Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd – Tracio Agweddau Defnyddwyr (Cylch Chwech)

Rydym ni'n cynnal arolwg blynyddol o agweddau defnyddwyr tuag at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) i dracio ymwybyddiaeth defnyddwyr o'r cynllun, agweddau tuag ato a defnydd o'r sgoriau dros amser.

Mae'r arolwg wedi newid o gael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn i gael ei gynnal bob blwyddyn ar gyfer Cylch Chwech ymlaen. Bydd yr arolwg nesaf yn digwydd ym mis Hydref 2018.

Cefndir

Caiff y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) ei gynnal mewn partneriaeth rhyngom ni ac awdurdodau lleol ac mae'n darparu gwybodaeth am safonau hylendid mewn busnesau sy'n darparu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, megis bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawe a gwestai, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.  

Fe gomisiynom ni arolwg i'w gynnal ddwywaith y flwyddyn i dracio agweddau'r cyhoedd i fonitro'r prif feysydd sy'n peri pryder i ddefnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Yn 2010, ychwanegwyd cwestiynau ar ymwybyddiaeth a defnydd o'r CSHB. Yn 2014, fe benderfynom ni i archwilio'r CSHB a defnyddwyr yn fanylach, a chomisiynu arolwg pwrpasol i dracio agweddau defnyddwyr er mwyn monitro ymwybyddiaeth defnyddwyr, agweddau tuag at y cynllun a defnydd o'r cynllun.

Dyma chweched cylch yr arolwg tracio.

Dull Ymchwil

Roedd y darn hwn o waith yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda sampl gynrychioliadol o 2,066 o ymatebwyr (16 oed a throsodd). Dewiswyd ymatebwyr gan ddefnyddio dull samplu lleoliad ar hap ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae'r cwestiynau'n canolbwyntio'n bennaf ar y meysydd allweddol canlynol;

  • Ymwybyddiaeth o'r cynllun; cyfran yr ymatebwyr sy'n dweud eu bod yn ymwybodol o'r CSHB
  • Adnabod y cynllun; cyfran yr ymatebwyr sy'n adnabod sticer y CSHB, neu a oedd wedi gweld busnes bwyd yn arddangos un yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
  • Defnydd o'r cynllun; cyfran yr ymatebwyr sy'n nodi eu bod yn defnyddio'r cynllun i wneud eu penderfyniad ar ble i fwyta neu brynu bwyd.
  • Safbwyntiau ar y cynllun; un enghraifft yw cyfran yr ymatebwyr sy'n credu y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr.

Canlyniadau

Ymwybyddiaeth

  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn Lloegr (54%) a Gogledd Iwerddon (54%) yn ymwybodol o'r CSHB. Roedd y ffigwr yn uwch yng Nghymru (75%). Nid yw ymwybyddiaeth wedi cynyddu'n sylweddol ym mhob un o'r gwledydd ers y cylch blaenorol. 
  • Ar draws y tair gwlad, mae'r canran gyfunol o bobl sy'n ymwybodol wedi codi o 52% yn y cylch blaenorol i 55% yn y cylch cyfredol.
  • Mae ymwybyddiaeth o'r CSHB wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers cylch 1 ym mis Tachwedd 2010, o 45% i 55%.
  • Y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cyffredin oedd y sgôr sy'n cael ei harddangos mewn busnes bwyd (84% neu 89% wrth holi ymhellach), sy'n gyson â phob cylch blaenorol.
  • O'r rheiny a oedd wedi gweld y sgôr hylendid bwyd ar-lein, nododd 47% eu bod yn ymwybodol o'r tair elfen sy'n cyfuno i greu'r sgôr cyffredinol. O'r rhai a oedd yn ymwybodol, roedd 66% yn eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau ar ble i fwyta neu brynu bwyd.
  • Roedd 77% o'r ymatebwyr yn ystyried materion safonau bwyd megis y rhai sy'n ymwneud ag alergenau, labelu a chyfansoddiad fel materion y dylid eu hystyried yn ystod arolygiad.

Adnabod y cynllun

  • Mae adnabyddiaeth defnyddwyr o sticeri'r CSHB yn parhau i fod yn uwch yng Nghymru (91%) a Gogledd Iwerddon (92%) nag yn Lloegr (81%). Ar draws y tair gwlad, mae adnabyddiaeth wedi cynyddu o 79% yn y cylchoedd blaenorol i 82% yn y cylch presennol, er nad oedd y cynnydd hwn yn sylweddol.
  • Bu cynnydd yn y lefelau adnabod yng Nghymru ers y cylch blaenorol (91% o 90%), Lloegr (81% o 78%) ac yng Ngogledd Iwerddon (92% o 85%), er nad oedd y rhain yn sylweddol. 
  • Dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr (82%) eu bod wedi gweld busnes bwyd yn arddangos ei sticer/tystysgrif sgôr hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf, sydd wedi cynyddu ers y cylch blaenorol (80%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (91%) a Gogledd Iwerddon (95%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweld sticer sgôr hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf o'i gymharu â'r rheiny yn Lloegr (81%).

Defnydd

  • Dywedodd cyfanswm o 52% o ymatebwyr yng Nghymru, 43% yn Lloegr a 57% yng Ngogledd Iwerddon y byddent yn bendant yn penderfynu bwyta rhywle yn seiliedig ar sgôr CSHB y busnes a dywedodd 19%, 28% a 31% yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (yn y drefn honno) y byddent 'efallai' yn gwneud hynny. 
  • O ran gwirio'r sgôr, dywedodd 53% o ymatebwyr yng Nghymru, 46% yn Lloegr a 47% yng Ngogledd Iwerddon eu bod naill ai'n aml neu weithiau'n gwneud hynny cyn penderfynu prynu bwyd o sefydliad, ac yn gwneud hynny fwyaf aml trwy edrych ar ddrws neu ffenestr y busnes bwyd (67%). 
  • Soniwyd am sgoriau o 3 a 4 (yn gyfartal) fel y sgoriau isaf a fyddai'n dderbyniol i ddefnyddwyr wrth brynu bwyd (38%) yng Nghymru ac ar draws y tair gwlad gyda'i gilydd. Y sgôr isaf a oedd yn dderbyniol yng Nghymru oedd 3 (48%), a 4 yng Ngogledd Iwerddon (51%) sy'n gynnydd sylweddol o 25% yn y cylch blaenorol.

Safbwyntiau ar wneud arddangosiad yn orfodol

  • Mae cyfran yr ymatebwyr sydd o'r farn y dylai fod yn orfodol i fusnesau arddangos eu sgoriau yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru (96%) a Lloegr (85%). Yng Nghymru, roedd y ffigwr hwn yn sylweddol uwch na'r cylch blaenorol (88%). Fel cylchoedd blaenorol, mae'r ffigwr yn parhau i fod yn uwch yng Ngogledd Iwerddon (99%).