Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wasanaeth y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd food.gov.uk/sgoriau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2021

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw faterion yr ydym ni’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille: 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) 

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon. 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y rhannau nad ydynt yn cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Llywio:

  • Nid yw rhai rhestrau wedi'u marcio'n gywir (WCAG A 4.1.1)
  • Mae rhai tudalennau'n sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bach (WCAG AA 1.4.10)
  • Nid yw rhai meysydd ffurf yn nodi pwrpas meysydd yn rhaglennol (WCAG AA 1.3.5)

Rydym ni'n bwriadu datrys y materion hyn erbyn 31 Mawrth 2021.

Baich anghymesur

Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Ein gwaith i wella hygyrchedd

Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn erbyn 31 Mawrth 2021 a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y materion yn cael eu datrys.

Rydym ni’n bwriadu monitro hygyrchedd yn barhaus gan ddefnyddio gwasanaethau gwirio awtomataidd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).