn cyntaf o’r modiwl arolwg diogeledd bwyd i’r holl ymatebwyr. Roedd y tri chwestiwn cyntaf yn gofyn i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roedden nhw wedi profi unrhyw un o’r canlynol yn ystod y 12 mis blaenorol:

  • Roeddwn i/roedden ni’n poeni y byddai ein bwyd yn dod i ben cyn i ni gael arian i brynu rhagor
  • Ni wnaeth y bwyd a brynais i/brynom ni bara, ac nid oedd gen i/gennym ni arian i gael mwy
  • Nid oeddwn i/oedden ni’n gallu fforddio bwyta prydau cytbwys

Yn ystod y 12 mis blaenorol, roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau isel iawn (97%) neu isel (92%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol (footnote 3) o fod wedi poeni a fyddai eu bwyd yn dod i ben cyn iddyn nhw gael arian i brynu mwy, o gymharu â’r rheiny â lefelau ymylol (54%) o ddiogeledd bwyd. (footnote 4) Roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau isel iawn (94%) neu isel (85%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o ddweud nad oedd y bwyd a brynwyd ganddyn nhw wedi para, ac nad oedd ganddyn nhw arian i gael mwy, o gymharu â’r rheiny â lefelau ymylol (25%) o ddiogeledd bwyd. (footnote 5) Roedd yr ymatebwyr â lefelau isel iawn (97%) neu isel (86%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o ddweud nad oedden nhw’n gallu fforddio prydau cytbwys, o gymharu â’r rheiny â lefelau ymylol (50%) o ddiogeledd bwyd. (footnote 6) Ni wnaeth yr un o’r ymatebwyr (0%) â diogeledd bwyd uchel sôn am y profiadau hyn, oherwydd fod y rheiny â diogeledd bwyd uchel, yn ôl system ddosbarthu’r USDA, yn nodi ‘dim arwyddion o broblemau na chyfyngiadau o ran mynediad at fwyd’ (Ffigur 6).

Ffigur 6. Profiadau o ddiogeledd bwyd yn ôl dosbarthiad diogeledd bwyd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Uchel;Ymylol;Isel;Isel iawn
Roeddwn i/roedden ni’n poeni y byddai ein bwyd yn dod i ben cyn i ni gael arian i brynu rhagor;0;54;92;97
Ni wnaeth y bwyd a brynais i/brynom ni bara ac nid oedd gen i/gennym ni arian i gael mwy;0;25;85;94
Nid oeddwn i/oedden ni’n gallu fforddio bwyta prydau cytbwys;0;50;86;97

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Sut mae diogeledd bwyd yn amrywio rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a demograffig

Roedd diogeledd bwyd yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gydag oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiogeledd bwyd ac yn llai tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd nag oedolion iau. Er enghraifft, roedd 30% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed â diffyg diogeledd bwyd (13% â lefel isel ac 17% â lefel isel iawn o ddiogeledd bwyd) o gymharu â 7% o’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn (6% â lefel isel ac 1% â lefel isel iawn o ddiogeledd bwyd) (Ffigur 7).

Ffigur 7. Diogeledd bwyd yn ôl grŵp oedran.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Uchel;Ymylol;Isel;Isel iawn
16-24;52;18;13;17
25-34;50;21;13;16
35-44;56;12;14;18
45-54;63;18;9;10
55-64;77;10;8;5
65-74;84;7;6;4
75+;83;10;6;1

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Roedd diogeledd bwyd yn gysylltiedig ag incwm y cartref. Roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd na’r rheiny ag incwm uwch. Er enghraifft, nododd 47% o’r rheiny ag incwm cartref blynyddol o lai nag £19,000 fod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd (18% â lefel isel, 30% â lefel isel iawn) o gymharu â 7% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 (4% â lefel isel, 3% â lefel isel iawn) (Ffigur 8).

