Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Bwyd a Chi 2 - Cylch 1

Ymchwil o Bwyd a Chi 2: Cylch 1.

Cyflwyniad

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i fesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio methodoleg o'r enw ‘gwthio i'r we’ (push to web).

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 1 rhwng 29 Gorffennaf a 6 Hydref 2020. Cwblhawyd yr arolwg gan 9,319 o oedolion o 6,408 o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Pynciau sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad Prif Ganfyddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 1:

  • Ymddiriedaeth yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a'r gadwyn cyflenwi bwyd
  • Pryderon am fwyd
  • Mynediad at gyflenwad bwyd
  • Siopa am fwyd
  • Diogelwch bwyd yn y cartref

Pynciau sydd wedi'u cynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 1 ond heb eu cynnwys yn yr adroddiad:

  • Ymwybyddiaeth a defnydd o ganabidiol (CBD)

Prif ganfyddiadau

Prif ganfyddiadau adroddiad Bwyd a Chi 2: Cylch 1: 

  • Mae tri chwarter (75%) yr ymatebwyr a oedd o leiaf yn gwybod rhywfaint am yr ASB yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Dywedodd mwy na 9 o bob 10 (92%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta
  • Dywedodd mwy nag 8 o bob 10 (86%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir 
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr (84%) nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 16% o'r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw unrhyw bryder
  • Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 84% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd diogel (72% yn sicr, 12% yn ymylol) a dosbarthwyd 16% o’r ymatebwyr fel pobl â chyflenwad bwyd anniogel (9% yn ansicr, 7% yn ansicr iawn)
  • Dywedodd bron i ddwy ran o dair (64%) o'r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd
  • Dywedodd llai na thraean (27%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn dilyn y cyfarwyddiadau ‘bwyta o fewn’ ar becynnau bwyd

 

Adroddiadau ymchwil

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Is-adroddiadau

Northern Ireland

Tablau Data

Mae tablau o ganlyniadau ar gyfer adroddiad Cylch 1 ar gael yn ein catalog o ddata.