Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Bwyd a Chi 2: Cylch 1-2

Penodol i Gymru a Gogledd Iwerddon

Ymchwil o'r Arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 1-2

Cyflwyniad

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i fesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio methodoleg o'r enw ‘gwthio i'r we’ (push to web).

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 1 rhwng 29 Gorffennaf a 6 Hydref 2020. Cwblhawyd yr arolwg gan 9,319 o oedolion o 6,408 o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 20 Tachwedd 2020 a 21 Ionawr 2021. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,900 o oedolion o 3,955 o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

 

Prosiectau dadansoddi eilaidd yn seiliedig ar ddata o gylch 1-2

Wales