Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cwynion allanol am yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â chwynion allanol am yr ASB.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion gweinyddu, prosesu ac ymateb i gwynion a gyflwynir am yr ASB o dan ei gweithdrefn gwyno sydd ar gael yn allanol.

Mae casglu'r wybodaeth hon yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni neu er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Gallai methiant i ddarparu'r wybodaeth arwain at fethiant i brosesu cwyn am yr ASB.

Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Er mwyn bwrw ymlaen ag ymchwiliad i gŵyn, efallai y bydd y rhai sy’n destun y gŵyn yn dod i wybod pwy ydych chi. Dim ond pan fydd yn amhosibl rhwystro hyn rhag digwydd y bydd sefyllfa o’r fath yn codi, neu pan fydd yn angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â’r achos. Pan fo’n berthnasol, byddwn ni’n esbonio hyn i chi ymlaen llaw.

Nid fydd gan unrhyw drydydd partïon eraill fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â’r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am chwe mlynedd.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.