Ffigur 8. Diogeledd bwyd yn ôl incwm y cartref.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Uchel;Ymylol;Isel;Isel iawn
Llai nag £19 000 ;40;13;18;30
£19 000 – £31 999 ;55;15;15;14
£32 000 – £63 999 ;68;18;8;6
£64 000 – £95 999 ;82;11;4;3
Mwy na £96 000 ;92;4;2;2

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn ddi-waith dros gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (59%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r holl grwpiau galwedigaethol eraill. Roedd y rheiny a oedd yn fyfyrwyr amser llawn (25%), y rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (25%) a’r rheiny mewn galwedigaethau ailadroddus a lled-ailadroddus (33%) yn fwy tebygol o fod â diffyg diogeledd bwyd na’r rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethau eraill (er enghraifft, 16% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol ac 18% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) (Ffigur 9)**. (footnote 7)

Roedd lefel y diffyg diogeledd bwyd a nodwyd hefyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy, er enghraifft, cartrefi â 4 person (26%) neu gartrefi â 5 neu fwy o bobl (31%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â chartrefi llai, er enghraifft, cartrefi ag 1 person (19%) neu gartrefi â 2 berson (15%)**.
  • Plant dan 16 oed yn y cartref: dywedodd 31% o’r cartrefi â phlant dan 16 oed fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu ag 16% o’r cartrefi heb blant dan 16 oed.
  • Plant dan 6 oed yn y cartref: dywedodd 35% o’r cartrefi â phlant dan 6 oed fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu ag 19% o’r cartrefi heb blant dan 6 oed.
  • Ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig: dywedodd 22% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu ag 15% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal wledig**.
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 8): roedd lefelau diffyg diogeledd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr sy’n byw yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (26%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (24%) yn fwy tebygol o fod â diffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny sy’n byw yn Ne-orllewin Lloegr (16%).
  • Grŵp ethnig: Dywedodd 25% o’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig fod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu ag 19% o’r ymatebwyr gwyn**. (footnote 9)
  • Cyflwr iechyd hirdymor: roedd yr ymatebwyr a oedd â chyflwr iechyd hirdymor (32%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg diogeledd bwyd o gymharu â’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (16%).

Ffigur 9. Diogeledd bwyd yn ôl dosbarthiad economaidd-gymdeithasol (NS-SEC).

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Uchel;Ymylol;Isel;Isel iawn
Myfyriwr amser llawn;54;21;12;13
Yn ddi-waith dros gyfnod hir
neu erioed wedi gweithio";30;11;21;38
Galwedigaethau lled-ailadroddus/ailadroddus;52;15;15;18
Galwedigaethau goruchwylio
a thechnegol is";61;14;15;11
Cyflogwyr bach a gweithwyr
ar eu liwt eu hunain";70;12;10;8
Galwedigaethau canolradd;65;17;8;9
Galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol;71;13;8;8

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Newidiadau i ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa newidiadau, os o gwbl, yr oedden nhw wedi’u gwneud i’w harferion bwyta a’u hymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol am resymau ariannol. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (75%) eu bod wedi gwneud newid i’w harferion bwyta am resymau ariannol yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda chwarter o’r ymatebwyr (25%) yn nodi nad oedden nhw wedi gwneud unrhyw newidiadau.

Roedd newidiadau cyffredin yn ymwneud â’r hyn roedd ymatebwyr yn ei fwyta ac ym mhle (43% yn bwyta allan yn llai aml, 42% yn bwyta gartref yn amlach, 38% yn bwyta llai o brydau tecawê), newidiadau mewn arferion siopa (39% yn prynu eitemau ar gynnig arbennig, 33% yn newid y bwyd maen nhw’n ei brynu er mwyn cael dewisiadau rhatach, 33% yn newid ble maen nhw’n prynu bwyd er mwyn cael dewisiadau rhatach, 31% yn prynu bwyd am bris gostyngol), a newidiadau mewn arferion paratoi bwyd (26% yn paratoi bwyd i’w gadw fel bwyd dros ben/coginio mewn sypiau yn amlach, 27% yn coginio bwyd o’r cychwyn yn amlach, 23% yn gwneud bocsys bwyd yn amlach, ac 17% yn gwneud prydau’n fwy swmpus â chynhwysion rhatach). Nododd rhai ymatebwyr gynnydd mewn ymddygiadau diogelwch bwyd peryglus oherwydd rhesymau ariannol (roedd 10% yn cadw bwyd dros ben am fwy o amser cyn ei fwyta, roedd 11% wedi bwyta bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad defnyddio erbyn yn amlach, roedd 2% wedi newid yr amser a’r tymheredd y caiff bwyd ei goginio, a dywedodd 2% eu bod wedi newid y gosodiad ar yr oergell/rhewgell) (Ffigur 10). (footnote 10)

