Bwyd a Chi - Cylch 4

Ymchwil o gylch pedwar arolwg defnyddwyr Bwyd a Chi a gynhelir bob dwy flynedd.
Last updated

Defnyddir arolwg Bwyd a Chi i gasglu gwybodaeth am ymddygiadau, agweddau a gwybodaeth mewn perthynas â materion bwyd. Mae’n darparu data ar arferion prynu, storio, paratoi, a bwyta bwyd yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio ar y pethau hyn.

Mae'r arolwg hwn yn darparu data ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ers 2014, mae canlyniadau Bwyd a Chi wedi'u cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, sy'n adlewyrchu methodoleg gadarn yr arolwg.

Gallwch chi ddarllen ein dadansoddiad eilaidd o gylchoedd 1-4.

Amcanion

Amcanion penodol Arolwg 'Bwyd a Chi' Cylch 4 oedd i: 

  • edrych ar ddealltwriaeth y cyhoedd o'r ASB, a sut maent yn ymgysylltu ​â nod yr ASB o wella diogelwch bwyd
  • nodi grwpiau targed penodol ar gyfer ymyriadau'r dyfodol (e.e. y rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf, neu'r rheiny y mae'n debygol a effeithir arnynt fwyaf gan bolisïau a mentrau'r ASB)
  • disgrifio agweddau'r cyhoedd tuag at gynhyrchu bwyd a'r system fwyd
  • monitro newidiadau dros amser (o'i gymharu â data Cylchoedd 1-3 neu ddata o ffynonellau eraill) mewn agweddau ac ymddygiad
  • ehangu'r sail dystiolaeth a datblygu dangosyddion i asesu cynnydd o ran cyflawni cynlluniau, nodau a thargedau strategol yr ASB

Roedd Cylch 4 (2016) yr arolwg yn cynnwys 3118 o gyfweliadau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal rhwng mis Mai a mis Medi 2016, ymhlith sampl gynrychioladol o oedolion 16 oed a hŷn. Cynhyrchwyd adroddiadau unigol ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae adroddiad Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnwys adran ar fwyta'n iach. Mae'r Cyfnod hwn, sef pennod olaf yr adroddiad ar darddiad bwyd, wedi'i ariannu ar y cyd â​ DEFRA.

Prif ganfyddiadau

Mae prif ganfyddiadau Cylch 4 yn cynnwys: 

  • roedd menywod yn fwy tebygol o nodi mai nhw oedd yn gyfrifol am yr holl goginio neu baratoi bwyd yn y cartref, neu’r rhan fwyaf ohono (67% o’i gymharu â 30% o ddynion). Roedd menywod hefyd yn fwy tebygol o nodi mai nhw oedd yn gyfrifol am holl siopa bwyd y cartref, neu’r rhan fwyaf ohono (68% o’i gymharu â 31% o ddynion)
  • er mwyn cael darlun cyffredinol o ymddygiad  pobl at ddiogelwch bwyd, rydym yn defnyddio’r Mynegai Arfer Argymelledig (Index of Recommended Practice, IRP), sef mesur cyfansawdd ar gyfer gwybodaeth ac ymddygiad mewn perthynas â hylendid bwyd o fewn y cartref. Yn y cylch hwn, roedd cynnydd yn y sgôr IRP gyfartalog o 64 yng Nghylch 1 i 67 yng Nghylch 4, sy’n nodi gwelliant bach yn gyffredinol mewn arferion diogelwch bwyd

  • mae’r ASB yn argymell bod pobl yn golchi eu dywlo yn drylwyr â sebon a dŵr cynnes cyn coginio ac ar ôl cyffwrdd â’r bin, mynd i’r tŷ bach, cyffwrdd anifeiliaid anwes neu drin bwyd amrwd (yn enwedig cig amrwd). Yn gyffredinol, roedd 86% o ymatebwyr wedi nodi eu bod yn golchi eu dwylo bob amser cyn dechrau paratoi neu goginio bwyd
  • pan holwyd ymatebwyr  beth ddylai tymheredd tu mewn i’r oergell fod, dywedodd y rhan fwyaf (48%) y dylai fod rhwng 0 a 5°C (y tymheredd argymelledig). Roedd hyn yn debyg i’r gyfran yng Nghylch 1 (46%) ond yn is na’r gyfran yng Nghylchoedd 2 a 3 (53% ar gyfer y ddau)
  • mae’r gyfran o ymatebwyr a nododd eu bod yn defnyddio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ fel y dangosydd gorau ar gyfer p’un a bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, yn unol ag arfer argymelledig yr ASB, wedi cynyddu ers Cylch 1. Roedd tri chwarter o ymatebwyr (75%) yn nodi dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ fel dangosydd ar gyfer p’un a bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Er bod hyn yn debyg i’r cyfrannau yng Nghylchoedd 2 a 3, roedd yn uwch na’r gyfran yng Nghylch 1 (62%)
  • pan holwyd ymatebwyr sut roeddent yn dadmer cig neu bysgod, y dull a nodwyd gan y gyfran uchaf ohonynt (58%) oedd gadael cig neu bysgod ar dymheredd yr ystafell. Ni argymhellir defnyddio’r dull hwn
  • pan gyflwynwyd rhestr o ffactorau i ymatebwyr a allai ddylanwadu ar eu penderfyniad o ran ble i fwyta allan, dywedodd 72% ohonynt fod glanweithdra a hylendid y sefydliad yn bwysig iddynt; yn gyffredinol, roedd traean (30%) o ymatebwyr  a oedd yn bwyta allan yn ystyried hyn fel y ffactor pwysicaf
  • yn gyffredinol, roedd 44% o ymatebwyr wedi rhoi gwybod eu bod wedi cael gwenwyn bwyd, yn unol â chylchoedd eraill. Yn debyg i gylchoedd blaenorol, roedd dynion (47%) yn fwy tebygol o roi gwybod eu bod wedi cael gwenwyn bwyd, o’i gymharu â 43% o fenywod

Cafwyd gwybodaeth newydd o ganlyniad i gwestiynau newydd, er enghraifft:

  • o’r rheiny a oedd wedi nodi adwaith andwyol neu a oedd wedi osgoi rhai bwydydd penodol, y bwydydd mwyaf cyffredin a oedd yn achosi adwaith andwyol oedd llaeth gwartheg a chynhyrchion llaeth gwartheg (22%), grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (13%) a molysgiaid, e.e. cregyn gleision, wystrys (11%)
  • yn gyffredinol, roedd 43% o ymatebwyr wedi nodi eu bod wedi newid o leiaf un peth am eu trefniadau prynu neu fwyta bwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf oherwydd rhesymau ariannol, gan gynnwys 20% a oedd wedi prynu eitemau a oedd ar gynnig arbennig, 18% a oedd wedi newid lle roeddent yn siopa am fwyd am rywle rhatach, ac 17% a ddywedodd eu bod yn bwyta allan llai
  • nododd traean (34%) o ymatebwyr  eu bod bob amser yn teimlo’n hyderus bod bwyd yn cydfynd â’r hyn sydd ar y label neu’r fwydlen, ac roedd oddeutu hanner (52%) yn teimlo’n hyderus y rhan fwyaf o’r amser. 3% yn unig a nododd nad oeddent byth neu yn anaml yn teimlo’n hyderus.

Mae adroddiad Cymru ar gael yn Gymraeg isod a'r adroddiad cyfunol ar gael yn Saesneg yn unig.

Adroddiadau

Tablau'r adroddiad cyfunedig (Saesneg yn unig)

Team contacts