Ffigur 10. Newidiadau mewn arferion bwyta ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd am resymau ariannol.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 ;Column1
Nid wyf wedi gwneud unrhyw newidiadau;25
Wedi defnyddio banc bwyd
neu wasanaeth bwyd brys";2
Newid y gosodiad ar yr oergell/rhewgell;2
Newid am ba hyd neu ar ba tymheredd
y caiff bwyd ei goginio";2
Bwyta mwy o brydau tecawê;2
Prynu bwyd gyda safonau lles
neu amgylcheddol is";6
Cadw bwyd dros ben am
fwy o amser cyn ei fwyta";10
Bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio
ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn amlach";11
Prynu llai o fwyd a gynhyrchir yn lleol;12
Lleihau faint o fwyd ffres
rydych chi’n ei brynu";14
Gwneud prydau’n fwy swmpus
â chynhwysion rhatach";17
Gwneud bocsys bwyd yn amlach;23
Paratoi bwyd i’w gadw fel bwyd dros ben;26
Coginio bwyd o’r cychwyn yn amlach;27
Prynu bwyd am bris gostyngol sy’n agos
at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’";31
Newid ble rydych yn prynu bwyd
er mwyn cael dewisiadau rhatach";33
Newid y bwyd rydych chi’n ei brynu
er mwyn cael dewisiadau rhatach";33
Bwyta llai o brydau tecawê;38
Prynu eitemau ar gynnig arbennig;39
Bwyta gartref yn amlach;42
Bwyta allan yn llai aml;43

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Defnyddio banciau bwyd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw, neu unrhyw un arall yn eu cartref, wedi cael parsel bwyd am ddim gan fanc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (94%) nad oedden nhw wedi defnyddio banc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda 4% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi gwneud hynny. (footnote 11)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi cael parsel bwyd gan fanc bwyd neu ddarparwr arall nodi pa mor aml yr oedden nhw wedi cael parsel bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. O blith yr ymatebwyr hyn, roedd 24% wedi cael parsel bwyd ar un achlysur yn unig yn ystod y 12 mis diwethaf; roedd 49% wedi cael parsel bwyd ar fwy nag un achlysur ond yn llai aml na phob mis; ac roedd 7% wedi cael parsel bwyd bob mis neu’n amlach. (footnote 12)

Archfarchnadoedd cymdeithasol

Mae archfarchnadoedd cymdeithasol, clybiau bwyd a phantris/bwtrïoedd cymunedol yn galluogi pobl i brynu bwyd am bris gostyngol iawn, neu fel rhan o aelodaeth. Sefydliadau cymunedol yw’r rhain yn gyffredinol, a gallant gynnig gwasanaethau ychwanegol fel gwasanaethau atgyfeirio a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae’r holl fwyd, neu rywfaint ohono, yn fwyd dros ben o’r gadwyn cyflenwi bwyd.

Ymwybyddiaeth a defnydd o archfarchnadoedd cymdeithasol

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw neu unrhyw un arall yn eu cartref wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd un o bob 20 o’r ymatebwyr (5%) eu bod wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf, a dywedodd 79% o’r ymatebwyr nad oedden nhw wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua un o bob deg o’r ymatebwyr (14%) nad oedden nhw wedi clywed am archfarchnadoedd cymdeithasol. (footnote 13)

Roedd y defnydd o archfarchnadoedd cymdeithasol yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm o lai nag £19,000 (14%) yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol na’r rheiny ag incwm uwch (er enghraifft, 2% o’r rheiny ag incwm o £32,000 i £63,999).
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 14): roedd lefelau’r defnydd o archfarchnadoedd cymdeithasol yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr sy’n byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (11%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (10%) yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol na’r rheiny sy’n byw yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (3%), Dwyrain Lloegr (3%), Gogledd-orllewin Lloegr (4%), De-ddwyrain Lloegr (4%) a De-orllewin Lloegr (4%)**.
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefel isel iawn o ddiogeledd bwyd (19%) yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol na’r rheiny â lefel isel (9%), ymylol (7%) neu uchel (2%) o ddiogeledd bwyd.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol nodi pa mor aml yr oedden nhw wedi defnyddio un yn ystod y 12 mis diwethaf. O blith yr ymatebwyr hyn, roedd 12% wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol bob dydd neu bron bob dydd; roedd 16% wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol 2-3 gwaith yr wythnos neu oddeutu unwaith yr wythnos; roedd 22% wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol 2-3 gwaith y mis neu oddeutu unwaith y mis; ac roedd 26% wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol lai nag unwaith y mis. Fodd bynnag, dywedodd 24% o’r ymatebwyr a oedd wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol nad oedden nhw’n gallu cofio pa mor aml yr oedden nhw wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf (Ffigur 11). (footnote 15)

Ffigur 11. Pa mor aml y defnyddir archfarchnadoedd cymdeithasol ymhlith defnyddwyr.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Disgrifiad;Canran yr ymatebwyr (%)
Methu cofio;24
Llai nag unwaith y mis;26
2-3 gwaith y mis / tua unwaith y mis;22
2-3 gwaith yr wythnos / tua unwaith yr wythnos;16
Bob dydd neu bron bob dydd;12

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Clybiau bwyd ysgol atodol

Gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr hynny â phlant rhwng 5 a 15 oed am unrhyw glybiau ychwanegol y gallai eu plant fynd iddyn nhw yn yr ysgol lle bydden nhw’n cael pryd o fwyd. Mae’r rhain yn cynnwys clybiau brecwast, clybiau ar ôl yr ysgol neu glybiau cinio/gweithgareddau sydd ond yn rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol. (footnote 16) Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (72%) nad oedd eu plant yn mynd i unrhyw glwb atodol. Dywedodd un rhan o bump o’r ymatebwyr (19%) fod eu plant wedi mynd i glwb brecwast yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 8% fod eu plant wedi mynd i glwb ar ôl yr ysgol lle’r oedden nhw hefyd yn cael pryd o fwyd, a dywedodd 5% fod eu plant wedi mynd i glwb cinio a gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol.

O ran y bobl a nododd eu bod yn defnyddio’r clybiau hyn, roedd amrywiadau i’w gweld rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Plant dan 6 oed: roedd y cartrefi hynny â phlant dan 6 oed yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio clwb ar ôl yr ysgol (22%) o gymharu â’r cartrefi heb blant dan 6 oed, lle’r oedd dim ond 4% o’r cartrefi hyn yn defnyddio’r fath glybiau.
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn llai tebygol o ddweud bod eu plentyn/plant yn mynd i glwb brecwast o gymharu â’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, 11% o’r ymatebwyr ag incwm o fwy na £96,000 o gymharu â 27% o’r rheiny ag incwm rhwng £19,000 a £31,999.
  • Gwlad: dywedodd 35% o’r ymatebwyr yng Nghymru fod eu plentyn/plant yn mynd i glwb brecwast o gymharu ag 18% o’r rheiny yn Lloegr ac 19% yng Ngogledd Iwerddon.
  • Diogeledd bwyd: roedd y rheiny â lefel isel/isel iawn o ddiogeledd bwyd (29%) yn fwy tebygol o ddefnyddio clybiau brecwast na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol/uchel (14%).